Search Legislation

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 3045 (Cy. 304)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013

Gwnaed

3 Rhagfyr 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Rhagfyr 2013

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1)a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 28 o’r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 27C(2) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, mae Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”)(3) wedi cydsynio i’r trosglwyddiad o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2013.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

Diddymu a throsglwyddo

3.  Ar 31 Rhagfyr 2013 mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) wedi ei diddymu a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf i Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol, ac sy’n elusen sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol sy’n ddibenion addysgol yn unig.

Trosglwyddo Staff

4.  Mae adran 26(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) yn union cyn 31 Rhagfyr 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—

(a)at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy’n gyflogedig fel hynny;

(b)at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 31 Rhagfyr 2013;

(c)at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”); a

(d)at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”).

Dynodi

5.  Mae Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef sefydliad addysgol o’r math a ddisgrifir yn is-adrannau (1) a (2) o adran 28 o’r Ddeddf, wedi ei ddynodi fel sefydliad at ddibenion yr adran honno.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

3 Rhagfyr 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) a hynny’n effeithiol o 31 Rhagfyr 2013. Mae hefyd yn dynodi Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef coleg newydd a fydd yn cael ei redeg gan gwmni cofrestredig cyfyngedig, drwy warant at ddibenion adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”).

Mae’n darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r gorfforaeth i Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) ac mae’n diogelu hawliau cyflogaeth cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd drwy gymhwyso, gydag addasiadau, adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf.

Effaith cymhwyso adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf yw cadw contractau cyflogaeth cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd fel petai’r contractau cyflogaeth wedi eu gwneud yn wreiddiol rhwng y cyflogeion a Choleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”). Daw cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd yn gyflogeion Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) o 31 Rhagfyr 2013.

Ystyr dynodi Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) yw y dylid trin y sefydliad fel sefydliad o fewn y sector addysg bellach at ddibenion y Deddfau Addysg (o fewn yr ystyr a roddir gan adrannau 91(1) a 91(3) o’r Ddeddf ac adran 578 o Ddeddf Addysg 1996).

Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.

(1)

1992 p.13; rhoddwyd adran 27C yn lle adran 27 fel y’i deddfwyd yn wreiddiol, gan Ddeddf Addysg 2011 (p.21), adran 49, Atodlen 12, paragraffau 1 a 7.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32.) a pharagraff 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 iddi.

(3)

Ymgorfforwyd ar 9 Hydref 2013 yn gwmni cyfyngedig drwy warant a chofrestrwyd â rhif cwmni 08725643.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources