Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a Chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2013.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education assessment”) yw arolwg o’r galw ymhlith rhieni mewn ardal awdurdod lleol am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn unol ag adran 86(1) o Ddeddf 2013;

ystyr “asesiadau” (“assessments”) yw—

(a)

unrhyw drefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) neu (3)(c) o Ddeddf 2002; a

(b)

unrhyw asesiad arall o ddisgyblion a wneir gan athrawon at ddiben canfod lefel cyrhaeddiad disgyblion yn y Cwricwlwm Cenedlaethol;

ystyr “asesu” (“assessed”) yw asesu’n unol ag unrhyw drefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf 2002(1) mewn perthynas â’r disgyblion sydd yn y cyfnod sylfaen;

ystyr “blwyddyn asesu” (“assessment year”) yw’r flwyddyn ysgol y cafodd y disgyblion eu hasesu ynddi ac sy’n union cyn y flwyddyn ysgol gyfredol;

ystyr “canolfannau hwyrddyfodiaid” (“centres for latecomers”) yw canolfannau dysgu’r Gymraeg a sefydlir gan awdurdodau lleol i ddarparu gwersi Cymraeg dwys i ddisgyblion oedran ysgol gynradd ac uwchradd;

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw rai o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (b) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;

mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i’w ddehongli’n unol ag adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “cyngor ysgol” (“school council”) yw cyngor ysgol wedi ei sefydlu yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005(2);

mae i “cymhwyster perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997(3);

ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 85(1) o Ddeddf 2013;

ystyr “data perfformiad ysgol” (“school performance data”) yw unrhyw ddata sy’n ymwneud â pherfformiad disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus a’r dyfarniad o gymwysterau perthnasol;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(4);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(5);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;

ystyr “dogfen Gymraeg” (“Welsh document”) yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 sy’n dwyn y teitl “Cymraeg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(6) ac y cyfeirir ati yng Ngorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008(7);

ystyr “dyddiad cau asesiad addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education assessment closing date”) yw’r dyddiad a roddir gan awdurdod lleol yn unol â pharagraff (f) o Ran 2 o Atodlen 1 ar gyfer dychwelyd ymatebion i unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae wedi ei gynnal;

ystyr “fforwm addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol er mwyn gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg y mae ei aelodaeth yn cynnwys swyddogion awdurdod lleol a phersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn eu hystyried yn briodol;

ystyr “fforymau rhanbarthol 14-19” (“14-19 regional forums”) yw grŵp o gyrff a phersonau o fewn nifer o ardaloedd awdurdodau lleol sy’n gweithio ynghyd i geisio sicrhau bod personau 14 i 19 oed yn yr ardaloedd hynny yn cael budd o’r ystod o opsiynau dysgu sydd ar gael i bersonau 14 i 19 oed a ddisgrifir yng nghylchlythyr 37/2004 sy’n dwyn y teitl “Llwybrau Dysgu 14-19 Canllawiau”(8);

ystyr “rhaglen astudio Cymraeg” (“Welsh programme of study”) yw’r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan o’r ddogfen Gymraeg sy’n dwyn y teitl ‘Cymraeg’;

ystyr “rhaglen astudio Cymraeg ail iaith” (“Welsh second language programme of study”) yw’r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan honno o’r ddogfen Gymraeg sy’n dwyn y teitl ‘Cymraeg ail iaith’; ac

ystyr “rhwydweithiau 14-19” (“14-19 networks”) yw grŵp o gyrff a phersonau o fewn ardal awdurdod lleol sy’n gweithio ynghyd i geisio sicrhau bod personau 14 i 19 oed yn yr ardal honno yn cael budd o’r ystod o opsiynau dysgu sydd ar gael i bersonau 14 i 19 oed a ddisgrifir yng nghylchlythyr 37/2004 sy’n dwyn y teitl “Llwybrau Dysgu 14-19 Canllawiau”.

Asesiad addysg cyfrwng Cymraeg

3.—(1Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei ardal gyfan neu unrhyw ran o’i ardal y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arni.

(2Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg os—

(a)oes mwy na 50% o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir yn y rhan honno o’i ardal sy’n destun yr asesiad addysg cyfrwng Cymraeg, yn cael eu hasesu yn—

(i)maes dysgu datblygu’r Gymraeg ar y trydydd dydd Mawrth ym mis Ionawr yn y flwyddyn asesu; neu

(ii)maes dysgu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu drwy gyfrwng y Saesneg ar y trydydd dydd Mawrth ym mis Ionawr yn y flwyddyn asesu;

(b)nad yw’r awdurdod lleol wedi cynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei ardal gyfan yn y 3 blynedd yn union cyn y flwyddyn asesu; ac

(c)yw Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig fod rhaid iddo wneud hynny.

(3Rhaid i asesiad addysg cyfrwng Cymraeg gynnwys y cwestiynau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 a’r wybodaeth a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

Cyfnod para’r cynllun

4.—(1Mae’r cynllun cyntaf yn cael effaith am y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2014 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2017.

(2Mae’r cynlluniau dilynol yn cael effaith am y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn pan fo’r cynllun blaenorol yn dod i ben.

Ffurf a chynnwys y cynllun

5.  Rhaid i bob cynllun gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn Atodlen 2 gyda’r wybodaeth ategol a nodir yn Atodlen 3.

Cyflwyno’r Cynllun i Weinidogion Cymru

6.—(1Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 20 Ionawr 2014.

(2Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno pob cynllun dilynol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 20 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y bydd y cynllun yn cael effaith ynddi.

Amseriad cyhoeddi’r cynllun

7.—(1Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun cyntaf heb fod yn hwyrach na 1 Mehefin 2014.

(2Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi pob cynllun dilynol (neu gynllun diwygiedig) heb fod yn hwyrach na 1 Mehefin yn y flwyddyn y mae’r cynllun (neu’r cynllun diwygiedig) i gael effaith.

Dull cyhoeddi’r cynllun

8.  Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynllun (neu’r cynllun diwygiedig) drwy—

(a)ei roi ar wefan yr awdurdod lleol; a

(b)sicrhau bod copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn—

(i)swyddfeydd yr awdurdod lleol; a

(ii)unrhyw le arall y mae’n ei ystyried yn briodol.

Ymgynghori

9.—(1Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol ynghylch y cynllun drafft—

(a)Comisiynydd y Gymraeg (o fewn ystyr adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(9));

(b)Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn ystyr adran 119 o Ddeddf 1998(10));

(c)cynghorau ysgol;

(d)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(e)unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn eu hystyried yn briodol; ac

(f)unrhyw bersonau neu gyrff eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

(2Yn achos y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), dim ond y cyrff hynny sydd â buddiant yn ardal yr awdurdod lleol sy’n destun asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae rhaid ymgynghori â hwy.

(3Rhaid i’r awdurdod ymgynghori ynghylch y cynllun drafft am gyfnod heb fod yn llai nag wyth wythnos.

(4Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal yr ymgynghoriad drwy anfon drafft o’r cynllun at bob ymgynghorai gan wahodd sylwadau arno o fewn cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol.

(5Caniateir bodloni’r gofyniad ym mharagraff (4) i anfon copi drafft o’r cynllun at bob ymgynghorai drwy anfon copïau dros e-bost.

Adolygu’r cynllun

10.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol heb fod yn hwyrach na 20 Rhagfyr bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2014—

(a)adolygu’r cynnydd a wneir gan yr awdurdod lleol yn erbyn y targedau a nodir yn y cynllun yn unol ag adran 84(1)(b) o Ddeddf 2013;

(b)cyflwyno unrhyw gynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2Wrth gynnal yr adolygiad hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n eu hystyried yn briodol.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

3 Rhagfyr 2013

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources