Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 32(2)

ATODLEN 1Penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: pensiynwyr

RHAN 1Symiau cymwysadwy at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad: pensiynwyr

Symiau cymwysadwy: pensiynwyr (gan gynnwys pensiynwyr mewn priodasau amlbriod)

1.—(1Y swm cymwysadwy ar gyfer pensiynwr ar gyfer wythnos yw swm cyfanredol y cyfryw rai o’r symiau canlynol sy’n gymwys yn achos y person hwnnw—

(a)swm mewn perthynas â lwfans personol y person, neu os yw’r person hwnnw’n aelod o gwpl, swm mewn perthynas â’r ddau ohonynt, a benderfynir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 2 (lwfans personol);

(b)swm mewn perthynas ag unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person, a benderfynir yn unol â pharagraff 2 o’r Atodlen honno (symiau plentyn neu berson ifanc);

(c)os yw’r person yn aelod o deulu y mae o leiaf un aelod ohono yn blentyn neu’n berson ifanc, swm a benderfynir yn unol â pharagraff 3 o’r Atodlen honno (premiwm teulu);

(d)swm unrhyw bremiymau a allai fod yn gymwys i’r person, a benderfynir yn unol â Rhannau 3 a 4 o’r Atodlen honno (premiymau).

(2Yn Atodlen 2—

ystyr “priod ychwanegol” (“additional spouse”) yw priod y naill barti i’r briodas neu’r llall sy’n ychwanegol at y parti arall i’r briodas;

ystyr “claf” (“patient”) yw person (ac eithrio person sy’n gwneud dedfryd o garchar neu’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad cadw ar gyfer pobl ifanc) yr ystyrir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol yn yr ystyr a roddir i “receiving free in-patient treatment” gan reoliad 2(4) a (5) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005(1).

RHAN 2Uchafswm y gostyngiad treth gyngor at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod a swm unrhyw ostyngiad: pensiynwyr

Uchafswm y gostyngiad treth gyngor o dan gynllun awdurdod: pensiynwyr

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), uchafswm gostyngiad treth gyngor person mewn perthynas â diwrnod yw 100 y cant o’r swm A/B, os—

(a)A yw’r swm a bennir gan yr awdurdod fel y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol mewn perthynas â’r annedd y mae’r person yn preswylio ynddi ac y mae’r person yn atebol amdano, yn ddarostyngedig i unrhyw ddisgownt a allai fod yn briodol i’r annedd honno o dan Ddeddf 1992; a

(b)B yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn ariannol honno,

llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas ag annibynyddion sydd i’w gwneud o dan baragraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr).

(2Wrth gyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor person o dan gynllun awdurdod, rhaid cymryd i ystyriaeth unrhyw ostyngiad yn y swm y mae’r person hwnnw’n atebol i’w dalu mewn perthynas â’r dreth gyngor a wnaed o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad yn Neddf 1992, neu ddeddfiad a wnaed o dan y Ddeddf honno (ac eithrio gostyngiad o dan gynllun awdurdod).

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r ceisydd yn preswylio ynddi ar y cyd ag un neu ragor o bersonau eraill, wrth benderfynu’r uchafswm gostyngiad treth gyngor yn achos y ceisydd yn unol ag is-baragraff (1), rhaid rhannu’r swm A gyda nifer y personau sy’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth honno.

(4Pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd gyda phartner yn unig, nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos y ceisydd hwnnw.

(5Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (3) at berson y mae ceisydd yn atebol ar y cyd ag ef ac yn unigol am dreth gyngor yn cynnwys myfyriwr y mae paragraff 3 o Atodlen 11 (myfyrwyr a eithrir o hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod) yn gymwys iddo.

(6Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”), mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol, yw’r flwyddyn ariannol y mae’r diwrnod dan sylw’n digwydd ynddi.

Didyniadau annibynyddion : pensiynwyr

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, y didyniadau annibynyddion mewn perthynas â diwrnod, y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 yw—

(a)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn sy’n gweithio am dâl, £10.95 x 1/7;

(b)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn nad yw paragraff (a) yn gymwys iddo, £3.65 x 1/7.

(2Yn achos annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, os dangosir i’r awdurdod fod incwm wythnosol gros arferol yr annibynnydd hwnnw—

(a)yn llai na £186.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw’r didyniad a bennir yn is-baragraff (1)(b);

(b)yn ddim llai na £186.00 ond yn llai na £322.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £7.25 x 1/7;

(c)yn ddim llai na £322.00 ond yn llai na £401.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £9.15 x 1/7.

(3Un didyniad yn unig sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn mewn perthynas â chwpl neu, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas ag aelodau priodas amlbriod, ac os byddai’r swm y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas ag un aelod o gwpl neu o briodas amlbriod, oni bai am y paragraff hwn, yn uwch na’r swm (os oes swm) y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas â’r aelod arall, neu unrhyw aelod arall, rhaid didynnu’r swm uchaf.

(4Wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraff (2) yn achos cwpl, neu, yn ôl fel y digwydd, priodas amlbriod, at ddibenion yr is-baragraff hwnnw rhaid rhoi sylw i gyfanswm incwm gros wythnosol y cwpl neu, yn ôl fel y digwydd, gyfanswm incwm gros wythnosol holl aelodau’r briodas amlbriod.

(5Mewn perthynas â diwrnod, os yw—

(a)person yn breswylydd mewn annedd, ond nad yw’r person hwnnw’n atebol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw;

(b)preswylwyr eraill yn yr annedd honno (y personau atebol) yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw, ac eithrio yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1992 (atebolrwydd gwŷr priod a gwragedd priod, a phartneriaid sifil); ac

(c)y person y mae paragraff (a) yn cyfeirio ato yn annibynnydd dau neu ragor o’r personau atebol,

rhaid dosrannu’r didyniad mewn perthynas â’r annibynnydd hwnnw yn gyfartal rhwng y personau atebol hynny.

(6Rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad mewn perthynas ag annibynyddion sy’n meddiannu annedd y ceisydd os yw’r ceisydd neu bartner y ceisydd—

(a)yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn rhinwedd paragraff 20 o Atodlen 1 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd); neu

(b)yn cael, mewn perthynas â’r ceisydd—

(i)lwfans gweini, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw oni bai am—

(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu

(ii)elfen ofal y lwfans byw i’r anabl, neu byddai’n cael yr elfen honno oni bai am—

(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu

(iii)elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw pe na bai’r budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(2) (cleifion mewnol mewn ysbyty); neu

(iv)TALlA, neu byddai’n cael y taliad hwnnw pe na bai wedi ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb.

(7Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—

(a)er bod yr annibynnydd hwnnw yn preswylio gyda’r ceisydd, os yw’n ymddangos i’r awdurdod, fod cartref arferol yr annibynnydd hwnnw yn rhywle arall; neu

(b)os yw’r annibynnydd yn cael lwfans hyfforddi a delir mewn cysylltiad â hyfforddiant ieuenctid a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(3) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(4); neu

(c)os yw’r annibynnydd yn fyfyriwr amser llawn o fewn yr ystyr yn Atodlen 11 (Myfyrwyr); neu

(d)os nad yw’r annibynnydd yn preswylio gyda’r ceisydd oherwydd bod yr annibynnydd wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 52 wythnos, ac at y dibenion hyn—

(i)mae i “claf” (“patient”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 24(6), a

(ii)os yw person wedi bod yn glaf am ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan un neu ragor o ysbeidiau nad oes yr un ohonynt yn hwy na 28 diwrnod, rhaid trin y person hwnnw fel pe bai wedi bod yn glaf yn barhaus am gyfnod sydd â’i hyd yn hafal i gyfanswm y cyfnodau ar wahân hynny.

(8Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—

(a)sydd ar gymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; neu

(b)y mae Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn gymwys iddo (personau a ddiystyrir at ddibenion disgownt); ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i annibynnydd sy’n fyfyriwr y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o’r Atodlen honno.

(9Wrth gymhwyso is-baragraff (2), rhaid diystyru o incwm gros wythnosol yr annibynnydd unrhyw lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol neu TALlA a dderbynnir gan yr annibynnydd.

RHAN 3Swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod: pensiynwyr

Swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod: Dosbarthiadau A a B

4.—(1Pan fo hawl gan bensiynwr i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas â diwrnod, bydd swm y gostyngiad y mae hawl gan y pensiynwr i’w gael fel a ganlyn.

(2Os yw’r person yn nosbarth A, y swm hwnnw yw uchafswm y gostyngiad treth gyngor mewn perthynas â’r diwrnod yn achos y person hwnnw.

(3Os yw’r person yn nosbarth B, y swm hwnnw yw’r swm a gyrhaeddir drwy ddidynnu swm B o swm A pan fo “swm A” a “swm B” yn dwyn yr un ystyron a roddir iddynt yn rheoliad 23.

RHAN 4Incwm a chyfalaf at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad: pensiynwyr

PENNOD 1Cyffredinol: pensiynwyr

Cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod: pensiynwyr

5.—(1Rhaid cyfrifo incwm a chyfalaf—

(a)ceisydd; a

(b)unrhyw bartner y ceisydd hwnnw,

yn unol â darpariaethau’r Rhan hon.

(2Rhaid trin incwm a chyfalaf unrhyw bartner y ceisydd fel pe bai’n incwm a chyfalaf y ceisydd, ac yn y Rhan hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ceisydd yn gymwys yn yr un modd i unrhyw bartner y ceisydd hwnnw.

(3Os yw ceisydd, neu bartner ceisydd, mewn priodas amlbriod â dau neu ragor o aelodau aelwyd y ceisydd—

(a)rhaid trin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r cyfalaf a’r incwm sy’n eiddo i bob aelod o’r fath; a

(b)rhaid cyfrifo incwm a chyfalaf yr aelod hwnnw yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon, yn yr un modd ag ar gyfer y ceisydd.

Amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd: pensiynwyr

6.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys os yw’n ymddangos i’r awdurdod fod annibynnydd a cheisydd wedi ymuno mewn trefniadau er mwyn manteisio ar gynllun awdurdod, a bod gan yr annibynnydd fwy o incwm a chyfalaf na’r ceisydd.

(2Ac eithrio—

(a)pan fo’r ceisydd yn bensiynwr ac ar gredyd gwarant, neu

(b)pan nad yw’r ceisydd yn bensiynwr a phan fo ar gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm,

rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r incwm a’r cyfalaf sy’n eiddo i’r annibynnydd hwnnw, ac mewn achos o’r fath rhaid diystyru unrhyw gyfalaf ac incwm y mae’r ceisydd yn eu meddu.

(3Os trinnir ceisydd fel pe bai’n meddu cyfalaf ac incwm sy’n eiddo i annibynnydd o dan is-baragraff (2), rhaid cyfrifo cyfalaf ac incwm yr annibynnydd hwnnw yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon, yn yr un modd ag ar gyfer y ceisydd, ac onid yw’r cyd-destun yn mynnu’n wahanol, at ddibenion y Rhan hon rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y “ceisydd” (“applicant”) fel pe bai’n gyfeiriad at yr annibynnydd hwnnw.

PENNOD 2Incwm: pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant neu gredyd cynilion: pensiynwyr

Pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant

7.  Yn achos ceisydd sy’n bensiynwr ac yn cael credyd gwarant, neu geisydd y mae’i bartner yn cael credyd gwarant, rhaid diystyru’r cyfan o gyfalaf ac incwm y ceisydd.

Cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion o gredyd cynilion yn unig

8.—(1Wrth benderfynu incwm a chyfalaf ceisydd sy’n bensiynwr ac y mae ganddo, neu y mae gan ei bartner, ddyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys y credyd cynilion yn unig, rhaid i awdurdod, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o incwm a chyfalaf y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, incwm a chyfalaf partner y ceisydd, a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben o benderfynu’r dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth.

(2Os yw’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn cynnwys swm a gymerwyd i ystyriaeth yn y penderfyniad hwnnw ar gyfer incwm net, ni chaiff yr awdurdod addasu’r swm hwnnw ac eithrio i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn cymryd i ystyriaeth—

(a)swm unrhyw gredyd cynilion sy’n daladwy;

(b)mewn perthynas ag unrhyw blant dibynnol y ceisydd, costau gofal plant a gymerir i ystyriaeth o dan baragraff 18 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol);

(c)y swm uchaf a ddiystyrir o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag—

(i)enillion unig riant; neu

(ii)taliadau cynnal, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wneir gan neu sy’n ddyledus gan—

(aa)partner blaenorol y ceisydd neu bartner blaenorol partner y ceisydd; neu

(bb)rhiant plentyn neu berson ifanc pan fo’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw’n aelod o deulu’r ceisydd, ac eithrio pan y ceisydd neu bartner y ceisydd yw’r rhiant hwnnw;

(d)unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn rhinwedd paragraff 10(1) o Atodlen 3 (symiau sydd i’w diystyru o enillion ceisydd);

(e)incwm a chyfalaf unrhyw bartner y ceisydd a drinnir fel aelod o aelwyd y ceisydd o dan reoliad 8, i’r graddau nas cymerir i ystyriaeth wrth benderfynu incwm net y person sy’n hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth;

(f)paragraff 6 (amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd), os yw’r awdurdod yn penderfynu bod y ddarpariaeth yn gymwys yn achos y ceisydd;

(g)pa bynnag ostyngiad pellach (os oes un) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992(5);

(h)unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn rhinwedd paragraff 6 o Atodlen 3 (symiau sydd i’w diystyru o incwm ceisydd: pensiynwyr).

(3Nid yw paragraffau 10 i 30 o’r Atodlen hon yn gymwys i swm yr incwm net sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1), ond maent yn gymwys (i’r graddau y maent yn berthnasol) at y diben o benderfynu unrhyw addasiadau yn y swm hwnnw a wneir gan yr awdurdod o dan is-baragraff (2).

(4Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod gyfrifo cyfalaf y ceisydd yn unol â pharagraffau 25 i 30 (cyfrifo cyfalaf: pensiynwyr).

(5Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysu’r awdurdod y penderfynwyd bod cyfalaf y ceisydd yn £16,000 neu’n llai, neu pan fo’r awdurdod yn penderfynu bod cyfalaf y ceisydd yn £16,000 neu’n llai;

(b)pan fo cyfalaf y ceisydd, ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw, yn codi i fwy nag £16,000; ac

(c)y cynydd yn digwydd pan fo cyfnod incwm asesedig mewn grym, yn yr ystyr a roddir i “assessed income period” gan adrannau 6 a 9 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(6).

PENNOD 3Incwm: pensiynwyr eraill

Cyfrifo incwm a chyfalaf pan nad yw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy: pensiynwyr

9.  Pan nad yw paragraff 7 (pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant) nac ychwaith baragraff 8 (cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion o gredyd cynilion yn unig) yn gymwys yn achos y ceisydd, rhaid cyfrifo neu amcangyfrif incwm a chyfalaf y ceisydd yn unol â pharagraffau 10 i 19 a 21 i 24 (cyfrifo incwm) a pharagraffau 25 i 31 (cyfrifo cyfalaf).

Ystyr “incwm”: pensiynwyr

10.—(1At ddibenion dosbarthiadau A a B ystyr “incwm” (“income”) yw incwm o unrhyw un o’r disgrifiadau canlynol—

(a)enillion;

(b)credyd treth gwaith;

(c)incwm pensiwn ymddeol yn yr ystyr a roddir i “retirement pension income” gan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(7);

(d)incwm o gontractau blwydd-dal (ac eithrio incwm pensiwn ymddeol);

(e)pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw;

(f)pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw o dramor;

(g)taliad incwm gwarantedig;

(h)taliad a wnaed o dan erthygl 29(1)(c) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(8), mewn unrhyw achos pan fo erthygl 31(2)(c) yn gymwys;

(i)incwm o gyfalaf ac eithrio cyfalaf a ddiystyrir o dan Ran 1 o Atodlen 5;

(j)budd-daliadau nawdd cymdeithasol, ac eithrio incwm pensiwn ymddeol neu unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol—

(i)lwfans byw i’r anabl;

(ii)taliad annibyniaeth bersonol;

(iii)TALlA;

(iv)lwfans gweini sy’n daladwy o dan adran 64 o DCBNC (hawl i gael lwfans gweini);

(v)cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 (cynnydd ar gyfer gweini cyson) neu 105 (cynnydd ar gyfer anabledd eithriadol o ddifrifol) o DCBNC;

(vi)budd-dal plant;

(vii)unrhyw lwfans gwarcheidwad sy’n daladwy o dan adran 77 o DCBNC (lwfans gwarcheidwad);

(viii)unrhyw gynnydd ar gyfer dibynnydd ac eithrio partner y ceisydd, sy’n daladwy yn unol â Rhan 4 o DCBNC (cynnydd ar gyfer dibynyddion);

(ix)unrhyw—

(aa)taliad cronfa gymdeithasol a wneir o dan Ran 8 o DCBNC (y gronfa gymdeithasol); neu

(bb)cymorth achlysurol;

(x)bonws Nadolig sy’n daladwy o dan Ran 10 o DCBNC (bonws Nadolig ar gyfer pensiynwyr);

(xi)budd-dal tai;

(xii)budd-dal treth gyngor;

(xiii)taliad profedigaeth;

(xiv)tâl salwch statudol;

(xv)tâl mamolaeth statudol;

(xvi)tâl tadolaeth statudol cyffredin sy’n daladwy o dan Ran 12ZA o DCBNC (tâl tadolaeth statudol)(9);

(xvii)tâl tadolaeth statudol ychwanegol sy’n daladwy o dan Ran 12ZA o DCBNC;

(xviii)tâl mabwysiadu statudol sy’n daladwy o dan Ran 12ZB o DCBNC (tâl mabwysiadu statudol);

(xix)unrhyw fudd-dal cyffelyb i’r rhai a grybwyllir yn narpariaethau blaenorol y paragraff hwn, sy’n daladwy o dan ddeddfwriaeth sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon;

(k)yr holl fudd-daliadau nawdd cymdeithasol tramor cyffelyb i’r budd-daliadau nawdd cymdeithasol a ragnodir uchod;

(l)taliad a wneir—

(i)o dan erthygl 30 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(10), mewn unrhyw achos pan fo erthygl 30(1)(b) yn gymwys; neu

(ii)o dan erthygl 12(8) o’r Gorchymyn hwnnw, mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (b) o erthygl 12(8) yn gymwys;

(m)pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria;

(n)taliadau o dan gynllun a wnaed o dan Ddeddf Niwmoconiosis etc (Digolledu Gweithwyr) 1979(11);

(o)taliadau tuag at gynhaliaeth y ceisydd, a wneir gan briod, partner sifil, cyn briod neu gyn bartner sifil y ceisydd, neu tuag at gynhaliaeth partner y ceisydd gan briod, partner sifil, cyn briod neu gyn bartner sifil y person hwnnw, gan gynnwys taliadau a wneir—

(i)o dan orchymyn llys;

(ii)o dan gytundeb ar gyfer cynhaliaeth; neu

(iii)yn wirfoddol;

(p)taliadau sy’n ddyledus gan unrhyw berson mewn perthynas â phrydau bwyd a llety a ddarperir gan y ceisydd;

(q)breindaliadau neu symiau eraill a delir yn gyfnewid am ddefnyddio, neu’r hawl i ddefnyddio, unrhyw hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach;

(r)unrhyw daliad mewn perthynas ag—

(i)unrhyw lyfr a gofrestrwyd o dan Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982(12); neu

(ii)unrhyw waith a wnaed o dan unrhyw gynllun hawliau benthyg i’r cyhoedd rhyngwladol cyfatebol i Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982;

(s)unrhyw daliad, ac eithrio taliad a orchmynnwyd gan lys neu a wnaed i setlo hawliad, a wnaed gan neu ar ran cyn gyflogwr person, oherwydd ymddeoliad cynnar y person hwnnw ar sail afiechyd neu anabledd;

(t)unrhyw swm sy’n daladwy fel pensiwn allan o arian a ddarperir o dan—

(i)Deddf Rhestr Sifil 1837(13),

(ii)Deddf Rhestr Sifil 1937(14),

(iii)Deddf Rhestr Sifil 1952(15),

(iv)Deddf Rhestr Sifil 1972(16), neu

(v)Deddf Rhestr Sifil 1975(17);

(u)unrhyw incwm sydd yn lle incwm a bennir ym mharagraffau (a) i (r);

(v)unrhyw daliad o rent a wneir i geisydd sydd—

(i)yn berchen y buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad mewn unrhyw eiddo, neu sy’n denant unrhyw eiddo;

(ii)yn meddiannu rhan o’r eiddo; a

(iii)sydd â chytundeb gyda pherson arall sy’n caniatáu i’r person hwnnw feddiannu’r eiddo hwnnw ar ôl talu rhent;

(w)unrhyw daliad a wneir fesul cyfnod rheolaidd o dan gynllun rhyddhau ecwiti;

(x)taliadau cyfnodol o’r Gronfa Diogelu Pensiynau yn yr ystyr a roddir i “PPF periodic payments” gan adran 17(1) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002.

(2Os yw’r taliad o unrhyw fudd-dal nawdd cymdeithasol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad (ac eithrio addasiad a bennir yn is-baragraff (4)) y swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw’r swm cyn gwneud y didyniad.

(3Os yw dyfarniad o unrhyw gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant yn ddarostyngedig i ddidyniad, er mwyn adennill gordaliad o gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddigwyddodd mewn blwyddyn dreth flaenorol, y swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw swm y credyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddyfarnwyd, llai swm y didyniad hwnnw.

(4Yr addasiadau a bennir yn yr is-baragraff hwn yw’r addasiadau a wneir yn unol ag—

(a)Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau Gorgyffyrddol) 1979(18);

(b)Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005(19);

(c)adran 30DD neu adran 30E o DCBNC(20) (gostyngiadau mewn budd-dal analluogrwydd mewn perthynas â phensiynau a lwfansau cynghorwyr);

(d)adran 3 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (didyniadau o lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol mewn perthynas â phensiynau a lwfansau cynghorwyr) a rheoliadau a wneir o dan yr adran honno.

(5Yn is-baragraff (1)(w), ystyr “cynllun rhyddhau ecwiti” (“equity release scheme”) yw benthyciad—

(a)a wnaed rhwng person (“y rhoddwr benthyg”) a’r ceisydd;

(b)sy’n fodd i drosglwyddo swm o arian oddi ar y rhoddwr benthyg i’r ceisydd ar ffurf taliadau ar adegau rheolaidd; ac

(c)a sicrheir gydag annedd y mae gan y ceisydd ystad neu fuddiant ynddi, ac y mae’r ceisydd yn ei meddiannu fel ei gartref.

Cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr

11.—(1Ac eithrio mewn achos y mae is-baragraff (2) neu (4) yn gymwys iddo, at y diben o gyfrifo incwm wythnosol ceisydd sy’n bensiynwr pan fo’r cyfnod y gwneir taliad mewn perthynas ag ef—

(a)yn ddim hwy nag wythnos, rhaid cynnwys y cyfan o’r taliad hwnnw yn incwm wythnosol y ceisydd;

(b)yn hwy nag wythnos, rhaid penderfynu’r swm sydd i’w gynnwys yn incwm wythnosol y ceisydd—

(i)mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw’n fis, drwy luosi swm y taliad gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52;

(ii)mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw’n dri mis, drwy luosi swm y taliad gyda 4 a rhannu’r lluoswm gyda 52;

(iii)mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw’n flwyddyn, drwy rannu’r lluoswm gyda 52;

(iv)mewn unrhyw achos arall, drwy luosi swm y taliad gyda 7 a rhannu’r lluoswm gyda nifer y diwrnodau yn y cyfnod y gwneir y taliad mewn perthynas ag ef.

(2Mae is-baragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo patrwm gwaith rheolaidd y ceisydd yn gyfryw nad yw’r ceisydd yn gweithio yr un oriau bob wythnos; neu

(b)pan fo swm incwm y ceisydd yn codi a gostwng ac wedi newid fwy nag unwaith.

(3Rhaid penderfynu swm wythnosol incwm y ceisydd hwnnw—

(a)mewn achos y mae is-baragraff (2)(a) yn gymwys iddo, os oes cylch gwaith adnabyddadwy, drwy gyfeirio at incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd dros gyfnod y cylch cyfan (ac os yw’r cylch yn cynnwys cyfnodau pan nad yw’r person yn gweithio, gan gynnwys y cyfnodau hynny, ond diystyru unrhyw absenoldebau eraill); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, ar sail—

(i)y ddau daliad diwethaf os gwahenir y taliadau hynny gan gyfnod o fis neu fwy;

(ii)y pedwar taliad diwethaf os gwahenir y ddau daliad diwethaf gan gyfnod o lai nag un mis; neu

(iii)cyfrifo neu amcangyfrif pa bynnag daliadau eraill a allai, yn amgylchiadau penodol yr achos, ganiatáu penderfynu incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn fwy cywir.

(4At ddibenion is-baragraff (3)(b) y taliadau diwethaf yw’r taliadau diwethaf cyn y dyddiad y gwnaed y cais, neu y triniwyd y cais fel pe bai wedi ei wneud.

(5Os oes hawl gan y ceisydd i gael taliad y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo, rhaid trin swm y taliad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas â chyfnod o flwyddyn.

(6Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)breindaliadau neu symiau eraill a delir yn gyfnewid am ddefnyddio, neu’r hawl i ddefnyddio, unrhyw hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach;

(b)unrhyw daliad mewn perthynas ag—

(i)unrhyw lyfr a gofrestrwyd o dan Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982; neu

(ii)unrhyw waith a wnaed o dan unrhyw gynllun hawliau benthyg i’r cyhoedd rhyngwladol cyfatebol i Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982; ac

(c)unrhyw daliad a wneir ar sail achlysurol.

(7Y cyfnod y mae’n rhaid cymryd i ystyriaeth drosto unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal yw’r cyfnod y mae’r budd-dal hwnnw’n daladwy mewn perthynas ag ef.

(8Os gwneir taliadau mewn arian ac eithrio sterling, rhaid penderfynu gwerth y taliad ar sail y cyfwerth sterling ar y dyddiad y gwneir y taliad.

(9Rhaid diystyru’r symiau a bennir yn Atodlen 3 wrth gyfrifo—

(a)enillion y ceisydd; a

(b)unrhyw swm y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo, os y ceisydd yw perchennog cyntaf yr hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach, neu os yw’n gyfrannwr gwreiddiol i’r llyfr neu’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (6)(b).

(10At ddibenion is-baragraff (9)(b), ac at y dibenion hynny yn unig, rhaid trin y symiau a bennir yn is-baragraff (6) fel pe baent yn enillion.

(11Rhaid diystyru incwm a bennir yn Atodlen 4 wrth gyfrifo incwm y ceisydd.

(12Mae Atodlen 5 yn cael effaith fel a ganlyn—

(a)rhaid diystyru’r cyfalaf a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen honno at y diben o benderfynu incwm ceisydd; a

(b)rhaid diystyru’r cyfalaf a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno at y diben o benderfynu incwm ceisydd o dan baragraff 31 (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: pensiynwyr).

(13Yn achos unrhyw incwm a gymerir i ystyriaeth at y diben o gyfrifo incwm person, rhaid diystyru unrhyw swm sy’n daladwy fel treth.

Enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr

12.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth enillydd cyflogedig sy’n bensiynwr, yw unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw sy’n deillio o’r gyflogaeth honno ac y mae’n cynnwys—

(a)unrhyw fonws neu gomisiwn;

(b)unrhyw daliad a wneir yn lle cydnabyddiaeth ariannol ac eithrio unrhyw swm cyfnodol a delir i geisydd o ganlyniad i derfynu cyflogaeth y ceisydd hwnnw oherwydd dileu swydd;

(c)unrhyw daliad yn lle rhybudd;

(d)unrhyw dâl gwyliau;

(e)unrhyw daliad ar ffurf tâl cadw;

(f)unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas â threuliau nas tynnwyd yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas ag—

(i)treuliau a dynnir gan y ceisydd ynglŷn â theithio rhwng ei gartref a’r man lle y’i cyflogir;

(ii)treuliau a dynnir gan y ceisydd o dan drefniadau a wnaed ar gyfer gofal aelod o deulu’r ceisydd, oherwydd absenoldeb y ceisydd o’i gartref;

(g)swm unrhyw daliad ar ffurf taleb anariannol a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo enillion person yn unol â Rhan 5 o Atodlen 3 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001(21);

(h)tâl salwch statudol a thâl mamolaeth statudol sy’n daladwy gan y cyflogwr o dan DCBNC;

(i)tâl tadolaeth statudol sy’n daladwy o dan Ran 12ZA o DCBNC;

(j)tâl mabwysiadu statudol sy’n daladwy o dan Ran 12ZB o DCBNC;

(k)unrhyw symiau sy’n daladwy o dan gontract gwasanaethu—

(i)ar gyfer analluedd i weithio oherwydd salwch neu anaf; neu

(ii)oherwydd beichiogrwydd neu welyfod.

(2Nid yw enillion yn cynnwys—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw daliad mewn nwyddau neu wasanaethau;

(b)unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth;

(c)unrhyw bensiwn galwedigaethol;

(d)unrhyw gyfandaliad a wneir o dan Gynllun Budd-daliadau Ailaddasu Haearn a Dur;

(e)unrhyw daliad i ddigolledu a wneir yn unol â dyfarniad gan dribiwnlys cyflogaeth a sefydlwyd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd Cyflogaeth 1996(22) mewn perthynas â diswyddo annheg neu wahaniaethu anghyfreithlon;

(f)unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

(3Nid yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw daleb anariannol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(g).

Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr

13.—(1At ddibenion paragraff 18 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol: pensiynwyr), rhaid i enillion ceisydd sy’n deillio, neu’n debygol o ddeillio, o’i gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, ac y’u cymerir i ystyriaeth, yn ddarostyngedig i baragraff 11(4) ac Atodlen 3 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr), fod yn enillion net y ceisydd hwnnw.

(2At ddibenion is-baragraff (1) rhaid cyfrifo’r enillion net, ac eithrio pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion gros y ceisydd o’r gyflogaeth honno dros y cyfnod asesu, llai—

(a)unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny fel—

(i)treth incwm;

(ii)cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC;

(b)hanner unrhyw swm a delir gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol;

(c)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (4) mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys sy’n daladwy gan y ceisydd; a

(d)os yw’r enillion hynny’n cynnwys taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac sy’n cyfateb i dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu dâl mabwysiadu statudol, unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny fel unrhyw gyfraniadau sy’n cyfateb i gyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfraniad cymwys” (“qualifying contribution”) yw unrhyw swm sy’n daladwy fesul cyfnod fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn personol.

(4Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys drwy luosi swm dyddiol y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y cyfraniad cymwys fel a ganlyn—

(a)os yw’r cyfraniad cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r cyfraniad cymwys yn berthynol iddo.

(5Pan benderfynir enillion ceisydd o dan baragraff 11(2)(b) (cyfrifo incwm wythnosol: dosbarthiadau A a B) rhaid cyfrifo enillion net y ceisydd hwnnw drwy gymryd i ystyriaeth yr enillion hynny dros y cyfnod asesu, llai—

(a)swm mewn perthynas â threth incwm, sy’n gyfwerth â’r swm a gyfrifir drwy gymhwyso i’r enillion hynny y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35, 36 neu 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007(23) (lwfansau personol), fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd, ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhad personol sy’n ddidynadwy o dan yr is-baragraff hwn ar sail pro rata;

(b)swm sy’n gyfwerth â swm y cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol a fyddai’n daladwy gan y ceisydd o dan DCBNC mewn perthynas â’r enillion hynny pe bai cyfraniadau o’r fath yn daladwy; ac

(c)hanner unrhyw swm a fyddai’n daladwy gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol, pe bai’r enillion a amcangyfrifwyd felly yn enillion gwirioneddol.

Cyfrifo enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr

14.—(1Pan fo enillion ceisydd sy’n bensiynwr yn enillion o gyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig, rhaid penderfynu swm wythnosol enillion y ceisydd hwnnw drwy gyfeirio at enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o’r gyflogaeth honno—

(a)dros gyfnod o un flwyddyn; neu

(b)os yn ddiweddar yr ymgymerodd y ceisydd â’r gyflogaeth honno, neu os digwyddodd newid sy’n debygol o effeithio ar y patrwm busnes arferol, dros ba bynnag gyfnod (“cyfnod cyfrifo”) a allai, yn yr achos penodol dan sylw, alluogi penderfynu swm wythnosol enillion y ceisydd yn fwy cywir.

(2At y dibenion o benderfynu swm wythnosol enillion ceisydd y mae is-baragraff (1)(b) yn gymwys iddo, rhaid rhannu enillion y ceisydd dros y cyfnod cyfrifo gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw a lluosi’r cyniferydd gyda 7.

(3Y cyfnod y cyfrifir swm wythnosol enillion ceisydd drosto yn unol â’r paragraff hwn fydd y cyfnod asesu ar gyfer y ceisydd.

Enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr

15.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig sy’n bensiynwr, yw incwm gros y gyflogaeth.

(2Nid yw “enillion” yn achos cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig yn cynnwys y canlynol—

(a)pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety y telir amdanynt, y taliadau hynny;

(b)unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol i geisydd—

(i)y lletyir person gydag ef yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 22C neu 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989(24) (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 26(1) o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(25); neu

(ii)y mae awdurdod lleol yn maethu plentyn gydag ef o dan Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009(26) neu sy’n ofalwr-berthynas yn yr ystyr a roddir i “kinship carer” o dan y Rheoliadau hynny;

(c)unrhyw daliad a wneir gan sefydliad gwirfoddol yn unol ag adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety gan sefydliadau gwirfoddol);

(d)unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”) nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond y gofelir amdano dros dro gan y ceisydd, gan—

(i)awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wneir mewn perthynas â’r person dan sylw;

(ii)sefydliad gwirfoddol;

(iii)y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(27);

(iv)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(28); neu

(v)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd gan orchymyn a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(29);

(e)unrhyw ddyfarniad chwaraeon.

Incwm tybiannol: pensiynwyr

16.—(1Rhaid trin ceisydd sy’n bensiynwr fel pe bai’n meddu—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw incwm pensiwn ymddeol—

(i)na wnaed hawliad amdano; a

(ii)y gallai’r ceisydd ddisgwyl y byddai hawl ganddo i’w gael pe bai’n ei hawlio;

(b)incwm o gynllun pensiwn galwedigaethol y dewisodd y ceisydd ei ohirio.

(2Nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys i’r canlynol pan fo hawlogaeth wedi ei gohirio—

(a)pensiwn ymddeol Categori A neu Gategori B sy’n daladwy o dan adrannau 43 i 55 o DCBNC;

(b)pensiwn ychwanegol a rennir sy’n daladwy o dan adran 55A o DCBNC;

(c)budd-dal ymddeol graddedig sy’n daladwy o dan adrannau 36 a 37 o Ddeddf Yswiriant Gwladol 1965(30).

(3At ddibenion is-baragraff (2), mae hawlogaeth wedi ei ohirio—

(a)yn achos pensiwn Categori A neu Gategori B, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 55(3) o DCBNC;

(b)yn achos pensiwn ychwanegol a rennir, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 55C(3) o DCBNC; ac

(c)yn achos budd-dal ymddeol graddedig, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 36(4) a (4A) o Ddeddf Yswiriant Gwladol 1965.

(4Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys yn achos person a gyrhaeddodd oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth—

(a)sydd â hawl i fuddion pryniant ariannol o dan gynllun pensiwn galwedigaethol neu gynllun pensiwn personol;

(b)sy’n peidio â phrynu blwydd-dal â’r gronfa sydd ar gael iddo yn y cynllun hwnnw; ac

(c)naill ai—

(i)yn gohirio yn gyfan gwbl neu’n rhannol y taliad o unrhyw incwm a fyddai wedi bod yn daladwy i’r person hwnnw gan ddeiliad cronfa bensiwn y person hwnnw, neu

(ii)yn peidio â chymryd unrhyw gam sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y cyfan o unrhyw incwm, a fyddai’n daladwy i’r person hwnnw gan ddeiliad ei gronfa bensiwn pe bai’r person hwnnw’n gwneud cais amdano, yn cael ei dalu felly, neu

(iii)sy’n berson nad yw alldynnu incwm ar gael iddo o dan y cynllun hwnnw.

(5Os yw is-baragraff (4) yn gymwys, rhaid trin swm unrhyw incwm a hepgorir fel pe bai’r person hwnnw’n ei feddu, ond hynny, yn unig, o’r dyddiad y gellid disgwyl ei gael pe bai cais amdano wedi ei wneud.

(6Swm unrhyw incwm a hepgorir mewn achos pan fo is-baragraff (4)(c)(i) neu (ii) yn gymwys fydd uchafswm yr incwm y gellid ei alldynnu o’r gronfa, a rhaid i’r awdurdod ei benderfynu gan gymryd i ystyriaeth wybodaeth a ddarperir gan ddeiliad y gronfa bensiwn.

(7Swm unrhyw incwm a hepgorir mewn achos pan fo is-baragraff (4)(c)(iii) yn gymwys fydd yr incwm y gallai’r ceisydd fod wedi ei gael heb brynu blwydd-dal pe bai’r cronfeydd a ddelir o dan y cynllun perthnasol wedi eu dal o dan gynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn galwedigaethol sy’n caniatáu alldynnu incwm, a rhaid ei benderfynu yn y modd a bennir yn is-baragraff (6).

(8Yn is-baragraff (4), mae i “buddion pryniant ariannol” yr ystyr a roddir i “money purchase benefits” gan Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993.

(9Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (10) a (12), rhaid trin person fel pe bai’n meddu incwm y mae’r person hwnnw wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o sicrhau hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu gynyddu swm y gostyngiad.

(10Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn neu fudd-dal pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn neu fudd-dal o dan Atodlen 5 neu 5A i DCBNC neu o dan Atodlen 1 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-dal Ymddeol Graddedig) 2005(31), wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 5 neu 5A i’r Ddeddf honno.

(11Yn is-baragraff (10), ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan Atodlen 5 neu 5A i DCBNC neu o dan Atodlen 1 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-dal Ymddeol Graddedig) 2005.

(12Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw swm o incwm ac eithrio enillion, neu enillion enillydd cyflogedig, sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

(13Os yw ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal, a newid yng nghyfradd y budd-dal hwnnw yn cael effaith o ddyddiad ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, ond ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl 1 Ebrill, rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r budd-dal hwnnw ar y gyfradd ddiwygiedig, naill ai o 1 Ebrill neu o’r dydd Llun cyntaf yn Ebrill yn y flwyddyn honno, pa ddyddiad bynnag y bydd yr awdurdod yn dewis ei ddefnyddio, hyd at y dyddiad y bydd y gyfradd ddiwygiedig yn cael effaith.

(14Yn achos ceisydd y mae ganddo, neu y mae gan ei bartner, ddyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys y credyd cynilion yn unig, pan fo’r awdurdod yn trin y ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw fudd-dal ar gyfradd ddiwygiedig yn unol ag is-baragraff (13), rhaid i’r awdurdod—

(a)penderfynu incwm a chyfalaf y ceisydd hwnnw yn unol â pharagraff 8 (cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion o gredyd cynilion yn unig) pan newidir y cyfrifiad neu’r amcangyfrif o’r incwm a’r cyfalaf hynny gydag effaith o ddyddiad ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, ond ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl 1 Ebrill; a

(b)trin y ceisydd hwnnw fel pe bai’n meddu’r cyfryw incwm a chyfalaf ar y gyfradd ddiwygiedig gan gyfeirio at y dyddiad y dewisodd yr awdurdod ei ddefnyddio yn ei ardal, at ddibenion penderfynu’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (13).

(15At ddibenion is-baragraff (9), rhaid peidio ag ystyried bod person yn amddifadu ei hunan o incwm pan fo—

(a)hawliau’r person hwnnw i fuddion o dan gynllun pensiwn cofrestredig yn cael eu diddymu, a’r person hwnnw’n derbyn taliad o’r cynllun o ganlyniad i hynny, a

(b)y taliad hwnnw’n gyfandaliad cymudo dibwys yn yr ystyr a roddir i “trivial commutation lump sum” gan baragraff 7 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004.

(16Yn is-baragraff (15), mae i “cynllun pensiwn cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pension scheme” yn adran 150(2) o Ddeddf Cyllid 2004.

Incwm a delir i drydydd partïon: pensiynwyr

17.—(1Rhaid trin unrhyw daliad o incwm a wneir i drydydd parti mewn perthynas â’r ceisydd, ac eithrio taliad a bennir yn is-baragraff (2) neu (3), fel pe bai’r ceisydd yn ei feddu.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thaliad o incwm a wneir o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, mewn perthynas â phensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau—

(a)pan fo gorchymyn methdalu wedi ei wneud mewn perthynas â’r person y gwnaed y taliad mewn perthynas ag ef neu, yn yr Alban, ystad y person hwnnw yn destun atafaelu, neu oruchwyliwr barnwrol wedi ei benodi ar ystad y person hwnnw o dan adran 41 o Ddeddf Cyfreithwyr (Yr Alban) 1980(32);

(b)pan wneir y taliad i’r ymddiriedolwr mewn methdaliad neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran y credydwyr; ac

(c)pan nad yw’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (a), na phartner y person hwnnw, yn meddu, nac yn cael ei drin fel pe bai’n meddu, unrhyw incwm arall ar wahân i’r taliad hwnnw.

(3Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw daliad o incwm ac eithrio enillion, neu enillion sy’n deillio o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, sy’n codi o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

Cyfrifo incwm ar sail wythnosol: pensiynwyr

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 22 (diystyru newidiadau mewn cyfraniadau treth, etc), rhaid cyfrifo incwm ceisydd ar sail wythnosol fel a ganlyn—

(a)drwy amcangyfrif swm tebygol incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn unol â’r Rhan hon;

(b)drwy ychwanegu at y swm hwnnw yr incwm wythnosol a gyfrifir o dan baragraff 31 (cyfrifo’r incwm tariff o gyfalaf); ac

(c)drwy ddidynnu wedi hynny unrhyw gostau gofal plant perthnasol y mae paragraff 19 (trin costau gofal plant) yn gymwys iddynt, o unrhyw enillion sy’n ffurfio rhan o’r incwm wythnosol cyfartalog neu, mewn achos pan fo’r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, eu didynnu o’r enillion hynny plws pa gredyd bynnag a bennir sy’n briodol ym mharagraff (b) o’r is-baragraff hwnnw, hyd at yr uchafswm didyniad mewn perthynas â theulu’r ceisydd, sef pa un bynnag o’r symiau a bennir yn is-baragraff (3), sy’n gymwys yn achos y ceisydd.

(2Amodau’r paragraff hwn yw’r canlynol—

(a)bod enillion y ceisydd, sy’n ffurfio rhan o incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd, yn llai na’r isaf o naill ai gostau gofal plant perthnasol y ceisydd neu pa un bynnag o’r didyniadau a bennir yn is-baragraff (3) sy’n gymwys fel arall yn achos y ceisydd; a

(b)bod y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, naill ai’r ceisydd neu bartner y ceisydd, yn cael naill ai credyd treth gwaith neu gredyd treth plant.

(3Yr uchafswm didyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) uchod yw’r canlynol—

(a)pan fo teulu’r ceisydd yn cynnwys un plentyn yn unig y telir costau gofal plant perthnasol mewn perthynas ag ef, £175 yr wythnos;

(b)pan fo teulu’r ceisydd yn cynnwys mwy nag un plentyn y telir costau gofal plant perthnasol mewn perthynas â hwy, £300 yr wythnos.

Trin costau gofal plant: pensiynwyr

19.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd (o fewn ystyr y paragraff hwn) yn tynnu costau gofal plant perthnasol ac—

(a)yn unig riant ac yn ymgymryd â gwaith am dâl;

(b)yn aelod o gwpl y mae’r ddau aelod ohono’n ymgymryd â gwaith am dâl; neu

(c)yn aelod o gwpl y mae un o’i aelodau yn ymgymryd â gwaith am dâl a’r llall—

(i)yn analluog;

(ii)yn glaf mewnol mewn ysbyty; neu

(iii)mewn carchar (boed wedi ei ddedfrydu i garchar neu ar remánd yn y ddalfa tra’n aros treial neu ddedfryd).

(2At ddibenion is-baragraff (1) ac yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid trin person y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl am gyfnod o ddim mwy nag 28 wythnos pan fo’r person—

(a)yn cael ei dalu tâl salwch statudol;

(b)yn cael ei dalu budd-dal analluogrwydd byrdymor ar y gyfradd isaf o dan adrannau 30A i 30E o DCBNC;

(c)yn cael ei dalu lwfans cyflogaeth a chymorth;

(d)yn cael ei dalu cymhorthdal incwm ar sail analluedd i weithio o dan reoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(33), a pharagraff 7 neu 14 o Atodlen 1B i’r Rheoliadau hynny; neu

(e)yn cael ei gredydu ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau) 1975(34).

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson a oedd yn ymgymryd â gwaith am dâl yn union cyn—

(a)diwrnod cyntaf y cyfnod y telir i’r person hwnnw’n gyntaf dâl salwch statudol, budd-dal analluogrwydd byrdymor, lwfans cyflogaeth a chymorth neu gymhorthdal incwm ar sail analluedd i weithio mewn perthynas ag ef; neu

(b)diwrnod cyntaf y cyfnod y credydir enillion mewn perthynas ag ef,

yn ôl fel y digwydd.

(4Mewn achos pan fo is-baragraff (2)(d) neu (e) yn gymwys, mae’r cyfnod o 28 wythnos yn cychwyn ar y diwrnod y telir cymhorthdal incwm gyntaf i’r person hwnnw, neu ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod y credydir enillion iddo mewn perthynas ag ef, yn ôl fel y digwydd.

(5Costau gofal plant perthnasol yw’r costau gofal hynny y mae is-baragraffau (6) a (7) yn gymwys iddynt, a rhaid eu cyfrifo ar sail wythnosol yn unol ag is-baragraff (10).

(6Mae’r costau’n cael eu talu gan y ceisydd, am ofal a ddarperir—

(a)yn achos unrhyw blentyn o deulu’r ceisydd nad yw’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r plentyn ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn pymthegfed pen-blwydd y plentyn hwnnw; neu

(b)yn achos unrhyw blentyn o deulu’r ceisydd sy’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r plentyn ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y plentyn hwnnw.

(7Telir y costau am ofal a ddarperir gan un neu ragor o’r darparwyr gofal a restrir yn is-baragraff (8) ac ni thelir hwy—

(a)mewn perthynas ag addysg orfodol y plentyn;

(b)gan geisydd i’w bartner na chan ei bartner i geisydd, mewn perthynas ag unrhyw blentyn y mae’r naill neu’r llall, neu unrhyw rai ohonynt yn gyfrifol amdano yn unol â rheoliad 7 (amgylchiadau pan fo person i gael ei drin fel un sy’n gyfrifol neu ddim yn gyfrifol am berson arall); neu

(c)mewn perthynas â gofal a ddarperir gan berthynas i’r plentyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y plentyn.

(8Caniateir darparu’r gofal y cyfeirir ato yn is-baragraff (7)—

(a)y tu allan i oriau ysgol, gan ysgol mewn mangre ysgol neu gan awdurdod lleol—

(i)i blant nad ydynt yn anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar eu hwythfed pen-blwydd ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn eu pymthegfed pen-blwydd; neu

(ii)i blant sy’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar eu hwythfed pen-blwydd ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn eu hunfed pen-blwydd ar bymtheg; neu

(b)gan ddarparwr gofal plant a gymeradwywyd yn unol â Rheoliadau Credyd Treth (Categori Newydd o Ddarparwyr Gofal Plant) 1999(35); neu

(c)gan bersonau a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(36); neu

(d)gan berson a eithrir rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 oherwydd bod y gofal plant a ddarperir gan y person hwnnw mewn ysgol neu mewn sefydliad y cyfeirir atynt yn erthygl 11, 12 neu 14 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(37); neu

(e)gan—

(i)personau a gofrestrwyd o dan adran 59(1) o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(38); neu

(ii)awdurdodau lleol a gofrestrwyd o dan adran 83(1) o’r Ddeddf honno,

os y gofal a ddarperir yw gwarchod plant neu ofal dydd ar gyfer plant, yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “child minding” a “day care of children” yn y Ddeddf honno; neu

(f)gan berson a ragnodir mewn rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 12(4) o Ddeddf Credydau Treth 2002; neu

(g)gan berson a gofrestrwyd o dan Bennod 2 neu 3 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(39); neu

(h)gan unrhyw un o’r ysgolion a grybwyllir yn adran 34(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006(40) mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofyniad i gofrestru o dan Bennod 2 o Ran 3 o’r Ddeddf honno yn gymwys, yn rhinwedd adran 34(2) o’r Ddeddf honno; neu

(i)gan unrhyw un o’r ysgolion a grybwyllir yn adran 53(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofyniad i gofrestru o dan Bennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf honno yn gymwys, yn rhinwedd adran 53(2) o’r Ddeddf honno; neu

(j)gan unrhyw un o’r sefydliadau a grybwyllir yn adran 18(5) o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofal yn gynwysedig yn ystyr “childcare” at ddibenion Rhan 1 a Rhan 3 o’r Ddeddf honno yn rhinwedd adran 18(5) o’r Ddeddf honno; neu

(k)gan riant maeth neu ofalwr-berthynas o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011(41), Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(42) neu Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009(43) mewn perthynas â phlentyn ac eithrio’r plentyn a faethir gan y rhiant maeth neu’r plentyn sy’n derbyn gofal gan y gofalwr-berthynas; neu

(l)gan weithiwr gofal cartref o dan Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(44); neu

(m)gan berson nad yw’n berthynas i’r plentyn, yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y plentyn.

(9Yn is-baragraffau (6) ac (8)(a), ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

(10Rhaid amcangyfrif y costau gofal plant perthnasol dros ba bynnag gyfnod, o ddim mwy na blwyddyn, sy’n briodol ar gyfer amcangyfrif yn gywir y gost wythnosol gyfartalog, gan roi sylw i wybodaeth a ddarperir gan y gwarchodwr plant neu’r person sy’n darparu’r gofal, ynghylch swm y tâl a godir.

(11At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae’r aelod arall o gwpl yn analluog—

(a)os yw’r ceisydd yn bensiynwr a’r aelod arall o’r cwpl heb fod yn llai nag 80 oed;

(b)os yw’r ceisydd yn bensiynwr a’r aelod arall o’r cwpl yn llai nag 80 oed, ac—

(i)trinnir amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 20 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd) fel pe bai’n gymwys yn achos yr aelod arall o’r cwpl; a

(ii)mae’r aelod arall o’r cwpl yn bodloni’r amodau hynny, neu byddai’n eu bodloni pe na bai’r aelod hwnnw o’r cwpl yn cael ei drin fel rhywun sy’n alluog i weithio yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 171E o DCBNC;

(c)os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys yr elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith oherwydd galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith, pe na bai’r aelod arall hwnnw’n cael ei drin fel pe na bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008;

(d)os yw’r ceisydd yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, ac wedi bod yn analluog felly neu wedi cael ei drin felly yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC(45) (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(e)os yw galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, neu os trinnir ef fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, ac os bu ganddo, neu os triniwyd ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân a wahenir gan doriad o ddim mwy na 84 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(f)os yw un neu ragor o’r pensiynau neu lwfansau canlynol yn daladwy mewn perthynas â’r aelod arall—

(i)budd-dal analluogrwydd hirdymor neu fudd-dal analluogrwydd byrdymor ar y raddfa uwch o dan Atodlen 4 i DCBNC;

(ii)lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC;

(iii)lwfans anabledd difrifol o dan adran 68 o DCBNC;

(iv)lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o DCBNC;

(v)taliad annibyniaeth bersonol o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;

(vi)TALlA;

(vii)cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 o DCBNC;

(viii)cynnydd mewn pensiwn a delir fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel neu o dan gynllun anafiadau diwydiannol sy’n cyfateb i lwfans neu gynnydd mewn pensiwn anabledd o dan is-baragraff (ii), (iv), (v) neu (vi) uchod;

(ix)lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd;

(g)os bu pensiwn neu lwfans y cyfeirir ato yn is-baragraff (vi) neu (vii) o baragraff (f) yn daladwy oherwydd analluedd yr aelod arall, ond peidiodd â bod yn daladwy o ganlyniad i’r aelod hwnnw ddod yn glaf, ac yn y paragraff hwn, ystyr claf yw person (ac eithrio person sy’n gwneud dedfryd o garchar neu mewn sefydliad cadw ar gyfer pobl ifanc) yr ystyrir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol, yn yr ystyr a roddir i “receiving free in-patient treatment” gan reoliad 2(4) a (5) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005;

(h)os byddai lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC neu lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o’r Ddeddf honno yn daladwy i’r person hwnnw pe na bai—

(i)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(ii)lleihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(i)os byddai’r elfen byw dyddiol o’r taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy i’r person hwnnw pe na bai budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty);

(j)os byddai TALlA yn daladwy i’r person hwnnw pe na bai taliad wedi ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

(k)os byddai paragraff (f), (g), (h) neu (i) yn gymwys i’r aelod arall pe bai’r darpariaethau deddfwriaethol y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny yn ddarpariaethau o dan unrhyw ddeddfiad cyfatebol sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon; neu

(l)os oes gan yr aelod arall gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd i’r aelod arall gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(46) neu o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978, neu a ddarparwyd gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(12At ddibenion is-baragraff (11), unwaith y bydd is-baragraff (11)(d) yn gymwys i’r ceisydd, os yw’r ceisydd wedyn, am gyfnod o 56 diwrnod neu lai, yn peidio â bod yn analluog i weithio, neu gael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â’r ceisydd yn analluog i weithio drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai’n analluog i weithio, bydd yr is-baragraff hwnnw yn gymwys i’r ceisydd ar unwaith, cyhyd ag y bo’r ceisydd yn parhau’n analluog i weithio, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai’n analluog i weithio.

(13At ddibenion is-baragraff (11), unwaith y bydd is-baragraff (11)(e) yn gymwys i’r ceisydd, os yw galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith wedyn yn peidio â bod yn gyfyngedig, neu os peidir â’i drin fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, am gyfnod o 84 diwrnod neu lai, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, bydd yr is-baragraff hwnnw yn gymwys i’r ceisydd ar unwaith, cyhyd ag y bo galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn parhau’n gyfyngedig, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig.

(14At ddibenion is-baragraffau (6) ac (8)(a), mae person yn anabl os yw’n berson—

(a)y mae lwfans gweini neu elfen ofal y lwfans anabledd yn daladwy iddo, neu y byddai’n daladwy iddo oni bai am—

(i)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(ii)lleihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(b)y mae elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy iddo neu y byddai’n daladwy iddo pe na bai’r budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty);

(c)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994;

(d)y peidiodd â bod yn gofrestredig fel person dall mewn cofrestr o’r fath, o fewn y cyfnod sy’n cychwyn 28 wythnos cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn pymthegfed pen-blwydd y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod yn union cyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw; neu

(e)y mae TALlA yn daladwy iddo.

(15At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin person sydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl am y cyfnod a bennir yn is-baragraff (16) (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod—

(a)bod y person hwnnw’n gweithio am dâl yn ystod yr wythnos sy’n rhagflaenu’r cyfnod o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu;

(b)bod y person hwnnw’n tynnu costau gofal plant perthnasol o fewn ystyr is-baragraff (5); ac

(c)bod hawl gan y person hwnnw i gael naill ai tâl mamolaeth statudol o dan adran 164 o DCBNC, tâl tadolaeth statudol cyffredin yn rhinwedd adran 171ZA neu 171ZB o’r Ddeddf honno, tâl tadolaeth statudol ychwanegol yn rhinwedd adran 171ZEA neu 171ZEB o’r Ddeddf honno, tâl mabwysiadu statudol yn rhinwedd adran 171ZL o’r Ddeddf honno, lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno neu gymhorthdal cymwys.

(16At ddibenion is-baragraff (15) mae’r cyfnod perthnasol yn cychwyn ar y diwrnod y mae absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu y person hwnnw’n cychwyn, a daw i ben ar—

(a)y dyddiad y daw’r absenoldeb hwnnw i ben;

(b)os na thelir yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith ar y dyddiad y daw’r hawlogaeth i lwfans mamolaeth, cymhorthdal cymwys (os yw’n berthnasol), tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu’r tâl mabwysiadu statudol i ben, y dyddiad y daw’r hawlogaeth honno i ben; neu

(c)os telir yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith ar y dyddiad y daw’r hawlogaeth i lwfans mamolaeth neu gymhorthdal cymwys, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol, neu’r tâl mabwysiadu statudol i ben, y dyddiad y daw’r hawlogaeth i’r dyfarniad o’r elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith i ben;

pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

(17Yn is-baragraffau (15) ac (16)—

(a)ystyr “cymhorthdal cymwys” (“qualifying support”) yw cymhorthdal incwm y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael yn rhinwedd paragraff 14B o Atodlen 1B i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(47); a

(b)ystyr “elfen gofal plant” (“child care element”) o’r credyd treth gwaith yw’r elfen o’r credyd treth gwaith a ragnodir o dan adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002 (elfen gofal plant).

(18Yn y paragraff hwn nid yw “ceisydd” (“applicant”) yn cynnwys ceisydd—

(a)y mae ganddo, neu

(b)y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol.

Amod ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff 19(11)(b)(i): anabledd : pensiynwyr

20.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yr amod ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff 19(11)(b)(i) yw naill ai—

(a)bod y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd—

(i)yn cael un neu ragor o’r budd-daliadau canlynol: lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, TALlA, yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol o’r credyd treth gwaith fel y’u pennir yn rheoliad 20(1)(b) ac (f) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(48), atodiad symudedd, budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC neu lwfans anabledd difrifol o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno, ond, yn achos budd-dal analluogrwydd hirdymor neu lwfans anabledd difrifol, hynny yn unig pan delir y budd-dal neu’r lwfans mewn perthynas â’r ceisydd; neu

(ii)wedi bod yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC pan beidiodd yr hawlogaeth i’r budd-dal hwnnw oherwydd talu pensiwn ymddeol o dan y Ddeddf honno, a bod y ceisydd yn y cyfamser wedi parhau â hawlogaeth ddi-dor i fudd-dal treth gyngor (am y cyfnod cyn 1 Ebrill 2013) neu ostyngiad o dan gynllun awdurdod (am y cyfnod ar ôl 1 Ebrill 2013) ac, os oedd y budd-dal analluogrwydd hirdymor yn daladwy i bartner y ceisydd, bod y partner yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(iii)wedi bod yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i’r anabl ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu lleihawyd hwy fel arall oherwydd bod y ceisydd, neu bartner y ceisydd, wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 19(11)(g) (trin costau gofal plant); neu

(iv)wedi bod yn cael taliad annibyniaeth bersonol, ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 oherwydd bod y ceisydd wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 19(11)(g) (trin costau gofal plant); neu

(v)wedi bod yn cael TALlA ond ataliwyd taliadau ohono dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb; neu

(vi)wedi cael, gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, neu, yn yr Alban, o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (darparu gwasanaethau gan Weinidogion yr Alban), neu, yng Nghymru, o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, neu, yng Ngogledd Iwerddon, wedi cael, gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu yn cael taliadau ar ffurf grant gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2006(49) (darparu cerbydau ar gyfer pobl anabl) neu, yn yr Alban, gan Weinidogion yr Alban o dan adran 46 o Ddeddf 1978; neu

(vii)yn ddall, ac o ganlyniad wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994; neu

(b)bod y ceisydd—

(i)yn analluog i weithio neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno; a

(ii)wedi bod yn analluog i weithio neu wedi cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio am gyfnod di-dor o ddim llai nag—

(aa)yn achos ceisydd sy’n derfynol wael yn yr ystyr a roddir i “terminally ill” yn adran 30B(4) o DCBNC, 196 diwrnod;

(bb)mewn unrhyw achos arall, 364 diwrnod.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(a)(vii), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.

(3At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan wahenir unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau o analluedd gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod, rhaid trin y cyfnodau hynny gyda’i gilydd fel un cyfnod di-dor.

(4At ddibenion y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson sydd, neu a oedd, yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor yn cynnwys person sydd neu a oedd yn cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd hafal i’r gyfradd hirdymor, yn rhinwedd adran 30B(4)(a) o DCBNC (budd-dal analluogrwydd byrdymor i berson sy’n derfynol wael), neu a fyddai’n cael neu wedi cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd o’r fath pe na bai cyfradd y budd-dal analluogrwydd byrdymor sydd eisoes yn daladwy i’r person hwnnw yn hafal i’r gyfradd hirdymor neu’n uwch, neu wedi bod yn hafal i’r gyfradd hirdymor neu’n uwch.

(5Yn achos ceisydd sy’n fuddiolwr ‘o fudd-dal i waith’ (sef person y mae rheoliad 13A(1) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995(50) yn gymwys iddo ac sydd drachefn yn mynd yn analluog i weithio at ddibenion Rhan 12A o DCBNC) rhaid trin y cyfeiriad at gyfnod o 56 diwrnod yn is-baragraff (3) fel pe bai’n gyfeiriad at gyfnod o 104 wythnos.

Cyfrifiadau o’r incwm wythnosol cyfartalog o gredydau treth

21.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd yn cael credyd treth.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, y cyfnod y mae’n rhaid cymryd y credyd treth i ystyriaeth drosto yw’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (3).

(3Pan fo’r rhandaliad, y gwneir taliad o gredyd treth mewn perthynas ag ef—

(a)yn rhandaliad dyddiol, y cyfnod yw 1 diwrnod, sef y diwrnod y telir y rhandaliad mewn perthynas ag ef;

(b)yn rhandaliad wythnosol, y cyfnod yw 7 diwrnod, yn diweddu ar y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu;

(c)yn rhandaliad mewn perthynas â dwy wythnos, y cyfnod yw 14 diwrnod, yn cychwyn 6 diwrnod cyn y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu;

(d)yn rhandaliad mewn perthynas â phedair wythnos, y cyfnod yw 28 diwrnod, yn diweddu ar y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu.

(4At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth plant neu gredyd treth gwaith.

Diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc

22.  Wrth gyfrifo incwm ceisydd, caiff awdurdod ddiystyru unrhyw newid deddfwriaethol—

(a)yng nghyfradd sylfaenol neu gyfraddau eraill y dreth incwm;

(b)yn swm unrhyw ryddhad treth personol;

(c)yng nghyfraddau’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC neu yn y terfyn enillion isaf neu’r terfyn enillion uchaf ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 1 o dan y Ddeddf honno, y terfynau isaf neu uchaf sy’n gymwys i gyfraniadau Dosbarth 4 o dan y Ddeddf honno neu’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel mewn perthynas â chyfraniadau Dosbarth 2);

(d)yn swm y dreth sy’n daladwy o ganlyniad i gynnydd yn y gyfradd wythnosol o bensiwn ymddeol Categori A, B, C neu D neu unrhyw ychwanegiad ato neu unrhyw bensiwn graddedig sy’n daladwy o dan DCBNC;

(e)yn y gyfradd uchaf o gredyd treth plant neu gredyd treth gwaith,

am gyfnod ddim hwy na 30 wythnos ostyngiad, sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad yn union ar ôl y dyddiad y daw’r newid yn effeithiol.

Cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig

23.—(1At ddibenion paragraff 18 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol) enillion y ceisydd y mae’n rhaid eu cymryd i ystyriaeth yw’r canlynol—

(a)yn achos enillydd hunangyflogedig sy’n ymgymryd â chyflogaeth ar ei ran ei hun, yr elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno;

(b)yn achos enillydd hunangyflogedig sy’n bensiynwr ac yn ymgymryd â’i gyflogaeth mewn partneriaeth, cyfran y person hwnnw o’r elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno, llai—

(i)swm mewn perthynas â threth incwm a chyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC, a gyfrifir yn unol â pharagraff 24 (cyfrifo didynnu treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

(ii)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(a) rhaid cyfrifo elw net y gyflogaeth, ac eithrio pan fo is-baragraff (8) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion y gyflogaeth dros y cyfnod asesu, llai—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (4) i (7), unrhyw dreuliau a dynnir yn gyfan gwbl ac yn unig yn y cyfnod hwnnw at ddibenion y gyflogaeth honno;

(b)swm mewn perthynas ag—

(i)treth incwm; a

(ii)cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC,

a gyfrifir yn unol â pharagraff 24 (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); ac

(c)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (10) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(3At ddibenion is-baragraff (1)(b) rhaid cyfrifo elw net y gyflogaeth drwy gymryd i ystyriaeth enillion y gyflogaeth dros y cyfnod asesu llai, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (4) i (7), unrhyw dreuliau a dynnir yn gyfan gwbl ac yn unig yn y cyfnod hwnnw at ddibenion y gyflogaeth honno.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad o dan baragraff (2)(a) neu (3), mewn perthynas ag—

(a)unrhyw wariant cyfalaf;

(b)dibrisiant unrhyw ased cyfalaf;

(c)unrhyw swm a ddefnyddiwyd neu y bwriedir ei ddefnyddio i sefydlu neu ehangu’r gyflogaeth;

(d)unrhyw golled a dynnwyd cyn dechrau’r cyfnod asesu;

(e)ad-daliad o’r cyfalaf mewn unrhyw fenthyciad a gymerwyd at ddibenion y gyflogaeth; ac

(f)unrhyw dreuliau a dynnwyd wrth ddarparu adloniant busnes.

(5Rhaid gwneud didyniad o dan is-baragraff (2)(a) neu (3) mewn perthynas ag ad-dalu’r cyfalaf mewn unrhyw fenthyciad a ddefnyddiwyd ar gyfer—

(a)amnewid cyfarpar neu beiriannau yng nghwrs busnes; neu

(b)atgyweirio ased busnes presennol, ac eithrio i’r graddau y mae unrhyw swm yn daladwy o dan bolisi yswiriant ar gyfer ei atgyweirio.

(6Rhaid i’r awdurdod wrthod gwneud didyniad mewn perthynas ag unrhyw dreuliau o dan is-baragraff (2)(a) neu (3) os na fodlonwyd yr awdurdod, o ystyried natur a swm y draul, ei bod wedi ei thynnu yn rhesymol.

(7Er mwyn osgoi amheuaeth—

(a)rhaid peidio â gwneud didyniad o dan is-baragraff (2)(a) neu (3) mewn perthynas ag unrhyw swm, oni wariwyd y swm hwnnw at ddibenion y busnes;

(b)rhaid gwneud didyniad o dan y naill neu’r llall o’r is-baragraffau hynny mewn perthynas ag—

(i)pan fo swm y dreth ar werth a dalwyd yn fwy na swm y dreth ar werth a dderbyniwyd yn y cyfnod asesu, y gwahaniaeth rhwng y ddau swm;

(ii)unrhyw incwm a wariwyd i atgyweirio ased busnes presennol ac eithrio i’r graddau y mae unrhyw swm yn daladwy o dan bolisi yswiriant ar gyfer ei atgyweirio;

(iii)unrhyw daliad o log ar fenthyciad a gymerwyd at ddibenion y gyflogaeth.

(8Pan fo ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth fel gwarchodwr plant, elw net y gyflogaeth fydd un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno, llai—

(a)swm mewn perthynas ag—

(i)treth incwm; a

(ii)cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC,

a gyfrifir yn unol â pharagraff 24 (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

(b)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (10) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(9Er mwyn osgoi amheuaeth, pan fo ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig a’r ceisydd hefyd yn ymgymryd ag un neu ragor o gyflogaethau eraill fel enillydd hunangyflogedig neu gyflogedig, rhaid peidio â gwrthbwyso unrhyw golled a dynnir mewn unrhyw un o gyflogaethau’r ceisydd yn erbyn enillion y ceisydd mewn unrhyw un o’i gyflogaethau eraill.

(10Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys drwy luosi swm dyddiol y premiwm cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y premiwm cymwys fel a ganlyn—

(a)os yw’r premiwm cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y premiwm cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r premiwm cymwys yn berthynol iddo.

(11Yn y paragraff hwn, ystyr “premiwm cymwys” (“qualifying premium”) yw unrhyw bremiwm sy’n daladwy fesul cyfnod mewn perthynas â chynllun pensiwn personol ac yn daladwy felly ar neu ar ôl dyddiad y cais.

Cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig

24.—(1Rhaid cyfrifo’r swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â threth incwm o dan baragraff 23(1)(b)(i), (2)(b)(i) neu (8)(a)(i) (cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig)—

(a)ar sail swm yr incwm trethadwy, a

(b)fel pe bai’r incwm hwnnw’n asesadwy ar gyfer treth incwm ar y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35, 36 neu 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007(51) fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd.

(2Ond, os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhadau personol sy’n ddidynadwy o dan y paragraff hwn ar sail pro rata.

(3Y swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â chyfraniadau nawdd cymdeithasol o dan baragraff 23(1)(b)(i), (2)(b)(ii) neu (8)(a)(ii) yw cyfanswm y canlynol—

(a)swm y cyfraniadau Dosbarth 2 sy’n daladwy o dan adran 11(1) o DCBNC neu, yn ôl fel y digwydd, adran 11(3) o DCBNC ar y gyfradd sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ac eithrio pan fo incwm trethadwy’r ceisydd yn llai na’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel) ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r swm a bennir ar gyfer y flwyddyn dreth honno pro rata; a

(b)swm y cyfraniadau Dosbarth 4 (os oes rhai) a fyddai’n daladwy o dan adran 15 o DCBNC (cyfraniadau Dosbarth 4 sy’n adenilladwy o dan y Deddfau Treth Incwm) ar y gyfradd ganrannol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ar gymaint o’r incwm trethadwy ag sydd uwchlaw’r terfyn isaf, ond nid uwchlaw’r terfyn uchaf o elwau a chynyddiadau cymwys ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r terfynau hynny pro rata.

(4Yn y paragraff hwn ystyr “incwm trethadwy” (“chargeable income”) yw—

(a)ac eithrio pan fo paragraff (b) yn gymwys, yr enillion sy’n deillio o gyflogaeth llai unrhyw dreuliau a ddidynnwyd o dan baragraff 23(3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff 23(4);

(b)yn achos cyflogaeth fel gwarchodwr plant, un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno.

PENNOD 4Cyfalaf

Cyfrifo cyfalaf

25.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y cyfalaf y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth yn achos ceisydd(52) yw’r cyfan o gyfalaf y ceisydd, fel y’i cyfrifir yn unol â’r Rhan hon.

(2Wrth gyfrifo cyfalaf ceisydd o dan is-baragraff (1), rhaid diystyru, pan fo’n gymwys, unrhyw gyfalaf a bennir yn Atodlen 5 (symiau cyfalaf a ddiystyrir), mewn perthynas â phensiynwyr.

(3Yn achos ceisydd sy’n bensiynwr, rhaid trin cyfalaf y ceisydd drwy gynnwys unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd ar gyfer ôl-ddyledion o’r canlynol—

(a)credyd treth plant;

(b)credyd treth gwaith;

(c)credyd pensiwn y wladwriaeth,

os gwnaed y taliad mewn perthynas â chyfnod y caniatawyd gostyngiad o dan gynllun awdurdod ar gyfer y cyfan neu ran ohono cyn talu’r ôl-ddyledion hynny.

Cyfrifo cyfalaf yn y Deyrnas Unedig

26.  Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan geisydd yn y Deyrnas Unedig yn ôl ei werth presennol ar y farchnad neu ei werth ildio, llai—

(a)10 y cant, os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant, a

(b)swm unrhyw lyffethair a sicrhawyd ar y cyfalaf.

Cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig

27.  Rhaid cyfrifo cyfalaf a feddir gan geisydd mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—

(a)mewn achos pan nad oes gwaharddiad yn y wlad honno ar drosglwyddo i’r Deyrnas Unedig swm sy’n hafal i werth presennol y cyfalaf ar y farchnad, neu ei werth ildio yn y wlad honno, yn ôl y gwerth hwnnw;

(b)mewn achos pan fo gwaharddiad o’r fath yn bodoli, yn ôl y pris y byddai’r cyfalaf yn ei gyrraedd pe gwerthid i brynwr parod yn y Deyrnas Unedig,

llai, os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant, 10 y cant, a swm unrhyw lyffethair a sicrhawyd ar y cyfalaf.

Cyfalaf tybiannol

28.—(1Rhaid trin ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono at y diben o sicrhau hawlogaeth i ostyngiad neu gynyddu swm y gostyngiad hwnnw, ac eithrio i’r graddau y lleiheir y cyfalaf hwnnw yn unol â pharagraff 29 (rheol lleihau cyfalaf tybiannol).

(2Yn achos ceisydd sy’n bensiynwr ac yn gwaredu cyfalaf at y diben—

(a)o leihau neu dalu dyled sydd arno; neu

(b)o brynu nwyddau neu wasanaethau pan fo’r gwariant arnynt yn rhesymol yn amgylchiadau’r ceisydd,

rhaid ystyried nad yw’n amddifadu ei hunan o’r cyfalaf hwnnw.

(3Os yw ceisydd, mewn perthynas â chwmni, mewn safle cyfatebol i safle unig berchennog neu bartner ym musnes y cwmni hwnnw, caniateir trin y ceisydd fel pe bai’n unig berchennog neu’n bartner o’r fath, ac mewn achos o’r fath—

(a)er gwaethaf paragraff 25 (cyfrifo cyfalaf) rhaid diystyru gwerth daliad y ceisydd yn y cwmni hwnnw; a

(b)rhaid trin y ceisydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), fel pe bai’n meddu swm o gyfalaf sy’n hafal i werth, neu, yn ôl fel y digwydd, cyfran y ceisydd o werth, cyfalaf y cwmni hwnnw ac y mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo’r swm hwnnw, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddid gan y ceisydd.

(4Am gyhyd ag y bo’r ceisydd yn ymgymryd â gweithgareddau yng nghwrs busnes y cwmni, rhaid diystyru’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu o dan is-baragraff (3).

(5Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan is-baragraff (1), mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm y cyfalaf hwnnw, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.

Rheol lleihau cyfalaf tybiannol: pensiynwyr

29.—(1Pan drinnir ceisydd sy’n bensiynwr fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan baragraff 28(1) (cyfalaf tybiannol), rhaid lleihau’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu—

(a)yn achos wythnos sy’n dilyn—

(i)yr wythnos berthnasol y bodlonir mewn perthynas â hi yr amodau a bennir yn is-baragraff (2); neu

(ii)wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol honno ac yn bodloni’r amodau hynny,

o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (3);

(b)yn achos wythnos nad yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddi, ond pan fo—

(i)yr wythnos honno’n wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol; a

(ii)yr wythnos berthnasol honno’n wythnos y bodlonir ynddi’r amod yn is-baragraff (4),

o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (5).

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i wythnos ostyngiad pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amodau canlynol—

(a)bod y ceisydd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod; a

(b)oni bai am baragraff 28(1), byddai’r ceisydd wedi cael gostyngiad mwy yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod yn yr wythnos honno.

(3Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i swm y gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(a) fod yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—

(a)swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o ostyngiad yn y dreth gyngor, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b);

(b)os yw’r ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth yn ogystal, swm unrhyw gredyd pensiwn y wladwriaeth neu unrhyw swm ychwanegol o gredyd pensiwn y wladwriaeth y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 21(1) o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(53) (cyfalaf tybiannol);

(c)os yw’r ceisydd wedi hawlio budd-dal tai yn ogystal, swm unrhyw fudd-dal tai neu unrhyw swm ychwanegol o fudd-dal tai y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 47(1) o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(54) (cyfalaf tybiannol);

(d)os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans ceisio gwaith yn ogystal, swm unrhyw lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(55) (cyfalaf tybiannol); ac

(e)os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth yn ogystal, swm unrhyw lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(56) (cyfalaf tybiannol).

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), at ddibenion is-baragraff (1)(b) yr amod yw fod y ceisydd yn bensiynwr ac y byddai hawl ganddo i gael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 28(1).

(5Mewn achos o’r fath, mae swm y gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(b) yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—

(a)swm y gostyngiad mewn treth gyngor y byddai hawl gan y ceisydd i’w gael yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 28(1);

(b)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 21 o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002, i gael credyd pensiwn y wladwriaeth mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;

(c)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 47(1) o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006, i gael budd-dal tai neu swm ychwanegol o fudd-dal tai mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm sy’n hafal i—

(i)mewn achos pan nad oes budd-dal tai yn daladwy, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, y swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o fudd-dal tai y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;

(d)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996, i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(3) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; ac

(e)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael.

(6Ond os yw’r swm a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), (c), (d) neu (e) o is-baragraff (5) (“y swm perthnasol”) mewn perthynas â rhan-wythnos, rhaid penderfynu’r swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan y paragraff hwnnw drwy—

(a)rhannu’r swm perthnasol gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y rhan-wythnos honno, a

(b)lluosi canlyniad y cyfrifiad hwnnw gyda 7.

(7Rhaid ailbenderfynu’r swm a benderfynwyd o dan is-baragraff (5), o dan yr is-baragraff hwnnw, os yw’r ceisydd yn gwneud cais pellach am ostyngiad yn y dreth gyngor a’r amodau yn is-baragraff (8) wedi eu bodloni, ac mewn achos o’r fath—

(a)mae paragraffau (a) i (e) o is-baragraff (5) yn gymwys fel pe rhoddid y geiriau “wythnos ddilynol berthnasol” yn lle’r geiriau “wythnos berthnasol”; a

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), mae’r swm fel y’i hailbenderfynwyd yn cael effaith o’r wythnos gyntaf sy’n dilyn yr wythnos ddilynol berthnasol sydd dan sylw.

(8Yr amodau yw—

(a)y gwneir cais pellach 26 neu ragor o wythnosau ar ôl—

(i)y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais am ostyngiad yn y dreth gyngor y triniwyd y ceisydd gyntaf mewn perthynas ag ef, fel pe bai’n meddu’r cyfalaf dan sylw o dan baragraff 28(1);

(ii)mewn achos pan wnaed o leiaf un ailbenderfyniad yn unol ag is-baragraff (7), y dyddiad y gwnaeth y ceisydd gais ddiwethaf am ostyngiad yn y dreth gyngor a arweiniodd at ailbenderfynu’r swm wythnosol, neu

(iii)y dyddiad y peidiodd ddiwethaf hawl y ceisydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun yr awdurdod,

pa un bynnag ddigwyddodd ddiwethaf; a

(b)y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod, oni bai am baragraff 28(1).

(9Rhaid i’r swm a ailbenderfynir yn unol ag is-baragraff (7) beidio â chael effaith os yw’n llai na’r swm a oedd yn gymwys yn yr achos hwnnw yn union cyn ailbenderfynu ac mewn achos o’r fath rhaid i’r swm uchaf barhau i gael effaith.

(10At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “rhan-wythnos” (“part-week”) yw—

(a)

mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(a), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y caniateir gostyngiad yn y dreth gyngor ar ei gyfer o dan gynllun awdurdod;

(b)

mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(b), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y mae budd-dal tai yn daladwy ar ei gyfer;

(c)

mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(c), (d) neu (e) yw—

(i)

cyfnod o lai nag wythnos, sydd y cyfan o’r cyfnod y mae cymhorthdal incwm, neu, yn ôl fel y digwydd, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, yn daladwy ar ei gyfer; a

(ii)

unrhyw gyfnod arall o lai nag wythnos y mae’n daladwy ar ei gyfer;

ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos pan gymerwyd i ystyriaeth y cyfalaf dan sylw, yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono o fewn ystyr paragraff 28(1)—

(a)

am y tro cyntaf, at y diben o benderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad o dan gynllun awdurdod; neu

(b)

ar achlysur dilynol at y diben o benderfynu neu ailbenderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad ar yr achlysur dilynol hwnnw, a phan barodd y penderfyniad neu’r ailbenderfyniad hwnnw fod y ceisydd naill ai’n dechrau cael neu’n peidio â chael gostyngiad o dan gynllun awdurdod;

ac os pennir mwy nag un wythnos ostyngiad drwy gyfeirio at baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad hwn, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw wythnosau gostyngiad neu, yn ôl fel y digwydd, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw ran-wythnosau, yw’r wythnos berthnasol;

ystyr “wythnos ddilynol berthnasol” (“relevant subsequent week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos sy’n cynnwys y diwrnod pan wnaed y cais pellach, neu, os gwnaed mwy nag un cais pellach, pan wnaed y cais olaf o’r fath.

Cyfalaf a ddelir ar y cyd: pensiynwyr

30.  Ac eithrio pan fo ceisydd yn meddu cyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 28(3) (cyfalaf tybiannol), os oes gan y ceisydd, ac un neu ragor o bersonau eraill, hawl fuddiannol mewn meddiant unrhyw ased cyfalaf, rhaid eu trin, yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb, fel pe bai gan bob un ohonynt, mewn cyfrannau cyfartal, hawl mewn meddiant o’r holl fuddiant llesiannol yn yr ased, ac mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at y diben o gyfrifo swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.

Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: pensiynwyr

31.  Rhaid trin cyfalaf ceisydd sy’n bensiynwr, a gyfrifwyd yn unol â’r Atodlen hon, fel pe bai’n incwm wythnosol o—

(a)£1 am bob £500 uwchlaw £10,000 ond nid uwchlaw £16,000; a

(b)£1 am unrhyw swm dros ben nad yw’n £500 cyflawn.

RHAN 5Gostyngiadau estynedig: pensiynwyr

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr

32.—(1Ac eithrio yn achos ceisydd sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth, bydd gan geisydd sydd â hawl i ostyngiad o dan gynllun awdurdod (yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B) yr hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)—

(a)os oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys;

(b)os peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd—

(i)wedi cychwyn cyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu hunangyflogedig;

(ii)wedi cynyddu eu henillion o gyflogaeth o’r fath; neu

(iii)wedi cynyddu nifer yr oriau a weithid mewn cyflogaeth o’r fath,

a disgwylir i’r gyflogaeth honno neu, yn ôl fel y digwydd, y cynnydd hwnnw yn yr enillion, neu’r cynnydd hwnnw yn nifer yr oriau, barhau am bum wythnos neu ragor;

(c)os oedd y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi bod â hawl i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cyfrannol cymwys neu gyfuniad o fudd-daliadau cyfrannol cymwys am gyfnod di-dor o 26 wythnos o leiaf, cyn y diwrnod y peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys; a

(d)nad oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael, ac nad oedd yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm, yn yr wythnos ostyngiad olaf pan oedd hawl gan y ceisydd, neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys.

(2Rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B—

(a)os peidiodd hawl y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod oherwydd bod ceisydd wedi gadael yr annedd yr oedd y ceisydd yn preswylio ynddi;

(b)os oedd y diwrnod y gadawodd y ceisydd yr annedd naill ai yn yr wythnos y peidiodd ei hawlogaeth i fudd-dal cyfrannol cymwys, neu yn yr wythnos flaenorol; ac

(c)os peidiodd yr hawlogaeth i fudd-dal cyfrannol cymwys mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn is-baragraff (1)(b).

Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr

33.—(1Pan fo gan geisydd hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys), mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl y diwrnod y daeth hawl y ceisydd, neu bartner y ceisydd, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(2Mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn dod i ben—

(a)ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos; neu

(b)ar y dyddiad pan nad yw’r ceisydd sy’n cael y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn atebol am dreth gyngor, os yw hynny’n digwydd gyntaf.

Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr

34.—(1Ar gyfer unrhyw wythnos yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) y mae hawl gan y ceisydd i’w gael yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)swm y gostyngiad treth gyngor yr oedd hawl gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B yn yr wythnos ostyngiad olaf cyn i hawl y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys ddod i ben;

(b)swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B ar gyfer unrhyw wythnos ostyngiad yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, pe na bai paragraff 32 (gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr) yn gymwys i’r ceisydd; neu

(c)swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod y byddai hawl wedi bod gan bartner y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B, pe na bai paragraff 32 yn gymwys i’r ceisydd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos symudwr.

(3Pan fo ceisydd yn cael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) o dan y paragraff hwn, a bod partner y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, rhaid i awdurdod beidio â dyfarnu gostyngiad yn unol â’r cais hwnnw yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig.

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) – symudwyr: pensiynwyr

35.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)i symudwr(57); a

(b)o’r dydd Llun sy’n dilyn diwrnod y symud.

(2Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a ddyfernir, o’r dydd Llun pan ddaw’r paragraff hwn yn gymwys tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig, yw swm y gostyngiad a ddyfarnwyd i’r symudwr o dan gynllun yr awdurdod (“yr awdurdod cyntaf”) ar gyfer yr wythnos ostyngiad olaf cyn y daeth hawl y symudwr, neu bartner y symudwr, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(3Os yw atebolrwydd symudwr i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd newydd yn atebolrwydd i ail awdurdod, caiff y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) gymryd ffurf taliad gan yr awdurdod cyntaf i—

(a)yr ail awdurdod; neu

(b)yn uniongyrchol i’r symudwr.

Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a hawlogaeth i ostyngiad treth gyngor yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B: pensiynwyr

36.—(1Os byddai gostyngiad ceisydd o dan gynllun awdurdod wedi dod i ben pan beidiodd hawl y ceisydd i fudd-dal cyfrannol cymwys yn yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff 32(1)(b), ni fydd y gostyngiad hwnnw’n peidio â chael effaith tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig.

(2Ni fydd Rhan 6 (cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau) yn gymwys i unrhyw ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) sy’n daladwy yn unol â pharagraff 34(1)(a) neu baragraff 35 (swm gostyngiad estynedig – symudwyr: pensiynwyr).

Gostyngiadau parhaus pan hawlir credyd pensiwn y wladwriaeth: pensiynwyr

37.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod;

(b)is-baragraff (2) wedi ei fodloni; ac

(c)naill ai—

(i)y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu, os parhaodd hawlogaeth y ceisydd i lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm y tu hwnt i’r oedran hwnnw, wedi cyrraedd 65 mlwydd oed; neu

(ii)partner y ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth mewn gwirionedd.

(2Ni fodlonir yr is-baragraff hwn ac eithrio pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ardystio wrth yr awdurdod fod partner y ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth mewn gwirionedd, neu fod—

(a)dyfarniad y ceisydd o—

(i)cymhorthdal incwm wedi terfynu oherwydd bod y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(ii)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm wedi terfynu oherwydd bod y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu 65 mlwydd oed; a

(b)y ceisydd wedi hawlio neu’n cael ei drin fel pe bai wedi hawlio neu ei bod yn ofynnol i’r ceisydd wneud hawliad am gredyd pensiwn y wladwriaeth.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mewn achos pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid parhau i ddyfarnu gostyngiad o dan gynllun awdurdod am y cyfnod o 4 wythnos sy’n cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y peidiodd hawlogaeth y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu, yn ôl fel y digwydd, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, os yw’r ceisydd, a chyhyd ag y bo’r ceisydd, fel arall yn bodloni’r amodau ar gyfer hawlogaeth i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod.

(4Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod am y cyfnod o 4 wythnos yn unol ag is-baragraff (3) uchod, a diwrnod olaf y cyfnod hwnnw’n digwydd ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod olaf wythnos ostyngiad, yna rhaid parhau i ddyfarnu’r gostyngiad o dan y cynllun tan ddiwedd yr wythnos ostyngiad y mae diwrnod olaf y cyfnod hwnnw’n digwydd ynddi.

(5Drwy gydol y cyfnod o 4 wythnos a bennir yn is-baragraff (3) ac unrhyw gyfnod pellach a bennir yn is-baragraff (4)—

(a)rhaid diystyru’r cyfan o incwm a chyfalaf y ceisydd;

(b)uchafswm gostyngiad treth gyngor y ceisydd fydd yr hyn a oedd yn gymwys yn achos y ceisydd yn union cyn dechrau’r cyfnod hwnnw.

(6Rhaid cyfrifo’r uchafswm gostyngiad treth gyngor yn unol â pharagraff 2(1) os, er y dyddiad pan gyfrifwyd ef ddiwethaf—

(a)bu cynnydd yn atebolrwydd treth gyngor y ceisydd; neu

(b)daeth newid yn ddyladwy yn y didyniad o dan baragraff 3 (didyniadau annibynyddion).

Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdod

38.—(1Pan fo—

(a)cais wedi ei wneud i awdurdod am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a

(b)y ceisydd, neu bartner y ceisydd, yn cael gostyngiad estynedig gan—

(i)awdurdod bilio arall yng Nghymru;

(ii)awdurdod bilio yn Lloegr;

(iii)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(iv)awdurdod lleol yng Ngogledd Iwerddon,

rhaid i’r awdurdod bilio leihau unrhyw ostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan ei gynllun, o swm y gostyngiad estynedig hwnnw.

(2At ddibenion y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1 o Ddeddf 1992.

RHAN 6Cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau

Y dyddiad pan fo hawlogaeth yn dechrau

39.  Bydd gan unrhyw berson sy’n gwneud cais, neu y gwneir cais mewn perthynas ag ef, am ostyngiad o dan gynllun awdurdod ac sydd â’r hawl fel arall i gael y gostyngiad hwnnw, hawl o’r fath o’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 13 (y dyddiad pan wneir cais).

Y dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith

40.—(1Ac eithrio mewn achosion pan fo paragraff 22 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau, etc) yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn a pharagraff 41 (newid yn yr amgylchiadau pan delir credyd pensiwn y wladwriaeth), mae newid yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu ar swm y gostyngiad (“newid yn yr amgylchiadau”), yn cael effaith o’r diwrnod cyntaf y mae’r newid hwnnw’n digwydd mewn gwirionedd.

(2Os y newid hwnnw yw terfynu hawlogaeth i unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal, y dyddiad y bydd y newid yn digwydd mewn gwirionedd fydd y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl diwrnod olaf yr hawlogaeth i’r budd-dal hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), os y newid yn yr amgylchiadau yw newid yn swm y dreth gyngor sy’n daladwy, mae’n cael effaith o’r diwrnod y newidir y swm hwnnw mewn gwirionedd.

(4Os y newid yn yr amgylchiadau yw newid yn y swm y mae person yn atebol i’w dalu mewn perthynas â threth gyngor o ganlyniad i reoliadau o dan adran 13 o Ddeddf 1992 (symiau gostyngedig o dreth gyngor) neu newidiadau yn y disgownt y gall annedd fod yn ddarostyngedig iddo o dan adran 11 neu 12 o’r Ddeddf honno, bydd yn cael effaith o’r diwrnod y bydd y newid yn y swm yn cael effaith.

(5Os y newid yn yr amgylchiadau yw fod y ceisydd yn caffael partner, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r caffaeliad hwnnw’n digwydd.

(6Os y newid yn yr amgylchiadau yw marwolaeth partner y ceisydd neu ymwahaniad y ceisydd â’r partner, mae’n cael effaith ar ddiwrnod y farwolaeth neu’r ymwahaniad.

(7Os y newid yn yr amgylchiadau yw fod incwm, neu gynnydd yn swm incwm, ac eithrio budd-dal neu gynnydd yn swm budd-dal o dan DCBNC, wedi ei dalu mewn perthynas â chyfnod blaenorol ac nad oedd hawlogaeth i’r swm hwnnw o incwm yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid i’r newid yn yr amgylchiadau gael effaith o’r diwrnod cyntaf y byddai’r cyfryw incwm, pe bai wedi ei dalu fesul ysbaid priodol i’r incwm hwnnw yn y cyfnod hwnnw, wedi bod yn ddyladwy i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion cynllun awdurdod.

(8Heb leihau dim ar effaith is-baragraff (7), os y newid yn yr amgylchiadau yw talu incwm neu ôl-ddyled o incwm mewn perthynas â chyfnod blaenorol, mae’r newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith o’r diwrnod cyntaf y byddai’r cyfryw incwm, pe bai wedi ei dalu yn amserol fesul ysbaid priodol i’r incwm hwnnw yn y cyfnod hwnnw, wedi bod yn ddyladwy i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion cynllun awdurdod.

Newid yn yr amgylchiadau pan delir credyd pensiwn y wladwriaeth

41.—(1Mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys pan fo—

(a)y ceisydd yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth;

(b)y swm o gredyd pensiwn y wladwriaeth a ddyfernir i’r ceisydd yn newid, o ganlyniad i newid yn amgylchiadau’r ceisydd neu er mwyn cywiro camgymeriad swyddogol; ac

(c)y newid yn y swm o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n daladwy i’r ceisydd yn achosi newid yn swm y gostyngiad y mae’r ceisydd yn ei gael o dan gynllun awdurdod.

(2Os y newid mewn amgylchiad yw fod cynnydd yn y swm o gredyd pensiwn sy’n daladwy i’r ceisydd yn achosi—

(a)cynnydd yn y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan gynllun awdurdod, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod y daw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy ar gyfradd uwch; neu

(b)lleihad yn y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan gynllun awdurdod, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod—

(i)y daw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy ar gyfradd uwch; neu

(ii)y caiff yr awdurdod hysbysiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol o’r cynnydd yn swm credyd pensiwn y wladwriaeth,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(3Os y newid mewn amgylchiad (“y newid perthnasol”) yw fod credyd pensiwn y wladwriaeth a delir i’r ceisydd wedi ei leihau ac o ganlyniad fod y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan gynllun awdurdod yn lleihau—

(a)mewn achos pan fo credyd pensiwn y wladwriaeth a delir i’r ceisydd wedi ei leihau oherwydd bod y ceisydd wedi methu â hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn brydlon ynghylch newid yn ei amgylchiadau, mae’r newid perthnasol yn cael effaith ar y diwrnod y lleihawyd credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(b)mewn unrhyw achos arall mae’r newid perthnasol yn cael effaith o’r diwrnod cyntaf—

(i)y caiff credyd pensiwn y wladwriaeth ei leihau; neu

(ii)y caiff yr awdurdod hysbysiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol o’r lleihad yn swm credyd pensiwn y wladwriaeth,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(4Os y newid mewn amgylchiad yw fod credyd pensiwn y wladwriaeth a delir i’r ceisydd wedi ei leihau ac o ganlyniad i’r newid fod swm y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan gynllun awdurdod yn cynyddu, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod y daw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy ar y gyfradd is.

(5Os y newid mewn amgylchiad sy’n digwydd yw fod dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd a bydd hynny’n achosi lleihad yn swm y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan gynllun awdurdod, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod—

(a)pan fo’r hawlogaeth i gael credyd pensiwn y wladwriaeth yn dechrau; neu

(b)pan fo’r awdurdod yn cael hysbysiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol o’r dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(6Yn achos ceisydd y dyfarnwyd iddo, neu i’w bartner, gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys y credyd cynilion yn unig, os digwydd—

(a)newid amgylchiadau o fath a ddisgrifir yn unrhyw un o’r is-baragraffau (2) i (5), o ganlyniad i gyfrifiad neu amcangyfrif perthnasol; a

(b)newid amgylchiadau sy’n benderfyniad perthnasol,

a bod pob un ohonynt yn peri newid yn swm y gostyngiad y mae’r ceisydd yn ei gael o dan gynllun awdurdod, bydd y newid amgylchiadau y cyfeirir ato ym mharagraff (b) yn cael effaith o’r diwrnod a bennir yn is-baragraff (2), (3), (4) neu (5) yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas â’r newid y cyfeirir ato ym mharagraff (a).

(7Os y newid mewn amgylchiad sy’n digwydd yw fod dyfarniad o gredyd gwarant wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd a bydd hynny’n achosi cynnydd yn swm y gostyngiad a gaiff y ceisydd o dan gynllun awdurdod, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r credyd gwarant yn daladwy gyntaf.

(8Os byddai newid yn yr amgylchiadau, oni bai am yr is-baragraff hwn, yn cael effaith o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn o fewn y cyfnod o 4 wythnos a bennir ym mharagraff 37 (gostyngiadau parhaus pan hawlir credyd pensiwn y wladwriaeth), mae’r newid hwnnw’n cael effaith ar y diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod o 4 wythnos.

(9Yn y paragraff hwn—

ystyr “camgymeriad swyddogol” (“official error”) yw camgymeriad a wnaed gan —

(a)

yr awdurdod neu berson—

(i)

a awdurdodwyd i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau’r awdurdod mewn perthynas â’i gynllun; neu

(ii)

sy’n darparu gwasanaethau mewn perthynas â chynllun awdurdod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’r awdurdod; neu

(b)

swyddog—

(i)

yr Adran Gwaith a Phensiynau; neu

(ii)

y Comisiynwyr Cyllid a Thollau,

tra’n gweithredu fel y cyfryw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw gamgymeriad a achoswyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan unrhyw berson neu gorff nas pennir ym mharagraff (a) neu (b) o’r diffiniad hwn, nac unrhyw wall cyfreithiol nas adnabuwyd fel gwall ac eithrio yn rhinwedd penderfyniad dilynol gan lys;

ystyr “cyfrifiad neu amcangyfrif perthnasol” (“relevant calculation or estimate”) yw’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o incwm a chyfalaf y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd, a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion dyfarnu credyd pensiwn y wladwriaeth;

ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant determination”) yw newid yn y penderfyniad o incwm a chyfalaf y ceisydd, gan yr awdurdod gan ddefnyddio’r cyfrifiad neu amcangyfrif perthnasol, yn unol â pharagraff 8(1).

Rheoliad 32(2)

ATODLEN 2Symiau cymwysadwy: pensiynwyr

RHAN 1Lwfansau personol

Lwfans personol

1.  Y swm a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person neu gwpl a bennir yng ngholofn (1) yw’r swm a bennir at ddibenion paragraff 1(1)(a) o Atodlen 1.

Colofn (1)

Person, cwpl neu briodas amlbriod

Colofn (2)

Swm

(1Ceisydd sengl neu unig riant—

(a)

o dan 65 oed;

£145.40;
(b)

65 oed neu drosodd.

£163.50.

(2Cwpl—

(a)

y ddau aelod o dan 65 oed;

£222.05;
(b)

un aelod neu’r ddau yn 65 oed neu drosodd

£244.95.

(3Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod ac nad oes yr un aelod o’r briodas wedi cyrraedd 65 oed—

(a)

ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;

£222.05;
(b)

ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd.

£76.65

(4Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod ac un neu ragor o aelodau’r briodas yn 65 oed neu drosodd—

(a)

ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;

£244.95;
(b)

ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd.

£81.45.

Symiau plentyn neu berson ifanc

2.—(1Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod, mewn perthynas â phob person a bennir yng ngholofn (1), yw’r symiau ar gyfer y cyfnod perthnasol a bennir yng ngholofn (1), a bennir at ddibenion paragraff 1(1)(b) o Atodlen 1.

Colofn (1)

Plentyn neu berson ifanc

Colofn (2)

Swm

Person mewn perthynas â’r cyfnod—
(a)

sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r person hwnnw ac yn dod i ben ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw;

£65.62;
(b)

sy’n cychwyn ar y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn ugeinfed pen-blwydd y person hwnnw.

£65.62.

(2Yng ngholofn (1) o’r tabl, yn is-baragraff (1) ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

RHAN 2Premiwm teulu

Premiwm teulu

3.  Y swm at ddibenion paragraff 1(1)(c) o Atodlen 1 mewn perthynas â theulu y mae o leiaf un aelod ohono’n blentyn neu’n berson ifanc yw £17.40.

RHAN 3Premiymau

4.  At ddibenion paragraff 1(1)(d) o Atodlen 1, bydd y premiymau a bennir yn Rhan 4 yn gymwysadwy i geisydd sy’n bodloni’r amod a bennir yn y Rhan hon mewn perthynas â’r premiwm hwnnw.

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, unwaith y bydd premiwm yn gymwysadwy i geisydd o dan y Rhan hon, rhaid trin person fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal—

(a)yn achos budd-dal y mae Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau Sy’n Gorgyffwrdd) 1979(58) yn gymwys iddo, yn ystod unrhyw gyfnod y byddai’r person, oni bai am y ddarpariaeth o’r Rheoliadau hynny, yn cael y budd-dal hwnnw; a

(b)yn ystod unrhyw gyfnod a dreulir gan berson yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(59), neu gan Ddatblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd o dan adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(60) neu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n cael lwfans hyfforddi.

(2At ddibenion y premiwm gofalwr o dan baragraff 9, ni ddylid trin person fel pe bai’n cael lwfans gofalwr yn rhinwedd is-baragraff (1)(a) ac eithrio pan a chyhyd ag y bo’r person yr hawliwyd y lwfans mewn perthynas â’i ofal yn dal i gael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA.

Premiwm anabledd difrifol

6.—(1Yr amod yw fod y ceisydd yn berson ag anabledd difrifol.

(2At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin ceisydd fel pe bai’n berson ag anabledd difrifol—

(a)yn achos ceisydd sengl, unig riant neu geisydd a drinnir fel pe na bai ganddo bartner o ganlyniad i is-baragraff (3) os, ac yn unig os—

(i)yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

(ii)yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy; a

(iii)nad oes neb sydd â hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am y ceisydd;

(b)yn achos ceisydd sydd â phartner, os ac yn unig os—

(i)yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA;

(ii)yw partner y ceisydd hefyd yn cael lwfans o’r fath neu, pan fo’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, pob aelod arall o’r briodas honno’n cael lwfans o’r fath; a

(iii)yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy,

a naill ai mae person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am un aelod yn unig o’r cwpl, neu, os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, am un neu ragor ond nid pob un o aelodau’r briodas, neu, yn ôl fel y digwydd, nad oes person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans o’r fath mewn perthynas â gofalu am y naill na’r llall o aelodau’r cwpl, neu am unrhyw aelod o’r briodas.

(3Pan fo gan geisydd bartner nad yw’n bodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b)(ii), a’r partner hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr is-baragraff (4), rhaid trin y partner hwnnw at ddibenion is-baragraff (2) fel pe na bai’r partner hwnnw’n bartner i’r ceisydd.

(4At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall os yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(61) (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994(62).

(5At ddibenion is-baragraff (4), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.

(6At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii) a (2)(b)(iii) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth—

(a)person sy’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; neu

(b)person sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall o fewn ystyr is-baragraffau (4) a (5).

(7At ddibenion is-baragraff (2)(b) rhaid trin person—

(a)fel pe bai’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, os byddai’r person hwnnw’n yn cael y lwfans hwnnw neu’r elfen honno felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod;

(b)fel pe bai’n cael elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y gyfradd a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 os byddai’r person yn cael yr elfen honno felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod, er gwaethaf adran 86 o’r Ddeddf honno a rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno;

(c)fel pe bai’n cael TALlA, os byddai’r person hwnnw’n cael y taliad hwnnw felly oni bai am atal y taliad dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

(d)fel pe bai hawl ganddo i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr, os byddai ganddo hawl i gael ac y byddai’n cael y lwfans hwnnw felly pe na bai’r person y mae’r person hwnnw’n gofalu amdano yn glaf mewn ysbyty am gyfnod hwy nag 28 diwrnod.

(8At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iii) a (2)(b)—

(a)rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth ddyfarniad o lwfans gofalwr, i’r graddau y mae taliad o’r cyfryw ddyfarniad wedi ei ôl-ddyddio ar gyfer cyfnod cyn y dyddiad y talwyd y dyfarniad gyntaf; a

(b)mae cyfeiriadau at berson sy’n cael lwfans gofalwr yn cynnwys cyfeiriadau at berson a fyddai wedi bod yn cael y lwfans hwnnw oni bai am weithredu cyfyngiad o dan adran 6B neu 7 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001(63) (darpariaethau colli budd-dal).

Premiwm anabledd uwch

7.—(1Yr amod yw bod—

(a)elfen ofal y lwfans byw i’r anabl yn daladwy ar y gyfradd uchaf a ragnodir o dan adran 72(3) o DCBNC, neu y byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o’r Ddeddf honno, neu oni bai am leihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(b)elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy ar y gyfradd uwch a ragnodir yn unol ag adran 78(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu y byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o’r Ddeddf honno; neu

(c)TALlA yn daladwy,

mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r ceisydd.

(2Os peidir â bodloni’r amod yn is-baragraff (1) oherwydd marwolaeth plentyn neu berson ifanc, yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner i gael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc o dan adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys).

Premiwm plentyn anabl

8.  Yr amod yw fod plentyn neu berson ifanc y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)yn cael lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol neu nad yw bellach yn cael y cyfryw lwfans neu daliad oherwydd bod y plentyn neu berson ifanc yn glaf, ar yr amod bod y plentyn neu berson ifanc yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(b)yn ddall o fewn ystyr paragraff 6(4) neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn unol â pharagraff 6(5); neu

(c)yn blentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys) yn gymwys at ddibenion hawlogaeth i fudd-dal plant ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan yr adran honno, ac y cynhwyswyd premiwm plentyn anabl mewn perthynas ag ef yn swm cymwysadwy’r ceisydd yn union cyn marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu peidiwyd â’i gynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd oherwydd marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

Premiwm gofalwr

9.—(1Yr amod yw fod hawl i gael lwfans gofalwr gan y ceisydd neu bartner y ceisydd, neu’r ddau ohonynt.

(2Os oes premiwm gofalwr wedi ei ddyfarnu, ond—

(a)bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal; neu

(b)os peidiodd hawl y person y dyfarnwyd y premiwm mewn perthynas ag ef i gael lwfans gofalwr, neu os peidiodd â chael ei drin fel pe bai hawl ganddo i gael lwfans gofalwr,

rhaid trin y paragraff hwn fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos o’r dyddiad perthnasol a bennir yn is-baragraff (3).

(3Y dyddiad perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw—

(a)mewn achos o fewn is-baragraff (2)(a), y dydd Sul sy’n dilyn marwolaeth y person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal (neu ddyddiad y farwolaeth os digwyddodd y farwolaeth ar ddydd Sul);

(b)mewn achos o fewn is-baragraff (2)(b), y dyddiad y peidiodd hawl y person a oedd â hawl i gael lwfans gofalwr.

(4At ddibenion y paragraff hwn, rhaid trin person fel pe bai ganddo hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr yn ystod unrhyw gyfnod nad oedd o fewn cyfnod dyfarniad, ond y gwnaed taliad mewn perthynas ag ef yn lle dyfarniad.

Personau sy’n cael taliadau consesiynol

10.  At y diben o benderfynu a oes premiwm yn gymwysadwy i berson o dan baragraffau 6 i 9, rhaid trin unrhyw daliad consesiynol, a wnaed i ddigolledu’r person hwnnw oherwydd methiant i dalu unrhyw fudd-dal a grybwyllir yn y paragraffau hynny, fel pe bai’n daliad o’r budd-dal hwnnw.

Person sy’n cael budd-dal

11.  At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae person i’w ystyried fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal os, ac yn unig os, telir y budd-dal mewn perthynas â’r person hwnnw ac mae’r person i’w ystyried felly yn ystod, yn unig, pa bynnag gyfnod y telir y budd-dal hwnnw mewn perthynas ag ef.

RHAN 4Symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3

Premiwm

Swm

12.—(1Premiwm Anabledd Difrifol—

(a)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 6(2)(a);

£59.50;
(b)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 6(2)(b)—

(i)

mewn achos pan fo rhywun yn cael lwfans gofalwr neu pan fo’r person hwnnw neu unrhyw bartner yn bodloni’r amod hwnnw yn rhinwedd paragraff 6(7) yn unig;

£59.50;
(ii)

mewn achos pan nad oes neb yn cael lwfans o’r fath.

£119.00.

(2Premiwm Anabledd Uwch.

(2) £23.45 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amodau a bennir ym mharagraff 7 wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

(3Premiwm Plentyn Anabl.

(3) £57.89 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amod a bennir ym mharagraff 8 wedi ei fodloni mewn perthynas ag ef.

(4Premiwm Gofalwr.

(4) £33.30 mewn perthynas â phob person sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraff 9.

Rheoliad 32(2)

ATODLEN 3Symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr

1.  Pan fo dau neu ragor o baragraffau 2 i 5 yn gymwys mewn unrhyw achos penodol, mae’r uchafswm cyfanredol sydd i’w ddiystyru yn yr achos hwnnw o dan y paragraffau hynny wedi ei gyfyngu i—

(a)£25 yn achos unig riant;

(b)£20 mewn unrhyw achos arall.

2.  Mewn achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, £25 o’r enillion.

3.—(1Yn achos enillion o unrhyw gyflogaeth neu gyflogaethau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi neu’n gymwys iddynt, £20.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyflogaeth—

(a)fel diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan awdurdod tân ac achub, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(64) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(b)fel diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan Wasanaeth Tân ac Achub yr Alban(65);

(c)fel gwyliwr y glannau cynorthwyol mewn perthynas â gweithgareddau achub arfordirol;

(d)fel aelod o griw, neu ar gyfer lansio, bad achub pan fo’r gyflogaeth yn un rhan-amser;

(e)fel aelod o unrhyw un o’r lluoedd tiriogaethol neu’r lluoedd wrth gefn a ragnodir yn Rhan I o Atodlen 6 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001(66).

(3Os—

(a)diystyrir o dan is-baragraff (1) unrhyw enillion y ceisydd, neu enillion ei bartner os oes partner ganddo, neu enillion y ddau ohonynt; a

(b)bod gan y naill neu’r llall neu’r ddau ohonynt enillion eraill,

cymaint o’r enillion eraill hynny na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r enillion a ddiystyrwyd o dan yr is-baragraff hwnnw, yn fwy nag £20.

4.—(1Os yw’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, ei bartner, yn ofalwr, neu os yw’r ddau ohonynt yn ofalwyr, £20 o unrhyw enillion a geir o gyflogaeth y ceisydd neu’r ddau ohonynt.

(2Os dyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â’r ceisydd a hefyd mewn perthynas ag unrhyw bartner y ceisydd, rhaid cydgrynhoi eu henillion at ddibenion y paragraff hwn, ond ni chaiff y swm a ddiystyrir yn unol ag is-baragraff (1) fod yn fwy nag £20 o’r swm cyfanredol.

(3Yn y paragraff hwn mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn ofalwr os bodlonir paragraff 9 o Ran 3 o Atodlen 2 (premiwm gofalwr) mewn perthynas â’r ceisydd.

5.—(1Diystyrir £20 os yw’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, ei bartner—

(a)yn cael—

(i)budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan adran 30A o DCBNC;

(ii)lwfans anabledd difrifol o dan adran 68 o’r Ddeddf honno;

(iii)lwfans gweini o dan adran 64 o’r Ddeddf honno;

(iv)lwfans byw i’r anabl;

(v)taliad annibyniaeth bersonol;

(vi)TALlA;

(vii)unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(67) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(68);

(viii)yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol o’r credyd treth gwaith o dan Atodlen 2 i Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(69); neu

(ix)lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd; neu

(b)wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, yn ddall mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(70) (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994(71); neu

(c)yn analluog i weithio neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, ac wedi bod yn analluog i weithio neu wedi cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio am gyfnod di-dor o ddim llai nag—

(i)yn achos ceisydd sy’n derfynol wael yn yr ystyr a roddir i “terminally ill” yn adran 30B(4) o DCBNC, 196 diwrnod;

(ii)mewn unrhyw achos arall, 364 diwrnod; neu

(d)yn berson, sydd â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu’n cael ei drin fel pe bai â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn yr ystyr a roddir i “limited capacity for work” gan adran 1(4) o Ddeddf Diwygio Lles 2007, neu’n berson, sydd â galluogrwydd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu’n cael ei drin fel pe bai â galluogrwydd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith yn yr ystyr a roddir i “limited capability for work-related activity” gan adran 2(5) o’r Ddeddf honno, a naill ai—

(i)y cyfnod asesu, yn yr ystyr o “assessment phase” fel y’i diffinnir yn adran 24(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2007, wedi dod i ben; neu

(ii)rheoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(72) (amgylchiadau pan nad yw’r amod bod y cyfnod asesu wedi dod i ben cyn bod hawlogaeth i’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith yn gymwys) yn gymwys.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), diystyrir £20 os oedd y ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, ei bartner, o fewn cyfnod o 8 wythnos a ddaeth i ben ar y diwrnod y cyrhaeddodd y ceisydd neu bartner y ceisydd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, yn cael dyfarniad o fudd-dal tai neu’n cael gostyngiad o dan gynllun awdurdod ac—

(a)os diystyrwyd £20 mewn perthynas ag enillion a gymerwyd i ystyriaeth yn y dyfarniad hwnnw; a

(b)os yw’r person yr oedd ei enillion yn gymwys ar gyfer y diystyru yn parhau mewn cyflogaeth ar ôl terfynu’r dyfarniad hwnnw.

(3Mae’r diystyriad o £20 a bennir yn is-baragraff (2) yn gymwys ar yr amod nad oes toriad, ac eithrio toriad nad yw’n hwy nag 8 wythnos, yn—

(a)hawlogaeth y person i gael budd-dal tai; neu

(b)y cyfnod yr oedd yn cael gostyngiad o dan gynllun awdurdod; neu

(c)ei gyflogaeth,

yn dilyn y diwrnod cyntaf y dyfarnwyd mewn perthynas ag ef y budd-dal hwnnw neu’r gostyngiad hwnnw o dan gynllun awdurdod.

(4£20 yw’r uchafswm y caniateir ei ddiystyru o dan y paragraff hwn, hyd yn oed, pan fo gan y ceisydd bartner, os yw’r ceisydd yn ogystal â’i bartner yn bodloni gofynion y paragraff hwn.

6.—(1Os—

(a)yw’r ceisydd (neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw) yn berson y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo;

(b)yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei fodloni bod y person yn ymgymryd â gwaith esempt, fel y’i diffinnir yn is-baragraff (6); ac

(c)nad yw paragraff 7 o Atodlen 1 (pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant) yn gymwys,

y swm a bennir yn is-baragraff (7) (“y swm penodedig”).

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraffau 1 i 5 ac 8 yn gymwys; ond mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, ac os byddai’r swm penodedig yn llai na’r swm a bennir ym mharagraff 2, yna bydd paragraff 2 yn gymwys yn lle’r paragraff hwn.

(3Er gwaethaf paragraff 5 o Atodlen 1 (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod: pensiynwyr), os yw is-baragraff (1) yn gymwys i un aelod o gwpl (“A”) rhaid peidio â’i gymhwyso i’r aelod arall o’r cwpl hwnnw (“B”) ac eithrio i’r graddau y darperir yn is-baragraff (4).

(4Pan fo enillion A yn llai na’r swm penodedig, rhaid diystyru hefyd gymaint o enillion B, o’i gydgrynhoi ag enillion A, na fyddai’n fwy na’r swm penodedig; ond mae’r swm o enillion B y caniateir ei ddiystyru o dan yr is-baragraff hwn yn gyfyngedig i uchafswm o £20, oni fodlonir yr Ysgrifennydd Gwladol fod B hefyd yn ymgymryd â gwaith esempt.

(5Mae’r is-baragraff yn gymwys i berson—

(a)sy’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;

(b)sy’n cael budd-dal analluogrwydd;

(c)sy’n cael lwfans anabledd difrifol;

(d)a gredydir ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975(73).

(6Ystyr “gwaith esempt” yw gwaith yn yr ystyr a roddir i “exempt work” yn—

(a)rheoliad 45(2), (3) neu (4) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008; neu (yn ôl fel y digwydd)

(b)rheoliad 17(2), (3) neu (4) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995(74),

ac wrth benderfynu a yw ceisydd neu aelod o gwpl yn ymgymryd ag unrhyw fath o waith esempt at ddibenion y paragraff hwn, nid yw’n berthnasol a yw’r person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn ymgymryd â gwaith arall yn ogystal.

(7Y swm penodedig yw’r swm o arian a grybwyllir o bryd i’w gilydd mewn unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (6) ac y mae’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn esempt yn ei rhinwedd (neu, os oes mwy nag un ddarpariaeth berthnasol o’r fath, ac os yw’r darpariaethau hynny’n crybwyll symiau gwahanol o arian, yr uchaf o’r symiau hynny).

7.  Unrhyw swm, neu’r gweddill o unrhyw swm, y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 18 neu 19 o Atodlen 4 pe bai incwm y ceisydd nad yw’n enillion wedi bod yn ddigon i roi hawl i’r ceisydd gael diystyru’r swm llawn o dan y paragraffau hynny.

8.  Ac eithrio pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gymwys am ddiystyriad o £20 o dan ddarpariaethau blaenorol yr Atodlen hon—

(a)rhaid diystyru £5 os oes enillion gan geisydd nad oes ganddo bartner;

(b)rhaid diystyru £10 os oes enillion gan geisydd y mae ganddo bartner.

9.  Unrhyw enillion, ac eithrio enillion y cyfeirir atynt ym mharagraff 11(9)(b) o Atodlen 1 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr), sy’n deillio o gyflogaeth a ddaeth i ben cyn y diwrnod pan fo’r ceisydd yn bodloni gyntaf yr amodau ar gyfer hawlogaeth i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod.

10.—(1Mewn achos pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni un, o leiaf, o’r amodau a bennir yn is-baragraff (2), ac enillion net y ceisydd yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm y symiau a bennir yn is-baragraff (3), rhaid cynyddu o £17.10 y swm o enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan yr Atodlen hon.

(2Amodau’r is-baragraff hwn yw—

(a)bod y ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, naill ai’r ceisydd neu ei bartner, yn berson y mae rheoliad 20(1)(c) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(75) yn gymwys iddo; neu

(b)bod—

(i)y ceisydd, neu unrhyw bartner y ceisydd, yn 25 oed o leiaf ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu

(ii)os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl—

(aa)un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; a

(bb)swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm teulu o dan baragraff 3 o Atodlen 2; neu

(iii)y ceisydd yn unig riant sy’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu

(iv)y ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, un ohonynt, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a pharagraff 5(1) wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person hwnnw.

(3Y canlynol yw’r symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)—

(a)unrhyw swm a ddiystyrir o dan yr Atodlen hon;

(b)swm y costau gofal plant a gyfrifir yn ddidynadwy o dan baragraff 18(1)(c) o Atodlen 1 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol: pensiynwyr); ac

(c)£17.10.

(4Mae darpariaethau rheoliad 10 (gwaith am dâl) yn gymwys wrth benderfynu a yw person yn gweithio am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd ai peidio, ond hynny fel pe bai’r cyfeiriad at 16 awr yn is-baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw yn gyfeiriad at 30 awr.

11.  Os gwneir taliad o enillion mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.

Rheoliad 32(2)

ATODLEN 4Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr

1.  Yn ychwanegol at unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn unol â pharagraffau 2 i 6, £10 o unrhyw rai o’r canlynol—

(a)pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y mae pensiwn o’r fath i gael ei ddiystyru o dan baragraff 2 neu 3);

(b)pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

(c)pensiwn sy’n daladwy i berson fel gwraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw bŵer Ei Mawrhydi, ac eithrio o dan ddeddfiad, i wneud darpariaeth ynglŷn â phensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;

(d)taliad incwm gwarantedig ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei ostwng i lai na £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(76), cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrwyd, yn fwy na £10;

(e)taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;

(f)pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;

(g)pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.

2.  Y cyfan o unrhyw swm a gynhwysir mewn pensiwn y mae paragraff 1 yn ymwneud ag ef mewn perthynas ag—

(a)angen y ceisydd am weini cyson;

(b)anabledd eithriadol o ddifrifol y ceisydd.

3.  Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(77) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(78) neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.

4.  Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad oes hawl ganddo o dan y Gorchymyn hwnnw.

5.  Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.

6.—(1Unrhyw daliad—

(a)a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—

(i)yr oedd ei farwolaeth i’w briodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a

(ii)y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a

(b)sy’n hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.

(2Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).

7.  £15 o unrhyw lwfans rhiant gweddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 39A o DCBNC.

8.  £15 o unrhyw lwfans mam weddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 37 o DCBNC.

9.  Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—

(a)pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau; neu

(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.

10.  Os yw’r ceisydd—

(a)yn berchen buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad unrhyw eiddo neu’n denant unrhyw eiddo; a

(b)yn meddiannu rhan o’r eiddo hwnnw; ac

(c)â chytundeb rhyngddo a pherson arall sy’n caniatáu i’r person hwnnw feddiannu rhan arall o’r eiddo hwnnw am dalu rhent ac—

(i)y swm a delir gan y person hwnnw yn llai nag £20 yr wythnos, y cyfan o’r swm hwnnw; neu

(ii)y swm a delir yn £20 neu ragor yr wythnos, £20.

11.  Pan fo ceisydd yn cael incwm o dan flwydd-dal a brynwyd gyda benthyciad, sy’n bodloni’r amodau canlynol—

(a)bod y benthyciad wedi ei wneud fel rhan o gynllun a oedd yn peri bod dim llai na 90 y cant o dderbyniadau’r benthyciad yn cael eu defnyddio gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo i brynu blwydd-dal a ddaw i ben ar ddiwedd oes y person hwnnw, neu ddiwedd oes yr un sy’n goroesi o blith dau neu ragor o bersonau (y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn fel “y derbynyddion blwydd-dal”) sy’n cynnwys y person y rhoddwyd y benthyciad iddo;

(b)ar yr adeg y gwnaed y benthyciad, bod y person y’i rhoddwyd iddo neu bob un o’r derbynyddion blwydd-dal, wedi cyrraedd 65 oed;

(c)bod y benthyciad wedi ei sicrhau ar annedd ym Mhrydain Fawr, a bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn berchen ystâd neu fuddiant yn yr annedd honno;

(d)bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn meddiannu’r annedd y sicrhawyd y benthyciad arni, fel cartref y person neu’r derbynnydd blwydd-dal hwnnw ar yr adeg y telir y llog; ac

(e)y telir y llog sy’n daladwy ar y benthyciad gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo neu gan un o’r derbynyddion blwydd-dal,

y swm, a gyfrifir ar sail wythnosol, sy’n hafal i—

(i)pan fo adran 369 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988(79) (llog morgais sy’n daladwy ar ôl didynnu treth) yn gymwys i’r taliadau o’r llog ar y benthyciad, y llog sy’n daladwy ar ôl didynnu swm sy’n hafal i’r dreth incwm ar y cyfryw daliadau yn unol â’r ganran gymwysadwy o dreth incwm, o fewn yr ystyr a roddir i “the applicable percentage of income tax” gan adran 369(1A) o’r Ddeddf honno;

(ii)mewn unrhyw achos arall, y llog sy’n daladwy ar y benthyciad heb ddidynnu swm o’r fath.

12.—(1Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy gan yr Ymddiriedolwyr.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i daliadau a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy ganddynt at y diben o—

(a)caffael bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin neu danwydd cartref;

(b)talu rhent, treth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn atebol i’w talu;

(c)talu costau tai o fath a bennir yn Atodlen 2 i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(80).

(3Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, £20 neu—

(a)os yw’r taliad yn llai nag £20, y cyfan o’r taliad;

(b)os, yn achos y ceisydd, diystyrir £10 yn unol â pharagraff 1(a) i (g), £10 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £10; neu

(c)os, yn achos y ceisydd, diystyrir £15 o dan baragraff 7 neu baragraff 8 ac—

(i)nad oes gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g), £5 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £5;

(ii)pan fo gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g), dim.

13.  Unrhyw gynnydd mewn pensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 a delir mewn perthynas â dibynnydd ac eithrio partner y pensiynwr.

14.  Unrhyw daliad y mae llys wedi gorchymyn ei wneud i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o ganlyniad i unrhyw ddamwain, anaf neu glefyd a ddioddefwyd gan y person neu blentyn y person y gwneir y taliad iddo neu mewn perthynas ag ef.

15.  Taliadau cyfnodol a wneir i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan gytundeb yr ymunwyd ynddo i setlo hawliad a wnaed gan y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd, am anaf a ddioddefwyd gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.

16.  Unrhyw incwm sy’n daladwy y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod unrhyw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.

17.  Unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi taliadau incwm, a wneir mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, i sterling.

18.  Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—

(a)o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(81), dyfarniad y myfyriwr hwnnw;

(b)o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(82), bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu

(c)benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,

swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.

19.—(1Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—

(a)ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu

(b)yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,

a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 18, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.

(2At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—

(a)swm wythnosol y taliadau; neu

(b)y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(b),

pa un bynnag yw’r lleiaf.

(3Yn y paragraff hwn a pharagraff 18 mae cyfeiriad at “benthyciad myfyriwr” neu “grant” yn gyfeiriad at fenthyciad myfyriwr neu grant o fewn ystyr Atodlen 11.

20.—(1Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil y ceisydd, neu briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil partner y ceisydd.

(2At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.

21.  Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan baragraff 10 o Atodlen 3, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.

22.  Pan nad yw cyfanswm gwerth unrhyw gyfalaf a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5 (cyfalaf a ddiystyrir at ddibenion penderfynu incwm tybiedig yn unig) yn fwy na £10,000, unrhyw incwm sy’n deillio mewn gwirionedd o gyfalaf o’r fath.

23.  Ac eithrio yn achos incwm o gyfalaf a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5, unrhyw incwm gwirioneddol o gyfalaf.

24.  Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, hawlogaeth ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ond peidiodd yr hawlogaeth honno ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999(83) fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.

Rheoliad 32(2)

ATODLEN 5Diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr

RHAN 1Cyfalaf sydd i’w ddiystyru

1.  Unrhyw fangre a gaffaelwyd i’w meddiannu gan y ceisydd ac y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd o fewn 26 wythnos ar ôl y dyddiad caffael neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.

2.  Unrhyw fangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd, ac y mae’r ceisydd yn cymryd camau i gael meddiant ohoni ac wedi ceisio cyngor cyfreithiol, neu wedi cychwyn achos cyfreithiol gyda’r bwriad o gael meddiant, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y ceisiodd y ceisydd gyntaf y cyfryw gyngor neu y cychwynnodd gyntaf achos o’r fath, pa un bynnag yw’r cynharaf, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.

3.  Unrhyw fangre y bwriada’r ceisydd ei meddiannu fel cartref iddo ac y mae angen gwneud atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol iddi, er mwyn iddi fod yn addas i’w meddiannu felly, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y mae’r ceisydd yn cymryd y camau gyntaf i gyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi cyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny.

4.  Unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol—

(a)gan berson sy’n berthynas i’r ceisydd neu bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw pan fo’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, neu’n analluog;

(b)gan gyn-bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw; ond nid yw’r ddarpariaeth hon yn gymwys os yw’r cyn-bartner yn berson y mae’r ceisydd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu y ffurfiodd y ceisydd bartneriaeth sifil ag ef, sydd bellach wedi ei diddymu.

5.  Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo o unrhyw fath, ac eithrio tir neu fangre y caniataodd y ceisydd brydles neu denantiaeth arno neu arni, sy’n bodoli ar y pryd, gan gynnwys is-brydlesi neu is-denantiaethau.

6.  Pan fo ceisydd wedi peidio â meddiannu’r hyn a oedd gynt yn annedd a feddiennid fel y cartref, yn dilyn ymwahaniad neu ysgariad y ceisydd oddi wrth ei bartner blaenorol, neu’n dilyn diddymu partneriaeth sifil rhwng y ceisydd a’i bartner blaenorol, yr annedd honno am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y peidiodd y ceisydd â meddiannu’r annedd neu, os meddiennir yr annedd fel cartref y partner blaenorol sydd hefyd yn unig riant, cyhyd ag y’i meddiennir felly.

7.  Unrhyw fangre pan fo’r ceisydd yn cymryd camau rhesymol i waredu’r cyfan o fuddiant y ceisydd yn y fangre honno, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cymerodd y ceisydd y camau cyntaf o’r fath neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i waredu’r fangre honno.

8.  Pob eiddo personol.

9.  Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd pan fo’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig at ddibenion y busnes hwnnw, neu, os yw’r ceisydd wedi peidio â gweithredu felly, am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu’r asedau hynny.

10.  Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd—

(a)os nad yw’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw, oherwydd rhyw glefyd neu anabledd corfforol neu feddyliol; ond

(b)bod y ceisydd yn bwriadu gweithredu (neu, yn ôl fel y digwydd, gweithredu drachefn) fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw cyn gynted ag y bo’n gwella neu’n alluog i weithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw,

am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y gwneir y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu, os yw’n afresymol disgwyl i’r ceisydd ddechrau gweithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw o fewn y cyfnod hwnnw, am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i ddechrau gweithredu felly neu weithredu felly drachefn.

11.  Gwerth ildio unrhyw bolisi yswiriant bywyd.

12.  Gwerth unrhyw gontract cynllun angladd; ac at y diben hwn, ystyr “contract cynllun angladd” (“funeral plan contract”) yw contract lle—

(a)y mae’r ceisydd yn gwneud un neu ragor o daliadau i berson arall (“y darparwr”);

(b)y mae’r darparwr yn ymgymryd i ddarparu neu sicrhau y darperir, angladd yn y Deyrnas Unedig i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd; ac

(c)unig ddiben y cynllun yw darparu, neu sicrhau y darperir, angladd i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd.

13.  Pan fo taliad ex gratia wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar neu ar ôl 1 Chwefror 2001 o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo—

(a)y ceisydd;

(b)partner y ceisydd;

(c)priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd; neu

(d)priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd,

gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, swm sy’n hafal i’r taliad hwnnw.

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw daliad ymddiriedolaeth a wneir i geisydd neu bartner ceisydd sydd yn—

(a)person â diagnosis;

(b)partner i berson â diagnosis, neu a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar yr adeg y bu farw’r person â diagnosis; neu

(c)rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.

(2Pan wneir taliad ymddiriedolaeth i—

(a)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), swm unrhyw daliad gan berson y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo neu unrhyw daliad allan o ystad person y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo, a wneir i geisydd neu bartner ceisydd sydd yn—

(a)person â diagnosis;

(b)partner i berson â diagnosis, neu a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar yr adeg y bu farw’r person â diagnosis; neu

(c)rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.

(4Pan wneir taliad o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) i—

(a)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson—

(a)sy’n bartner y person â diagnosis;

(b)yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis,

ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis yn cynnwys person a fyddai wedi bod yn berson o’r fath neu’n berson a fyddai’n gweithredu felly, pe na bai’r person â diagnosis yn preswylio mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol.

(6Yn y paragraff hwn—

ystyr “person â diagnosis” (“diagnosed person”) yw person y gwnaed diagnosis ei fod yn dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, neu y gwnaed diagnosis ar ôl marwolaeth y person hwnnw ei fod wedi dioddef o’r clefyd hwnnw;

ystyr “ymddiriedolaeth berthnasol” (“relevant trust”) yw ymddiriedolaeth a sefydlwyd gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â phersonau a oedd yn dioddef, neu sydd yn dioddef, o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

ystyr “taliad ymddiriedolaeth” (“trust payment”) yw taliad o dan ymddiriedolaeth berthnasol.

15.  Swm unrhyw daliad, ac eithrio pensiwn rhyfel, a wneir i ddigolledu oherwydd bod y ceisydd, partner y ceisydd, priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd neu briod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd—

(a)wedi bod yn gaeth lafurwr neu’n llafurwr dan orfodaeth;

(b)wedi dioddef colled eiddo neu wedi dioddef niwed personol; neu

(c)yn rhiant plentyn a fu farw,

yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

16.—(1Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan—

(a)yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd yn y paragraff hwn fel “yr Ymddiriedolaethau”); neu

(b)y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).

(2Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau ac a wneir i, neu er budd, partner neu gyn-bartner y person hwnnw—

(a)nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu

(b)a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw.

(3Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau ac a wneir i, neu er budd y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys.

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys—

(a)os nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, os nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru, neu

(b)pan fo’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ffurfio partneriaeth sifil, os nad yw’r bartneriaeth sifil wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, os nad oedd wedi ei diddymu pan ddigwyddodd y farwolaeth.

(5Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, pan—

(a)nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn sydd, neu a fu, yn aelod o aelwyd y person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes ganddo riant neu lys-riant, i unrhyw berson sy’n sefyll yn lle rhiant y plentyn neu’r person ifanc neu’r myfyriwr hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.

(6Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, pan—

(a)nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (“y dyddiad perthnasol”) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o aelwyd y person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd ganddo riant neu lys-riant, i unrhyw berson sy’n sefyll yn lle rhiant y plentyn neu’r person ifanc neu’r myfyriwr hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.

(7Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw adnodd cyfalaf sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.

17.—(1Swm sy’n hafal i swm unrhyw daliad a wneir o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, i’r partner.

(2Os gweinyddir y cyfan neu ran o’r taliad—

(a)gan yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol o dan Reol 21.11(1) o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998(84) neu’r Llys Gwarchod, neu ar ran person pan na ellir gwneud y taliad ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd unrhyw lys o’r fath;

(b)yn unol â gorchymyn a wneir o dan Reol 36.14 o Reolau Achosion Cyffredin 1993 neu o dan Reol 128 o’r Rheolau hynny; neu

(c)yn unol â thelerau ymddiriedolaeth a sefydlwyd er budd y ceisydd neu bartner y ceisydd,

y cyfan o’r swm a weinyddir felly.

18.  Unrhyw swm a bennir ym mharagraff 19, 20, 21 neu 25 am gyfnod o un flwyddyn sy’n cychwyn gyda dyddiad derbyn y swm hwnnw.

19.  Symiau a delir o dan bolisi yswiriant mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod i’r eiddo a feddiennir gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac i eiddo personol y ceisydd.

20.  Cymaint o unrhyw symiau a delir i’r ceisydd neu a adneuir yn enw’r ceisydd at yr unig ddiben o—

(a)prynu mangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd; neu

(b)cyflawni atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol i’r fangre a feddiennir, neu y bwriedir ei meddiannu, gan y ceisydd fel cartref y ceisydd.

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 22 unrhyw swm a delir—

(a)fel ôl-daliad o fudd-dal;

(b)i ddigolledu am dalu budd-dal yn hwyr;

(c)yn lle taliad o fudd-dal;

(d)i unioni, neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol fel y’i diffinnir at ddibenion paragraff 22, sef swm nad yw’r paragraff hwnnw’n gymwys iddo;

(e)gan awdurdod lleol allan o gyllid a ddarperir naill ai o dan adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(85) o dan gynllun a elwir “Cefnogi Pobl” neu adran 91 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 2001(86).

(2Yn is-baragraff (1), ystyr “budd-dal” (“benefit”) yw—

(a)lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC;

(b)lwfans byw i’r anabl;

(c)taliad annibyniaeth bersonol;

(d)TALlA;

(e)cymhorthdal incwm;

(f)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(g)credyd pensiwn y wladwriaeth;

(h)budd-dal tai;

(i)budd-dal treth gyngor;

(j)credyd treth plant;

(k)cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 o DCBNC (cynnydd pan fo angen gweini cyson), ac unrhyw gynnydd pellach mewn pensiwn o’r fath o dan adran 105 o DCBNC (cynnydd ar gyfer anabledd eithriadol o ddifrifol);

(l)unrhyw swm a gynhwysir oherwydd anabledd eithriadol o ddifrifol y ceisydd neu’r angen am weini cyson mewn pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw;

(m)unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001(87);

(n)credyd treth gwaith; neu

(o)lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

22.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw daliad o £5,000 neu ragor, a wnaed i unioni, neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol mewn cysylltiad â budd-dal perthnasol ac a gafwyd yn llawn gan y ceisydd ar neu ar ôl y diwrnod yr enillodd y ceisydd yr hawl i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), cyfanswm unrhyw daliadau a ddiystyrir o dan—

(a)paragraff 7(2) o Atodlen 10 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(88);

(b)paragraff 12(2) o Atodlen 8 i Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(89);

(c)paragraff 9(2) o Atodlen 5 i Reoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor 2006(90);

(d)paragraff 20A o Atodlen 5 i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(91);

(e)paragraff 11(2) o Atodlen 9 i Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(92),

os oedd y dyfarniad yr oedd y taliadau i’w diystyru ddiwethaf mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hynny naill ai’n terfynu yn union cyn y dyddiad perthnasol neu’n parhau mewn bodolaeth ar y dyddiad hwnnw.

(3Bydd unrhyw ddiystyriad sy’n gymwys o dan is-baragraff (1) neu (2) yn cael effaith hyd nes daw’r dyfarniad i ben.

(4Yn y paragraff hwn—

ystyr “y dyfarniad” (“the award”), ac eithrio yn is-baragraff (2), yw—

(a)

y dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod pan geir y swm perthnasol, neu, os telir y swm perthnasol mewn mwy nag un rhandaliad, pan geir y rhandaliad cyntaf o’r swm hwnnw; a

(b)

os dilynir y dyfarniad hwnnw gan un neu ragor o ddyfarniadau pellach, sy’n dechrau yn union wedi i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben, neu sydd bob un yn dechrau yn union wedi i’r un blaenorol ddod i ben, y cyfryw ddyfarniadau pellach tan ddiwedd yr olaf ohonynt, ar yr amod, ar gyfer y cyfryw ddyfarniadau pellach, mai’r ceisydd—

(i)

yw’r person a gafodd y swm perthnasol;

(ii)

yw partner y person hwnnw; neu

(iii)

a oedd yn bartner y person hwnnw ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

mae i “camgymeriad swyddogol”—

(c)pan fo’r camgymeriad yn ymwneud â budd-dal tai, neu fudd-dal treth gyngor (mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn 1 Ebrill 2013), yr ystyr a roddir i “official error” gan reoliad 1(2) o Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor (Penderfyniadau ac Apelau) 2001(93); a

(d)pan fo’r camgymeriad yn ymwneud ag unrhyw fudd-dal perthnasol arall, yr ystyr a roddir i “official error” gan reoliad 1(3) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (Penderfyniadau ac Apelau) 1999(94);

ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw unrhyw fudd-dal a bennir ym mharagraff 21(2);

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad y gwnaed cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod; ac

ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant sum”) yw’r taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) neu’r cyfanswm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).

23.  Os delir ased cyfalaf mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r cyfalaf hwnnw i sterling.

24.  Gwerth yr hawl i gael incwm o gynllun pensiwn galwedigaethol neu gynllun pensiwn personol.

25.  Unrhyw ôl-daliad o bensiwn atodol a ddiystyrir o dan baragraff 4 o Atodlen 4 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr) neu o unrhyw swm a ddiystyrir o dan baragraff 5 neu 6 o’r Atodlen honno.

26.  Yr annedd a feddiennir fel y cartref; ond un annedd yn unig sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn.

27.  Pan fo person yn dewis yr hawl i gael cyfandaliad o dan Atodlen 5 neu 5A i DCBNC neu o dan Atodlen 1 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-dal Ymddeol Graddedig) 2005(95), neu pan drinnir ef fel pe bai wedi gwneud dewis o’r fath, a thaliad wedi ei wneud yn unol â’r dewis hwnnw, swm sy’n hafal i—

(a)ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, swm unrhyw daliad neu daliadau a wneir ar gyfrif y cyfandaliad hwnnw; neu

(b)swm y cyfandaliad hwnnw,

ond hynny cyhyd, yn unig, nad yw’r person hwnnw’n newid y dewis hwnnw o blaid cynnydd mewn pensiwn neu fuddion.

28.  Unrhyw daliadau a wneir yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan—

(a)adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(96) (taliadau uniongyrchol);

(b)adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(97) (taliadau uniongyrchol mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymunedol);

(c)adrannau 12A i 12C o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);

(d)erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(98) (lles cymdeithasol cyffredinol); neu

(e)adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002(99) (taliadau uniongyrchol).

RHAN 2Cyfalaf a ddiystyrir at ddibenion penderfynu incwm tybiedig yn unig

29.  Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan fuddiant am oes neu o dan rent am oes.

30.  Gwerth yr hawl i gael unrhyw rent, ac eithrio pan fo gan y ceisydd fuddiant atchweliadol yn yr eiddo y mae’r rhent yn daladwy amdano.

31.  Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan flwydd-dal, neu werth ildio blwydd-dal o’r fath (os oes gwerth ildio).

32.  Pan ddelir eiddo o dan ymddiriedolaeth, ac eithrio—

(a)ymddiriedolaeth elusennol yn yr ystyr a roddir i “charitable trust” gan Ddeddf Elusennau 2011(100); neu

(b)ymddiriedolaeth a sefydlwyd gydag unrhyw daliad y mae paragraff 16 yn gymwys iddo,

a phan fo taliadau i gael eu gwneud o dan delerau’r ymddiriedolaeth, neu pan fo disgresiwn gan yr ymddiriedolwyr i wneud taliadau i’r ceisydd neu bartner y ceisydd neu’r ddau, neu er budd y naill neu’r llall neu’r ddau, yr eiddo hwnnw.

Rheoliad 33(2)

ATODLEN 6Penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

RHAN 1Symiau cymwysadwy at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr

Symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

1.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 a 3, y swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer person nad yw yn bensiynwr yw swm cyfanredol y cyfryw rai o’r symiau canlynol sy’n gymwys yn achos y person hwnnw—

(a)swm mewn perthynas â’r person, neu os yw’r person hwnnw’n aelod o gwpl, swm mewn perthynas â’r ddau ohonynt, a benderfynir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 7 (lwfansau personol);

(b)swm mewn perthynas ag unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person, a benderfynir yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 7 (symiau plentyn neu berson ifanc);

(c)os yw’r person yn aelod o deulu y mae o leiaf un aelod ohono yn blentyn neu’n berson ifanc, swm a benderfynir yn unol â Rhan 2 o Atodlen 7 (premiwm teulu);

(d)swm unrhyw bremiymau a allai fod yn gymwys i’r person, a benderfynir yn unol â Rhannau 3 a 4 o Atodlen 7 (premiymau);

(e)y swm o naill ai—

(i)yr elfen gweithgaredd perthynol i waith; neu

(ii)yr elfen gymorth,

a allai fod yn gymwys i’r person yn unol â Rhannau 5 a 6 o’r Atodlen honno (yr elfennau);

(f)swm unrhyw ychwanegiad trosiannol a allai fod yn gymwys i’r person yn unol â Rhannau 7 ac 8 o Atodlen 7 (ychwanegiad trosiannol).

(2Yn Atodlen 7—

ystyr “priod ychwanegol” (“additional spouse”) yw priod y naill barti i’r briodas neu’r llall sy’n ychwanegol at y parti arall i’r briodas;

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd” (“converted employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw ar sail incwm ac y mae hawl gan berson i’w gael o ganlyniad i benderfyniad trosi yn yr ystyr a roddir i “conversion decision” gan Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(101);

ystyr “claf” (“patient”) yw person (ac eithrio person sy’n gwneud dedfryd o garchar neu’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad cadw ar gyfer pobl ifanc) yr ystyrir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol yn yr ystyr a roddir i “receiving free in-patient treatment” gan reoliad 2(4) a (5) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005(102).

Priodasau amlbriod: personau nad ydynt yn bensiynwyr

2.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd nad yw’n bensiynwr yn aelod o briodas amlbriod, ac nad oes ganddo (ar ei ben ei hunan nac ar y cyd â pharti i briodas) ddyfarniad o gredyd cynhwysol.

(2Y swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yw swm cyfanredol y cyfryw rai o’r symiau canlynol sy’n gymwys yn achos y ceisydd hwnnw—

(a)y swm sy’n gymwys i’r ceisydd ac un o bartneriaid y ceisydd a benderfynir yn unol â pharagraff 1(3) o Atodlen 7 (cwpl) fel pe bai’r ceisydd a’r partner hwnnw yn gwpl;

(b)swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng y symiau a bennir yn is-baragraffau (3) ac (1)(b) o baragraff 1 o Atodlen 7 mewn perthynas â phob un o bartneriaid eraill y ceisydd;

(c)swm a benderfynir yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 7 (symiau plentyn neu berson ifanc) mewn perthynas ag unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o’r un aelwyd;

(d)os yw’r ceisydd neu bartner arall o’r briodas amlbriod yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o’r un aelwyd, y swm a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 7 (premiwm teulu);

(e)swm unrhyw bremiymau a allai fod yn gymwys i’r ceisydd, a benderfynir yn unol â Rhannau 3 a 4 o Atodlen 7 (premiymau);

(f)swm naill ai—

(i)yr elfen gweithgaredd perthynol i waith; neu

(ii)yr elfen gymorth;

a allai fod yn gymwys i’r ceisydd yn unol â Rhannau 5 a 6 o’r Atodlen honno (yr elfennau);

(g)swm unrhyw ychwanegiad trosiannol a allai fod yn gymwys i’r ceisydd yn unol â Rhannau 7 ac 8 o’r Atodlen honno (ychwanegiad trosiannol).

Swm cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr ac sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol

3.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wrth benderfynu’r swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd nad yw’n bensiynwr—

(a)sydd ganddo, neu

(b)sydd ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol, rhaid i’r awdurdod ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o swm uchaf y ceisydd, neu’r ceisydd ar y cyd â phartner y ceisydd (yn ôl fel y digwydd), yn ddarostyngedig i’r addasiad a ddisgrifir yn is-baragraff (3).

(2Wrth benderfynu’r swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd sy’n aelod o briodas amlbriod, rhaid diystyru’r ffaith bod dau o bobl yn ŵr a gwraig os yw—

(a)un ohonynt yn barti i briodas gynharach sy’n bodoli o hyd; a

(b)y parti arall i’r briodas gynharach honno yn byw ar yr un aelwyd.

(3Yr addasiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yw lluosi’r swm uchaf gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52.

(4Yn y paragraff hwn ystyr “swm uchaf” (“maximum amount”) yw’r swm uchaf a gyfrifwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 8(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012(103).

RHAN 2Uchafswm y gostyngiad treth gyngor at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod a swm unrhyw ostyngiad

Uchafswm y gostyngiad treth gyngor o dan gynllun awdurdod: personau nad ydynt yn bensiynwyr

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), uchafswm gostyngiad treth gyngor person mewn perthynas â diwrnod yw 100 y cant o’r swm A/B, os—

(a)A yw’r swm a bennir gan yr awdurdod fel y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol mewn perthynas â’r annedd y mae’r person yn preswylio ynddi ac y mae’r person yn atebol amdano, yn ddarostyngedig i unrhyw ddisgownt a allai fod yn briodol i’r annedd honno o dan Ddeddf 1992; a

(b)B yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn ariannol honno,

llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas ag annibynyddion sydd i’w gwneud o dan baragraff 5 (didyniadau annibynyddion).

(2Wrth gyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor person o dan gynllun awdurdod, rhaid cymryd i ystyriaeth unrhyw ostyngiad yn y swm y mae’r person hwnnw’n atebol i’w dalu mewn perthynas â’r dreth gyngor a wnaed o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad yn Neddf 1992, neu ddeddfiad a wnaed o dan y Ddeddf honno (ac eithrio gostyngiad o dan gynllun awdurdod).

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r ceisydd yn preswylio ynddi gydag un neu ragor o bersonau eraill, wrth benderfynu’r uchafswm gostyngiad treth gyngor yn achos y ceisydd yn unol ag is-baragraff (1), rhaid rhannu’r swm A gyda nifer y personau sy’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth honno.

(4Pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd gyda phartner yn unig, nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos y ceisydd hwnnw.

(5Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (3) at berson y mae ceisydd yn atebol ar y cyd ag ef ac yn unigol am dreth gyngor yn cynnwys myfyriwr y mae paragraff 3 o Atodlen 11 (myfyrwyr a eithrir o hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod) yn gymwys iddo.

(6Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”), mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol, yw’r flwyddyn ariannol y mae’r diwrnod hwnnw’n digwydd ynddi.

Didyniadau annibynyddion : personau nad ydynt yn bensiynwyr

5.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, y didyniadau annibynyddion mewn perthynas â diwrnod, y cyfeirir atynt ym mharagraff 4 yw—

(a)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn sy’n gweithio am dâl, £10.95 x 1/7;

(b)mewn perthynas ag annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn nad yw paragraff (a) yn gymwys iddo, £3.65 x 1/7.

(2Yn achos annibynnydd 18 mlwydd oed neu’n hŷn y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, os dangosir i’r awdurdod fod incwm wythnosol gros arferol yr annibynnydd hwnnw—

(a)yn llai na £186.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw’r didyniad a bennir yn is-baragraff (1)(b);

(b)yn ddim llai na £186.00 ond yn llai na £322.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £7.25 x 1/7;

(c)yn ddim llai na £322.00 ond yn llai na £401.00, y didyniad sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn yw £9.15 x 1/7.

(3Un didyniad yn unig sydd i’w wneud o dan y paragraff hwn mewn perthynas â chwpl neu, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas ag aelodau priodas amlbriod (ac eithrio os oes dyfarniad o gredyd cynhwysol), ac os byddai’r swm y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas ag un aelod o gwpl neu o briodas amlbriod, oni bai am y paragraff hwn, yn uwch na’r swm (os oes swm) y byddid yn ei ddidynnu mewn perthynas â’r aelod arall, neu unrhyw aelod arall, rhaid didynnu’r swm uchaf.

(4Wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraff (2) yn achos cwpl, neu, yn ôl fel y digwydd, priodas amlbriod, at ddibenion yr is-baragraff hwnnw rhaid rhoi sylw i incwm gros wythnosol y cwpl ar y cyd neu, yn ôl fel y digwydd, incwm gros wythnosol holl aelodau’r briodas amlbriod.

(5Mewn perthynas â diwrnod, os yw—

(a)person yn breswylydd mewn annedd, ond nad yw’r person hwnnw’n atebol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw;

(b)preswylwyr eraill yn yr annedd honno (y personau atebol) yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw, ac eithrio yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1992 (atebolrwydd gwŷr priod a gwragedd priod, a phartneriaid sifil); ac

(c)y person y mae paragraff (a) yn cyfeirio ato yn annibynnydd dau neu ragor o’r personau atebol,

rhaid dosrannu’r didyniad mewn perthynas â’r annibynnydd hwnnw yn gyfartal rhwng y personau atebol hynny.

(6Rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad mewn perthynas ag annibynyddion sy’n meddiannu annedd y ceisydd os yw’r ceisydd neu bartner y ceisydd—

(a)yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn rhinwedd paragraff 10 o Atodlen 7 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd); neu

(b)yn cael, mewn perthynas â’r ceisydd—

(i)lwfans gweini, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw oni bai am—

(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu

(ii)elfen ofal y lwfans byw i’r anabl, neu byddai’n cael yr elfen honno oni bai am—

(aa)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(bb)lleihad o ganlyniad i draddodi i’r ysbyty; neu

(iii)elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol, neu byddai’n cael y lwfans hwnnw oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty); neu

(iv)TALlA, neu byddai’n cael y taliad hwnnw oni bai am ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb.

(7Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—

(a)er bod yr annibynnydd yn preswylio gyda’r ceisydd, os yw’n ymddangos i’r awdurdod fod cartref arferol yr annibynnydd yn rhywle arall; neu

(b)os yw’r annibynnydd yn cael lwfans hyfforddi a delir mewn cysylltiad â hyfforddiant ieuenctid a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(104) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(105); neu

(c)os yw’r annibynnydd yn fyfyriwr amser llawn o fewn yr ystyr yn Atodlen 11 (myfyrwyr); neu

(d)os nad yw’r annibynnydd yn preswylio gyda’r ceisydd oherwydd bod yr annibynnydd wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 52 wythnos, ac at y dibenion hyn—

(i)mae i “claf” (“patient”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 24(6), a

(ii)os yw person wedi bod yn glaf am ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan un neu ragor o ysbeidiau nad oes yr un ohonynt yn hwy na 28 diwrnod, rhaid trin y person hwnnw fel pe bai wedi bod yn glaf yn barhaus am gyfnod sydd â’i hyd yn hafal i gyfanswm y cyfnodau ar wahân hynny.

(8Rhaid peidio â gwneud didyniad mewn perthynas ag annibynnydd—

(a)sydd ar gymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; neu

(b)y mae Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn gymwys iddo (personau a ddiystyrir at ddibenion disgownt); ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i annibynnydd sy’n fyfyriwr y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o’r Atodlen honno.

(9Ar gyfer cymhwyso is-baragraff (2), rhaid diystyru o incwm gros wythnosol yr annibynnydd—

(a)unrhyw lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol neu TALlA a dderbynnir gan yr annibynnydd;

(b)unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006) y byddid, pe bai incwm yr annibynnydd wedi ei gyfrifo o dan baragraff 17 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion), wedi ei ddiystyru o dan baragraff 28 o Atodlen 9 (incwm mewn nwyddau neu wasanaethau);

(c)unrhyw daliad y byddid, pe bai incwm yr annibynnydd wedi ei gyfrifo o dan baragraff 17 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion), wedi ei ddiystyru o dan baragraff 41 o Atodlen 9 (taliadau a wneir o dan ymddiriedolaethau penodol a thaliadau penodol eraill).

RHAN 3Swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod

Swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod: Dosbarthiadau C a D

6.—(1Pan fo hawl gan berson i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas â diwrnod, bydd swm y gostyngiad y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael fel a ganlyn.

(2Os yw’r person yn nosbarth C, y swm hwnnw yw uchafswm y gostyngiad treth gyngor mewn perthynas â’r diwrnod yn achos y person hwnnw.

(3Os yw’r person yn nosbarth D, y swm hwnnw yw’r swm a gyrhaeddir drwy ddidynnu’r swm B o’r swm A pan fo “swm A” a “swm B” yn dwyn yr ystyron a roddir iddynt yn rheoliad 25.

RHAN 4Incwm a chyfalaf at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad

PENNOD 1Incwm a chyfalaf: cyffredinol

Cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod: personau nad ydynt yn bensiynwyr

7.—(1Rhaid cyfrifo incwm a chyfalaf—

(a)ceisydd; a

(b)unrhyw bartner y ceisydd hwnnw,

yn unol â darpariaethau’r Rhan hon.

(2Rhaid trin incwm a chyfalaf unrhyw bartner y ceisydd fel pe bai’n incwm a chyfalaf y ceisydd, ac yn y Rhan hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ceisydd yn gymwys yn yr un modd i unrhyw bartner y ceisydd hwnnw.

(3Os yw ceisydd, neu bartner ceisydd, mewn priodas amlbriod â dau neu ragor o aelodau aelwyd y ceisydd—

(a)rhaid trin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r cyfalaf a’r incwm sy’n eiddo i unrhyw aelod o’r fath; a

(b)rhaid cyfrifo incwm a chyfalaf yr aelod hwnnw yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon, yn yr un modd ag ar gyfer y ceisydd.

Amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd: personau nad ydynt yn bensiynwyr

8.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys os yw’n ymddangos i’r awdurdod fod annibynnydd a cheisydd wedi ymuno mewn trefniadau er mwyn manteisio ar gynllun awdurdod, a bod gan yr annibynnydd fwy o incwm a chyfalaf na’r ceisydd.

(2Ac eithrio pan fo’r ceisydd ar gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r incwm a’r cyfalaf sy’n eiddo i’r annibynnydd hwnnw, ac mewn achos o’r fath rhaid diystyru unrhyw gyfalaf ac incwm y mae’r ceisydd yn eu meddu mewn gwirionedd.

(3Os trinnir ceisydd fel pe bai’n meddu cyfalaf ac incwm sy’n eiddo i annibynnydd o dan is-baragraff (2), rhaid cyfrifo cyfalaf ac incwm yr annibynnydd hwnnw yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon, yn yr un modd ag ar gyfer y ceisydd, ac onid yw’r cyd-destun yn mynnu’n wahanol, at ddibenion y Rhan hon rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y “ceisydd” fel pe bai’n gyfeiriad at yr annibynnydd hwnnw.

PENNOD 2Incwm a chyfalaf pan ddyfarnwyd credyd cynhwysol

Cyfrifo incwm a chyfalaf: personau, nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol

9.—(1Wrth benderfynu incwm ceisydd—

(a)y mae ganddo, neu

(b)y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol, rhaid i awdurdod, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o incwm y ceisydd neu incwm y ceisydd a phartner y ceisydd ar y cyd (yn ôl fel y digwydd), a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben o benderfynu’r dyfarniad o gredyd cynhwysol.

(2Rhaid i’r awdurdod addasu swm yr incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) drwy luosi’r swm gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52.

(3Ni chaiff yr awdurdod addasu swm yr incwm fel y’i haddaswyd eisoes yn unol ag is-baragraff (2) ac eithrio i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn cymryd i ystyriaeth—

(a)swm y dyfarniad o gredyd cynhwysol a benderfynwyd yn unol ag is-baragraff (4);

(b)paragraff 8 (incwm a chyfalaf annibynnydd sydd i’w trin fel eiddo i’r ceisydd), os yw’r awdurdod yn penderfynu bod y ddarpariaeth yn gymwys yn achos y ceisydd;

(c)pa bynnag ostyngiad pellach (os oes un) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992 (pŵer awdurdod bilio i leihau swm y dreth gyngor sy’n daladwy).

(4Rhaid penderfynu’r swm ar gyfer y dyfarniad o gredyd cynhwysol sydd i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion is-baragraff (3)(a) drwy luosi swm y credyd cynhwysol gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52.

(5Mae paragraff 8 (incwm a chyfalaf annibynnydd sydd i’w trin fel eiddo i’r ceisydd) yn gymwys at ddibenion penderfynu unrhyw addasiadau sydd i’w gwneud i’r ffigur ar gyfer incwm o dan is-baragraff (3).

(6Wrth benderfynu cyfalaf ceisydd—

(a)y mae ganddo, neu

(b)y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol, rhaid i awdurdod ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o gyfalaf y ceisydd neu gyfalaf y ceisydd a phartner y ceisydd ar y cyd (yn ôl fel y digwydd), a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben o benderfynu’r dyfarniad o gredyd cynhwysol.

PENNOD 3Incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr

Enillion cyfartalog wythnosol enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

10.—(1Pan fo incwm ceisydd nad yw’n bensiynwr yn enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, rhaid amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd drwy gyfeirio at enillion y ceisydd o’r gyflogaeth honno—

(a)dros gyfnod yn union cyn yr wythnos ostyngiad y gwneir y cais ynddi neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud ynddi, ac sy’n gyfnod o—

(i)5 wythnos, os telir i’r ceisydd fesul wythnos; neu

(ii)2 fis, os telir i’r ceisydd fesul mis; neu

(b)boed paragraff (a)(i) neu (ii) yn gymwys ai peidio, os yw enillion ceisydd yn amrywio, dros ba bynnag gyfnod arall sy’n rhagflaenu’r wythnos ostyngiad y gwneir y cais ynddi, neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud ynddi, a allai, mewn unrhyw achos penodol, alluogi amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd yn fwy cywir.

(2Os yw’r ceisydd wedi bod yn gyflogedig am gyfnod llai na’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (1)(a)(i) neu (ii)—

(a)os cafodd y ceisydd unrhyw enillion am y cyfnod y bu yn y gyflogaeth honno, ac os yw’r enillion hynny yn debygol o gynrychioli enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o’r gyflogaeth honno, rhaid amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd drwy gyfeirio at yr enillion hynny;

(b)mewn unrhyw achos arall, rhaid i’r awdurdod amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd(106).

(3Os yw swm enillion y ceisydd yn newid, rhaid i’r awdurdod amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd drwy gyfeirio at enillion tebygol y ceisydd o’r gyflogaeth dros ba bynnag gyfnod sy’n briodol er mwyn amcangyfrif yr enillion wythnosol cyfartalog yn gywir, ond ni chaiff hyd y cyfnod, mewn unrhyw achos, fod yn hwy na 52 wythnos.

(4At ddibenion y paragraff hwn rhaid cyfrifo enillion y ceisydd yn unol â pharagraffau 14 a 15 (enillion enillwyr cyflogedig).

Enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

11.—(1Pan fo incwm ceisydd nad yw’n bensiynwr yn enillion o gyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig, rhaid amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd hwnnw drwy gyfeirio at enillion y ceisydd hwnnw o’r gyflogaeth honno dros ba bynnag gyfnod sy’n briodol er mwyn amcangyfrif yr enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd hwnnw yn gywir, ond ni chaiff hyd y cyfnod, mewn unrhyw achos, fod yn hwy na 52 wythnos.

(2At ddibenion y paragraff hwn rhaid cyfrifo enillion y ceisydd yn unol â pharagraffau 16, 24 a 25 (enillion ac elw net enillwyr hunangyflogedig).

Incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

12.—(1Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, rhaid amcangyfrif incwm ceisydd nad yw’n bensiynwr, pan nad yw’r incwm hwnnw yn enillion, dros ba bynnag gyfnod sy’n briodol er mwyn amcangyfrif incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd hwnnw yn gywir, ond ni chaiff hyd y cyfnod, mewn unrhyw achos, fod yn hwy na 52 wythnos; ac nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n awdurdodi awdurdod i ddiystyru unrhyw incwm o’r fath ac eithrio hwnnw a bennir yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion).

(2Y cyfnod y mae’n rhaid cymryd i ystyriaeth drosto unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal yw’r cyfnod y mae’r budd-dal hwnnw’n daladwy mewn perthynas ag ef.

(3At ddibenion y paragraff hwn rhaid cyfrifo incwm ac eithrio enillion yn unol â pharagraff 17 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion).

Cyfrifo incwm wythnosol enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

13.—(1At ddibenion paragraffau 10 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig), 12 (incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion) a 22 (cyfrifo incwm wythnosol cyfartalog o gredydau treth), os yw’r cyfnod y gwneir taliad mewn perthynas ag ef—

(a)yn ddim mwy nag wythnos, y swm wythnosol fydd swm y taliad hwnnw;

(b)yn fwy nag wythnos, rhaid penderfynu’r swm wythnosol—

(i)mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw yn fis, drwy luosi swm y taliad gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52;

(ii)mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y taliad gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r taliad yn berthynol iddo a lluosi’r cyniferydd gyda 7.

(2At ddibenion paragraff 11 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig) rhaid penderfynu swm wythnosol enillion ceisydd drwy rannu enillion y ceisydd dros y cyfnod asesu gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw a lluosi’r cyniferydd gyda 7.

Enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth person nad yw’n bensiynwr fel enillydd cyflogedig, yw unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw sy’n deillio o’r gyflogaeth honno ac y mae’n cynnwys—

(a)unrhyw fonws neu gomisiwn;

(b)unrhyw daliad a wneir yn lle cydnabyddiaeth ariannol ac eithrio unrhyw swm cyfnodol a delir i geisydd o ganlyniad i derfynu cyflogaeth y ceisydd hwnnw oherwydd dileu swydd;

(c)unrhyw daliad yn lle rhybudd neu unrhyw gyfandaliad y bwriedir iddo ddigolledu am golli cyflogaeth, ond hynny i’r graddau, yn unig, y mae’n cynrychioli colled incwm;

(d)unrhyw dâl gwyliau ac eithrio unrhyw dâl o’r fath sy’n daladwy ymhen mwy na 4 wythnos ar ôl terfynu’r gyflogaeth neu ar ôl toriad yn y gyflogaeth;

(e)unrhyw daliad ar ffurf tâl cadw;

(f)unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas â threuliau nas tynnwyd yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas ag—

(i)treuliau a dynnir gan y ceisydd ynglŷn â theithio rhwng ei gartref a’r man lle y’i cyflogir;

(ii)treuliau a dynnir gan y ceisydd o dan drefniadau a wnaed ar gyfer gofal aelod o deulu’r ceisydd, oherwydd absenoldeb y ceisydd o’i gartref;

(g)unrhyw ddyfarniad i ddigolledu a wneir o dan adran 112(4) neu 117(3)(a) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(107) (rhwymedïau a digolledu am ddiswyddo annheg);

(h)unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol a wneir o dan adran 28, 34, 64, 68 neu 70 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (hawl i daliadau gwarantu, cydnabyddiaeth ariannol yn ystod ataliad dros dro ar seiliau meddygol neu famolaeth, cwynion i dribiwnlysoedd cyflogaeth);

(i)unrhyw swm o fath y cyfeirir ato yn adran 112 o DCBNC (symiau penodol sy’n enillion at ddibenion nawdd cymdeithasol);

(j)unrhyw dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol neu dâl mabwysiadu statudol, neu daliad cyfatebol o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon;

(k)unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a delir gan neu ar ran cyflogwr i’r ceisydd tra bo’r ceisydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu neu’n absennol o’i waith oherwydd salwch y ceisydd;

(l)swm unrhyw daliad ar ffurf taleb anariannol a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo enillion person yn unol â Rhan 5 o Atodlen 3 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001 (108).

(2Nid yw enillion yn cynnwys—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw daliad mewn nwyddau neu wasanaethau;

(b)unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth;

(c)unrhyw bensiwn galwedigaethol;

(d)unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

(3Nid yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw daleb anariannol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(l).

Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

15.—(1At ddibenion paragraff 10 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid i enillion y ceisydd sy’n deillio, neu’n debygol o ddeillio, o’i gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, ac y’u cymerir i ystyriaeth, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), fod yn enillion net y ceisydd.

(2Rhaid diystyru, o enillion net y ceisydd, unrhyw swm, pan fo’n gymwys, a bennir ym mharagraffau 1 i 18 o Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion).

(3At ddibenion is-baragraff (1) rhaid cyfrifo’r enillion net, ac eithrio pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion gros y ceisydd o’r gyflogaeth honno dros y cyfnod asesu, llai—

(a)unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny ar gyfer—

(i)treth incwm;

(ii)cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC;

(b)hanner unrhyw swm a delir gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol;

(c)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (5) mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys sy’n daladwy gan y ceisydd; a

(d)os yw’r enillion hynny’n cynnwys taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac sy’n cyfateb i dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu dâl mabwysiadu statudol, unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny fel unrhyw gyfraniadau sy’n cyfateb i gyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfraniad cymwys” (“qualifying contribution”) yw unrhyw swm sy’n daladwy fesul cyfnod fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn personol.

(5Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys drwy luosi swm dyddiol y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y cyfraniad cymwys fel a ganlyn—

(a)os yw’r cyfraniad cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r cyfraniad cymwys yn berthynol iddo.

(6Pan amcangyfrifir enillion ceisydd o dan baragraff 10 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid cyfrifo enillion net y ceisydd hwnnw drwy gymryd i ystyriaeth yr enillion hynny dros y cyfnod asesu, llai—

(a)swm mewn perthynas â threth incwm, sy’n gyfwerth â’r swm a gyfrifir drwy gymhwyso i’r enillion hynny y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007(109) (lwfansau personol), fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd, ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhad personol sy’n ddidynadwy o dan yr is-baragraff hwn ar sail pro rata;

(b)swm sy’n gyfwerth â swm y cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol a fyddai’n daladwy gan y ceisydd o dan DCBNC mewn perthynas â’r enillion hynny pe bai cyfraniadau o’r fath yn daladwy; ac

(c)hanner unrhyw swm a fyddai’n daladwy gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol, pe bai’r enillion a amcangyfrifwyd felly yn enillion gwirioneddol.

Enillion enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

16.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth person nad yw’n bensiynwr fel enillydd hunangyflogedig, yw incwm gros y gyflogaeth.

(2Nid yw “enillion” yn cynnwys unrhyw daliad y cyfeirir ato ym mharagraff 31 neu 32 o Atodlen 9 (taliadau mewn perthynas â pherson a letyir gyda’r ceisydd o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol a thaliadau a wneir i’r ceisydd gan awdurdod iechyd, awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol mewn perthynas â phersonau sydd yng ngofal y ceisydd dros dro) nac unrhyw ddyfarniad chwaraeon.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)breindaliadau neu symiau eraill a delir yn gyfnewid am ddefnyddio, neu’r hawl i ddefnyddio, unrhyw hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach; neu

(b)unrhyw daliad mewn perthynas ag—

(i)unrhyw lyfr a gofrestrwyd o dan Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982; neu

(ii)unrhyw waith a wnaed o dan unrhyw gynllun hawliau benthyg i’r cyhoedd rhyngwladol cyfatebol i Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982,

pan fo’r ceisydd yn berchennog cyntaf yr hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach, neu’n gyfrannwr gwreiddiol i’r llyfr neu’r gwaith dan sylw.

(4Pan fo enillion y ceisydd yn cynnwys unrhyw eitemau y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddynt, rhaid cymryd yr enillion hynny i ystyriaeth dros gyfnod o’r nifer o wythnosau sy’n hafal i’r rhif a geir (a rhaid trin unrhyw ffracsiwn fel y ffracsiwn cyfatebol o wythnos) drwy rannu’r enillion gyda—

(a)swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael pe na bai’r taliad wedi ei wneud, plws

(b)swm sy’n hafal i gyfanswm y symiau y byddid yn eu diystyru o’r taliad o dan Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion) fel y bo’n briodol yn achos y ceisydd.

Cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

17.—(1Yn achos ceisydd nad yw’n bensiynwr, at ddibenion paragraff 12 (incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid i’r incwm nad yw’n enillion a gymerir i ystyriaeth, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (6), fod yn incwm gros y ceisydd hwnnw ynghyd ag unrhyw gyfalaf a drinnir fel incwm o dan baragraff 18 (cyfalaf a drinnir fel incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(2Wrth gyfrifo incwm gros ceisydd o dan is-baragraff (1), rhaid diystyru unrhyw swm, pan fo’n gymwys, a bennir yn Atodlen 9.

(3Os yw’r taliad o unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad ynglŷn ag adennill, y swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw’r swm gros sy’n daladwy.

(4Pan fo’r ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, partner y ceisydd, yn cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol a’r budd-dal hwnnw wedi ei leihau o dan reoliad 63 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, y swm o’r budd-dal hwnnw sydd i’w gymryd i ystyriaeth yw’r swm fel pe na bai wedi ei leihau.

(5Pan fo dyfarniad o unrhyw gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant o dan Ddeddf Credydau Treth 2002(110) yn ddarostyngedig i ddidyniad ar gyfer adennill gordaliad o gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddigwyddodd mewn blwyddyn dreth flaenorol, y swm y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw swm y credyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddyfarnwyd llai swm y didyniad hwnnw.

(6Mae is-baragraffau (7) ac (8) yn gymwys pan fo—

(a)taliad perthnasol wedi ei wneud i berson mewn blwyddyn academaidd; a

(b)y person hwnnw’n gadael ei gwrs astudio, neu’n cael ei ddiarddel ohono, cyn bo’r rhandaliad olaf o’r taliad perthnasol wedi ei dalu i’r person hwnnw.

(7Pan fo taliad perthnasol yn cael ei wneud fesul chwarter, rhaid cyfrifo swm y taliad perthnasol sydd i’w gymryd i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod asesu at ddibenion is-baragraff (1) mewn perthynas â pherson y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo drwy gymhwyso’r fformiwla—

pan fo—

  • A = cyfanswm y taliad perthnasol y byddai’r person hwnnw wedi ei gael pe bai’r person hwnnw wedi parhau’n fyfyriwr tan ddiwrnod olaf y tymor academaidd pan adawodd y person hwnnw y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono, llai unrhyw ddidyniad o dan baragraff 9(5) o Atodlen 11 (costau teithio, llyfrau a chyfarpar);

  • B = nifer yr wythnosau gostyngiad o’r wythnos ostyngiad yn union ar ôl honno sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno i’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys y diwrnod pan adawodd y person hwnnw y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono;

  • C = swm wythnosol y taliad perthnasol, cyn gweithredu’r diystyriad o £10 y byddid wedi ei gymryd i ystyriaeth fel incwm o dan baragraff 9(2) o Atodlen 11 (trin benthyciadau myfyriwr) pe na bai’r person wedi gadael y cwrs neu wedi ei ddiarddel ohono ac, yn achos person nad oedd hawl ganddo i ostyngiad o dan gynllun awdurdod yn union cyn iddo adael y cwrs neu gael ei ddiarddel ohono, pe bai’r person hwnnw, ar y pryd hwnnw, wedi bod â hawl i gael budd-dal tai;

  • D = nifer yr wythnosau gostyngiad yn y cyfnod asesu.

(8Pan wneir taliad perthnasol mewn dau neu ragor o randaliadau mewn chwarter, rhaid cyfrifo swm y taliad perthnasol sydd i’w gymryd i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod asesu at ddibenion is-baragraff (1) mewn perthynas â pherson y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (7), ond fel pe bai—

A= cyfanswm y taliadau perthnasol a gafodd y person hwnnw neu y byddai wedi eu cael, o ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd hyd at y diwrnod pan adawodd y person hwnnw y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono, llai unrhyw ddidyniad o dan baragraff 9(5) o Atodlen 11.

(9Yn y paragraff hwn—

mae i “blwyddyn academaidd” (“academic year”) a “benthyciad myfyriwr” (“student loan”) yr un ystyron ag yn Atodlen 11 (myfyrwyr);

ystyr “cyfnod asesu” (“assessment period”) yw—

(a)

mewn achos pan wneir taliad perthnasol fesul chwarter, y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys y diwrnod pan adawodd y person y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys diwrnod olaf y chwarter olaf yr oedd rhandaliad o’r taliad perthnasol yn daladwy ar ei gyfer i’r person hwnnw;

(b)

mewn achos pan wneir y taliad perthnasol mewn dau neu ragor o randaliadau bob chwarter y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys y diwrnod pan adawodd y person y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys—

(i)

y diwrnod yn union cyn y diwrnod pan fyddai’r rhandaliad nesaf o’r taliad perthnasol wedi bod yn ddyladwy pe bai’r taliadau wedi parhau; neu

(ii)

diwrnod olaf y chwarter olaf yr oedd rhandaliad o’r taliad perthnasol yn daladwy i’r person hwnnw ar ei gyfer,

pa un bynnag o’r dyddiadau hynny yw’r cynharaf;

ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â chyfnod asesu yw cyfnod yn y flwyddyn honno sy’n cychwyn ar—

(a)

1 Ionawr ac yn diweddu ar 31 Mawrth;

(b)

1 Ebrill ac yn diweddu ar 30 Mehefin;

(c)

1 Gorffennaf ac yn diweddu ar 31 Awst; neu

(d)

1 Medi ac yn diweddu ar 31 Rhagfyr;

ystyr “taliad perthnasol” (“relevant payment”) yw naill ai benthyciad myfyriwr neu swm a fwriedir ar gyfer cynhaliaeth dibynyddion, y cyfeirir ato ym mharagraff 4(7) o Atodlen 11 neu’r ddau.

(10Er mwyn osgoi amheuaeth, rhaid cynnwys fel incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1)—

(a)unrhyw daliad y mae paragraff 14(2) (taliadau ac eithrio enillion) yn gymwys iddo; neu

(b)yn achos ceisydd sy’n cael cymorth o dan adran 95 neu 98 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(111), gan gynnwys cymorth a ddarperir yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, swm y cymorth o’r fath a ddarperir mewn perthynas ag anghenion byw hanfodol y ceisydd a dibynyddion y ceisydd (os oes rhai), fel y pennir mewn rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

Cyfalaf a drinnir fel incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr

18.—(1Rhaid trin fel incwm unrhyw gyfalaf sy’n daladwy mewn rhandaliadau sy’n orddyledus ar y dyddiad y gwneir y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, neu ar ddyddiad unrhyw ddiwygiad neu ddisodliad diweddarach, os yw swm cyfanredol y rhandaliadau gorddyledus a swm cyfalaf y ceisydd a gyfrifir fel arall yn unol â pharagraffau 26 i 33 o’r Atodlen hon yn fwy nag £16,000.

(2Rhaid trin fel incwm unrhyw daliad a geir o dan flwydd-dal.

(3Rhaid trin unrhyw enillion i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, fel pe baent yn incwm.

(4Rhaid trin unrhyw Fenthyciad Datblygu Gyrfa a delir yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 fel pe bai’n incwm.

(5Pan fo cytundeb neu orchymyn llys yn darparu bod rhaid gwneud taliadau i’r ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd a bod y cyfryw daliadau i gael eu gwneud, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ar ffurf taliadau cyfnodol, rhaid trin unrhyw daliadau cyfnodol o’r fath a gaiff y ceisydd (ond nid taliad sydd i’w drin fel cyfalaf yn rhinwedd y Rhan hon) fel pe bai’n incwm.

Incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr

19.—(1Rhaid trin ceisydd nad yw’n bensiynwr fel pe bai’n meddu incwm y mae’r ceisydd hwnnw wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o sicrhau hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu gynyddu swm y gostyngiad.

(2Ac eithrio yn achos—

(a)ymddiriedolaeth ddisgresiynol;

(b)ymddiriedolaeth sy’n deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i niwed personol;

(c)cynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn galwedigaethol neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau pan nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth;

(d)unrhyw swm y mae paragraff 48(2)(a) o Atodlen 10 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru) yn gymwys iddo, a weinyddir yn y modd y cyfeirir ato ym mharagraff 48(1)(a) o’r Atodlen honno;

(e)unrhyw swm y mae paragraff 49(a) o Atodlen 10 yn cyfeirio ato;

(f)lwfans adsefydlu a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;

(g)credyd treth plant;

(h)credyd treth gwaith, neu

(i)unrhyw swm y mae is-baragraff (11) yn gymwys iddo,

rhaid trin unrhyw incwm, a fyddai wedi bod ar gael i’r ceisydd pe bai wedi gwneud cais amdano, ond nas caffaelwyd gan y ceisydd, fel pe bai’r ceisydd yn meddu’r incwm hwnnw ond hynny yn unig, o’r dyddiad y gellid disgwyl caffael yr incwm pe byddid wedi gwneud cais.

(3Rhaid trin unrhyw daliad o incwm, ac eithrio taliad o incwm a bennir yn is-baragraff (4), a wneir—

(a)i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan fo’r taliad hwnnw’n daliad o bensiwn galwedigaethol, pensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau, fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, yr aelod hwnnw;

(b)i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan nad yw’n daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (a), fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu’r aelod hwnnw, i’r graddau y’i defnyddir ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, unrhyw aelod o’r teulu hwnnw, neu y’i defnyddir ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt;

(c)i geisydd sengl neu aelod o’r teulu mewn perthynas â thrydydd parti (ond nid mewn perthynas ag aelod arall o’r teulu hwnnw) fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, yr aelod hwnnw o’r teulu, i’r graddau y’i cedwir neu y’i defnyddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu y’i defnyddir gan neu ar ran unrhyw aelod o’r teulu.

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thaliad o incwm a wneir—

(a)o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006);

(b)yn unol ag adran 19(1)(a) o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994(112) (glo consesiynol);

(c)yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 mewn perthynas â chyfranogiad person—

(i)mewn rhaglen gyflogaeth yn yr ystyr o “employment programme” a bennir yn rheoliad 75(1)(a) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(113);

(ii)mewn cynllun hyfforddi yn yr ystyr o “training scheme” a bennir yn rheoliad 75(1)(b) o’r Rheoliadau hynny; neu

(iii)mewn cwrs cymwys yn yr ystyr o “qualifying course” a bennir yn rheoliad 17A(7) o’r Rheoliadau hynny;

(d)mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal;

(e)mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol;

(f)mewn perthynas â chyfranogiad ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter;

(g)o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, mewn perthynas â phensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau—

(i)pan fo gorchymyn methdaliad wedi ei wneud mewn perthynas â’r person y gwnaed y taliad mewn perthynas ag ef neu, yn yr Alban, ystad y person hwnnw’n destun secwestraeth, neu oruchwyliwr barnwrol wedi ei benodi ar ystad y person hwnnw o dan adran 41 o Ddeddf Cyfreithwyr (Yr Alban) 1980(114);

(ii)pan fo’r taliad wedi ei wneud i ymddiriedolwr mewn methdaliad neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran y credydwyr; a

(iii)pan nad yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) nac unrhyw aelod o deulu’r person hwnnw yn meddu, neu pan na thrinnir hwy fel pe baent yn meddu unrhyw incwm arall ar wahân i’r taliad hwnnw.

(5Pan fo ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal a chyfradd y budd-dal hwnnw’n newid gydag effaith o ddyddiad ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, ond ddim mwy na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r budd-dal hwnnw ar y gyfradd ddiwygiedig, naill ai o 1 Ebrill neu o’r dydd Llun cyntaf yn Ebrill yn y flwyddyn honno, pa un bynnag o’r dyddiadau hynny bydd yr awdurdod yn ei ddewis, hyd at y dyddiad y bydd y gyfradd ddiwygiedig yn cael effaith.

(6Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7)—

(a)pan fo ceisydd yn cyflawni gwasanaeth i berson arall; a

(b)pan nad yw’r person hwnnw’n gwneud unrhyw daliad o enillion neu’n talu llai na’r hyn a delir am gyflogaeth gymaradwy yn yr ardal,

rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu pa bynnag enillion (os oes rhai) sy’n rhesymol am y gyflogaeth honno, oni all y ceisydd fodloni’r awdurdod nad oes gan y person hwnnw fodd digonol i’w alluogi i dalu, neu i dalu rhagor, am y gwasanaeth.

(7Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)i geisydd a gymerir ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu sy’n wirfoddolwr, os bodlonir yr awdurdod, mewn unrhyw un o’r achosion hynny, ei bod yn rhesymol i’r ceisydd ddarparu’r gwasanaethau hynny yn ddi-dâl; neu

(b)mewn achos pan gyflawnir y gwasanaeth mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)cyfranogiad y ceisydd mewn rhaglen gyflogaeth neu hyfforddiant yn yr ystyr a roddir i “employment or training programme” gan reoliad 19(1)(q) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996; neu

(ii)cyfranogiad y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn rhaglen gyflogaeth neu hyfforddiant, yn yr ystyr a roddir i “employment or training programme” fel y’i diffinnir gan reoliad 19(3) o’r Rheoliadau hynny, pan nad oes lwfans hyfforddi yn daladwy ar gyfer y rhaglen honno, neu, os oes lwfans o’r fath yn daladwy, pan fo’n daladwy at yr unig ddiben o ad-dalu treuliau ynglŷn â theithio neu brydau bwyd i’r person sy’n cymryd rhan yn y rhaglen honno; neu

(c)i geisydd sy’n cymryd rhan mewn lleoliad gwaith a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (neu berson sy’n darparu gwasanaethau i’r Ysgrifennydd Gwladol) cyn dechrau’r lleoliad.

(8Yn is-baragraff (7)(c) ystyr “lleoliad gwaith” (“work placement”) yw profiad gwaith ymarferol a ymgymerir heb ddisgwyl cael tâl amdano.

(9Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw incwm o dan unrhyw un o’r is-baragraffau (1) i (8), mae darpariaethau blaenorol y Rhan hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm yr incwm hwnnw, fel pe bai taliad wedi ei wneud mewn gwirionedd ac fel pe bai’n incwm gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.

(10Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw enillion o dan is-baragraff (6), mae darpariaethau blaenorol y Rhan hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm yr enillion hynny fel pe bai taliad wedi ei wneud mewn gwirionedd ac fel pe baent yn enillion gwirioneddol a feddir gan y ceisydd, ac eithrio nad yw paragraff 15(3) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys a bod rhaid cyfrifo enillion net y ceisydd hwnnw drwy gymryd i ystyriaeth yr enillion hynny y trinnir y ceisydd hwnnw fel pe bai’n ei meddu, llai—

(a)swm mewn perthynas â threth incwm, sy’n hafal i swm a gyfrifir drwy gymhwyso i’r enillion hynny y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwysadwy i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007 (lwfansau personol) fel sy’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd; ond, pan fo’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir iddynt y gyfradd dreth sylfaenol a swm y rhyddhad personol didynadwy o dan yr is-baragraff hwn, ar sail pro rata;

(b)swm sy’n hafal i swm y cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol a fyddai’n daladwy gan y ceisydd o dan DCBNC mewn perthynas â’r enillion hynny pe bai cyfraniadau o’r fath yn daladwy; ac

(c)hanner unrhyw swm sy’n daladwy gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol.

(11Nid yw is-baragraffau (1), (2), (3) a (6) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw swm o incwm ac eithrio enillion, neu enillion enillydd cyflogedig, sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

PENNOD 5Incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr

Cyfrifo incwm ar sail wythnosol

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 23 (diystyru newidiadau mewn treth, etc), rhaid cyfrifo incwm ceisydd ar sail wythnosol fel a ganlyn—

(a)drwy amcangyfrif y swm sy’n debygol o fod yn incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn unol â’r Rhan hon;

(b)drwy ychwanegu at y swm hwnnw yr incwm wythnosol a gyfrifwyd o dan baragraff 33 (incwm tariff); ac

(c)drwy ddidynnu wedi hynny unrhyw gostau gofal plant perthnasol y mae paragraff 21 (trin costau gofal plant) yn gymwys iddynt, o unrhyw enillion sy’n ffurfio rhan o’r incwm wythnosol cyfartalog neu, mewn achos pan fo’r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, eu didynnu o’r enillion hynny plws pa gredyd bynnag a bennir sy’n briodol ym mharagraff (b) o’r is-baragraff hwnnw, hyd at yr uchafswm didyniad mewn perthynas â theulu’r ceisydd, sef pa un bynnag o’r symiau a bennir yn is-baragraff (3) sy’n gymwys yn achos y ceisydd.

(2Amodau’r paragraff hwn yw’r canlynol—

(a)bod enillion y ceisydd sy’n ffurfio rhan o incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn llai na’r lleiaf o naill ai gostau gofal plant perthnasol y ceisydd neu pa un bynnag o’r didyniadau a bennir ym mharagraff (3) sydd, fel arall, yn gymwys yn achos y ceisydd; a

(b)bod y ceisydd hwnnw neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, naill ai’r ceisydd neu bartner y ceisydd, yn cael naill ai credyd treth gwaith neu gredyd treth plant.

(3Uchafswm y didyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) uchod fydd—

(a)pan fo teulu’r ceisydd yn cynnwys un plentyn yn unig, y telir costau gofal plant perthnasol mewn perthynas ag ef, £175 yr wythnos;

(b)pan fo teulu’r ceisydd yn cynnwys mwy nag un plentyn, y telir costau gofal plant perthnasol mewn perthynas â hwy, £300 yr wythnos.

Trin costau gofal plant

21.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd (o fewn ystyr y paragraff hwn) yn tynnu costau gofal plant perthnasol ac—

(a)yn unig riant ac yn ymgymryd â gwaith am dâl;

(b)yn aelod o gwpl, a’r ddau ohonynt yn ymgymryd â gwaith am dâl; neu

(c)yn aelod o gwpl y mae un ohonynt yn ymgymryd â gwaith am dâl a’r llall—

(i)yn analluog;

(ii)yn glaf mewnol mewn ysbyty; neu

(iii)mewn carchar (boed wedi ei ddedfrydu i garchar neu ar remánd yn y ddalfa tra’n aros treial neu ddedfryd).

(2At ddibenion is-baragraff (1) ac yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid trin person y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 wythnos pan fo’r person—

(a)yn cael tâl salwch statudol;

(b)yn cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar y gyfradd isaf o dan adrannau 30A i 30E o DCBNC;

(c)yn cael lwfans cyflogaeth a chymorth;

(d)yn cael cymhorthdal incwm ar sail analluedd i weithio o dan reoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(115) a pharagraff 7 neu 14 o Atodlen 1B i’r Rheoliadau hynny; neu

(e)yn cael ei gredydu ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975(116).

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson a oedd yn ymgymryd â gwaith am dâl yn union cyn—

(a)diwrnod cyntaf y cyfnod y telir i’r person hwnnw gyntaf dâl salwch statudol, budd-dal analluogrwydd byrdymor, lwfans cyflogaeth a chymorth neu gymhorthdal incwm ar sail analluedd i weithio; neu

(b)diwrnod cyntaf y cyfnod y credydir enillion mewn perthynas ag ef,

yn ôl fel y digwydd.

(4Mewn achos pan fo is-baragraff (2)(d) neu (e) yn gymwys, mae’r cyfnod o 28 wythnos yn cychwyn ar y diwrnod y telir cymhorthdal incwm gyntaf i’r person hwnnw, neu’r diwrnod cyntaf y credydir enillion iddo mewn perthynas ag ef, yn ôl fel y digwydd.

(5Costau gofal plant perthnasol yw’r costau gofal hynny y mae is-baragraffau (6) a (7) yn gymwys iddynt, a rhaid eu cyfrifo ar sail wythnosol yn unol ag is-baragraff (10).

(6Telir y costau gan y ceisydd, am ofal a ddarperir—

(a)yn achos unrhyw blentyn o deulu’r ceisydd nad yw’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r plentyn ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn pymthegfed pen-blwydd y plentyn hwnnw; neu

(b)yn achos unrhyw blentyn o deulu’r ceisydd sy’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r plentyn ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y plentyn hwnnw.

(7Telir y costau am ofal a ddarperir gan un neu ragor o’r darparwyr gofal a restrir yn is-baragraff (8) ac ni thelir hwy—

(a)mewn perthynas ag addysg orfodol y plentyn;

(b)gan geisydd i’w bartner na chan ei bartner i geisydd, mewn perthynas ag unrhyw blentyn y mae’r naill neu’r llall, neu unrhyw rai ohonynt yn gyfrifol amdano yn unol â rheoliad 7 (amgylchiadau pan fo person i gael ei drin fel pe bai’n gyfrifol neu ddim yn gyfrifol am berson arall); neu

(c)mewn perthynas â gofal a ddarperir gan berthynas i’r plentyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y plentyn.

(8Caniateir darparu’r gofal y cyfeirir ato yn is-baragraff (7)—

(a)y tu allan i oriau ysgol, gan ysgol neu mewn mangre ysgol gan awdurdod lleol —

(i)i blant nad ydynt yn anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar eu hwythfed pen-blwydd ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn eu pymthegfed pen-blwydd; neu

(ii)i blant sy’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar eu hwythfed pen-blwydd ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn eu hunfed pen-blwydd ar bymtheg; neu

(b)gan ddarparwr gofal plant a gymeradwywyd yn unol â Rheoliadau Credyd Treth (Categori Newydd o Ddarparwyr Gofal Plant) 1999(117); neu

(c)gan bersonau a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(118); neu

(d)gan berson a eithrir rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 oherwydd bod y gofal plant a ddarperir gan y person hwnnw mewn ysgol neu mewn sefydliad y cyfeirir atynt yn erthygl 11, 12 neu 14 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(119); neu

(e)gan—

(i)personau a gofrestrwyd o dan adran 59(1) o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(120); neu

(ii)awdurdodau lleol a gofrestrwyd o dan adran 83(1) o’r Ddeddf honno,

os y gofal a ddarperir yw gwarchod plant neu’n ofal dydd ar gyfer plant yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “child minding” a “day care of children” yn y Ddeddf honno; neu

(f)gan berson a ragnodir mewn rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 12(4) o Ddeddf Credydau Treth 2002; neu

(g)gan berson a gofrestrwyd o dan Bennod 2 neu 3 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006; neu

(h)gan unrhyw un o’r ysgolion a grybwyllir yn adran 34(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006(121) mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofyniad i gofrestru o dan Bennod 2 o Ran 3 o’r Ddeddf honno yn gymwys, yn rhinwedd adran 34(2) o’r Ddeddf honno; neu

(i)gan unrhyw un o’r ysgolion a grybwyllir yn adran 53(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofyniad i gofrestru o dan Bennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf honno yn gymwys, yn rhinwedd adran 53(2) o’r Ddeddf honno; neu

(j)gan unrhyw un o’r sefydliadau a grybwyllir yn adran 18(5) o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofal yn gynwysedig yn ystyr “childcare” at ddibenion Rhan 1 a Rhan 3 y Ddeddf honno yn rhinwedd adran 18(5) o’r Ddeddf honno; neu

(k)gan riant maeth neu ofalwr-berthynas o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011(122), Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(123) neu Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009(124) mewn perthynas â phlentyn ac eithrio’r plentyn a faethir gan y rhiant maeth neu’r plentyn sy’n derbyn gofal gan y gofalwr-berthynas; neu

(l)gan weithiwr gofal cartref o dan Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(125); neu

(m)gan berson nad yw’n berthynas i’r plentyn, yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y plentyn.

(9Yn is-baragraffau (6) ac (8)(a), ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod y mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

(10Rhaid amcangyfrif y costau gofal plant perthnasol dros ba bynnag gyfnod, o ddim mwy na blwyddyn, sy’n briodol ar gyfer amcangyfrif yn gywir y gost wythnosol gyfartalog, gan roi sylw i wybodaeth a ddarperir gan y gwarchodwr plant neu’r person sy’n darparu’r gofal, ynghylch swm y tâl a godir.

(11At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae’r aelod arall o gwpl yn analluog—

(a)os yw swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd oherwydd analluedd yr aelod arall neu’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith oherwydd galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith;

(b)os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd wedi cynnwys premiwm anabledd oherwydd analluedd yr aelod arall pe na bai’r aelod arall hwnnw’n cael ei drin fel pe bai’n alluog i weithio, yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 171E o DCBNC;

(c)os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd wedi cynnwys yr elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith oherwydd galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith pe na bai’r aelod arall hwnnw’n cael ei drin fel pe na bai ei alluedd i weithio yn gyfyngedig, yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008;

(d)os yw’r ceisydd yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, ac wedi bod yn analluog felly neu’n cael ei drin felly yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(e)os yw galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, neu os trinnir ef fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, ac os bu ganddo, neu os triniwyd ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 84 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(f)os yw un neu ragor o’r pensiynau neu lwfansau canlynol yn daladwy mewn perthynas â’r aelod arall—

(i)budd-dal analluogrwydd hirdymor neu fudd-dal analluogrwydd byrdymor ar y raddfa uwch o dan Atodlen 4 i DCBNC;

(ii)lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC;

(iii)lwfans anabledd difrifol o dan adran 68 o DCBNC;

(iv)lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o DCBNC;

(v)taliad annibyniaeth bersonol o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;

(vi)TALlA;

(vii)cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 o DCBNC;

(viii)cynnydd mewn pensiwn a delir fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel neu o dan gynllun anafiadau diwydiannol sy’n cyfateb i lwfans neu gynnydd mewn pensiwn anabledd o dan is-baragraff (ii), (iv), (v) neu (vii) uchod;

(ix)lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd;

(g)os bu pensiwn neu lwfans y cyfeirir ato yn is-baragraff (vi) neu (vii) o baragraff (f) yn daladwy oherwydd analluedd yr aelod arall, ond peidiodd â bod yn daladwy o ganlyniad i’r aelod hwnnw ddod yn glaf, ac yn y paragraff hwn, ystyr claf yw person (ac eithrio person sy’n gwneud dedfryd o garchar neu’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad cadw ar gyfer pobl ifanc) yr ystyrir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol, yn yr ystyr a roddir i “receiving free in-patient treatment” gan reoliad 2(4) a (5) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005`(126);

(h)os byddai lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC neu lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o’r Ddeddf honno yn daladwy i’r person hwnnw oni bai am—

(i)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(ii)lleihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(i)os byddai’r elfen byw dyddiol o’r taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy i’r person hwnnw pe na bai y budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty);

(j)os byddai TALlA yn daladwy i’r person hwnnw pe na bai y taliad wedi ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

(k)os byddai paragraff (f), (g), (h) neu (i) yn gymwys i’r aelod arall pe bai’r darpariaethau deddfwriaethol y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny yn ddarpariaethau o dan unrhyw ddeddfiad cyfatebol sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon; neu

(l)os oes gan yr aelod arall gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd i’r aelod arall gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(127), neu a ddarparwyd gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(12At ddibenion is-baragraff (11), unwaith y bydd is-baragraff (11)(d) yn gymwys i’r ceisydd, os yw’r ceisydd wedyn, am gyfnod o 56 diwrnod neu lai, yn peidio â bod yn analluog i weithio, neu gael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â’r ceisydd yn analluog i weithio drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai’n analluog i weithio, bydd yr is-baragraff hwnnw yn gymwys i’r ceisydd ar unwaith, cyhyd ag y bo’r ceisydd yn parhau’n analluog i weithio, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai’n analluog i weithio.

(13At ddibenion is-baragraff (11), unwaith y bydd is-baragraff (11)(e) yn gymwys i’r ceisydd, os yw galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith wedyn yn peidio â bod yn gyfyngedig, neu os peidir â’i drin fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, am gyfnod o 84 diwrnod neu lai, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai ei allu’n gyfyngedig, bydd yr is-baragraff hwnnw yn gymwys i’r ceisydd ar unwaith, cyhyd ag y bo galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn parhau’n gyfyngedig, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig.

(14At ddibenion is-baragraffau (6) ac (8)(a), mae person yn anabl os yw’r person hwnnw yn berson—

(a)y mae lwfans gweini neu elfen ofal y lwfans anabledd yn daladwy iddo, neu y byddai’n daladwy iddo oni bai am—

(i)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(ii)lleihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(b)y mae elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy iddo neu y byddai’n daladwy iddo oni bai am atal y budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty);

(c)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994(128);

(d)y peidiodd â bod yn gofrestredig fel person dall mewn cofrestr o’r fath, o fewn y cyfnod sy’n cychwyn 28 wythnos cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn pymthegfed pen-blwydd y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod yn union cyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw; neu

(e)y mae TALlA yn daladwy iddo.

(15At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin person sydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl am y cyfnod a bennir yn is-baragraff (16) (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod—

(a)bod y person hwnnw’n gweithio am dâl yn ystod yr wythnos sy’n rhagflaenu’r cyfnod o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu;

(b)bod y person hwnnw’n tynnu costau gofal plant perthnasol o fewn ystyr is-baragraff (5); ac

(c)bod hawl gan y person hwnnw i gael naill ai tâl mamolaeth statudol o dan adran 164 o DCBNC, tâl tadolaeth cyffredin yn rhinwedd adran 171ZA neu 171ZB o’r Ddeddf honno, tâl tadolaeth statudol ychwanegol yn rhinwedd adran 171ZEA neu 171ZEB o’r Ddeddf honno, tâl mabwysiadu statudol yn rhinwedd adran 171ZL o’r Ddeddf honno, lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno neu gymhorthdal cymwys.

(16At ddibenion is-baragraff (15) mae’r cyfnod perthnasol yn cychwyn ar y diwrnod y mae absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu y person hwnnw’n cychwyn, a daw i ben ar—

(a)y dyddiad y daw’r absenoldeb hwnnw i ben;

(b)os na thelir yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith ar y dyddiad y daw’r hawlogaeth i lwfans mamolaeth, cymhorthdal cymwys (os yw’n berthnasol), tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu’r tâl mabwysiadu statudol i ben, y dyddiad y daw’r hawlogaeth honno i ben; neu

(c)os telir yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith ar y dyddiad y daw’r hawlogaeth i lwfans mamolaeth neu gymhorthdal cymwys, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol, neu’r tâl mabwysiadu statudol i ben, y dyddiad y daw’r hawlogaeth i’r dyfarniad o’r elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith i ben,

pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

(17Yn is-baragraffau (15) ac (16)—

(a)ystyr “cymhorthdal cymwys” (“qualifying support”) yw cymhorthdal incwm y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael yn rhinwedd paragraff 14B o Atodlen 1B i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987; a

(b)ystyr “elfen gofal plant” (“child care element”) o’r credyd treth gwaith yw’r elfen o’r credyd treth gwaith a ragnodir o dan adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002 (elfen gofal plant).

(18Yn y paragraff hwn nid yw “ceisydd” (“applicant”) yn cynnwys ceisydd—

(a)y mae ganddo, neu

(b)y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol.

Cyfrifiadau o’r incwm wythnosol cyfartalog o gredydau treth

22.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd yn cael credyd treth.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, y cyfnod y mae’n rhaid cymryd y credyd treth i ystyriaeth drosto yw’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (3).

(3Os yw’r rhandaliad, y gwneir y taliad o gredyd treth ynddo—

(a)yn rhandaliad dyddiol, y cyfnod yw 1 diwrnod, sef y diwrnod y telir y rhandaliad mewn perthynas ag ef;

(b)yn rhandaliad wythnosol, y cyfnod yw 7 diwrnod, yn diweddu ar y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu;

(c)yn rhandaliad mewn perthynas â dwy wythnos, y cyfnod yw 14 diwrnod, yn cychwyn 6 diwrnod cyn y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu;

(d)yn rhandaliad mewn perthynas â phedair wythnos, y cyfnod yw 28 diwrnod, yn diweddu ar y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu.

(4At ddibenion y paragraff hwn ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth plant neu gredyd treth gwaith.

Diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc

23.  Wrth gyfrifo incwm ceisydd, caiff awdurdod ddiystyru unrhyw newid deddfwriaethol—

(a)yng nghyfradd sylfaenol neu gyfraddau eraill y dreth incwm;

(b)yn swm unrhyw ryddhad treth personol;

(c)yng nghyfraddau cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC neu yn y terfyn enillion isaf neu’r terfyn enillion uchaf ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 1 o dan y Ddeddf honno, y terfynau uchaf neu isaf sy’n gymwys i gyfraniadau Dosbarth 4 o dan y Ddeddf honno neu’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel mewn perthynas â chyfraniadau Dosbarth 2);

(d)yn swm y dreth sy’n daladwy o ganlyniad i gynnydd yn y gyfradd wythnosol o bensiwn ymddeol Categori A, B, C neu D neu unrhyw ychwanegiad ato neu unrhyw bensiwn graddedig sy’n daladwy o dan DCBNC;

(e)yn y gyfradd uchaf o gredyd treth plant neu gredyd treth gwaith,

am gyfnod ddim hwy na 30 wythnos ostyngiad, sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad yn union ar ôl y dyddiad y daw’r newid yn effeithiol.

Cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig

24.—(1At ddibenion paragraff 11 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig), enillion y ceisydd y mae’n rhaid eu cymryd i ystyriaeth yw’r canlynol—

(a)yn achos enillydd hunangyflogedig sy’n ymgymryd â chyflogaeth ar ei ran ei hun, yr elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno;

(b)yn achos enillydd hunangyflogedig sy’n bensiynwr ac yn ymgymryd â’i gyflogaeth mewn partneriaeth, cyfran y person hwnnw o’r elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno, llai—

(i)swm mewn perthynas â threth incwm a chyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC, a gyfrifir yn unol â pharagraff 25 (cyfrifo didynnu treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

(ii)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys;

(c)yn achos enillydd hunangyflogedig nad yw’n bensiynwr ac sy’n ymgymryd â chyflogaeth mewn partneriaeth, neu gyflogaeth fel pysgotwr cyfran yn yr ystyr a roddir i “share fisherman” gan Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau Llongwyr) 1975(129), cyfran y person hwnnw o’r elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno, llai—

(i)swm mewn perthynas â threth incwm a chyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC, a gyfrifir yn unol â pharagraff 25 (cyfrifo didynnu treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

(ii)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(2Rhaid diystyru, o elw net ceisydd nad yw’n bensiynwr, unrhyw swm, pan fo’n gymwys, a bennir ym mharagraffau 1 i 16 o Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion).

(3At ddibenion is-baragraff (1)(a) rhaid cyfrifo elw net y gyflogaeth, ac eithrio pan fo is-baragraff (9) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion y gyflogaeth dros y cyfnod asesu, llai—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) i (8), unrhyw dreuliau a dynnir yn gyfan gwbl ac yn unig yn y cyfnod hwnnw at ddibenion y gyflogaeth honno;

(b)swm mewn perthynas ag—

(i)treth incwm; a

(ii)cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC,

a gyfrifir yn unol â pharagraff 25 (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); ac

(c)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(4At ddibenion is-baragraff (1)(b) rhaid cyfrifo elw net y gyflogaeth drwy gymryd i ystyriaeth enillion y gyflogaeth dros y cyfnod asesu llai, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) i (8), unrhyw dreuliau a dynnir yn gyfan gwbl ac yn unig yn y cyfnod hwnnw at ddibenion y gyflogaeth honno.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad o dan baragraff (3)(a) neu (4), mewn perthynas ag—

(a)unrhyw wariant cyfalaf;

(b)dibrisiant unrhyw ased cyfalaf;

(c)unrhyw swm a ddefnyddiwyd neu y bwriedir ei ddefnyddio i sefydlu neu ehangu’r gyflogaeth;

(d)unrhyw golled a dynnwyd cyn dechrau’r cyfnod asesu;

(e)ad-daliad o’r cyfalaf mewn unrhyw fenthyciad a gymerwyd at ddibenion y gyflogaeth;

(f)unrhyw dreuliau a dynnwyd wrth ddarparu adloniant busnes; ac

(g)yn achos ceisydd nad yw’n bensiynwr, unrhyw ddyledion, ac eithrio drwg-ddyledion y profwyd eu bod yn ddrwg-ddyledion, ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw dreuliau a dynnir wrth adennill dyled.

(6Rhaid gwneud didyniad o dan is-baragraff (3)(a) neu (4) mewn perthynas ag ad-dalu’r cyfalaf mewn unrhyw fenthyciad a ddefnyddiwyd ar gyfer—

(a)amnewid cyfarpar neu beiriannau yng nghwrs busnes; neu

(b)atgyweirio ased busnes presennol, ac eithrio i’r graddau y mae unrhyw swm yn daladwy o dan bolisi yswiriant ar gyfer ei atgyweirio.

(7Rhaid i’r awdurdod wrthod gwneud didyniad mewn perthynas ag unrhyw dreuliau o dan is-baragraff (3)(a) neu (4) os na fodlonwyd yr awdurdod, o ystyried natur a swm y draul, ei bod wedi ei thynnu yn rhesymol.

(8Er mwyn osgoi amheuaeth—

(a)rhaid peidio â gwneud didyniad o dan is-baragraff (3)(a) neu (4) mewn perthynas ag unrhyw swm, oni wariwyd y swm hwnnw at ddibenion y busnes;

(b)rhaid gwneud didyniad o dan y naill neu’r llall o’r is-baragraffau hynny mewn perthynas ag—

(i)pan fo swm y dreth ar werth a dalwyd yn fwy na swm y dreth ar werth a dderbyniwyd yn y cyfnod asesu, y gwahaniaeth rhwng y ddau swm;

(ii)unrhyw incwm a wariwyd i atgyweirio ased busnes presennol ac eithrio i’r graddau y mae unrhyw swm yn daladwy o dan bolisi yswiriant ar gyfer ei atgyweirio;

(iii)unrhyw daliad o log ar fenthyciad a gymerwyd at ddibenion y gyflogaeth.

(9Pan fo ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth fel gwarchodwr plant, elw net y gyflogaeth fydd un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno, llai—

(a)swm mewn perthynas ag—

(i)treth incwm; a

(ii)cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC,

a gyfrifir yn unol â pharagraff 25 (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

(b)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(10Er mwyn osgoi amheuaeth, pan fo ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig a’r ceisydd hefyd yn ymgymryd ag un neu ragor o gyflogaethau eraill fel enillydd hunangyflogedig neu gyflogedig, rhaid peidio â gwrthbwyso unrhyw golled a dynnir mewn unrhyw un o gyflogaethau’r enillydd yn erbyn enillion y ceisydd mewn unrhyw un o’i gyflogaethau eraill.

(11Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys drwy luosi swm dyddiol y premiwm cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y premiwm cymwys fel a ganlyn—

(a)os yw’r premiwm cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y premiwm cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r premiwm cymwys yn berthynol iddo.

(12Yn y paragraff hwn, ystyr “premiwm cymwys” (“qualifying premium”) yw unrhyw bremiwm sy’n daladwy fesul cyfnod mewn perthynas â chynllun pensiwn personol ac yn daladwy felly ar neu ar ôl dyddiad y cais.

Cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig

25.—(1Rhaid cyfrifo’r swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â threth incwm o dan baragraff 24(1)(b)(i), (3)(b)(i) neu (9)(a)(i) (cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig)—

(a)ar sail swm yr incwm trethadwy, a

(b)fel pe bai’r incwm hwnnw’n asesadwy ar gyfer treth incwm ar y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35 i 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007(130) (lwfansau personol) fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd.

(2Ond, os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhad personol sy’n ddidynadwy o dan y paragraff hwn ar sail pro rata.

(3Y swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â chyfraniadau nawdd cymdeithasol o dan baragraff 24 (1)(b)(i), (3)(b)(ii) neu (9)(a)(ii) yw cyfanswm y canlynol—

(a)swm y cyfraniadau Dosbarth 2 sy’n daladwy o dan adran 11(1) o DCBNC neu, yn ôl fel y digwydd, adran 11(3) o DCBNC ar y gyfradd sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ac eithrio pan fo incwm trethadwy’r ceisydd yn llai na’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel) ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r swm a bennir ar gyfer y flwyddyn dreth honno pro rata; a

(b)swm y cyfraniadau Dosbarth 4 (os oes rhai) a fyddai’n daladwy o dan adran 15 o DCBNC (cyfraniadau Dosbarth 4 sy’n adenilladwy o dan y Deddfau Treth Incwm) ar y gyfradd ganrannol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ar gymaint o’r incwm trethadwy ag sydd uwchlaw’r terfyn isaf, ond nid uwchlaw’r terfyn uchaf o elwau a chynyddiadau cymwys ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r terfynau hynny pro rata.

(4Yn y paragraff hwn ystyr “incwm trethadwy” (“chargeable income”) yw—

(a)ac eithrio pan fo paragraff (b) yn gymwys, yr enillion sy’n deillio o gyflogaeth, llai unrhyw dreuliau a ddidynnwyd o dan is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (5) o baragraff 24;

(b)yn achos cyflogaeth fel gwarchodwr plant, un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno.

PENNOD 3Cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

Cyfrifo cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

26.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y cyfalaf y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth yn achos ceisydd yw’r cyfan o gyfalaf y ceisydd, fel y’i cyfrifir yn unol â’r Rhan hon ac unrhyw incwm a drinnir fel cyfalaf o dan baragraff 27 (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(2Wrth gyfrifo cyfalaf ceisydd o dan is-baragraff (1), rhaid diystyru, pan fo’n gymwys, unrhyw gyfalaf a bennir yn Atodlen 10, mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr.

(3Rhaid peidio â thrin cyfalaf plentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu ceisydd nad yw’n bensiynwr fel pe bai’n gyfalaf y ceisydd.

Incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

27.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr.

(2Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw haelrodd sy’n deillio o gyflogaeth, y mae paragraff 9 o Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion) yn gymwys iddi ac a delir fesul cyfnod o un flwyddyn o leiaf.

(3Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth incwm a ddidynnwyd o elwau neu daliadau trethadwy i dreth incwm o dan Atodlen D neu E.

(4Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw dâl gwyliau nad yw’n enillion o dan baragraff 14 (enillion enillwyr cyflogedig).

(5Ac eithrio unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf ac a ddiystyrir o dan baragraffau 4, 5, 7, 11, 17, 30 i 33, 48 neu 49 o Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf), rhaid trin fel cyfalaf unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf, ond hynny, yn unig, o’r dyddiad dyladwy arferol pan gredydir yr incwm hwnnw i gyfrif y ceisydd.

(6Yn achos cyflogaeth fel enillydd cyflogedig, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw flaen-daliad o enillion, neu unrhyw fenthyciad, a roddir i’r ceisydd gan ei gyflogwr.

(7Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw daliad elusennol neu wirfoddol nas gwneir ac nad yw’n ddyladwy fesul cyfnod rheolaidd, ac eithrio taliad a wneir o dan, neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006) neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

(8Rhaid trin fel cyfalaf dderbyniadau gros unrhyw weithgarwch masnachol a ymgymerir gan berson sy’n cael cymorth mewn perthynas â hynny o dan y llwybr hunangyflogaeth, ond hynny i’r graddau, yn unig, y talwyd y derbyniadau hynny i gyfrif arbennig yn ystod y cyfnod pan oedd y person hwnnw’n derbyn y cyfryw gymorth.

(9Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw ôl-ddyled o lwfans cynhaliaeth a delir i geisydd fel cyfandaliad.

(10Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw ôl-ddyled o gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant.

Cyfrifo cyfalaf yn y Deyrnas Unedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

28.  Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan geisydd yn y Deyrnas Unedig yn ôl ei werth presennol ar y farchnad neu ei werth ildio, llai—

(a)10 y cant, os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant; a

(b)swm unrhyw lyffethair a sicrhawyd ar y cyfalaf.

Cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

29.  Rhaid cyfrifo cyfalaf a feddir gan geisydd mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—

(a)mewn achos pan nad oes gwaharddiad yn y wlad honno ar drosglwyddo i’r Deyrnas Unedig swm sy’n hafal i werth presennol y cyfalaf ar y farchnad, neu ei werth ildio yn y wlad honno, yn ôl y gwerth hwnnw;

(b)mewn achos pan fo gwaharddiad o’r fath yn bodoli, yn ôl y pris y byddai’r cyfalaf yn ei gyrraedd pe gwerthid i brynwr parod yn y Deyrnas Unedig,

llai, os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant, 10 y cant, a swm unrhyw lyffetheiriau a sicrhawyd ar y cyfalaf.

Cyfalaf tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr

30.—(1Rhaid trin ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono at y diben o sicrhau hawlogaeth i ostyngiad neu gynyddu swm y gostyngiad hwnnw, ac eithrio i’r graddau y lleiheir y cyfalaf hwnnw yn unol â pharagraff 31 (rheol lleihau cyfalaf tybiannol).

(2Ac eithrio yn achos—

(a)ymddiriedolaeth ddisgresiynol; neu

(b)ymddiriedolaeth sy’n deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i niwed personol; neu

(c)unrhyw fenthyciad na fyddid yn ei chael oni fyddid yn ei sicrhau ar gyfalaf a ddiystyrir o dan Atodlen 10; neu

(d)cynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn galwedigaethol neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau; neu

(e)unrhyw swm y mae paragraff 48(2)(a) o Atodlen 10 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru) yn gymwys iddo, a weinyddir yn y modd y cyfeirir ato ym mharagraff 48(1)(a) o’r Atodlen honno; neu

(f)unrhyw swm y mae paragraff 49(a) o Atodlen 10 yn cyfeirio ato; neu

(g)credyd treth plant; neu

(h)credyd treth gwaith,

rhaid trin unrhyw gyfalaf, a fyddai wedi bod ar gael i’r ceisydd pe bai wedi gwneud cais amdano ond nas caffaelwyd gan y ceisydd, fel pe bai’r ceisydd yn meddu’r cyfalaf hwnnw ond hynny yn unig, o’r dyddiad y gellid disgwyl caffael y cyfalaf pe byddid wedi gwneud cais.

(3Rhaid trin unrhyw daliad o gyfalaf, ac eithrio taliad o gyfalaf a bennir yn is-baragraff (4), a wneir—

(a)i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan fo’r taliad hwnnw’n daliad o bensiwn galwedigaethol, pensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau, fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, yr aelod hwnnw;

(b)i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan nad yw’n daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (a), fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu’r aelod hwnnw, i’r graddau y’i defnyddir ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, unrhyw aelod o’r teulu hwnnw, neu y’i defnyddir ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt;

(c)i geisydd sengl neu aelod o’r teulu mewn perthynas â thrydydd parti (ond nid mewn perthynas ag aelod arall o’r teulu hwnnw) fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, yr aelod hwnnw o’r teulu, i’r graddau y’i cedwir neu y’i defnyddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu y’i defnyddir gan neu ar ran unrhyw aelod o’r teulu.

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thaliad o gyfalaf a wneir—

(a)o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006), Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain;

(b)yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 mewn perthynas â chyfranogiad person—

(i)mewn rhaglen gyflogaeth yn yr ystyr o “employment programme” a bennir yn rheoliad 75(1)(a) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996;

(ii)mewn cynllun hyfforddi yn yr ystyr o “training scheme” a bennir yn rheoliad 75(1)(b) o’r Rheoliadau hynny; neu

(iii)mewn cwrs cymwys yn yr ystyr o “qualifying course” a bennir yn rheoliad 17A(7) o’r Rheoliadau hynny;

(c)mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal;

(d)mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol;

(e)mewn perthynas â chyfranogiad ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter;

(f)o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, mewn perthynas â phensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau—

(i)pan fo gorchymyn methdaliad wedi ei wneud mewn perthynas â’r person y gwnaed y taliad mewn perthynas ag ef neu, yn yr Alban, ystad y person hwnnw’n destun secwestraeth neu oruchwyliwr barnwrol wedi ei benodi ar ystad y person hwnnw o dan adran 41 o Ddeddf Cyfreithwyr (Yr Alban) 1980;

(ii)pan fo taliad wedi ei wneud i ymddiriedolwr mewn methdaliad neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran y credydwyr; a

(iii)pan nad yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) nac unrhyw aelod o deulu’r person hwnnw yn meddu, neu pan na thrinnir hwy fel pe baent yn meddu, unrhyw incwm arall ar wahân i’r taliad hwnnw.

(5Os yw ceisydd, mewn perthynas â chwmni, mewn safle cyfatebol i safle unig berchennog neu bartner ym musnes y cwmni hwnnw, caniateir trin y ceisydd fel pe bai’n unig berchennog neu bartner o’r fath, ac mewn achos o’r fath—

(a)er gwaethaf paragraff 26 (cyfrifo cyfalaf) rhaid diystyru gwerth daliad y ceisydd yn y cwmni hwnnw; a

(b)rhaid trin y ceisydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), fel pe bai’n meddu swm o gyfalaf sy’n hafal i werth, neu, yn ôl fel y digwydd, cyfran y ceisydd o werth, cyfalaf y cwmni hwnnw ac y mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo’r swm hwnnw, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddid gan y ceisydd.

(6Am gyhyd ag y bo’r ceisydd yn ymgymryd â gweithgareddau yng nghwrs busnes y cwmni, rhaid diystyru’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu o dan is-baragraff (5).

(7Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan unrhyw un o is-baragraffau (1), (2) neu (3) mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm y cyfalaf hwnnw, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.

Rheol lleihau cyfalaf tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr

31.—(1Pan drinnir ceisydd nad yw’n bensiynwr fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan baragraff 30(1) (cyfalaf tybiannol), rhaid lleihau’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu—

(a)yn achos wythnos sy’n dilyn—

(i)yr wythnos berthnasol y bodlonir mewn perthynas â hi yr amodau a bennir yn is-baragraff (2); neu

(ii)yr wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol honno ac yn bodloni’r amodau hynny,

o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (3);

(b)yn achos wythnos nad yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddi, ond pan fo—

(i)yr wythnos honno’n wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol; a

(ii)yr wythnos berthnasol honno’n wythnos y bodlonir ynddi’r amod yn is-baragraff (4),

o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (5).

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i wythnos ostyngiad pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amodau canlynol—

(a)bod y ceisydd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod; a

(b)oni bai am baragraff 30(1), byddai’r ceisydd wedi cael gostyngiad mwy yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod yn yr wythnos honno.

(3Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i’r gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(a) fod yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—

(a)swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o ostyngiad yn y dreth gyngor, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b);

(b)os yw’r ceisydd wedi hawlio budd-dal tai yn ogystal, swm unrhyw fudd-dal tai neu unrhyw swm ychwanegol o’r budd-dal hwnnw y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 49(1) o Reoliadau Budd-dal Tai 2006(131) (cyfalaf tybiannol);

(c)os yw’r ceisydd wedi hawlio cymhorthdal incwm yn ogystal, swm y cymhorthdal incwm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 51(1) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (cyfalaf tybiannol);

(d)os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans ceisio gwaith yn ogystal, swm unrhyw lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(132) (cyfalaf tybiannol); ac

(e)os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth lwfans swm unrhyw lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(133) (cyfalaf tybiannol).

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), at ddibenion is-baragraff (1)(b) yr amod yw nad yw’r ceisydd yn bensiynwr ac y byddai hawl ganddo i gael gostyngiad yn y dreth gyngor yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 30(1).

(5Mewn achos o’r fath, rhaid i swm y gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu fod yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—

(a)swm y budd-dal treth gyngor y byddai hawl gan y ceisydd i’w gael yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 30(1);

(b)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 49(1) o Reoliadau Budd-dal Tai 2006, i gael budd-dal tai neu swm ychwanegol o fudd-dal tai mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm sy’n hafal i—

(i)mewn achos pan nad oes budd-dal tai yn daladwy, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, y swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o fudd-dal tai y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;

(c)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 51(1) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987, i gael cymhorthdal incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, yn yr ystyr a roddir i “benefit week” gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;

(d)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996, i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(3) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; ac

(e)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael.

(6Ond os yw’r swm a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), (c), (d) neu (e) o is-baragraff (5) (“y swm perthnasol”) mewn perthynas â rhan-wythnos, rhaid penderfynu’r swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan y paragraff hwnnw drwy—

(a)rhannu’r swm perthnasol gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y rhan-wythnos honno, a

(b)lluosi canlyniad y cyfrifiad hwnnw gyda 7.

(7Rhaid ailbenderfynu’r swm a benderfynwyd o dan is-baragraff (5), o dan yr is-baragraff priodol, os yw’r ceisydd yn gwneud cais pellach am ostyngiad yn y dreth gyngor ac os yw’r amodau yn is-baragraff (8) wedi eu bodloni, ac mewn achos o’r fath—

(a)mae paragraffau (a) i (e) o is-baragraff (5) yn gymwys fel pe rhoddid y geiriau “wythnos ddilynol berthnasol” yn lle’r geiriau “wythnos berthnasol”; a

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), mae’r swm fel y’i hail benderfynwyd yn cael effaith o’r wythnos gyntaf sy’n dilyn yr wythnos ddilynol berthnasol sydd dan sylw.

(8Yr amodau yw—

(a)y gwneir cais pellach 26 neu ragor o wythnosau ar ôl—

(i)y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais am ostyngiad yn y dreth gyngor, y triniwyd y ceisydd gyntaf mewn perthynas ag ef, fel pe bai’n meddu’r cyfalaf dan sylw o dan baragraff 30(1);

(ii)mewn achos pan wnaed o leiaf un ailbenderfyniad yn unol ag is-baragraff (7), y dyddiad y gwnaeth y ceisydd gais ddiwethaf am ostyngiad yn y dreth gyngor a arweiniodd at ailbenderfynu’r swm wythnosol, neu

(iii)y dyddiad y peidiodd ddiwethaf hawl y ceisydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor,

pa un bynnag ddigwyddodd ddiwethaf; a

(b)byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i gael gostyngiad o’r dreth gyngor o dan gynllun awdurdod, oni bai am baragraff 30(1).

(9Rhaid i’r swm a ailbenderfynir yn unol ag is-baragraff (7) beidio â chael effaith os yw’n llai na’r swm a oedd yn gymwys yn yr achos hwnnw yn union cyn yr ailbenderfyniad; ac mewn achos o’r fath rhaid i’r swm uchaf barhau i gael effaith.

(10At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “rhan-wythnos” (“part-week”)—

(a)

mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(a), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y caniateir gostyngiad o’r dreth gyngor ar ei gyfer o dan gynllun awdurdod;

(b)

mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(b), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y mae budd-dal tai yn daladwy ar ei gyfer;

(c)

mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(c), (d) neu (e) yw—

(i)

cyfnod o lai ag wythnos, sydd y cyfan o’r cyfnod y mae cymhorthdal incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu, yn ôl fel y digwydd, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, yn daladwy ar ei gyfer; a

(ii)

unrhyw gyfnod arall o lai nag wythnos y mae’n daladwy ar ei gyfer;

ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos pan gymerwyd i ystyriaeth y cyfalaf dan sylw, yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono o fewn ystyr paragraff 30(1)—

(a)

am y tro cyntaf, at y diben o benderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad; neu

(b)

ar achlysur dilynol at y diben o benderfynu neu ailbenderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad ar yr achlysur dilynol hwnnw, a phan barodd y penderfyniad neu’r ailbenderfyniad hwnnw fod y ceisydd naill ai’n dechrau cael neu’n peidio â chael gostyngiad,

ac os pennir mwy nag un wythnos ostyngiad drwy gyfeirio at baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad hwn, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw wythnosau gostyngiad neu, yn ôl fel y digwydd, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw ran-wythnosau, yw’r wythnos berthnasol;

ystyr “wythnos ddilynol berthnasol” (“relevant subsequent week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos sy’n cynnwys y diwrnod pan wnaed y cais pellach, neu, os gwnaed mwy nag un cais pellach, pan wnaed y cais olaf o’r fath.

Cyfalaf a ddelir ar y cyd: personau nad ydynt yn bensiynwyr

32.  Ac eithrio pan fo ceisydd yn meddu cyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 30(5) (cyfalaf tybiannol), os oes gan y ceisydd, ac un neu ragor o bersonau eraill, hawl fuddiannol mewn meddiant unrhyw ased cyfalaf, rhaid eu trin, yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb, fel pe bai gan bob un ohonynt, mewn cyfrannau cyfartal, hawl mewn meddiant o’r holl fuddiant llesiannol yn yr ased ac mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at y diben o gyfrifo swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.

Cyfrifo incwm tariff: personau nad ydynt yn bensiynwyr

33.  Rhaid trin cyfalaf ceisydd nad yw’n bensiynwr, a gyfrifwyd yn unol â’r Atodlen hon, fel pe bai’n incwm wythnosol o—

(a)£1 am bob £250 cyflawn uwchlaw £6,000 ond nid uwchlaw £16,000; a

(b)£1 am unrhyw swm dros ben nad yw’n £250 cyflawn.

RHAN 5Gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

Gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

34.—(1Bydd gan geisydd sydd â hawl i ostyngiad o dan gynllun awdurdod (yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D) yr hawl i gael gostyngiad estynedig—

(a)os oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cymwys ar sail incwm;

(b)os peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cymwys ar sail incwm oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd—

(i)wedi cychwyn cyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu hunangyflogedig;

(ii)wedi cynyddu eu henillion o gyflogaeth o’r fath; neu

(iii)wedi cynyddu nifer yr oriau a weithid mewn cyflogaeth o’r fath,

a disgwylir i’r gyflogaeth honno neu, yn ôl fel y digwydd, yr enillion uwch hynny, neu’r nifer uwch o oriau, barhau am bum wythnos neu ragor; ac

(c)os oedd y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi bod â hawl i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith neu gyfuniad o’r budd-daliadau hynny am gyfnod di-dor o 26 wythnos o leiaf, cyn y dyddiad y peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cymwys ar sail incwm.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(c), rhaid trin ceisydd neu bartner ceisydd fel pe bai hawl wedi bod ganddo i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm neu lwfans ceisio gwaith yn ystod unrhyw gyfnod o lai na phum wythnos pan nad oedd hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd, mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw, i gael unrhyw un o’r budd-daliadau hynny oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ymgymryd â gwaith am dâl o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth.

(3At ddibenion y paragraff hwn, pan fo ceisydd neu bartner ceisydd yn meddu’r hawl i gael, ac yn cael, lwfans ceisio gwaith cyd-hawliad, rhaid eu trin fel pe baent yn meddu’r hawl i gael, ac yn cael, lwfans ceisio gwaith.

(4Rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D—

(a)os peidiodd hawl y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod oherwydd bod ceisydd wedi gadael yr annedd yr oedd y ceisydd yn preswylio ynddi;

(b)os oedd y diwrnod y gadawodd y ceisydd yr annedd naill ai yn yr wythnos y peidiodd ei hawlogaeth i fudd-dal cymwys ar sail incwm, neu yn yr wythnos flaenorol; ac

(c)os peidiodd yr hawlogaeth i fudd-dal cymwys ar sail incwm mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn is-baragraff (1)(b).

(5Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os oedd rheoliad 6(5) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (gwaith am dâl: costau tai) yn gymwys mewn perthynas â cheisydd ar y diwrnod cyn y peidiodd hawlogaeth y ceisydd hwnnw i gael cymhorthdal incwm.

Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

35.—(1Pan fo hawl gan geisydd i gael gostyngiad estynedig, mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl y diwrnod y daeth hawl y ceisydd, neu bartner y ceisydd, i gael budd-dal cymwys ar sail incwm i ben.

(2Mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn dod i ben—

(a)ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos; neu

(b)ar y dyddiad pan na fydd y ceisydd y mae’r gostyngiad estynedig yn daladwy iddo yn atebol am dreth gyngor, os digwydd hynny gyntaf.

Swm y gostyngiad estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

36.—(1Ar gyfer unrhyw wythnos yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, swm y gostyngiad estynedig y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan gynllun awdurdod yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)swm y gostyngiad yr oedd hawl gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D yn yr wythnos ostyngiad olaf cyn i hawl y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cymwys ar sail incwm ddod i ben;

(b)swm y gostyngiad y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D ar gyfer unrhyw wythnos ostyngiad yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, pe na bai paragraff 34 (gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys i’r ceisydd; neu

(c)swm y gostyngiad y byddai hawl wedi bod gan bartner y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D, pe na bai paragraff 34 yn gymwys i’r ceisydd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos symudwr.

(3Pan fo ceisydd yn cael gostyngiad estynedig o dan y paragraff hwn, a phartner y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, rhaid i’r awdurdod beidio â dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig.

Gostyngiadau estynedig – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr

37.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)i symudwr; a

(b)o’r dydd Llun sy’n dilyn diwrnod y symud.

(2Swm y gostyngiad estynedig a ddyfernir, o’r dydd Llun pan ddaw’r paragraff hwn yn gymwys tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig, yw swm y gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod (“yr awdurdod cyntaf”) y byddai hawl wedi bod gan y symudwr i’w gael pe na bai hawl y symudwr, neu bartner y symudwr, i gael budd-dal cymwys ar sail incwm wedi dod i ben.

(3Pan fo atebolrwydd symudwr i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd newydd yn atebolrwydd i ail awdurdod, caiff y gostyngiad estynedig gymryd ffurf taliad gan yr awdurdod cyntaf i—

(a)yr ail awdurdod; neu

(b)yn uniongyrchol i’r symudwr.

Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig a hawlogaeth i ostyngiad yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D

38.—(1Os byddai gostyngiad ceisydd o dan gynllun awdurdod wedi dod i ben pan beidiodd hawl y ceisydd i fudd-dal cymwys ar sail incwm yn yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff 34(1)(b), ni fydd yr hawlogaeth honno’n peidio â chael effaith tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig.

(2Ni fydd paragraffau 45 a 46 (cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau) yn gymwys i unrhyw ostyngiad estynedig sy’n daladwy yn unol â pharagraff 36(1)(a) neu 37(2) (swm y gostyngiad estynedig – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr

39.—(1Bydd gan geisydd sydd â hawl i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod (yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D) yr hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)—

(a)os oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys;

(b)os peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd—

(i)wedi cychwyn cyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu hunangyflogedig;

(ii)wedi cynyddu eu henillion o gyflogaeth o’r fath; neu

(iii)wedi cynyddu nifer yr oriau a weithid mewn cyflogaeth o’r fath,

a disgwylir i’r gyflogaeth honno neu, yn ôl fel y digwydd, yr enillion uwch hynny, neu’r nifer uwch o oriau, barhau am bum wythnos neu ragor;

(c)os oedd y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi bod â hawl i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cyfrannol cymwys neu gyfuniad o fudd-daliadau cyfrannol cymwys am gyfnod di-dor o 26 wythnos o leiaf, cyn y diwrnod y peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys; a

(d)nad oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael, ac nad oedd yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm, yn yr wythnos ostyngiad olaf pan oedd hawl gan y ceisydd, neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys.

(2Rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i ostyngiad o dan gynllun awdurdod yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D—

(a)os peidiodd hawl y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod oherwydd bod y ceisydd wedi gadael yr annedd yr oedd y ceisydd yn preswylio ynddi;

(b)os oedd y diwrnod y gadawodd y ceisydd yr annedd naill ai yn yr wythnos y peidiodd ei hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys, neu yn yr wythnos flaenorol; ac

(c)os peidiodd yr hawlogaeth i fudd-dal cyfrannol cymwys mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn is-baragraff (1)(b).

Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr

40.—(1Pan fo gan geisydd hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys), mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl y diwrnod y daeth hawl y ceisydd, neu bartner y ceisydd, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(2Mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn dod i ben—

(a)ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos; neu

(b)ar y dyddiad pan nad yw’r ceisydd sy’n cael y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn atebol am dreth gyngor, os yw hynny’n digwydd gyntaf.

Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr

41.—(1Ar gyfer unrhyw wythnos yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a fydd yn daladwy i geisydd o dan gynllun awdurdod fydd y mwyaf o’r canlynol—

(a)swm y gostyngiad yr oedd hawl gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D yn yr wythnos ostyngiad olaf cyn i hawl y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys ddod i ben;

(b)swm y gostyngiad y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D ar gyfer unrhyw wythnos ostyngiad yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, pe na bai paragraff 39 (gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys i’r ceisydd; neu

(c)swm y gostyngiad y byddai hawl wedi bod gan bartner y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D, pe na bai paragraff 39 yn gymwys i’r ceisydd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos symudwr.

(3Pan fo ceisydd yn cael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) o dan y paragraff hwn, a phartner y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, rhaid i’r awdurdod beidio â dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig.

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr

42.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)i symudwr; a

(b)o’r dydd Llun sy’n dilyn diwrnod y symud.

(2Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a ddyfernir, o’r dydd Llun pan ddaw’r paragraff hwn yn gymwys tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig, yw swm y gostyngiad a ddyfarnwyd i’r symudwr o dan gynllun yr awdurdod (“yr awdurdod cyntaf”) ar gyfer yr wythnos ostyngiad olaf cyn y daeth hawl y symudwr, neu bartner y symudwr, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(3Os yw atebolrwydd symudwr i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd newydd yn atebolrwydd i ail awdurdod, caiff y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) gymryd ffurf taliad gan yr awdurdod cyntaf i—

(a)yr ail awdurdod; neu

(b)yn uniongyrchol i’r symudwr.

Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a hawlogaeth i ostyngiad yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D

43.—(1Os byddai gostyngiad ceisydd o dan gynllun awdurdod wedi dod i ben pan beidiodd hawl y ceisydd i fudd-dal cyfrannol cymwys yn yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff 39(1)(b), ni fydd y gostyngiad hwnnw’n peidio â chael effaith tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig.

(2Ni fydd paragraffau 45 a 46 (cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau) yn gymwys i unrhyw ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) sy’n daladwy yn unol â pharagraff 41(1)(a) neu 42(2) (swm y gostyngiad estynedig – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdod: personau nad ydynt yn bensiynwyr

44.—(1Pan fo—

(a)cais wedi ei wneud i awdurdod am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a

(b)y ceisydd, neu bartner y ceisydd, yn cael gostyngiad estynedig gan—

(i)awdurdod bilio arall yng Nghymru;

(ii)awdurdod bilio yn Lloegr;

(iii)awdurdod lleol yn yr Alban; neu

(iv)awdurdod lleol yng Ngogledd Iwerddon,

rhaid i’r awdurdod leihau unrhyw ostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan ei gynllun, o swm y gostyngiad estynedig hwnnw.

(2At ddibenion y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” fel y’i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf 1992.

RHAN 6Cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau

Y dyddiad y mae hawlogaeth yn dechrau: personau nad ydynt yn bensiynwyr

45.  Bydd unrhyw berson sy’n gwneud cais, neu y gwneir cais mewn perthynas ag ef, am ostyngiad o dan gynllun awdurdod ac sy’n gymwys fel arall i gael y gostyngiad hwnnw, yn gymwys felly o’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 13.

Y dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith: personau nad ydynt yn bensiynwyr

46.—(1Ac eithrio mewn achosion pan fo paragraff 23 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau, etc) yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, mae newid yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu ar swm y gostyngiad (“newid yn yr amgylchiadau”), yn cael effaith o’r diwrnod cyntaf y mae’r newid hwnnw’n digwydd mewn gwirionedd.

(2Os y newid hwnnw yw terfynu hawlogaeth i unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal, y dyddiad y bydd y newid yn digwydd mewn gwirionedd fydd y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl diwrnod olaf yr hawlogaeth i’r budd-dal hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), os y newid yn yr amgylchiadau yw newid yn swm y dreth gyngor sy’n daladwy, mae’n cael effaith o’r diwrnod y mae’r newid hwnnw’n digwydd mewn gwirionedd.

(4Os y newid yn yr amgylchiadau yw newid yn y swm y mae person yn atebol i’w dalu mewn perthynas â threth gyngor o ganlyniad i reoliadau o dan adran 13 o Ddeddf 1992 (symiau gostyngedig o dreth gyngor) neu newidiadau yn y disgownt y gall annedd fod yn ddarostyngedig iddo o dan adran 11 neu 12 o’r Ddeddf honno, bydd yn cael effaith o’r diwrnod y bydd y newid yn y swm yn cael effaith.

(5Os y newid yn yr amgylchiadau yw fod y ceisydd yn caffael partner, mae’r newid yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r caffaeliad hwnnw’n digwydd.

(6Os y newid yn yr amgylchiadau yw marwolaeth partner y ceisydd neu ymwahaniad y ceisydd â’r partner, mae’n cael effaith ar ddiwrnod y farwolaeth neu’r ymwahaniad.

(7Os y newid yn yr amgylchiadau yw fod incwm, neu gynnydd yn swm incwm, ac eithrio budd-dal neu gynnydd yn swm budd-dal o dan DCBNC, wedi ei dalu mewn perthynas â chyfnod blaenorol ac nad oedd hawlogaeth i’r swm hwnnw o incwm yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid i’r newid yn yr amgylchiadau gael effaith o’r diwrnod cyntaf y byddai’r cyfryw incwm, pe bai wedi ei dalu fesul ysbaid priodol i’r incwm hwnnw yn y cyfnod hwnnw, wedi bod yn ddyladwy i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion cynllun awdurdod.

(8Heb leihau dim ar effaith is-baragraff (7), os y newid yn yr amgylchiadau yw talu incwm neu ôl-ddyled o incwm mewn perthynas â chyfnod blaenorol, mae’r newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith o’r diwrnod cyntaf y byddai’r cyfryw incwm, pe bai wedi ei dalu yn amserol fesul ysbaid priodol i’r incwm hwnnw yn y cyfnod hwnnw, wedi bod yn ddyladwy i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion cynllun awdurdod.

Rheoliad 33(2)

ATODLEN 7Symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

RHAN 1

Lwfansau personol

1.—(1Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person neu gwpl a bennir yng ngholofn (1) yw’r symiau sydd i’w pennu at ddibenion paragraffau 1(1)(a) a 2(2)(a) a (b) o Atodlen 6.

Colofn (1)

Person neu gwpl

Colofn (2)

Swm

(2Ceisydd sengl—

(a)

sydd â hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd;

£71.70;
(b)

nad yw’n iau na 25;

£71.70;
(c)

nad yw’n iau na 18 ond sy’n iau na 25.

£56.80.

(3Unig riant.

£71.70.

(4Cwpl.

£112.55.

2.  At ddibenion paragraff 1, mae hawl gan geisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd—

(a)os bodlonir paragraff 18 mewn perthynas â’r ceisydd; neu

(b)os oes hawl gan y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd.

3.—(1Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person a bennir yng ngholofn (1), ar gyfer y cyfnod perthnasol a bennir yng ngholofn (1), yw’r symiau a bennir at ddibenion paragraffau 1(1)(b) a 2(2)(c) o Atodlen 6—

Colofn (1)

Plentyn neu berson ifanc

Colofn (2)

Swm

Person mewn perthynas â’r cyfnod—
(a)

sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw;

£65.62;

(b)

sy’n cychwyn ar y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn ugeinfed pen-blwydd y person hwnnw.

£65.62.

(2Yng ngholofn (1) o’r tabl yn is-baragraff (1), ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

RHAN 2Premiwm teulu

4.—(1Y swm at ddibenion paragraffau 1(1)(c) a (2)(d) o Atodlen 6 mewn perthynas â theulu y mae o leiaf un aelod ohono’n blentyn neu’n berson ifanc fydd—

(a)pan fo’r ceisydd yn unig riant y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, £22.20;

(b)mewn unrhyw achos arall, £17.40.

(2Bydd y swm yn is-baragraff (1)(a) yn gymwys i unig riant—

(a)yr oedd hawl ganddo i gael budd-dal treth gyngor ar 5 Ebrill 1998 ac yr oedd ei swm cymwysadwy ar y dyddiad hwnnw yn cynnwys y swm cymwysadwy dan baragraff 3(1) o Atodlen 1 i Reoliadau Budd-dal Treth Gyngor (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(134), fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw; neu

(b)pan gaiff yr hawl i gael budd-dal treth gyngor os oedd yr unig riant hwnnw—

(i)wedi ei drin fel pe bai hawl ganddo i gael y budd-dal hwnnw yn unol ag is-baragraff (3) ar y diwrnod cyn dyddiad yr hawliad am y budd-dal hwnnw; a

(ii)hawl ganddo i gael budd-dal tai ar ddyddiad yr hawliad am fudd-dal treth gyngor, neu byddai hawl wedi bod ganddo i gael budd-dal tai ar y dyddiad hwnnw pe na bai’r diwrnod wedi digwydd yn ystod cyfnod di-rent, yn yr ystyr a roddir i “rent free period” fel y’i diffinnir gan reoliad 81 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006(135),

ac os yw’r holl amodau a bennir yn is-baragraff (3) wedi parhau’n gymwys mewn perthynas â’r unig riant hwnnw.

(3Yr amodau a bennwyd at ddibenion is-baragraff (2) yw, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar 6 Ebrill 1998—

(a)nad yw’r ceisydd wedi peidio bod â hawl, neu ei drin fel pe bai ganddo hawl, i gael—

(i)budd-dal treth gyngor (mewn perthynas â’r cyfnod cyn 1 Ebrill 2013), a

(ii)gostyngiad o dan gynllun awdurdod (mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2013);

(b)nad yw’r ceisydd wedi peidio â bod yn unig riant;

(c)os oedd hawl gan y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar 5 Ebrill 1998, bod y ceisydd, yn ddi-dor ers y dyddiad hwnnw, wedi bod â hawl i gael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gyfuniad o’r budd-daliadau hynny;

(d)os nad oedd hawl gan y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar 5 Ebrill 1998, nad yw’r ceisydd wedi ennill yr hawl wedyn i gael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; ac

(e)nad oes premiwm o dan baragraff 9, neu elfen o dan baragraff 21 neu 22, wedi dod yn gymwysadwy i’r ceisydd.

(4At ddibenion is-baragraffau (2)(b)(i) a (3)(a), rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i fudd-dal treth gyngor yn ystod unrhyw gyfnod os nad oedd hawl o’r fath gan y ceisydd, neu os oedd hawl o’r fath a fu ganddo wedi dod i ben ac—

(a)os, drwy gydol y cyfnod hwnnw, dyfarnwyd budd-dal tai i’r ceisydd ac os oedd swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys y swm cymwysadwy o dan baragraff 3(1)(a) o Atodlen 3 i Reoliadau Budd-dal Tai 2006 (cyfradd premiwm teulu unig riant); neu

(b)os byddid wedi dyfarnu budd-dal tai i’r ceisydd yn ystod y cyfnod hwnnw pe na bai’r cyfnod hwnnw wedi bod yn gyfnod di-rent yn yr ystyr a roddir i “rent free period” fel y’i diffinnir gan reoliad 81 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006 ac os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd drwy gydol y cyfnod hwnnw wedi cynnwys y swm cymwysadwy o dan baragraff 3(1)(a) o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny.

RHAN 3Premiymau

5.  Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff 6, bydd y premiymau a bennir yn Rhan 4, at ddibenion paragraffau 1(1)(d) a 2(e) o Atodlen 6 yn gymwysadwy i geisydd sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraffau 9 i 14 mewn perthynas â’r premiwm hwnnw.

6.  Yn ddarostyngedig i baragraff 7, pan fo ceisydd yn bodloni’r amodau mewn perthynas â mwy nag un premiwm yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, un premiwm yn unig fydd yn gymwys i’r ceisydd, ac os bydd eu symiau’n wahanol, y swm uwch neu uchaf fydd yn gymwys.

7.  Bydd modd i’r premiymau canlynol—

(a)premiwm anabledd difrifol, y mae paragraff 11 yn gymwys iddo;

(b)premiwm anabledd uwch, y mae paragraff 12 yn gymwys iddo;

(c)premiwm plentyn anabl, y mae paragraff 13 yn gymwys iddo; a

(d)premiwm gofalwr, y mae paragraff 14 yn gymwys iddo,

fod yn gymwysadwy, yn ychwanegol at unrhyw bremiwm arall a allai fod yn gymwys o dan yr Atodlen hon.

8.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, unwaith y bydd premiwm yn gymwysadwy i geisydd o dan y Rhan hon, rhaid trin person fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal—

(a)yn achos budd-dal y mae Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau sy’n Gorgyffwrdd) 1979(136) yn gymwys iddo, yn ystod unrhyw gyfnod y byddai’r person hwnnw, oni bai am ddarpariaethau’r Rheoliadau hynny, yn cael y budd-dal hwnnw; a

(b)yn ystod unrhyw gyfnod a dreulir gan berson yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(137), neu gan Ddatblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd o dan adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(138) neu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n cael lwfans hyfforddi.

(2At ddibenion y premiwm gofalwr o dan baragraff 14, ni ddylid trin person fel pe bai’n cael lwfans gofalwr yn rhinwedd is-baragraff (1)(a) ac eithrio pan a chyhyd ag y bo’r person yr hawliwyd y lwfans mewn perthynas â’i ofal yn dal i gael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol sy’n daladwy o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA.

Premiwm anabledd

9.  Yr amod yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn geisydd sengl neu’n unig riant, nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac y bodlonir yr amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10; neu

(b)pan fo gan y ceisydd bartner, naill ai—

(i)nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth a bod y ceisydd yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10(1)(a) neu (b); neu

(ii)nad yw partner y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth a bod partner y ceisydd yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10(1)(a).

Amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 8, yr amod ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff 9 yw naill ai—

(a)bod y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd—

(i)yn cael un neu ragor o’r budd-daliadau canlynol: lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, TALlA, yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol o’r credyd treth gwaith fel y’u pennir yn rheoliad 20(1)(b) ac (f) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(139), atodiad symudedd, budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC neu lwfans anabledd difrifol o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno, ond, yn achos budd-dal analluogrwydd hirdymor neu lwfans anabledd difrifol, hynny yn unig pan delir y budd-dal neu’r lwfans mewn perthynas â’r ceisydd; neu

(ii)wedi bod yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC pan beidiodd yr hawlogaeth i’r budd-dal hwnnw oherwydd talu pensiwn ymddeol o dan y Ddeddf honno, a bod y ceisydd yn y cyfamser wedi parhau â hawlogaeth ddi-dor i—

(aa)budd-dal treth gyngor (am y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2013), neu

(bb)gostyngiad o dan gynllun awdurdod (am y cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2013), ac,

os oedd y budd-dal analluogrwydd hirdymor yn daladwy i bartner y ceisydd, bod y partner yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(iii)wedi bod yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i’r anabl ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu lleihawyd hwy fel arall oherwydd bod y ceisydd, neu bartner y ceisydd, wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 21(11)(i) o Atodlen 6 (trin costau gofal plant); neu

(iv)wedi bod yn cael taliad annibyniaeth bersonol, ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 oherwydd bod y ceisydd wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 21 o Atodlen 6 (trin costau gofal plant); neu

(v)wedi bod yn cael TALlA ond ataliwyd taliadau ohono dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb; neu

(vi)wedi cael, gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(140), neu, yn yr Alban, o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(141) (darparu gwasanaethau gan Weinidogion yr Alban), neu, yng Nghymru, o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(142) ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, neu, yng Ngogledd Iwerddon, wedi cael, gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu, yn cael taliadau ar ffurf grant, gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2006(143) (darparu cerbydau ar gyfer pobl anabl) neu, yn yr Alban, gan Weinidogion yr Alban o dan adran 46 o Ddeddf 1978; neu

(vii)yn ddall, ac o ganlyniad wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(144) (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994(145); neu

(b)bod y ceisydd—

(i)yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno; a

(ii)wedi bod yn analluog i weithio neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio am gyfnod di-dor o ddim llai nag—

(aa)yn achos ceisydd sy’n derfynol wael yn yr ystyr a roddir i “terminally ill” yn adran 30B(4) o DCBNC, 196 diwrnod;

(bb)mewn unrhyw achos arall, 364 diwrnod.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(a)(vi), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.

(3At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, os yw’r ceisydd wedyn, am gyfnod o 8 wythnos neu lai, yn peidio â chael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, neu’n peidio â bod yn analluog i weithio, yna, pan â’n analluog i weithio felly drachefn, rhaid ei drin ar unwaith wedyn fel pe bai’n bodloni’r amod yn is-baragraff (1)(b).

(4At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, rhaid parhau i drin y ceisydd fel pe bai’n bodloni’r amod hwnnw am unrhyw gyfnod a dreulir gan y ceisydd yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990 neu am unrhyw gyfnod pan fo’r ceisydd yn cael lwfans hyfforddi.

(5At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan wahenir unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau o analluedd gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod, rhaid trin y cyfnodau hynny fel un cyfnod di-dor.

(6At ddibenion y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson sydd, neu a oedd, yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor yn cynnwys person sydd neu a oedd yn cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd hafal i’r gyfradd hirdymor, yn rhinwedd adran 30B(4)(a) o DCBNC (budd-dal analluogrwydd byrdymor i berson sy’n derfynol wael), neu a fyddai’n cael neu wedi cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd o’r fath pe na bai cyfradd y budd-dal analluogrwydd byrdymor sydd eisoes yn daladwy i’r person hwnnw yn hafal i’r gyfradd hirdymor neu’n uwch, neu wedi bod yn hafal i’r gyfradd honno neu’n uwch.

(7Yn achos ceisydd sy’n fuddiolwr cynllun ‘o fudd-dal i waith’ (sef person y mae rheoliad 13A(1) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995(146) yn gymwys iddo ac sydd drachefn yn mynd yn analluog i weithio at ddibenion Rhan 12A o DCBNC) rhaid trin—

(a)y cyfeiriad at gyfnod o 8 wythnos yn is-baragraff (3); a

(b)y cyfeiriad at gyfnod o 56 diwrnod yn is-baragraff (5),

ill dau fel cyfeiriad at gyfnod o 104 wythnos.

(8Nid oes hawl gan geisydd i gael y premiwm anabledd os oes gan y ceisydd, neu os trinnir ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith.

Premiwm anabledd difrifol

11.—(1Yr amod yw fod y ceisydd yn berson ag anabledd difrifol.

(2At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin ceisydd fel pe bai’n berson ag anabledd difrifol—

(a)yn achos ceisydd sengl, unig riant neu geisydd a drinnir fel pe na bai ganddo bartner o ganlyniad i is-baragraff (3) os, ac yn unig os—

(i)yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

(ii)yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy; a

(iii)nad oes neb sydd â hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr o dan adran 70 o DCBNC mewn perthynas â gofalu am y ceisydd;

(b)yn achos ceisydd sydd â phartner, os ac yn unig os—

(i)yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

(ii)partner y ceisydd hefyd yn cael lwfans o’r fath neu, pan fo’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, pob aelod arall o’r briodas honno’n cael lwfans o’r fath; a

(iii)yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy,

a naill ai mae person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am un aelod yn unig o’r cwpl, neu, yn achos priodas amlbriod, am un neu ragor ond nid pob un o aelodau’r briodas, neu, yn ôl fel y digwydd, nad oes neb sydd â hawl i gael ac yn cael lwfans o’r fath mewn perthynas â gofalu am y naill na’r llall o aelodau’r cwpl, neu am unrhyw aelod o’r briodas amlbriod.

(3Pan fo gan geisydd bartner nad yw’n bodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b)(ii), a’r partner hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2), rhaid trin y partner hwnnw at ddibenion is-baragraff (2)(b)(ii) fel pe na bai’r person hwnnw’n bartner i’r ceisydd.

(4At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii) a (2)(b)(iii) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth—

(a)person sy’n cael lwfans gweini, neu lwfans byw i’r anabl yn rhinwedd yr elfen ofal ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; neu

(b)person sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2).

(5At ddibenion is-baragraff (2)(b) rhaid trin person—

(a)fel pe bai’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol sy’n daladwy ar y naill gyfradd neu’r llall o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA, os byddai’r person hwnnw’n yn cael lwfans neu daliad felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod;

(b)fel pe bai hawl ganddo i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr, os byddai ganddo hawl i gael ac y byddai’n cael y lwfans hwnnw pe na bai’r person y mae’r person hwnnw’n gofalu amdano yn glaf mewn ysbyty am gyfnod hwy nag 28 diwrnod.

(6At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iii) a (2)(b), rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth ddyfarniad o lwfans gofalwr i’r graddau y mae taliad o’r cyfryw ddyfarniad wedi ei ôl-ddyddio ar gyfer cyfnod cyn y dyddiad y talwyd y dyfarniad gyntaf.

(7Yn is-baragraff (2)(a)(iii) a (b), mae cyfeiriadau at berson sy’n cael lwfans gofalwr yn cynnwys cyfeiriadau at berson a fyddai wedi bod yn cael y lwfans hwnnw oni bai am weithredu cyfyngiad o dan adran 6B neu 7 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001(147) (darpariaethau colli budd-dal).

Premiwm anabledd uwch

12.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yr amod yw—

(a)bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd, neu fod y ceisydd i’w drin fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith; neu

(b)bod elfen ofal y lwfans byw i’r anabl yn daladwy ar y gyfradd uchaf a ragnodir o dan adran 72(3) o DCBNC, neu byddai’n daladwy pe na bai budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu oni bai am leihad oherwydd traddodi i ysbyty, mewn perthynas ag—

(i)y ceisydd; neu

(ii)aelod o deulu’r ceisydd,

nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(c)bod elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy ar y gyfradd uwch a ragnodir yn unol ag adran 78(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 mewn perthynas ag—

(i)y ceisydd; neu

(ii)aelod o deulu’r ceisydd,

nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(d)bod TALlA yn daladwy mewn perthynas ag—

(i)y ceisydd; neu

(ii)aelod o deulu’r ceisydd,

nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth.

(2Os peidir â bodloni’r amod yn is-baragraff (1) oherwydd marwolaeth plentyn neu berson ifanc, yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner i gael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc o dan adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys).

(3Ni fodlonir yr amod os yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)—

(a)yn geisydd—

(i)nad yw’n aelod o gwpl neu briodas amlbriod; a

(ii)yn glaf o fewn ystyr paragraff 21(11)(g) o Atodlen 6 (trin costau gofal plant) ac wedi bod yn glaf felly am gyfnod hwy na 52 wythnos; neu

(b)yn aelod o gwpl neu briodas amlbriod y mae pob aelod ohono yn glaf o fewn ystyr paragraff 21(11)(g) o Atodlen 6 ac wedi bod yn glaf felly am gyfnod hwy na 52 wythnos.

Premiwm plentyn anabl

13.  Yr amod yw fod plentyn neu berson ifanc, sydd â’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)yn cael lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol, neu nad yw bellach yn cael lwfans neu daliad o’r fath oherwydd bod y plentyn neu’r person ifanc yn glaf, ar yr amod bod y plentyn neu’r person ifanc yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(b)yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10; neu

(c)yn blentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys) yn gymwys mewn perthynas ag ef at ddibenion hawlogaeth i fudd-dal plant, ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan yr adran honno, ac y cynhwyswyd premiwm plentyn anabl mewn perthynas ag ef yn swm cymwysadwy’r ceisydd yn union cyn marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu peidiwyd â’i gynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd oherwydd marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw; neu

(d)yn cael TALlA.

Premiwm gofalwr

14.—(1Yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd, neu’r ddau ohonynt, i gael lwfans gofalwr o dan adran 70 o DCBNC.

(2Pan fo premiwm gofalwr wedi ei ddyfarnu ond—

(a)bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, bod hawl y person, y dyfarnwyd y premiwm gofalwr mewn perthynas ag ef, i gael lwfans gofalwr yn dod i ben,

rhaid trin yr amod ar gyfer dyfarnu’r premiwm fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos o’r dyddiad perthnasol a bennir yn is-baragraff (3).

(3Y dyddiad perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) fydd y canlynol—

(a)os yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys, y dydd Sul sy’n dilyn marwolaeth y person y dyfarnwyd lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal, neu ddyddiad y farwolaeth os bu farw ar ddydd Sul;

(b)mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y daeth i ben hawl y person, yr oedd ganddo hawl i gael lwfans gofalwr, i gael y lwfans hwnnw.

(4Pan fo person, y bu hawl ganddo i gael lwfans gofalwr, yn gwneud cais am ostyngiad wedi i’w hawl i gael y lwfans hwnnw ddod i ben, rhaid trin yr amod ar gyfer dyfarnu’r premiwm gofalwr fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos—

(a)o’r dyddiad y bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal;

(b)mewn unrhyw achos arall, o’r dyddiad y daeth i ben hawl y person, yr oedd ganddo hawl i gael lwfans gofalwr, i gael y lwfans hwnnw.

Personau sy’n cael taliadau consesiynol

15.  At y diben o benderfynu a oes premiwm yn gymwysadwy o dan baragraffau 10 i 14, rhaid trin unrhyw daliad consesiynol, a wnaed i ddigolledu’r person hwnnw oherwydd methiant i dalu unrhyw fudd-dal a grybwyllir yn y paragraffau hynny, fel pe bai’n daliad o’r budd-dal hwnnw.

Personau sy’n cael budd-dal ar gyfer rhywun arall

16.  At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae person i’w ystyried fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal os, ac yn unig os, telir y budd-dal mewn perthynas â’r person hwnnw, ac mae’r person i’w ystyried felly yn ystod, yn unig, pa bynnag gyfnod y telir y budd-dal hwnnw mewn perthynas ag ef.

RHAN 4Symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3

PremiwmSwm

17.—(1Premiwm Anabledd—

(a)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 9(a);

£31.00;
(b)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 9(b)

£44.20.

(2Premiwm Anabledd Difrifol—

(a)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 11(2)(a);

£59.50;
(b)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 11(2)(b)—

(i)

mewn achos pan fo rhywun yn cael lwfans gofalwr neu pan fo’r person hwnnw neu unrhyw bartner yn bodloni’r amod hwnnw yn rhinwedd paragraff 11(5) yn unig;

£59.50;
(ii)

mewn achos pan nad oes neb yn cael lwfans o’r fath.

£119.00.

(3Premiwm Plentyn Anabl.

£57.89 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amod a bennir ym mharagraff 13 o Ran 3 wedi ei fodloni mewn perthynas ag ef.

(4Premiwm Gofalwr.

£33.30 mewn perthynas â phob person sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraff 14.

(5Premiwm Anabledd Uwch.

(a)

£23.45 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 mewn perthynas ag ef;

(b)

£15.15 mewn perthynas â phob person—

(i)

nad yw yn blentyn neu berson ifanc, ac

(ii)

nad yw’n aelod o gwpl neu briodas amlbriod;

(iii)

y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 mewn perthynas ag ef;

(c)

£21.75 pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl neu briodas amlbriod ac y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 mewn perthynas ag aelod o’r cwpl hwnnw neu’r briodas amlbriod honno.

RHAN 5Yr elfennau

18.  Yn ddarostyngedig i baragraff 20, mae hawl gan y ceisydd i gael un, ond nid y ddwy o’r elfennau ym mharagraff 21 neu 22 os yw—

(a)y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi gwneud cais am lwfans cyflogaeth a chymorth;

(b)bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu fod y ceisydd neu bartner y ceisydd i’w drin felly; ac

(c)naill ai bod—

(i)y cyfnod asesu, yn yr ystyr o “assessment phase” fel y’i diffinnir yn adran 24(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2007(148), wedi dod i ben; neu

(ii)rheoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(149) (amgylchiadau pan nad yw’r amod bod y cyfnod asesu wedi dod i ben cyn bod hawlogaeth i’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith yn gymwys) yn gymwys.

19.  Yn ddarostyngedig i baragraff 20, mae hawl gan y ceisydd i gael un, ond nid y ddwy o’r elfennau ym mharagraff 21 a 22 os oes hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd.

20.—(1Nid oes gan y ceisydd hawlogaeth o dan baragraff 21 neu 22 os oes hawl gan y ceisydd i gael y premiwm anabledd o dan baragraffau 9 a 10.

(2Os yw’r ceisydd a phartner y ceisydd ill dau’n bodloni paragraff 21 neu 22, yr elfen sydd i’w chynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd yw’r elfen sy’n berthynol i’r ceisydd.

Yr elfen gweithgaredd perthynol i waith

21.  Mae hawl gan y ceisydd i gael yr elfen gweithgaredd perthynol i waith os yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu ei fod i’w drin felly.

Yr elfen gymorth

22.  Mae hawl gan y ceisydd i gael yr elfen gymorth os yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu ei fod i’w drin felly.

RHAN 6Symiau’r elfennau

23.  Swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith yw £28.45.

24.  Swm yr elfen gymorth yw £34.80.

RHAN 7Ychwanegiad trosiannol

25.—(1Mae hawl gan y ceisydd i gael yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifir yn unol â pharagraff 28 yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)pan fo hawl gan ceisydd neu bartner y ceisydd (“y person perthnasol”) i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd; neu

(b)pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010(150) ac—

(i)y’i trinnir fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010; a

(ii)nad yw’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm,

oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifid yn unol â pharagraff 28 yn ddim.

(2Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—

(a)gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29;

(b)terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan gynllun awdurdod;

(c)y person perthnasol yn peidio â bodloni gofynion is-baragraff (1)(a) neu (b), yn ôl fel y digwydd;

(d)y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;

(e)5 Ebrill 2020.

26.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)hawl y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn dod i ben yn rhinwedd terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd, o dan—

(i)paragraff 25(2)(b);

(ii)is-baragraff (3)(b) o’r paragraff hwn; neu

(iii)paragraff 27(3)(b);

(b)o fewn 12 wythnos ar ôl y terfyniad hwnnw ond cyn 5 Ebrill 2020, y ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod;

(c)yn yr wythnos ostyngiad y daw’r ceisydd yn gymwys drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, mae hawl gan y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm; a

(d)ar y dyddiad y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, nid oes hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm na chymhorthdal incwm.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae hawl gan y ceisydd, yn effeithiol o’r diwrnod y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, i gael ychwanegiad trosiannol o swm yr ychwanegiad trosiannol y byddid wedi ei ddyfarnu pe na bai hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol wedi dod i ben (ond gan gymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai unrhyw newid yn yr amgylchiadau, a ddigwyddodd yn y cyfamser wedi ei gael yn rhinwedd paragraff 29), oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol yn ddim.

(3Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—

(a)gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29;

(b)terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan gynllun awdurdod;

(c)hawl y person perthnasol i gael y lwfans cyflogaeth a chymorth y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) yn dod i ben;

(d)y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;

(e)5 Ebrill 2020.

27.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ddigwydd yr amgylchiadau canlynol—

(a)hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn dod i ben yn rhinwedd terfynu hawl y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth, o dan—

(i)paragraff 25(2)(c);

(ii)paragraff 26(3)(c); neu

(iii)is-baragraff (3)(c);

(b)y person perthnasol, cyn 5 Ebrill 2020, yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm;

(c)ar y dyddiad y mae’r person perthnasol yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm, rheoliad 145(1) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 yn gymwys i’r person perthnasol; a

(d)ar y dyddiad y mae’r person perthnasol yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm, nid oes hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm na chymhorthdal incwm.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae hawl gan y ceisydd, yn effeithiol o’r diwrnod y bydd hawlogaeth y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth yn cael effaith at ddibenion gostyngiad o dan gynllun awdurdod, i gael ychwanegiad trosiannol o swm yr ychwanegiad trosiannol y byddid wedi ei ddyfarnu pe na bai hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol wedi dod i ben (ond gan gymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai unrhyw newid yn yr amgylchiadau, a ddigwyddodd yn y cyfamser wedi ei gael yn rhinwedd paragraff 29), oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol yn ddim.

(3Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—

(a)gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29;

(b)terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan gynllun awdurdod;

(c)hawl y person perthnasol i gael y lwfans cyflogaeth a chymorth y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b) yn dod i ben;

(d)y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;

(e)5 Ebrill 2020.

RHAN 8Swm yr ychwanegiad trosiannol

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 29, swm yr ychwanegiad trosiannol yw’r gwahaniaeth rhwng y Swm A a’r Swm B (A>B).

(2Pan wneir penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010 (“Rheoliadau 2010”) mewn perthynas â’r person perthnasol—

(a)Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod yr oedd y penderfyniad yn cael effaith, pe na bai’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud; a

(b)Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i’r penderfyniad.

(3Pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau 2010 a thrinnir y person perthnasol fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau 2010—

(a)Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod y triniwyd y person perthnasol gyntaf fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, pe na bai’r person perthnasol wedi ei drin felly; a

(b)Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i drin y person perthnasol felly.

(4Yn y paragraff hwn a pharagraff 29, ystyr “swm sylfaenol” (“basic amount”) yw swm cyfanredol y cyfryw symiau a allai fod yn gymwys yn achos y ceisydd yn unol â pharagraff 1(1)(a) i (e) neu baragraff (2)(2)(a) i (f) o Atodlen 6.

29.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os digwydd unrhyw newid yn yr amgylchiadau sy’n arwain at gynnydd yn swm sylfaenol y ceisydd, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, o swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D (C>D).

(2Os yw’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D yn fwy na swm yr ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol hwnnw i ddim.

(3Swm C yw’r swm sylfaenol sy’n gymwys o ganlyniad i’r cynnydd.

(4Swm D yw’r swm sylfaenol a oedd yn gymwys yn union cyn y cynnydd.

Rheoliad 33(2)

ATODLEN 8Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

1.  Yn achos ceisydd a fu’n ymgymryd â gwaith am dâl fel enillydd cyflogedig, neu a fyddai wedi bod yn ymgymryd â gwaith o’r fath pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr—

(a)os—

(i)terfynwyd y gyflogaeth oherwydd ymddeol; ac

(ii)ar ôl ymddeol, os oes hawl gan y ceisydd i gael pensiwn ymddeol o dan DCBNC, neu pan nad oes hawl o’r fath ganddo oherwydd, yn unig, methiant y ceisydd i fodloni’r amodau cyfrannu,

unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, ond hynny am gyfnod, yn unig, sy’n cychwyn ar y diwrnod yn union ar ôl y dyddiad y terfynwyd y gyflogaeth;

(b)os terfynwyd y gyflogaeth rywfodd ac eithrio drwy ymddeol, a hynny cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, ac eithrio—

(i)unrhyw daliad o’r natur a ddisgrifir yn—

(aa)paragraff 14(1)(e) o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn, neu

(bb)adran 28, 64 neu 68 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(151) (taliadau gwarantu, atal dros dro o’r gwaith ar seiliau meddygol neu famolaeth); a

(ii)unrhyw ddyfarniad, swm neu daliad o’r natur a ddisgrifir yn—

(aa)paragraff 14(1)(g) neu (i) o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn, neu

(bb)adran 34 neu 70 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (taliadau gwarantu ac atal dros dro o’r gwaith: cwynion wrth dribiwnlysoedd cyflogaeth),

gan gynnwys unrhyw daliad a wneir o ganlyniad i setlo cwyn i dribiwnlys cyflogaeth neu achos llys;

(c)os, cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod—

(i)nad yw’r gyflogaeth wedi ei therfynu, ond

(ii)nad yw’r ceisydd yn ymgymryd â gwaith am dâl,

unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ac eithrio unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) neu baragraff 14(1)(j) o Atodlen 6.

2.  Yn achos ceisydd a fu, cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod—

(a)yn ymgymryd â chyflogaeth ran-amser fel enillydd cyflogedig, neu, os oedd y gyflogaeth y tu allan i Brydain Fawr, a fyddai wedi bod yn ymgymryd â chyflogaeth o’r fath pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr; a

(b)wedi peidio ag ymgymryd â’r gyflogaeth honno, boed y gyflogaeth honno wedi ei therfynu ai peidio,

unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ac eithrio—

(i)pan fo’r gyflogaeth wedi ei therfynu, unrhyw daliad o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb);

(ii)pan nad yw’r gyflogaeth wedi ei therfynu, unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) neu baragraff 14(1)(j) o Atodlen 6.

3.  Yn achos ceisydd a fu’n ymgymryd â gwaith am dâl neu gyflogaeth ran-amser fel enillydd hunangyflogedig neu a fyddai wedi bod yn ymgymryd felly pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr, ac sydd wedi peidio â bod yn gyflogedig felly, o’r dyddiad y peidiodd cyflogaeth y ceisydd, unrhyw enillion a oedd yn deillio o’r gyflogaeth honno ac eithrio enillion y mae paragraff 16(3) o Atodlen 6 (enillion enillwyr hunangyflogedig) yn gymwys iddynt.

4.—(1Mewn achos y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ac nad yw paragraff 5 yn gymwys iddo, £20; ond er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio pan fo, ac i’r graddau y bo, enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn yn llai nag £20.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm anabledd, premiwm anabledd difrifol, elfen gweithgaredd perthynol i waith neu elfen gymorth o dan Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)y ceisydd yn aelod o gwpl a swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm anabledd difrifol o dan Atodlen 7; a

(b)y ceisydd neu bartner y ceisydd heb gyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac o leiaf un ohonynt yn ymgymryd â chyflogaeth.

5.  Mewn achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, £25.

6.—(1Mewn achos pan nad yw paragraff 4 na pharagraff 5 yn gymwys i’r ceisydd ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm gofalwr o dan Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr), £20 o enillion y person sydd, neu a oedd ar unrhyw adeg yn ystod yr wyth wythnos flaenorol, yn cael lwfans gofalwr, neu a drinnir yn unol â pharagraff 14(2) o’r Atodlen honno fel pe bai’n cael lwfans gofalwr.

(2Os dyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â’r ceisydd ac unrhyw bartner y ceisydd, rhaid cydgrynhoi eu henillion at ddibenion y paragraff hwn, ond ni chaiff y swm sydd i’w ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) fod yn fwy nag £20 o’r swm cyfanredol.

7.  Pan ddyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â cheisydd sy’n aelod o gwpl ac sydd â’i enillion yn llai nag £20, ond nis dyfernir mewn perthynas â’r aelod arall o’r cwpl, ac y mae’r aelod arall hwnnw’n ymgymryd â chyflogaeth—

(a)a bennir ym mharagraff 9(1), cymaint o enillion yr aelod arall hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm a ddiystyrwyd o dan baragraff 6, yn fwy nag £20;

(b)ac eithrio un bennir ym mharagraff 9(1), cymaint o enillion yr aelod arall hwnnw o’r cyfryw gyflogaeth arall hyd at £10, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm a ddiystyrwyd o dan baragraff 6, yn fwy nag £20.

8.  Mewn achos pan nad yw paragraffau 4, 6, 7 a 9 yn gymwys i’r ceisydd, a’r ceisydd yn un o gwpl ac aelod o’r cwpl hwnnw mewn cyflogaeth, £10; ond, er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio pan fo, ac i’r graddau y bo, enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn yn llai na £10.

9.—(1Mewn achos pan nad yw paragraffau 4, 6, 7 a 9 yn gymwys i’r ceisydd, £20 o enillion sy’n deillio o un neu ragor o gyflogaethau fel—

(a)diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan awdurdod tân ac achub, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(152) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(b)diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan Wasanaeth Tân ac Achub yr Alban(153);

(c)fel gwyliwr y glannau cynorthwyol mewn perthynas â gweithgareddau achub arfordirol;

(d)fel aelod o griw, neu ar gyfer lansio, bad achub pan fo’r gyflogaeth yn un rhan-amser;

(e)fel aelod o unrhyw un o’r lluoedd tiriogaethol neu’r lluoedd wrth gefn a ragnodir yn Rhan I o Atodlen 6 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001(154);

ond, er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio i’r graddau a bennir yn is-baragraff (2).

(2Os yw partner y ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth—

(a)a bennir yn is-baragraff (1), cymaint o enillion partner y ceisydd, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd y paragraff hwn, yn fwy nag £20;

(b)ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (1), cymaint o enillion partner y ceisydd o’r gyflogaeth honno hyd at £10, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd o dan y paragraff hwn, yn fwy nag £20.

10.  Pan fo’r ceisydd yn ymgymryd ag un neu ragor o’r cyflogaethau a bennir ym mharagraff 9(1), ond enillion y ceisydd yn deillio o’r cyfryw gyflogaethau yn llai nag £20 mewn unrhyw wythnos a’r ceisydd hefyd yn ymgymryd ag unrhyw gyflogaeth arall, cymaint o enillion y ceisydd o’r gyflogaeth arall honno hyd at £5 os yw’r ceisydd yn geisydd sengl neu hyd at £10 os oes gan y ceisydd bartner, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd o dan baragraff 9, yn fwy nag £20.

11.  Mewn achos pan nad oes yr un o’r paragraffau 4 i 10 yn gymwys, £5.

12.—(1Os yw—

(a)y ceisydd (neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw) yn berson y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo;

(b)yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei fodloni bod y person hwnnw’n ymgymryd â gwaith esempt fel y’i diffinnir yn is-baragraff (6); ac

(c)nad yw paragraff 14 yn gymwys,

y swm a bennir yn is-baragraff (7) (“y swm penodedig”).

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraffau 4 i 11 yn gymwys; ond mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, ac os byddai’r swm penodedig yn llai na’r swm a bennir ym mharagraff 5, yna bydd paragraff 5 yn gymwys yn lle’r paragraff hwn.

(3Er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), os yw is-baragraff (1) yn gymwys i un aelod o gwpl (“A”) rhaid peidio â’i gymhwyso i’r aelod arall (“B”) o’r cwpl hwnnw ac eithrio i’r graddau y darperir yn is-baragraff (4).

(4Pan fo enillion A yn llai na’r swm penodedig, rhaid diystyru hefyd cymaint o enillion B, na fyddai, o’i gydgrynhoi ag enillion A, yn fwy na’r swm penodedig; ond cyfyngir y swm o enillion B y caniateir ei ddiystyru o dan yr is-baragraff hwn i uchafswm o £20 oni fodlonir yr Ysgrifennydd Gwladol fod B hefyd yn ymgymryd â gwaith esempt.

(5Mae’r is-baragraff yn gymwys i berson—

(a)sy’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;

(b)sy’n cael budd-dal analluogrwydd;

(c)sy’n cael lwfans anabledd difrifol; neu

(d)a gredydir ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975.

(6Ystyr “gwaith esempt” yw gwaith yn yr ystyr a roddir i “exempt work” yn—

(a)rheoliad 45(2), (3) neu (4) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(155); neu (yn ôl fel y digwydd)

(b)rheoliad 17(2), (3) neu (4) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995(156),

ac wrth benderfynu a yw ceisydd neu aelod o gwpl yn ymgymryd ag unrhyw fath o waith esempt at ddibenion y paragraff hwn, nid yw’n berthnasol a yw’r person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn ymgymryd â gwaith arall yn ogystal.

(7Y swm penodedig yw’r swm o arian a grybwyllir o bryd i’w gilydd mewn unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (6) ac y mae’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn esempt yn ei rhinwedd (neu, os oes mwy nag un ddarpariaeth berthnasol o’r fath, ac os yw’r darpariaethau hynny’n crybwyll symiau gwahanol o arian, yr uchaf o’r symiau hynny).

13.  Unrhyw swm, neu’r gweddill o unrhyw swm, y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 23 neu 24 o Atodlen 9 pe bai incwm y ceisydd nad yw’n enillion wedi bod yn ddigon i roi hawl i’r ceisydd gael diystyru’r swm llawn o dan y paragraffau hynny.

14.  Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, enillion y ceisydd.

15.  Unrhyw enillion sy’n deillio o gyflogaeth ac sy’n daladwy mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig am ba bynnag gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r enillion hynny i’r Deyrnas Unedig.

16.  Os gwneir taliad o enillion mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.

17.  Unrhyw enillion plentyn neu berson ifanc.

18.—(1Mewn achos pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni un, o leiaf, o’r amodau a bennir yn is-baragraff (2), ac enillion net y ceisydd yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm y symiau a bennir yn is-baragraff (3), rhaid cynyddu o £17.10 y swm o enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan baragraffau 4 i 12.

(2Amodau’r is-baragraff hwn yw—

(a)bod y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, naill ai’r ceisydd neu ei bartner, yn berson y mae rheoliad 20(1)(c) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(157) yn gymwys iddo; neu

(b)bod—

(i)y ceisydd, neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw yn 25 oed o leiaf ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu

(ii)y ceisydd yn aelod o gwpl, a bod—

(aa)un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; a

(bb)swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm teulu o dan baragraff 4 o Atodlen 7; neu

(iii)y ceisydd yn unig riant sy’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu

(iv)y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ac—

(aa)swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9, yr elfen gweithgaredd perthynol i waith o dan baragraff 23 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7 yn eu tro;

(bb)pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n bodloni’r amodau cymhwyso am y premiwm anabledd neu’r naill neu’r llall o’r elfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (aa) ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

(3Y canlynol yw’r symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)—

(a)y swm a gyfrifwyd y ceir ei ddiystyru o enillion y ceisydd o dan baragraffau 4 i 12;

(b)y swm a gyfrifwyd o gostau gofal plant sy’n ddidynadwy o dan baragraff 20(1)(c) o Atodlen 6 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol: personau nad ydynt yn bensiynwyr); ac

(c)£17.10.

(4Bydd darpariaethau rheoliad 10 (gwaith am dâl) yn gymwys wrth benderfynu a yw person yn gweithio dim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd ai peidio, ond hynny fel pe bai’r cyfeiriad at 16 awr ym mharagraff (1) o’r rheoliad hwnnw yn gyfeiriad at 30 awr.

19.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “cyflogaeth ran-amser” (“part-time employment”) yw cyflogaeth y mae’r person yn ymgymryd â hi am lai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Rheoliad 33(2)

ATODLEN 9Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

1.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw ofal plant, teithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal.

2.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol.

3.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter.

4.  Unrhyw swm a dalwyd ar gyfer treth ar incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan baragraff 17 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion).

5.  Unrhyw daliad mewn perthynas ag unrhyw dreuliau a dynnwyd neu sydd i’w tynnu gan geisydd—

(a)a gymerwyd ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu

(b)sy’n wirfoddolwr,

os nad yw’r ceisydd hwnnw, fel arall, yn cael unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw o’r gyflogaeth ac na thrinnir ef fel pe bai’n meddu unrhyw enillion o dan baragraff 19(5) o Atodlen 6 (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

6.  Unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

7.  Yn achos cyflogaeth fel enillydd cyflogedig, unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth.

8.  Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.

9.  Pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl cyd-hawliad yn yr ystyr o “joint-claim couple” at ddibenion Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 a phartner y ceisydd yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.

10.  Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, yr hawl, ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, ond daeth yr hawl honno i ben ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999(158) fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.

11.  Unrhyw lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, neu TALlA.

12.  Unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu oherwydd methiant i dalu—

(a)unrhyw daliad a bennir ym mharagraff 11 neu 14;

(b)cymhorthdal incwm;

(c)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(d)lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

13.  Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(159) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(160) neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.

14.  Unrhyw lwfans gweini.

15.  Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr neu unrhyw daliad cyfatebol.

16.—(1Unrhyw daliad—

(a)ar ffurf lwfans cynhaliaeth addysg a wnaed yn unol ag—

(i)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996(161) (talu treuliau ysgol; dyfarnu ysgoloriaethau etc);

(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 neu 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(162) (pŵer i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysg);

(iii)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992(163);

(b)cyfatebol i lwfans cynhaliaeth addysg o’r fath, a wnaed yn unol ag—

(i)adran 14 neu adran 181 o Ddeddf Addysg 2002(164) (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg neu ofal plant, a lwfansau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant); neu

(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 181 o’r Ddeddf honno; neu

(c)yng Nghymru a Lloegr, ar ffurf cymorth ariannol a wnaed yn unol ag adran 14 o Ddeddf Addysg 2002.

(2Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a wnaed yn unol ag—

(a)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996;

(b)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980; neu

(c)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992,

mewn perthynas â chwrs astudio a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc neu berson sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg neu daliad arall a wnaed yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn is-baragraff (1).

17.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd ar ffurf ad-daliad o dan reoliad 11(2) o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyriwr Athrawon) (Ad-dalu etc) 2003(165).

18.—(1Unrhyw daliad a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(166) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(167) ac eithrio—

(a)taliad a wnaed yn lle cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, budd-dal analluogrwydd, lwfans anabledd difrifol neu lwfans cyflogaeth a chymorth;

(b)taliad o lwfans y cyfeirir ato yn adran 2(3) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2(5) o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990; neu

(c)taliad y bwriedir iddo ddiwallu’r costau byw sy’n ymwneud ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2) tra bo ceisydd yn ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu gynllun arall i helpu’r ceisydd i wella’i ragolygon cyflogaeth, oni bai bod y taliad yn Fenthyciad Datblygu Gyrfa a delir yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1973, a chyfnod yr addysg neu hyfforddiant neu’r cynllun, a gynorthwyir gan y benthyciad hwnnw, wedi ei gwblhau.

(2Yr eitemau a bennir yn yr is-baragraff hwn at ddibenion is-baragraff (1)(c) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

19.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw rai o’r taliadau canlynol—

(a)taliad elusennol;

(b)taliad gwirfoddol;

(c)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraff (a) neu (b)) a wnaed gan ymddiriedolaeth y mae ei chyllid yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd;

(d)taliad o dan flwydd-dal a brynwyd—

(i)yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd; neu

(ii)o gyllid sy’n deillio o daliad a wnaed,

o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd; neu

(e)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d)) a dderbyniwyd yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.

(2Rhaid peidio â chymhwyso is-baragraff (1) i daliad a wnaed neu sy’n ddyladwy gan—

(a)cyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner unrhyw aelod o deulu’r ceisydd; neu

(b)rhiant plentyn neu berson ifanc pan fo’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw’n aelod o deulu’r ceisydd.

20.  Yn ddarostyngedig i baragraff 40, £10 o unrhyw rai o’r canlynol, sef—

(a)pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y diystyrir pensiwn o’r fath o dan baragraff 13 neu 14);

(b)pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

(c)pensiwn sy’n daladwy i berson sy’n wraig neu ŵr gweddw neu’n bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw un o bwerau Ei Mawrhydi ac eithrio deddfiad, i wneud darpariaeth ynghylch pensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;

(d)taliad incwm gwarantedig, ac os yw swm y taliad hwnnw wedi ei leihau islaw £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(168), cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrir, yn fwy na £10;

(e)taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad o’r fath a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;

(f)pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;

(g)pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.

21.  Yn ddarostyngedig i baragraff 40, £15 o unrhyw—

(a)lwfans mam weddw a dalwyd yn unol ag adran 37 o DCBNC;

(b)lwfans rhiant gweddw a dalwyd yn unol ag adran 39A o DCBNC.

22.—(1Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf y mae gan y ceisydd fuddiant llesiannol ynddo, neu y trinnir y ceisydd o dan baragraff 32 o Atodlen 6 (cyfalaf a ddelir ar y cyd) fel pe bai ganddo fuddiant llesiannol ynddo ond, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 4, 5, 7, 11, 17 neu 30 i 33 o Atodlen 10.

(2Incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 5, 7 neu 30 i 33 o Atodlen 10, ond i’r graddau canlynol yn unig—

(a)unrhyw ad-daliadau morgais a wneir mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni; neu

(b)unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd yn atebol i’w thalu neu i’w talu mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre ac a delir yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni.

(3Mae’r diffiniad o “taliadau dŵr” (“water charges”) yn rheoliad 2(1) yn gymwys i is-baragraff (2) o’r paragraff hwn gan hepgor y geiriau “, i’r graddau y mae a wnelo’r cyfryw daliadau â’r annedd a feddiennir gan berson fel ei gartref”.

23.  Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—

(a)o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(169), dyfarniad y myfyriwr hwnnw;

(b)o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(170), bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu

(c)benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,

swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.

24.—(1Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—

(a)ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu

(b)yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,

a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 23, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.

(2At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—

(a)swm wythnosol y taliadau; neu

(b)y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),

pa un bynnag yw’r lleiaf.

25.  Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd gan blentyn neu berson ifanc neu annibynnydd.

26.  Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref a pherson arall, nad yw’n berson y cyfeirir ato ym mharagraff 25 neu 27 hefyd yn meddiannu’r annedd honno, a rhwymedigaeth dan gontract i wneud taliadau i’r ceisydd mewn perthynas â meddiannu’r annedd gan y person arall hwnnw neu aelod o’i deulu—

(a)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â meddiannu’r annedd, gan y person hwnnw neu aelod o’i deulu, neu gan y person hwnnw ac aelod o’i deulu, yn llai nag £20, y cyfan o’r swm hwnnw; neu

(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn £20 neu’n fwy yr wythnos, £20.

27.  Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—

(a)pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau;

(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.

28.—(1Unrhyw incwm mewn nwyddau neu wasanaethau, ac eithrio pan fo paragraff 17(10)(b) o Atodlen 6 (darpariaeth o gymorth o dan adran 95 neu 98 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(171) wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) yn gymwys.

(2Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at “incwm mewn nwyddau neu wasanaethau” (“income in kind”) yn cynnwys taliad a wneir i drydydd parti mewn perthynas â’r ceisydd ac a ddefnyddir gan y trydydd parti i ddarparu buddion ar ffurf nwyddau neu wasanaethau i’r ceisydd.

29.  Unrhyw incwm sy’n daladwy mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod y cyfryw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.

30.—(1Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd mewn perthynas â pherson sy’n aelod o deulu’r ceisydd—

(a)yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(172) neu’n unol â chynllun a gymeradwywyd gan Weinidogion yr Alban o dan adran 71 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007(173) (cynlluniau lwfansau mabwysiadu);

(b)sy’n daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 15(1) o Ddeddf Plant 1989(174) a pharagraff 15 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (cyfraniad awdurdod lleol at gynhaliaeth plentyn pan fo’r plentyn yn byw gyda pherson o ganlyniad i orchymyn preswylio) neu, yn yr Alban, adran 50 o Ddeddf Plant 1975(175) (taliadau tuag at gynhaliaeth plant);

(c)sy’n daliad a wneir gan awdurdod, fel y’i diffinnir yn erthygl 2 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(176), yn unol ag erthygl 15 o’r Gorchymyn hwnnw a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddo (cyfraniad gan awdurdod at gynhaliaeth plentyn);

(d)yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig).

(2Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, a wnaed i’r ceisydd yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

31.  Unrhyw daliad a wnaed i geisydd y lletywyd person gydag ef yn rhinwedd trefniadau a wnaed—

(a)gan awdurdod lleol o dan—

(i)adran 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt),

(ii)adran 26 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(177) (dull o ddarparu llety i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol), neu

(iii)rheoliad 33 neu 51 o Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009(178) (lwfansau maethu a gofal gan berthynas a lwfansau maethu); neu

(b)gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety gan sefydliadau gwirfoddol).

32.  Unrhyw daliad, a wnaed i’r ceisydd neu bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”), nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond sydd yng ngofal y ceisydd dros dro, gan—

(a)awdurdod iechyd;

(b)awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wnaed mewn perthynas â’r person dan sylw;

(c)sefydliad gwirfoddol;

(d)y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(179);

(e)ymddiriedolaeth gofal sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(180) neu a sefydlwyd drwy orchymyn a wnaed o dan adran 18(2)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(181); neu

(f)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(182).

33.  Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989(183) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd a chyngor a chymorth i blant penodol).

34.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 23C o Ddeddf Plant 1989 neu adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (dyletswydd awdurdodau lleol i hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cymorth ariannol i bersonau sydd, neu a fu, yn eu gofal) i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys ac eithrio pan fo A—

(a)wedi bod gynt yng ngofal y ceisydd, a

(b)yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac

(c)yn parhau i fyw gyda’r ceisydd.

35.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad a gafwyd o dan bolisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag y risg o fod yn analluog i gynnal yr ad-daliadau—

(a)ar fenthyciad a sicrhawyd ar yr annedd a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd; neu

(b)o dan gytundeb rheoleiddiedig yn yr ystyr o “regulated agreement” fel y’i diffinnir at ddibenion Deddf Credyd Defnyddwyr 1974(184) neu o dan gytundeb hurbwrcas neu gytundeb gwerthiant amodol yn yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “hire-purchase agreement” a “conditional sale agreement” fel y’u diffinnir at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Hurbwrcas 1964(185).

(2Ni chaniateir diystyru taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) ac eithrio i’r graddau nad yw’r taliad a gafwyd o dan y polisi hwnnw yn fwy na’r symiau, a gyfrifir ar sail wythnosol, a ddefnyddir i—

(a)cynnal yr ad-daliadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, (1)(b); a

(b)talu unrhyw swm sy’n ddyladwy ar ffurf premiymau ar—

(i)y polisi hwnnw; neu

(ii)mewn achos pan fo is-baragraff (1)(a) yn gymwys, polisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag colled neu ddifrod i unrhyw adeilad, neu ran o adeilad, a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd, ac sy’n ofynnol fel amod o’r benthyciad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a).

36.  Unrhyw daliad o incwm sydd i’w drin fel cyfalaf yn rhinwedd paragraff 27 o Atodlen 6 (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

37.  Unrhyw—

(a)taliad cronfa gymdeithasol a wnaed yn unol â Rhan 8 o DCBNC ( y gronfa gymdeithasol); neu

(b)cymorth achlysurol.

38.  Unrhyw daliad o dan Ran 10 o DCBNC (bonws Nadolig i bensiynwyr).

39.  Pan wneir taliad o incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.

40.  Ni chaiff y cyfanswm o incwm ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, incwm y teulu ac incwm unrhyw berson y trinnir y ceisydd hwnnw fel pe bai’n ei feddu o dan baragraff 7(3) o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod) sydd i’w ddiystyru o dan baragraff 5(2)(b) a pharagraff 6(1)(d) o Atodlen 11 (cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad, incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad), paragraff 9(2) o Atodlen 11 (trin benthyciadau myfyriwr), paragraff 11(3) o Atodlen 11 (trin taliadau o gronfeydd mynediad) a pharagraffau 20 ac 21, mewn unrhyw achos fod yn fwy nag £20 yr wythnos.

41.—(1Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).

(2Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)partner neu gyn-bartner y person hwnnw nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw;

(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(3Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, ar yr amod nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru neu, os oedd y partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ffurfio partneriaeth sifil, nad yw’r bartneriaeth sifil wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oedd wedi ei diddymu ar yr adeg y digwyddodd y farwolaeth, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys;

(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(4Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd, neu a fu, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad i naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,

ond hynny am y cyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.

(5Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (y dyddiad perthnasol) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.

(6Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw incwm sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.

(7At ddibenion is-baragraffau (2) i (6), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr Ymddiriedolaethau fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, a Chronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

42.  Unrhyw fudd-dal tai.

43.  Unrhyw daliad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddigolledu am golli (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yr hawlogaeth i gael budd-dal tai.

44.  Unrhyw daliad i reithiwr neu dyst mewn perthynas â phresenoldeb mewn llys, ac eithrio digollediad am golli enillion neu golli budd-dal sy’n daladwy o dan y Deddfau budd-dal.

45.  Unrhyw daliad o ganlyniad i ostyngiad yn y dreth gyngor o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992 (gostyngiad atebolrwydd am dreth gyngor).

46.—(1Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir—

(a)o ran Lloegr, o dan reoliad 5, 6 neu 12 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003(186) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(b)o ran Cymru, o dan reoliad 5, 6 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(187) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(c)o ran yr Alban, o dan reoliad 3, 5 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Yr Alban) (Rhif 2) 2003(188) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd).

(2Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru sy’n gyfatebol i daliad neu ad-daliad a grybwyllir yn is-baragraff (1).

47.  Unrhyw daliad a wneir i’r cyfryw bersonau sydd â hawl i gael buddion fel y penderfynir gan neu o dan gynllun a wnaed yn unol ag adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988(189) yn lle talebau neu drefniadau cyffelyb mewn cysylltiad â darparu’r buddion hynny (gan gynnwys taliadau a wneir yn lle talebau cychwyn iach, talebau llaeth neu gyflenwi fitaminau).

48.  Unrhyw daliad a wneir gan naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder neu Weinidogion yr Alban o dan gynllun a sefydlwyd i gynorthwyo perthnasau a phersonau eraill i ymweld â phersonau a gedwir yn y ddalfa.

49.—(1Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, ac eithrio cynhaliaeth plant, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan gyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner partner y ceisydd.

(2At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.

(3At ddibenion is-baragraff (1) rhaid trin taliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn lle cynhaliaeth fel pe bai’n daliad o gynhaliaeth a wnaed gan berson a bennir yn is-baragraff (1).

50.—(1Unrhyw daliad o gynhaliaeth plant a wneir gan, neu sy’n deillio o, berthynas atebol pan fo’r plentyn neu berson ifanc y gwneir y taliad mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd, ac eithrio pan wneir y taliad gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.

(2Yn is-baragraff (1)—

ystyr “cynhaliaeth plant” (“child maintenance”) yw unrhyw daliad tuag at gynhaliaeth plentyn neu berson ifanc, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir yn wirfoddol a thaliadau a wneir o dan—

(a)

Deddf Cynnal Plant 1991(190);

(b)

Gorchymyn Cynnal Plant (Gogledd Iwerddon) 1991(191);

(c)

gorchymyn llys;

(d)

gorchymyn cydsynio;

(e)

cytundeb cynhaliaeth a gofrestrwyd ar gyfer ei weithredu yn Llyfrau’r Cyngor a’r Sesiwn neu yn llyfrau’r llysoedd siryf;

ystyr “perthynas atebol” (“liable relative”) yw person a restrir yn y diffiniad o “liable relative” yn rheoliad 54 (dehongli) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(192), ac eithrio person sy’n dod o fewn is-baragraff (d) o’r diffiniad hwnnw.

51.  Unrhyw daliad (ac eithrio lwfans hyfforddi) a wneir, boed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson arall, o dan Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1944(193) i gynorthwyo personau anabl i gael neu gadw cyflogaeth er gwaethaf eu hanabledd.

52.  Unrhyw lwfans gwarcheidwad.

53.—(1Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan Ran 2, 3 neu 5 o DCBNC, unrhyw gynnydd yng nghyfradd y budd-dal hwnnw sy’n digwydd o dan Ran 4 (cynnydd ar gyfer dibynyddion) neu adran 106(a) (atodiad i’r anghyflogadwy) o’r Ddeddf honno, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.

(2Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw bensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(194), unrhyw gynnydd yng nghyfradd y pensiwn neu lwfans hwnnw o dan y Gorchymyn hwnnw, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.

54.  Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad yw’n berson sydd â hawl o dan y Gorchymyn hwnnw.

55.  Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(195) (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.

56.—(1Unrhyw daliad—

(a)a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—

(i)yr oedd ei farwolaeth i’w phriodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a

(ii)y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a

(b)yn hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.

(2Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).

57.  Unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod y mae hawl gan y ceisydd i’w gael.

58.  Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan is-baragraff (1) o baragraff 18 o Atodlen 8, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.

59.  Unrhyw daliad a wneir o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(196), neu o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd) neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(197) (taliadau uniongyrchol).

60.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mewn perthynas â pherson sy’n cael, neu sydd wedi cael, cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, unrhyw daliad i’r person hwnnw—

(a)i dalu treuliau a dynnwyd yn gyfan gwbl ac yn angenrheidiol tra’n ymgymryd â’r gweithgaredd masnachol;

(b)a ddefnyddiwyd, neu a fwriadwyd i’w ddefnyddio, i gynnal ad-daliadau ar fenthyciad a gymerwyd gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol,

y ceir neu y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef.

(2Mae is-baragraff (1) yn gymwys yn unig mewn perthynas â thaliadau a delir i’r person hwnnw allan o’r cyfrif arbennig.

61.—(1Unrhyw daliad o ddyfarniad chwaraeon ac eithrio i’r graddau y’i gwnaed mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2).

(2Yr eitemau a bennir at ddibenion is-baragraff (1) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

(3At ddibenion is-baragraff (2) nid yw “bwyd” (“food”) yn cynnwys fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau dietegol arbennig eraill a fwriedir ar gyfer gwella perfformiad y person yn y gamp y gwnaed y dyfarniad mewn perthynas â hi.

62.  Pan fo swm y lwfans cynhaliaeth a delir i berson mewn wythnos ostyngiad yn fwy na swm y lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r person hwnnw wedi ei gael yn yr wythnos ostyngiad pe bai wedi bod yn daladwy i’r person hwnnw llai 50c, y swm dros ben hwnnw.

63.  Yn achos ceisydd sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth, unrhyw daliad disgresiynol a wneir gan gontractwr parth cyflogaeth i’r ceisydd, boed ar ffurf ffi, grant, benthyciad neu rywfodd arall.

64.  Unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001(198).

65.  Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru, i neu ar ran y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir i ddatblygu neu gynnal gallu’r ceisydd neu bartner y ceisydd i fyw’n annibynnol yn llety’r ceisydd.

66.  Unrhyw daliad o fudd-dal plant.

Rheoliad 33(2)

ATODLEN 10Diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

1.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw ofal plant, teithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.

2.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.

3.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.

4.  Yr annedd ynghyd ag unrhyw garej, gardd ac adeiladau allanol, a feddiennir fel arfer gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, gan gynnwys unrhyw fangre nas meddiennir felly ac y mae’n anymarferol neu’n afresymol ei gwerthu ar wahân, ond, er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu’r ceisydd ac o briodas amlbriod), un annedd yn unig y caniateir ei diystyru o dan y paragraff hwn.

5.  Unrhyw fangre a gaffaelwyd i’w meddiannu gan y ceisydd ac y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd o fewn 26 wythnos ar ôl y dyddiad caffael neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.

6.  Unrhyw swm sy’n briodoladwy’n uniongyrchol i dderbyniadau gwerthiant unrhyw fangre a feddiennid gynt gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac sydd i’w ddefnyddio i brynu mangre arall y bwriedir ei meddiannu felly o fewn 26 wythnos ar ôl dyddiad y gwerthiant neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gwblhau’r pryniant.

7.  Unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol—

(a)gan bartner neu berthynas ceisydd sengl neu unrhyw aelod o’r teulu fel cartref i’r person hwnnw pan fo’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu’n analluog;

(b)gan gyn-bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw; ond nid yw’r ddarpariaeth hon yn gymwys os yw’r cyn-bartner yn berson y mae’r ceisydd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu y ffurfiodd y ceisydd bartneriaeth sifil ag ef, sydd bellach wedi ei diddymu.

8.  Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, y cyfan o gyfalaf y ceisydd.

9.  Pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl cyd-hawliad yn yr ystyr o “joint-claim couple” at ddibenion Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 a phartner y ceisydd yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, y cyfan o gyfalaf y ceisydd.

10.  Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo o unrhyw fath, ac eithrio tir neu fangre a osodwyd gan y ceisydd o dan brydles neu denantiaeth sy’n parhau mewn grym, gan gynnwys is-brydles neu is-denantiaeth.

11.—(1Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd, pan fo’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig at ddibenion y busnes hwnnw, neu, os yw’r ceisydd wedi peidio â gweithredu felly, am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu unrhyw ased o’r fath.

(2Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd—

(a)os nad yw’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw, oherwydd rhyw glefyd neu anabledd corfforol neu feddyliol; ond

(b)bod y ceisydd yn bwriadu gweithredu, neu, yn ôl fel y digwydd, gweithredu drachefn, fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw cyn gynted ag y bo’n gwella neu’n alluog i weithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw,

am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y gwneir y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud felly, neu, os yw’n afresymol disgwyl i’r ceisydd ddechrau gweithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw o fewn y cyfnod hwnnw, am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i ddechrau gweithredu felly neu weithredu felly drachefn.

(3Yn achos person sy’n cael cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, yr asedau a gaffaelwyd gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef.

(4Yn achos person sydd wedi peidio ymgymryd â’r gweithgaredd masnachol y cafwyd cymorth mewn perthynas ag ef fel a bennir yn is-baragraff (3), yr asedau sy’n berthynol i’r gweithgaredd hwnnw am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu unrhyw ased o’r fath.

12.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw ôl-daliad, neu unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu am ôl-ddyled oherwydd methiant i dalu’r canlynol—

(a)unrhyw daliad a bennir ym mharagraffau 11, 13 neu 14 o Atodlen 9;

(b)budd-dal ar sail incwm o dan Ran 7 o DCBNC;

(c)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(d)unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001(199);

(e)credyd treth gwaith a chredyd treth plant;

(f)lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm,

ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir yr ôl-daliad neu’r taliad consesiynol.

(2Mewn achos pan fo cyfanswm unrhyw ôl-daliadau ac, os yw’n briodol, unrhyw daliad consesiynol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) mewn perthynas ag un o’r taliadau penodedig, budd-daliadau neu lwfansau, yn £5,000 neu’n fwy (y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn ac yn is-baragraff (3) fel “y swm perthnasol”) ac—

(a)y’i talwyd er mwyn unioni neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol yn yr ystyr a roddir i “official error” fel y’i diffinnir gan reoliad 1(2) o Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor (Penderfyniadau ac Apelau) 2001 (200); a

(b)y’i cafwyd gan y ceisydd yn llawn ar neu ar ôl 14 Hydref 2001,

bydd is-baragraff (1) yn cael effaith mewn perthynas ag ôl-daliad neu daliad consesiynol o’r fath naill ai am gyfnod o 52 wythnos o’r dyddiad y’i cafwyd, neu, os ceir y cyfan o’r swm perthnasol yn ystod cyfnod dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod, am weddill y cyfnod hwnnw os yw’r cyfnod hwnnw’n hwy.

(3At ddibenion is-baragraff (2), ystyr “cyfnod dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod” (“the period of an award of a reduction under an authority’s scheme”) yw—

(a)y dyfarniad y cafwyd y swm perthnasol ynddo gyntaf (neu ran gyntaf y swm perthnasol os telir ef mewn mwy nag un rhandaliad); a

(b)os dilynir y dyfarniad hwnnw gan un neu ragor o ddyfarniadau pellach, sy’n dechrau yn union wedi i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben, neu sydd bob un yn dechrau yn union wedi i’r un blaenorol ddod i ben, y cyfryw ddyfarniad pellach, ar yr amod, ar gyfer y cyfryw ddyfarniad pellach, mai’r ceisydd—

(i)yw’r person a gafodd y swm perthnasol; neu

(ii)yw partner y person a gafodd y swm perthnasol, neu a oedd yn bartner y person hwnnw ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw.

13.  Unrhyw swm—

(a)a delir i’r ceisydd o ganlyniad i ddifrodi neu i golli’r cartref neu unrhyw eiddo personol, ac a fwriedir ar gyfer ei atgyweirio neu’i amnewid; neu

(b)a gaffaelwyd gan y ceisydd (boed ar ffurf benthyciad neu fel arall) yn benodol ar yr amod y’i defnyddir i wneud atgyweiriadau hanfodol neu welliant i’r cartref,

a ddefnyddir at y diben a fwriedir, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y’i talwyd neu’i caffaelwyd felly, neu am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau ar gyfer cyflawni’r atgyweiriadau, yr amnewidiad neu’r gwelliant.

14.  Unrhyw swm—

(a)a adneuwyd gyda chymdeithas dai yn yr ystyr o “housing association” fel y’i diffinnir yn adran 1(1) o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985(201) fel amod o feddiannu’r cartref;

(b)a adneuwyd felly ac sydd i’w ddefnyddio i brynu cartref arall,

am gyfnod o 26 wythnos neu am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gwblhau’r pryniant.

15.  Unrhyw feddiannau personol ac eithrio rhai a gaffaelwyd gan y ceisydd gyda’r bwriad o leihau ei gyfalaf er mwyn sicrhau hawl i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu gynyddu swm y gostyngiad hwnnw.

16.  Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan flwydd-dal neu werth ildio (os oes gwerth ildio) blwydd-dal o’r fath.

17.  Pan fo cyllid ymddiriedolaeth yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd, gwerth cronfa’r ymddiriedolaeth a gwerth yr hawl i gael unrhyw daliad o dan yr ymddiriedolaeth honno.

18.—(1Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd neu bartner y ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd.

(2Ond—

(a)mae is-baragraff (1) yn gymwys, yn unig, am y cyfnod o 52 wythnos sy’n cychwyn gyda’r diwrnod pan fo’r ceisydd yn cael gyntaf unrhyw daliad o ganlyniad i’r niwed personol hwnnw;

(b)nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw daliad dilynol a wneir i’r ceisydd o ganlyniad i’r niwed hwnnw (pa un a wneir y taliad gan yr un person ynteu berson arall);

(c)bydd is-baragraff (1) yn peidio â bod yn gymwys i’r taliad, neu i unrhyw ran ohono, o’r diwrnod pan na fydd y ceisydd bellach yn ei feddu;

(d)nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw daliad gan ymddiriedolaeth pan fo cyllid yr ymddiriedolaeth yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.

(3At ddibenion is-baragraff (2)(c), mae’r amgylchiadau pan nad yw ceisydd bellach yn meddu taliad neu ran ohono yn cynnwys amgylchiad pan fo ceisydd wedi defnyddio taliad neu ran ohono i brynu ased.

(4Rhaid dehongli cyfeiriadau yn is-baragraffau (2) a (3) at y ceisydd fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at bartner y ceisydd (pan fo’n gymwys).

19.  Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan fuddiant am oes neu o dan rent am oes.

20.  Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm a ddiystyrir o dan baragraff 15 o Atodlen 8 neu baragraff 29 o Atodlen 9.

21.  Gwerth ildio unrhyw bolisi yswiriant bywyd.

22.  Pan fo unrhyw daliad o gyfalaf yn ddyladwy i’w dalu mewn rhandaliadau, gwerth yr hawl i gael y rhandaliadau sydd eto i’w talu.

23.  Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989(202) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(203) neu adrannau 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(204) (darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd a chyngor a chymorth i blant penodol).

24.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 23C o Ddeddf Plant 1989 neu adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (dyletswydd awdurdodau lleol o hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cymorth ariannol i bersonau sydd neu a fu yn eu gofal) i berson (“A”), ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys ac eithrio pan fo A—

(a)wedi bod gynt yng ngofal y ceisydd, a

(b)yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac

(c)yn parhau i fyw gyda’r ceisydd.

25.  Unrhyw—

(a)taliad cronfa gymdeithasol a wnaed yn unol â Rhan 8 o DCBNC (y gronfa gymdeithasol); neu

(b)cymorth achlysurol.

26.  Unrhyw ad-daliad o dreth sydd i’w ddidynnu o dan adran 369 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988(205) (didynnu treth o log ar fenthyciadau penodol) ar daliad o log benthyciad perthnasol at y diben o gaffael buddiant yn y cartref, neu wneud atgyweiriadau neu welliannau yn y cartref.

27.  Unrhyw gyfalaf sydd i gael ei drin fel incwm yn rhinwedd paragraff 18 o Atodlen 6 (cyfalaf a drinnir fel incwm) neu baragraff 9 o Atodlen 11 (trin benthyciadau myfyriwr).

28.  Pan wneir unrhyw daliad o gyfalaf mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.

29.—(1Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006), Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

(2Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)partner neu gyn-bartner y person hwnnw nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw;

(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(3Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, ar yr amod nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru neu, os bu farw’r naill neu’r llall, nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru, neu os ffurfiodd y partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw bartneriaeth sifil, nad yw’r bartneriaeth sifil honno wedi ei diddymu, neu os bu farw’r naill neu’r llall, nad oedd y bartneriaeth wedi ei diddymu ar adeg y farwolaeth, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys;

(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(4Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd, neu a fu, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn, person ifanc neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes ganddo riant neu lys-riant, i warcheidwad y plentyn neu’r person ifanc hwnnw neu warcheidwad y myfyriwr hwnnw,

ond hynny am y cyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.

(5Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (y dyddiad perthnasol) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn, person ifanc neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd ganddo riant neu lys-riant, i warcheidwad y plentyn neu’r person ifanc hwnnw neu warcheidwad y myfyriwr hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.

(6Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw adnodd cyfalaf sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.

(7At ddibenion is-baragraffau (2) i (6), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr Ymddiriedolaethau fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, a Chronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

30.—(1Pan fo ceisydd wedi peidio â meddiannu’r hyn a oedd gynt yn annedd a feddiennid fel y cartref, yn dilyn ymwahaniad neu ysgariad y ceisydd oddi wrth ei bartner blaenorol, neu’n dilyn diddymu partneriaeth sifil rhwng y ceisydd a’i bartner blaenorol, yr annedd honno am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y peidiodd y ceisydd â meddiannu’r annedd neu, os meddiennir yr annedd fel cartref y partner blaenorol sydd yn unig riant, cyhyd ag y’i meddiennir felly.

(2Yn y paragraff hwn, mae “annedd” (“dwelling”) yn cynnwys unrhyw garej, gardd ac adeiladau allanol, a feddiennid gynt gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac unrhyw fangre nas meddiennid felly, ond y byddai’n anymarferol neu’n afresymol ei gwerthu ar wahân, megis, yn benodol, yn yr Alban, unrhyw dir crofft y lleolir yr annedd arno.

31.  Unrhyw fangre pan fo’r ceisydd yn cymryd camau rhesymol i waredu’r fangre honno, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cymerodd y ceisydd y camau cyntaf o’r fath neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i waredu’r fangre honno.

32.  Unrhyw fangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd, ac y mae’r ceisydd yn cymryd camau i gael meddiant ohoni ac wedi ceisio cyngor cyfreithiol, neu wedi cychwyn achos cyfreithiol gyda’r bwriad o gael meddiant, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y ceisiodd y ceisydd gyntaf y cyfryw gyngor neu y cychwynnodd gyntaf achos o’r fath, pa un bynnag yw’r cynharaf, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.

33.  Unrhyw fangre y bwriada’r ceisydd ei meddiannu fel cartref iddo ac y mae angen gwneud atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol iddi, er mwyn iddi fod yn addas i’w meddiannu felly, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y mae’r ceisydd yn cymryd y camau gyntaf i gyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi cyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny.

34.  Unrhyw daliad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddigolledu am golli (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yr hawlogaeth i gael budd-dal tai.

35.  Gwerth yr hawl i gael pensiwn galwedigaethol neu bersonol.

36.  Gwerth unrhyw gronfeydd a ddelir o dan gynllun pensiwn personol.

37.  Gwerth yr hawl i gael unrhyw rent, ac eithrio pan fo gan y ceisydd fuddiant atchweliadol yn yr eiddo y mae’r rhent yn ddyladwy amdano.

38.  Unrhyw daliad mewn nwyddau neu wasanaethau gan elusen neu o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).

39.  Unrhyw daliad a wneir yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(206) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(207), ond am y cyfnod o 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn ar y diwrnod y ceir y taliad.

40.  Unrhyw daliad o ganlyniad i ostyngiad o’r dreth gyngor o dan adran 13 o Ddeddf 1992, (gostyngiad atebolrwydd am dreth gyngor), ond am y cyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

41.  Unrhyw grant a wnaed yn unol â chynllun a wnaed o dan adran 129 o Ddeddf Tai 1988(208) neu adran 66 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 1988(209) (cynlluniau ar gyfer taliadau i gynorthwyo tenantiaid awdurdodau tai lleol ac awdurdodau lleol i gael llety arall) sydd i’w ddefnyddio—

(a)i brynu mangre y bwriedir ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd; neu

(b)i gyflawni atgyweiriadau neu newidiadau sy’n ofynnol er mwyn gwneud mangre’n addas i’w meddiannu fel cartref i’r ceisydd,

ond am y cyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cafodd y ceisydd grant o’r fath, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi cwblhau’r pryniant, yr atgyweirio neu’r newidiadau a galluogi’r ceisydd i ddechrau meddiannu’r fangre honno fel cartref i’r ceisydd.

42.  Unrhyw ôl-daliad o bensiwn atodol a ddiystyrir o dan baragraff 53 o Atodlen 9 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) neu o unrhyw swm a ddiystyrir o dan baragraff 54 neu 55 o’r Atodlen honno, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir yr ôl-daliad.

43.—(1Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir—

(a)o ran Lloegr, o dan reoliad 5, 6 neu 12 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003(210) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(b)o ran Cymru, o dan reoliad 5, 6 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(211) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(c)o ran yr Alban, o dan reoliad 3, 5 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Yr Alban) (Rhif 2) 2003(212) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd),

ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad neu’r ad-daliad.

(2Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru sy’n gyfatebol i daliad neu ad-daliad a grybwyllir yn is-baragraff (1), ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad neu’r ad-daliad.

44.  Unrhyw daliad a wneir i’r cyfryw bersonau sydd â hawl i gael buddion fel y penderfynir gan neu o dan gynllun a wnaed yn unol ag adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988(213) yn lle talebau neu drefniadau cyffelyb mewn cysylltiad â darparu’r buddion hynny (gan gynnwys taliadau a wneir yn lle talebau cychwyn iach, talebau llaeth neu gyflenwi fitaminau), ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

45.  Unrhyw daliad a wneir gan naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder neu Weinidogion yr Alban o dan gynllun a sefydlwyd i gynorthwyo perthnasau a phersonau eraill i ymweld â phersonau a gedwir yn y ddalfa, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

46.  Unrhyw daliad (ac eithrio lwfans hyfforddi) a wneir, boed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson arall, o dan Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1944(214) i gynorthwyo personau anabl i gael neu gadw cyflogaeth er gwaethaf eu hanabledd.

47.  Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958(215) i weithwyr gartref o dan y Cynllun Gweithwyr Gartref Dall.

48.—(1Unrhyw swm o gyfalaf y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo ac—

(a)a weinyddir ar ran person gan yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol o dan Reol 21.11(1) o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998(216) neu gan y Llys Gwarchod;

(b)na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd unrhyw lys o’r fath; neu

(c)pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed, na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd, cyn bo’r person hwnnw’n cyrraedd 18 mlwydd oed.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i swm o gyfalaf sy’n deillio o—

(a)dyfarniad o iawndal am niwed personol i’r person hwnnw; neu

(b)digollediad am farwolaeth un neu’r ddau riant pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed.

49.  Unrhyw swm o gyfalaf a weinyddir ar ran person yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995, neu o dan Reol 36.14 o Ddeddf Sesiwn (Rheolau Achosion Cyffredin Llysoedd Siryf) 1993(217) neu o dan Reol 128 o’r Rheolau hynny, pan fo’r cyfryw swm yn deillio o—

(a)dyfarniad o iawndal am niwed personol i’r person hwnnw; neu

(b)digollediad am farwolaeth un neu’r ddau riant pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed.

50.  Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr.

51.  Yn achos person sy’n cael, neu sydd wedi cael, cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, unrhyw swm o gyfalaf a gaffaelir gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol y ceir neu y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y caffaelwyd y swm hwnnw.

52.—(1Unrhyw daliad o ddyfarniad chwaraeon am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cafwyd y taliad hwnnw ac eithrio i’r graddau y’i gwnaed mewn perthynas ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2).

(2Yr eitemau a bennir at ddibenion is-baragraff (1) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

(3At ddibenion is-baragraff (2) nid yw “bwyd” (“food”) yn cynnwys fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau dietegol arbennig eraill a fwriedir ar gyfer gwella perfformiad y person yn y gamp y gwnaed y dyfarniad mewn perthynas â hi.

53.—(1Unrhyw daliad—

(a)ar ffurf lwfans cynhaliaeth addysg a wnaed yn unol ag—

(i)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996(218);

(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 neu 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(219);

(iii)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992(220);

(b)cyfatebol i lwfans cynhaliaeth addysg o’r fath, a wnaed yn unol ag—

(i)adran 14 neu adran 181 o Ddeddf Addysg 2002(221) (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg neu ofal plant, a lwfansau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant); neu

(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 181 o’r Ddeddf honno; neu

(c)yng Nghymru a Lloegr, ar ffurf cymorth ariannol a roddir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Addysg 2002.

(2Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a wnaed yn unol ag—

(a)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996;

(b)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980; neu

(c)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992,

mewn perthynas â chwrs astudio a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc neu berson sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg neu daliad arall a wnaed yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn is-baragraff (1).

54.  Yn achos ceisydd sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth, unrhyw daliad disgresiynol a wneir gan gontractwr parth cyflogaeth i’r ceisydd, boed ar ffurf ffi, grant, benthyciad neu rywfodd arall, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

55.  Unrhyw ôl-daliad o lwfans cynhaliaeth a delir fel cyfandaliad, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.

56.  Pan fo taliad ex gratia o £10,000 wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar neu ar ôl 1 Chwefror 2001 o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo—

(a)y ceisydd;

(b)partner y ceisydd;

(c)priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd; neu

(d)priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd,

gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, £10,000.

57.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw daliad ymddiriedolaeth a wneir i geisydd neu aelod o deulu’r ceisydd sydd yn—

(a)person â diagnosis;

(b)partner i berson â diagnosis, neu’r person a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis;

(c)rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis; neu

(d)aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) neu berson a oedd yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.

(2Pan wneir taliad ymddiriedolaeth i—

(a)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw;

(c)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu—

(i)dwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

(ii)ar y diwrnod cyn y diwrnod y bydd y person hwnnw—

(aa)yn peidio â chael addysg amser llawn; neu

(bb)yn cyrraedd 20 mlwydd oed,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), swm unrhyw daliad gan berson y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo neu unrhyw daliad allan o ystad person y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo, a wneir i geisydd neu aelod o deulu’r ceisydd sydd—

(a)yn bartner y person â diagnosis neu’n berson a oedd yn bartner y person â diagnosis ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis;

(b)yn rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis; neu

(c)yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) neu’n berson a oedd yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis,

ond i’r graddau, yn unig, na fydd taliadau o’r fath yn fwy na chyfanswm unrhyw daliadau ymddiriedolaeth a wnaed i’r person hwnnw.

(4Pan wneir taliad o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) i—

(a)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;

(b)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

(c)person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu—

(i)dwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

(ii)ar y diwrnod cyn y diwrnod y bydd y person hwnnw—

(aa)yn peidio â chael addysg amser llawn; neu

(bb)yn cyrraedd 20 mlwydd oed,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(5Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson—

(a)sy’n bartner y person â diagnosis;

(b)sy’n aelod o deulu’r person â diagnosis;

(c)yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis,

ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis yn cynnwys person a fyddai wedi bod yn berson o’r fath neu’n berson a fyddai’n gweithredu felly, pe na bai’r person â diagnosis yn preswylio mewn cartref gofal, cartref Abbeyfield neu ysbyty annibynnol ar y dyddiad hwnnw.

(6In y paragraff hwn—

ystyr “person â diagnosis” (“diagnosed person”) yw person y gwnaed diagnosis ei fod yn dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, neu y gwnaed diagnosis ar ôl marwolaeth y person hwnnw ei fod wedi dioddef o’r clefyd hwnnw;

ystyr “ymddiriedolaeth berthnasol” (“relevant trust”) yw ymddiriedolaeth a sefydlwyd gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â phersonau a oedd yn dioddef, neu sydd yn dioddef, o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

ystyr “taliad ymddiriedolaeth” (“trust payment”) yw taliad o dan ymddiriedolaeth berthnasol.

58.  Swm unrhyw daliad, ac eithrio pensiwn rhyfel, a wneir i ddigolledu oherwydd bod y ceisydd, partner y ceisydd, priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd neu briod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd—

(a)wedi bod yn gaeth lafurwr neu’n llafurwr dan orfodaeth;

(b)wedi dioddef colled eiddo neu wedi dioddef niwed personol; neu

(c)yn rhiant plentyn a fu farw,

yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

59.  Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru, i neu ar ran y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir i ddatblygu neu gynnal gallu’r ceisydd neu bartner y ceisydd i fyw’n annibynnol yn llety’r ceisydd.

60.  Unrhyw daliad a wneir o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(222), neu o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(223), neu o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(224) (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd).

61.  Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(225).

62.  Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig).

Rheoliad 31(3)

ATODLEN 11Myfyrwyr

RHAN 1Cyffredinol

Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n cychwyn ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi, yn ôl pa un a yw’r cwrs dan sylw’n cychwyn yn y gaeaf, y gwanwyn, yr haf ynteu’r hydref, yn eu trefn; ond os gwneir yn ofynnol bod myfyrwyr yn dechrau mynychu eu cwrs yn Awst neu Fedi a pharhau i’w fynychu drwy gydol yr hydref, ystyrir bod blwyddyn academaidd y cwrs hwnnw’n cychwyn yn yr hydref yn hytrach na’r haf;

ystyr “cronfeydd mynediad” (“access funds”) yw—

(a)

grantiau a roddir o dan adran 68 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(226) at y diben o ddarparu cyllid i’w dalu ar sail ddisgresiynol i fyfyrwyr;

(b)

grantiau a roddir o dan adrannau 73(a) ac (c) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(227);

(c)

grantiau a roddir o dan erthygl 30 o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1993(228) neu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a wneir o dan erthygl 5 o Orchymyn Addysg Bellach (Gogledd Iwerddon) 1997(229) sef, ym mhob achos, grantiau, neu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill, yn ôl fel y digwydd, at y diben o gynorthwyo myfyrwyr sydd mewn anawsterau ariannol;

(d)

taliadau disgresiynol a elwir “cronfeydd cymorth i ddysgwyr”, a roddir ar gael i fyfyrwyr addysg bellach gan sefydliadau, allan o gyllid a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr neu Weinidogion Cymru o ran Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002(230) neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau o dan adrannau 100 a 101 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(231); neu

(e)

Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn a roddir ar gael gan Weinidogion Cymru;

mae i “coleg addysg bellach” yr ystyr a roddir i “college of further education” gan Ran 1 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992(232);

ystyr “cyfraniad” (“contribution”) yw—

(a)

unrhyw gyfraniad mewn perthynas ag incwm myfyriwr neu unrhyw berson y mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban neu awdurdod addysg yn ei gymryd i ystyriaeth wrth ganfod swm grant myfyriwr neu fenthyciad myfyriwr; neu

(b)

unrhyw symiau, a gymerir i ystyriaeth gan Weinidogion yr Alban neu awdurdod addysg wrth benderfynu swm lwfans neu fwrsari myfyriwr yn yr Alban o dan Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, sef symiau y mae Gweinidogion yr Alban neu awdurdod addysg o’r farn y byddai’n rhesymol i’r personau canlynol eu cyfrannu tuag at dreuliau’r deiliad—

(i)

deiliad y lwfans neu fwrsari;

(ii)

rhieni’r deiliad;

(iii)

priod neu bartner sifil rhiant y deiliad, neu berson sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y deiliad fel pe bai’r person hwnnw’n briod neu’n bartner sifil y rhiant hwnnw; neu

(iv)

priod neu bartner sifil y deiliad;

ystyr “cwrs astudio” (“course of study”) yw unrhyw gwrs astudio, boed yn gwrs rhyngosod ai peidio a pha un a roddir grant am fynychu neu ymgymryd â’r cwrs ai peidio;

ystyr “incwm cyfamod” (“covenant income”) yw’r incwm gros sy’n daladwy i fyfyriwr amser llawn o dan Weithred Cyfamod gan riant y myfyriwr hwnnw;

ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw adran llywodraeth, awdurdod lleol yn yr ystyr a roddir i “local authority” fel y’i diffinnir gan adran 579 o Ddeddf Addysg 1996(233) (dehongli), awdurdod addysg lleol yn yr ystyr a roddir i “local education authority” fel y’i diffinnir gan adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1973(234), bwrdd addysg a llyfrgelloedd yn yr ystyr a roddir i “education and library board” a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986(235), unrhyw gorff sy’n gyngor ymchwil yn yr ystyr a roddir i “research council” at ddibenion Deddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965(236) neu unrhyw adran llywodraeth, awdurdod, bwrdd neu gorff cyfatebol o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu unrhyw wlad arall y tu allan i Brydain Fawr;

ystyr “cwrs astudio amser llawn” (“full-time course of study”) yw cwrs astudio amser llawn—

(a)

nas cyllidir yn gyfan gwbl nac yn rhannol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr neu Weinidogion Cymru o ran Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau, neu gwrs astudio amser llawn nas cyllidir yn gyfan gwbl nac yn rhannol gan Weinidogion yr Alban mewn coleg addysg bellach, neu gwrs astudio amser llawn sy’n gwrs o addysg uwch ac a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Weinidogion yr Alban;

(b)

a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr neu Weinidogion Cymru o ran Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau os yw’n cynnwys mwy nag 16 o oriau dysgu dan arweiniad bob wythnos i’r myfyriwr dan sylw, yn ôl y nifer o oriau dysgu dan arweiniad bob wythnos ar gyfer y myfyriwr hwnnw a bennir—

(i)

yn achos cwrs a gyllidir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 neu Brif Weithredwr Ariannu Sgiliau, yng nghytundeb dysgu’r myfyriwr hwnnw a lofnodwyd ar ran y sefydliad a gyllidir gan y naill neu’r llall o’r personau hynny i gyflenwi’r cwrs hwnnw; neu

(ii)

yn achos cwrs a gyllidir gan Weinidogion Cymru, mewn dogfen a lofnodir ar ran y sefydliad a gyllidir gan Weinidogion Cymru i gyflenwi’r cwrs hwnnw; neu

(c)

nad yw’n addysg uwch, a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Weinidogion yr Alban mewn coleg addysg bellach, ac sy’n cynnwys—

(i)

mwy nag 16 awr yr wythnos o ddysgu rhaglenedig mewn ystafell ddosbarth neu ar ffurf gweithdai o dan arweiniad uniongyrchol staff addysgu, yn unol â’r nifer o oriau a bennir mewn dogfen a lofnodir ar ran y coleg; neu

(ii)

16 awr neu lai bob wythnos o ddysgu rhaglenedig mewn ystafell ddosbarth neu ar ffurf gweithdai o dan arweiniad uniongyrchol staff addysgu, ac oriau ychwanegol o ddefnyddio pecynnau dysgu strwythuredig gyda chymorth gan y staff addysgu, a’r cyfanswm oriau yn fwy nag 21 awr yr wythnos ac yn unol â’r nifer o oriau a bennir mewn dogfen a lofnodir ar ran y coleg;

ystyr “myfyriwr amser llawn” (“full-time student”) yw person sy’n mynychu neu’n ymgymryd â chwrs astudio amser llawn, ac mae’n cynnwys myfyriwr ar gwrs rhyngosod;

ystyr “grant” (“grant”) (ac eithrio yn y diffiniad o “cronfeydd mynediad”) yw unrhyw fath o grant neu ddyfarniad addysgol, gan gynnwys unrhyw ysgoloriaeth, ysgoloriaeth ymchwil, arddangostal, lwfans neu fwrsari, ond nid yw’n cynnwys taliad o gronfeydd mynediad nac unrhyw daliad y mae paragraff 16 o Atodlen 9 neu baragraff 53 o Atodlen 10 yn gymwys iddo;

ystyr “incwm grant” (“grant income”) yw—

(a)

unrhyw incwm ar ffurf grant;

(b)

unrhyw gyfraniad, pa un a delir y cyfraniad ai peidio;

mae i “addysg uwch” yr ystyr a roddir i “higher education” gan Ran 2 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992;

ystyr “diwrnod olaf y cwrs” (“last day of the course”) yw—

(a)

yn achos cwrs cymwys, yw naill ai dyddiad diwrnod olaf y cwrs neu’r dyddiad y cwblheir yr arholiad terfynol mewn perthynas â’r cwrs hwnnw, pa un bynnag yw’r diweddaraf;

(b)

mewn unrhyw achos arall, dyddiad diwrnod olaf tymor academaidd terfynol y cwrs y cofrestrwyd y myfyriwr arno;

ystyr “cyfnod astudio” (“period of study”) yw—

(a)

yn achos cwrs astudio am un flwyddyn neu lai, y cyfnod sy’n cychwyn gyda dechrau’r cwrs ac yn diweddu gyda diwrnod olaf y cwrs;

(b)

yn achos cwrs astudio am fwy nag un flwyddyn, yn y flwyddyn gyntaf neu, yn ôl fel y digwydd, unrhyw flwyddyn ddilynol y cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol y cwrs, y cyfnod sy’n cychwyn gyda dechrau’r cwrs neu, yn ôl fel y digwydd, dechrau’r flwyddyn honno ac yn diweddu gyda naill ai—

(i)

y diwrnod cyn dechrau blwyddyn nesaf y cwrs mewn achos pan asesir grant neu fenthyciad y myfyriwr ar gyfradd sy’n briodol i fyfyriwr yn astudio drwy gydol y flwyddyn, neu, os nad oes gan y myfyriwr grant neu fenthyciad, pan fyddid wedi asesu benthyciad ar gyfradd o’r fath pe bai gan y myfyriwr hwnnw fenthyciad; neu

(ii)

mewn unrhyw achos arall, y diwrnod cyn dechrau’r gwyliau haf arferol sy’n briodol i gwrs y myfyriwr;

(c)

ym mlwyddyn derfynol cwrs astudio o fwy nag un flwyddyn, y cyfnod sy’n cychwyn gyda dechrau’r flwyddyn honno ac yn diweddu gyda diwrnod olaf y cwrs;

ystyr “cyfnodau o brofiad” (“periods of experience”) yw cyfnodau o brofiad gwaith sy’n ffurfio rhan o gwrs rhyngosod;

mae i “cwrs cymwys” yr ystyr a roddir i “qualifying course” fel y’i diffinnir at ddibenion Rhannau 2 a 4 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(237);

mae i “cwrs rhyngosod” yr ystyr a ragnodir ar gyfer “sandwich course” yn rheoliad 2(10) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011(238), rheoliad 2(6) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012(239), rheoliad 4(2) o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyriwr) (Yr Alban) 2007(240) neu reoliad 2(10) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 2009(241), yn ôl fel y digwydd;

ystyr “grant cynhaliaeth safonol” (“standard maintenance grant”) yw—

(a)

ac eithrio pan fo paragraff (b) neu (c) yn gymwys, yn achos myfyriwr sy’n mynychu neu’n ymgymryd â chwrs astudio ym Mhrifysgol Llundain neu sefydliad o fewn yr ardal a gyfansoddir o Ddinas Llundain a’r Dosbarth Heddlu Metropolitan, y swm a bennir am y tro ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(242) (“Rheoliadau 2003”) ar gyfer myfyriwr o’r fath;

(b)

ac eithrio pan fo paragraff (c) yn gymwys, yn achos myfyriwr sy’n preswylio yng nghartref rhiant y myfyriwr hwnnw, y swm a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2003;

(c)

yn achos myfyriwr sy’n cael lwfans neu fwrsari o dan Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, y swm o arian a bennir fel y “standard maintenance allowance” am y flwyddyn berthnasol briodol i’r myfyriwr a bennir yn y Student Support in Scotland Guide a ddyroddir gan Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban, neu’r hyn sy’n cyfateb agosaf yn achos bwrsari a ddarperir gan goleg addysg bellach neu awdurdod addysg lleol;

(d)

mewn unrhyw achos arall, y swm a bennir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2 i Reoliadau 2003 ac eithrio’r symiau a bennir yn is-baragraff (2)(a) neu (b) o’r paragraff hwnnw;

ystyr “myfyriwr” (“student”) yw person, ac eithrio person sy’n cael lwfans hyfforddi, sy’n mynychu neu’n ymgymryd ag—

(a)

cwrs astudio mewn sefydliad addysgol; neu

(b)

cwrs cymwys;

ystyr “benthyciad myfyriwr” (“student loan”) yw benthyciad tuag ar gynhaliaeth myfyriwr yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(243), adran 73 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 neu erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(244) ac mae’n cynnwys, yn yr Alban, bwrsari myfyriwr ifanc a delir o dan reoliad 4(1)(c) o Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr (Yr Alban) 2007(245).

(2At ddibenion y diffiniad o “myfyriwr amser llawn” yn is-baragraff (1), rhaid ystyried bod person yn mynychu neu, yn ôl fel y digwydd, yn ymgymryd â chwrs astudio amser llawn, neu ei fod ar gwrs rhyngosod—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), yn achos person sy’n mynychu neu’n ymgymryd â rhan o gwrs modiwlaidd a fyddai’n gwrs astudio amser llawn at ddibenion y Rhan hon, am y cyfnod sy’n cychwyn ar y diwrnod y mae’r rhan honno o’r cwrs yn dechrau ac yn diweddu—

(i)ar y diwrnod olaf y mae’r person wedi ei gofrestru gyda’r sefydliad addysgol fel un sy’n mynychu neu’n ymgymryd â’r rhan honno fel cwrs astudio amser llawn; neu

(ii)ar ba bynnag ddyddiad cynharach (os oes un) pan fo’r person yn gadael y cwrs yn derfynol neu’n cael ei ddiarddel ohono;

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy gydol y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad pan fo’r person yn dechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs ac yn diweddu ar ddiwrnod olaf y cwrs neu ar ba bynnag ddyddiad cynharach (os oes un) pan fo’r person yn gadael y cwrs yn derfynol neu’n cael ei ddiarddel ohono.

(3At ddibenion paragraff (a) o is-baragraff (2), mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw’n cynnwys—

(a)pan fo person wedi methu arholiadau neu wedi methu â chwblhau’n llwyddiannus fodiwl a berthynai i gyfnod pan oedd y person yn mynychu neu’n ymgymryd â rhan o’r cwrs fel cwrs astudio amser llawn, unrhyw gyfnod yr oedd y person yn mynychu neu’n ymgymryd â’r cwrs mewn perthynas ag ef at y diben o ailsefyll yr arholiadau hynny neu’r modiwl hwnnw;

(b)unrhyw gyfnod o wyliau o fewn y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw neu sy’n dilyn yn union ar ôl y cyfnod hwnnw, ac eithrio pan fo’r person wedi cofrestru gyda’r sefydliad addysgol i fynychu neu ymgymryd â’r modiwl terfynol yn y cwrs hwnnw, a’r gwyliau hynny yn dilyn yn union ar ôl y diwrnod olaf pan yw’n ofynnol i’r person fynychu neu ymgymryd â’r cwrs.

(4Yn is-baragraff (2), ystyr “cwrs modiwlaidd” (“modular course”) yw cwrs astudio sy’n cynnwys dau neu ragor o fodiwlau, y mae’n ofynnol bod person wedi cwblhau nifer penodedig ohonynt yn llwyddiannus cyn y bydd y sefydliad addysgol yn ystyried bod y person hwnnw wedi cwblhau’r cwrs.

Trin myfyrwyr

2.  Rhaid i gynllun awdurdod gael effaith mewn perthynas â myfyrwyr yn ddarostyngedig i reoliad 31 (personau a eithrir o gynllun awdurdod: myfyrwyr) a darpariaethau canlynol yr Atodlen hon.

Myfyrwyr a eithrir o’r hawlogaeth i gael gostyngiad treth gyngor o dan gynllun awdurdod

3.—(1Y myfyrwyr a eithrir o’r hawlogaeth i gael gostyngiad treth gyngor o dan gynllun awdurdod yw’r canlynol—

(a)myfyrwyr sy’n bensiynwyr; a

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (7)—

(i)myfyrwyr amser llawn, a

(ii)myfyrwyr sy’n bersonau a drinnir fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr.

(2Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i fyfyriwr—

(a)sy’n berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;

(b)sy’n unig riant;

(c)y byddai ei swm cymwysadwy, oni bai am y paragraff hwn, yn cynnwys y premiwm anabledd neu’r premiwm anabledd difrifol;

(d)y byddai ei swm cymwysadwy, yn cynnwys y premiwm anabledd pe na bai’r myfyriwr yn cael ei drin fel pe bai’n alluog i weithio yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 171E o DCBNC;

(e)sydd yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, ac wedi bod yn analluog felly neu’n cael ei drin felly yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(f)sydd â’i alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, neu a drinnir ef fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, ac y bu ganddo, neu y triniwyd ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(246) am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân a wahenir gan doriad o ddim mwy na 84 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(g)sydd â phartner sydd hefyd yn fyfyriwr amser llawn, os trinnir y myfyriwr neu’r partner hwnnw fel pe bai’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc;

(h)sy’n geisydd sengl y lleolwyd plentyn gydag ef gan awdurdod lleol neu gorff gwirfoddol o fewn yr ystyr a roddir i “placed” gan Ddeddf Plant 1989(247) neu, yn yr Alban, wedi ei letya gydag ef yn yr ystyr a roddir i “boarded out” gan Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(248);

(i)sydd—

(i)o dan 21 mlwydd oed ac nad yw ei gwrs astudio yn gwrs addysg uwch,

(ii)yn 21 mlwydd oed ac wedi cyrraedd yr oedran hwnnw yn ystod cwrs astudio nad yw’n gwrs addysg uwch, neu

(iii)yn berson ifanc cymwys neu’n blentyn yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “qualifying young person” a “child” gan adran 142 o DCBNC (plentyn a pherson ifanc cymwys);

(j)os, mewn perthynas ag ef—

(i)penderfynwyd ar ofyniad atodol yn yr ystyr a roddir i “supplementary requirement” o dan baragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003;

(ii)rhoddwyd lwfans neu, yn ôl fel y digwydd, bwrsari, sy’n cynnwys swm o dan reoliad 4 o Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr (Yr Alban) 2007 neu, yn ôl fel y digwydd, o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg (Bwrsariaethau) (Yr Alban) 2007(249), mewn perthynas â threuliau a dynnir;

(iii)gwnaed taliad o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 1962(250) neu o dan neu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

(iv)rhoddwyd grant o dan reoliad 13 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(251), rheoliad 13 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 2000(252), neu reoliad 41 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 2009; neu

(v)penderfynwyd ar ofyniad atodol yn yr ystyr a roddir i “supplementary requirement” o dan baragraff 9 o Atodlen 6 i Reoliadau Dyfarniadau Myfyrwyr (Gogledd Iwerddon) 2003(253) neu gwnaed taliad o dan erthygl 50(3) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986,

o ganlyniad i anabledd y myfyriwr oherwydd byddardod.

(3Mae is-baragraff (2)(i)(ii) yn gymwys i geisydd hyd at ddiwedd y cwrs, yn unig, y cyrhaeddodd y ceisydd yr oedran o 21 ynddo.

(4At ddibenion is-baragraff (2), unwaith y bydd is-baragraff (2)(e) yn gymwys i fyfyriwr amser llawn, os yw’r myfyriwr hwnnw wedyn, am gyfnod o 56 diwrnod neu lai, yn peidio â bod yn analluog i weithio, neu gael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â’r myfyriwr yn analluog i weithio drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai’n analluog i weithio, rhaid cymhwyso’r is-baragraff hwnnw i’r myfyriwr hwnnw ar unwaith, am gyhyd ag y bo’n parhau’n analluog i weithio, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai’n analluog i weithio.

(5Yn is-baragraff (2)(i) mae’r cyfeiriad at gwrs addysg uwch yn gyfeiriad at gwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(254).

(6Rhaid trin myfyriwr amser llawn y mae paragraff (i) o is-baragraff (2) yn gymwys iddo fel pe bai’n bodloni’r is-baragraff hwnnw o’r dyddiad y gwnaeth y myfyriwr hwnnw gais am y gofyniad atodol, lwfans, bwrsari neu daliad, yn ôl fel y digwydd.

(7Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i fyfyriwr amser llawn am y cyfnod a bennir yn is-baragraff (8) os—

(a)yw’r myfyriwr, ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn academaidd, gyda chydsyniad y sefydliad addysgol perthnasol, yn peidio â mynychu neu ymgymryd â chwrs oherwydd bod y myfyriwr—

(i)yn ymgymryd â gofalu am berson arall; neu

(ii)yn sâl;

(b)yw’r myfyriwr yn ddiweddarach wedi peidio ag ymgymryd â gofalu am y person hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, os yw’r myfyriwr yn ddiweddarach wedi gwella o’r salwch hwnnw; ac

(c)nad yw’r myfyriwr yn gymwys i gael grant neu fenthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (8).

(8Y cyfnod a bennir at ddibenion is-baragraff (7) yw’r cyfnod, na fydd yn hwy nag un flwyddyn, sy’n cychwyn ar y diwrnod y peidiodd y myfyriwr ag ymgymryd â gofalu am y person hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y diwrnod y cafodd y myfyriwr adferiad o’r salwch hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn—

(a)y diwrnod y mae’r myfyriwr yn ailddechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs; neu

(b)y diwrnod y bydd y sefydliad addysgol perthnasol wedi cytuno y caiff y myfyriwr ailddechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs,

pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

RHAN 2Incwm

Cyfrifo incwm grant

4.—(1Rhaid i’r swm o incwm grant myfyriwr a gymerir i ystyriaeth wrth asesu incwm y myfyriwr, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), fod y cyfan o incwm grant y myfyriwr.

(2Rhaid hepgor o incwm grant myfyriwr unrhyw daliad—

(a)a fwriedir i ddiwallu ffioedd dysgu neu ffioedd arholiad;

(b)mewn perthynas ag anabledd y myfyriwr;

(c)a fwriedir i ddiwallu gwariant ychwanegol mewn cysylltiad ag astudiaeth breswyl yn ystod y tymor, i ffwrdd o sefydliad addysgol y myfyriwr;

(d)oherwydd bod y myfyriwr yn cynnal cartref yn rhywle arall, ar wahân i’r man lle mae’r myfyriwr yn preswylio yn ystod ei gwrs;

(e)ar gyfer unrhyw berson arall, ond hynny yn unig os yw’r person hwnnw’n preswylio y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad oes swm cymwysadwy mewn perthynas â’r person hwnnw;

(f)a fwriedir i ddiwallu cost llyfrau a chyfarpar;

(g)a fwriedir i ddiwallu costau teithio a dynnir o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs;

(h)a fwriedir ar gyfer costau gofal plant i ddibynnydd sy’n blentyn;

(i)o fwrsari addysg uwch i ymadawyr gofal, a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf Plant 1989.

(3Pan nad oes gan fyfyriwr fenthyciad myfyriwr ac nas trinnir ef fel pe bai’n meddu benthyciad o’r fath, rhaid hepgor o incwm grant y myfyriwr—

(a)y swm o £303 am bob blwyddyn academaidd mewn perthynas â chostau teithio; a

(b)y swm o £390 am bob blwyddyn academaidd tuag at gostau llyfrau a chyfarpar,

pa un a dynnir y cyfryw gostau ai peidio.

(4Rhaid hepgor hefyd, o incwm grant myfyriwr y grant ar gyfer dibynyddion a elwir yn lwfans dysgu rhieni, a delir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 neu adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (6) a (7), rhaid dosrannu incwm grant myfyriwr—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (8), mewn achos yw’n briodoladwy i’r cyfnod astudio, yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod hwnnw sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cyfnod astudio ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod astudio;

(b)mewn unrhyw achos arall, yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cyfnod y mae’n daladwy ar ei gyfer ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod y mae’n daladwy ar ei gyfer.

(6Rhaid dosrannu unrhyw grant mewn perthynas â dibynyddion a delir o dan adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(255) (grantiau mewn perthynas â darparu hyfforddiant i swyddogion awdurdodau ysbyty) ac unrhyw swm a fwriedir ar gyfer cynhaliaeth dibynyddion o dan Ran 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 yn gyfartal dros y cyfnod o 52 wythnos neu, os oes 53 o wythnosau gostyngiad (gan gynnwys rhan-wythnosau) yn y flwyddyn, 53 wythnos.

(7Mewn achos pan fo myfyriwr yn cael benthyciad myfyriwr, neu y gallai’r myfyriwr fod wedi caffael benthyciad myfyriwr drwy gymryd camau rhesymol ond nad oedd wedi gwneud hynny, rhaid i unrhyw swm a fwriadwyd ar gyfer cynnal dibynyddion ac nad yw is-baragraff (6) na pharagraff 8(2) (symiau eraill sydd i’w diystyru) yn gymwys iddo, gael ei ddosrannu dros yr un cyfnod ag y dosrennir y benthyciad myfyriwr neu, yn ôl fel y digwydd, y byddid wedi ei ddosrannu.

(8Yn achos myfyriwr ar gwrs rhyngosod, rhaid hepgor unrhyw gyfnodau o brofiad sydd o fewn y cyfnod astudio, a rhaid dosrannu incwm grant y myfyriwr yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn dilyn yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o brofiad ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod astudio.

Cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad

5.—(1Pan fo myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant yn ystod cyfnod astudio a chyfraniad wedi ei asesu, rhaid i’r swm o incwm cyfamod y myfyriwr, a gymerir i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod hwnnw ac unrhyw wyliau haf sy’n dilyn yn union wedyn, fod y swm cyfan o’r incwm cyfamod, llai, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), swm y cyfraniad.

(2Rhaid penderfynu swm wythnosol incwm cyfamod y myfyriwr—

(a)drwy rannu swm yr incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) gyda 52 neu 53, pa un bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau; a

(b)drwy ddiystyru £5 o’r swm canlyniadol.

(3At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin y cyfraniad fel pe bai wedi ei gynyddu o ba bynnag swm (os oes un) y mae’r swm a hepgorir o dan baragraff 4(2)(g) (cyfrifo incwm grant) yn brin o’r swm a bennir ym mharagraff 7(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 (gwariant teithio).

Incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad

6.—(1Pan nad yw myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant, rhaid cyfrifo swm incwm cyfamod y myfyriwr fel a ganlyn—

(a)rhaid diystyru unrhyw symiau a fwriadwyd ar gyfer unrhyw wariant a bennir ym mharagraff 4(2)(a) i (e) (cyfrifo incwm grant) ac sy’n angenrheidiol o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs;

(b)rhaid dosrannu unrhyw incwm cyfamod, hyd at swm y grant cynhaliaeth safonol, nas diystyrir felly, yn gyfartal rhwng wythnosau’r cyfnod astudio;

(c)rhaid diystyru, o’r swm a ddosrannwyd felly, y swm y byddid wedi ei ddiystyru o dan baragraff 4(2)(f) a (3) (cyfrifo incwm grant) pe bai’r myfyriwr wedi bod yn cael y grant cynhaliaeth safonol; a

(d)rhaid rhannu’r balans, os oes un, gyda 52 neu 53, pa un bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, a’i drin fel incwm wythnosol y mae’n rhaid diystyru £5 ohono.

(2Pan fo myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant ac nad oes cyfraniad wedi ei asesu, rhaid cyfrifo swm incwm cyfamod y myfyriwr yn unol â pharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1), ac eithrio—

(a)rhaid lleihau gwerth y grant cynhaliaeth safonol o swm y cyfryw incwm grant llai swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw symiau a ddiystyrir o dan baragraff 4(2)(a) i (e); a

(b)rhaid lleihau’r swm sydd i’w ddiystyru o dan is-baragraff (1)(c) o swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw symiau a ddiystyrir o dan baragraff 4(2)(f) ac (g) a (3).

Y berthynas â symiau sydd i’w diystyru o dan Atodlen 9

7.  Rhaid peidio â diystyru unrhyw ran o incwm cyfamod neu incwm grant myfyriwr o dan baragraff 19 o Atodlen 9 (diystyru rhai taliadau elusennol a gwirfoddol etc.).

Symiau eraill sydd i’w diystyru

8.—(1At y diben o ganfod incwm arall ac eithrio incwm grant, incwm cyfamod a benthyciadau a drinnir fel incwm yn unol â pharagraff 9 (trin benthyciadau myfyriwr), rhaid diystyru unrhyw symiau a fwriadwyd ar gyfer unrhyw wariant a bennir ym mharagraff 4(2) (cyfrifo incwm grant), sy’n angenrheidiol o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs.

(2Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys onid yw, ac i’r graddau y mae, y gwariant angenrheidiol yn fwy, neu’n debygol o fod yn fwy, na chyfanswm y symiau a ddiystyrir o dan baragraff 4(2) neu (3), 5(3), 6(1)(a) neu (c) neu 9(5) (cyfrifo incwm grant, incwm cyfamod a thrin benthyciadau myfyriwr) ynglŷn â gwariant cyffelyb.

Trin benthyciadau myfyriwr

9.—(1Rhaid trin benthyciad myfyriwr fel incwm.

(2Wrth gyfrifo’r swm wythnosol o’r benthyciad sydd i’w gymryd i ystyriaeth fel incwm—

(a)mewn perthynas â chwrs sy’n parhau am un flwyddyn academaidd neu lai, rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod, sy’n dechrau gydag—

(i)ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (ii) yn gymwys, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf yr un flwyddyn academaidd;

(ii)pan yw’n ofynnol bod y myfyriwr yn dechrau mynychu’r cwrs yn Awst, neu pan fo hyd y cwrs yn llai nag un flwyddyn academaidd, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cwrs,

ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cwrs;

(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs sy’n cychwyn ac eithrio ar 1 Medi, rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod—

(i)sy’n dechrau gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno; a

(ii)yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y flwyddyn academaidd honno,

ond gan hepgor unrhyw wythnosau gostyngiad sy’n digwydd yn gyfan gwbl o fewn y chwarter pan, ym marn yr awdurdod, y cymerir y cyfnod hwyaf o unrhyw wyliau, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae i “chwarter” yr ystyr a roddir i “quarter” at ddibenion Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005;

(c)mewn perthynas â blwyddyn academaidd derfynol cwrs (nad yw’n gwrs sy’n parhau am un flwyddyn), rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd derfynol honno yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod, sy’n dechrau gydag—

(i)ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (ii) yn gymwys, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno;

(ii)pan fo’r flwyddyn academaidd derfynol yn cychwyn ar 1 Medi, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl y cynharaf o 1 Medi neu ddiwrnod cyntaf tymor yr hydref,

ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cwrs;

(d)mewn unrhyw achos arall, rhaid dosrannu’r benthyciad yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n dechrau gyda’r cynharaf o’r canlynol—

(i)diwrnod cyntaf yr wythnos ostyngiad gyntaf ym Medi; neu

(ii)yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl diwrnod cyntaf tymor yr hydref,

ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu’r diwrnod olaf ym Mehefin, ac ym mhob achos, o’r swm wythnosol fel y’i dosrannwyd rhaid diystyru £10.

(3Rhaid trin myfyriwr fel pe bai’n meddu benthyciad myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd os—

(a)rhoddwyd benthyciad myfyriwr i’r myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno; neu

(b)y gallai’r myfyriwr gaffael benthyciad o’r fath mewn perthynas â’r flwyddyn honno drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny.

(4Pan drinnir myfyriwr fel pe bai’n meddu benthyciad myfyriwr o dan is-baragraff (3), mae swm y benthyciad myfyriwr y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), fel a ganlyn—

(a)yn achos myfyriwr y rhoddir benthyciad myfyriwr iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd, swm sy’n hafal i—

(i)swm y benthyciad myfyriwr mwyaf y gall y myfyriwr hwnnw ei gaffael mewn perthynas â’r flwyddyn honno drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny; a

(ii)unrhyw gyfraniad, pa un a dalwyd y cyfraniad hwnnw i’r myfyriwr ai peidio;

(b)yn achos myfyriwr na roddwyd benthyciad myfyriwr iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd, swm y benthyciad myfyriwr mwyaf y byddid yn ei roi i’r myfyriwr hwnnw—

(i)pe bai’r myfyriwr yn cymryd pob cam rhesymol i gael y benthyciad myfyriwr mwyaf y mae modd iddo’i gaffael mewn perthynas â’r flwyddyn honno; a

(ii)pe na wneid unrhyw ddidyniad o’r benthyciad hwnnw yn rhinwedd gweithredu prawf modd.

(5Rhaid didynnu o swm yr incwm a gymerir i ystyriaeth o dan is-baragraff (4)—

(a)y swm o £303 am bob blwyddyn academaidd mewn perthynas â chostau teithio; a

(b)y swm o £390 am bob blwyddyn academaidd tuag at gost llyfrau a chyfarpar,

pa un a dynnir costau o’r fath ai peidio.

Trin benthyciadau ffioedd

10.  Rhaid diystyru fel incwm unrhyw fenthyciad ar gyfer ffioedd, a elwir hefyd yn fenthyciad ffioedd neu’n fenthyciad cyfrannu at ffioedd, a roddir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1988, adran 22 o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 neu adran 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

Trin taliadau o gronfeydd mynediad

11.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i daliadau o gronfeydd mynediad nad ydynt yn daliadau y mae paragraff 14(2) neu (3) (incwm a drinnir fel cyfalaf) yn gymwys iddynt.

(2Rhaid diystyru fel incwm unrhyw daliad o gronfeydd mynediad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) o’r paragraff hwn a pharagraff 40 o Atodlen 9, rhaid diystyru fel incwm—

(a)unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer eitem o fwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref, neu rent ceisydd sengl neu, yn ôl fel y digwydd, y ceisydd neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, a

(b)unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd yn atebol,

hyd at £20 yr wythnos.

(4Pan wneir taliad o gronfeydd mynediad—

(a)ar neu ar ôl 1 Medi neu ddiwrnod cyntaf y cwrs, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, ond cyn cael unrhyw fenthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, a’r taliad wedi ei fwriadu at y diben o bontio’r cyfnod hyd nes ceir y benthyciad myfyriwr; neu

(b)cyn diwrnod cyntaf y cwrs i berson gan ddisgwyl y bydd y person hwnnw’n dod yn fyfyriwr,

rhaid diystyru’r taliad hwnnw fel incwm.

Diystyru cyfraniad

12.  Pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn fyfyriwr ac at y diben o asesu cyfraniad i grant neu fenthyciad myfyriwr y myfyriwr, cymerwyd i ystyriaeth incwm y partner arall, rhaid diystyru swm sy’n hafal i’r cyfraniad hwnnw at y diben o asesu incwm y partner arall hwnnw.

Diystyriad pellach o incwm myfyriwr

13.  Pan fo unrhyw ran o incwm myfyriwr wedi ei chymryd i ystyriaeth eisoes at y diben o asesu hawlogaeth y myfyriwr hwnnw i gael grant neu fenthyciad myfyriwr, rhaid diystyru’r swm a gymerwyd i ystyriaeth wrth asesu incwm y myfyriwr hwnnw.

Incwm a drinnir fel cyfalaf

14.—(1Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth a ddidynnwyd o incwm cyfamod myfyriwr.

(2Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm a delir o gronfeydd mynediad fel cyfandaliad sengl.

(3Rhaid i swm a delir o gronfeydd mynediad fel cyfandaliad sengl, a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer eitem ac eithrio bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent, neu a ddefnyddir ar gyfer eitem ac eithrio unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd hwnnw neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd yn atebol amdanynt, gael eu diystyru fel cyfalaf, ond am gyfnod, yn unig, o 52 wythnos o ddyddiad y taliad.

Diystyru newidiadau sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r haf

15.  Wrth gyfrifo incwm myfyriwr, rhaid i awdurdod ddiystyru unrhyw newid yn y grant cynhaliaeth safonol, sy’n digwydd yn ystod y gwyliau haf cydnabyddedig sy’n briodol i gwrs y myfyriwr, os nad yw’r gwyliau hynny’n ffurfio rhan o gyfnod astudio’r myfyriwr o’r dyddiad y digwyddodd y newid hyd at ddiwedd y gwyliau hynny.

Rheoliad 34(3)

ATODLEN 12Pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod — materion gweithdrefnol

RHAN 1Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod

Gweithdrefn y caiff person ei dilyn i wneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod

1.  Mae paragraffau 2 i 7 yn gymwys i gais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.

2.  Caniateir gwneud cais—

(a)mewn ysgrifen,

(b)drwy gyfathrebiad electronig yn unol â Rhan 4, neu

(c)os yw’r awdurdod wedi cyhoeddi rhif teleffon at y diben o gael ceisiadau o’r fath, dros y teleffon.

3.—(1Rhaid gwneud unrhyw gais a wneir mewn ysgrifen i’r swyddfa ddynodedig a rhaid iddo fod—

(a)ar ffurflen sydd wedi ei chwblhau’n briodol ac a gymeradwywyd gan yr awdurdod at ddibenion gwneud cais mewn ysgrifen; neu

(b)yn y cyfryw ffurf ysgrifenedig y mae’r awdurdod yn derbyn sy’n ddigonol mewn amgylchiadau unrhyw achos penodol (neu ddosbarth o achosion) o ystyried digonolrwydd yr wybodaeth a thystiolaeth ysgrifenedig.

(2Mae cais mewn ysgrifen yn ddiffygiol os na wneir y cais ar y ffurf a ddisgrifir ym mharagraff 3(1)(a) neu (b).

(3Rhaid i unrhyw ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod at y diben o wneud cais mewn ysgrifen gael ei darparu’n ddi-dâl.

4.—(1Pan fo cais a wneir mewn ysgrifen yn ddiffygiol oherwydd—

(a)ei fod wedi ei wneud ar y ffurflen a gymeradwywyd at y diben ond nad yw’r awdurdod yn ei dderbyn fel ffurflen a gwblhawyd yn briodol, caiff yr awdurdod ofyn i’r ceisydd gwblhau’r cais diffygiol; neu

(b)ei fod wedi ei wneud mewn ysgrifen ond nid ar y ffurflen a gymeradwywyd at y diben hwnnw, ac nad yw’r awdurdod yn derbyn y cais fel un ar ffurf ysgrifenedig sy’n ddigonol yn amgylchiadau’r achos, o ystyried digonolrwydd yr wybodaeth a’r dystiolaeth ysgrifenedig, caiff yr awdurdod gyflenwi copi o’r ffurflen gymeradwy i’r ceisydd neu ofyn am wybodaeth neu dystiolaeth bellach.

(2Bydd cais a wneir ar ffurflen a ddarparwyd gan yr awdurdod wedi ei gwblhau’n briodol os cwblheir ef yn unol â’r cyfarwyddiadau ar y ffurflen, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddiadau i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth mewn cysylltiad â’r cais.

5.—(1Os yw cais a wneir drwy gyfathrebiad electronig yn ddiffygiol, rhaid i’r awdurdod roi cyfle i’r person sy’n gwneud y cais gywiro’r diffyg.

(2Bydd cais a wneir drwy gyfathrebiad electronig yn ddiffygiol os nad yw’r ceisydd yn darparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod.

6.  Mewn achos penodol caiff awdurdod benderfynu na fydd cais a wneir dros y teleffon yn ddilys oni fydd y person sy’n gwneud y cais yn cymeradwyo datganiad ysgrifenedig o amgylchiadau’r person hwnnw a ddarperir gan yr awdurdod.

7.—(1Os yw cais a wneir dros y teleffon yn ddiffygiol, rhaid i’r awdurdod roi cyfle i’r person sy’n gwneud y cais gywiro’r diffyg.

(2Bydd cais a wneir dros y teleffon yn ddiffygiol os na fydd y ceisydd yn darparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod yn ystod yr alwad teleffon.

RHAN 2Y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl

Gweithdrefn y caiff person ei dilyn i apelio yn erbyn penderfyniadau penodol yr awdurdod

8.—(1Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad awdurdod sy’n effeithio ar—

(a)hawlogaeth y person hwnnw i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod; neu

(b)swm unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod,

gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod, yn datgan y mater sy’n peri tramgwydd i’r person hwnnw, ac ar ba sail y tramgwyddir y person hwnnw.

(2Rhaid cyflwyno hysbysiad o dan is-baragraff (1) o fewn un mis o’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad ynghylch penderfyniad yr awdurdod, neu pan fo person wedi gofyn am ddatganiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff 9(5) o Atodlen 13 (gofyn am ddatganiad o resymau ysgrifenedig), o fewn un mis o’r dyddiad y cyflwynwyd y datganiad o resymau.

9.  Rhaid i’r awdurdod—

(a)ystyried y mater y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)hysbysu’r person a dramgwyddwyd mewn ysgrifen naill ai—

(i)nad yw’r sail yn gadarn, gan roi rhesymau dros y gred honno; neu

(ii)bod camau wedi eu cymryd i unioni’r tramgwydd, gan ddatgan pa gamau a gymerwyd.

10.  Os yw’r person yn parhau wedi ei dramgwyddo, ar ôl ei hysbysu o dan baragraff 9(b)(i) neu (ii), neu os yw’r awdurdod wedi methu â hysbysu’r person a dramgwyddwyd yn unol â pharagraff 9(b) o fewn dau fis ar ôl cyflwyno’r hysbysiad gan y person, caiff y person apelio i’r tribiwnlys prisio o dan adran 16 o Ddeddf 1992.

RHAN 3Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am ostyngiad disgresiynol

Gweithdrefn ar gyfer gwneud cais i awdurdod am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992

11.  Rhaid gwneud cais i awdurdod am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992—

(a)mewn ysgrifen,

(b)drwy gyfathrebiad electronig yn unol â Rhan 4, neu

(c)os yw’r awdurdod wedi cyhoeddi rhif teleffon at y diben o gael ceisiadau o’r fath, dros y teleffon.

(2Os—

(a)yw’r awdurdod wedi gwneud penderfyniad o dan adran 13A(1)(c) mewn perthynas â dosbarth o achosion y gostyngir yr atebolrwydd ynddo; a

(b)fel arall, byddai hawl gan berson yn y dosbarth hwnnw i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod,

caniateir trin cais y person hwnnw am ostyngiad o dan gynllun yr awdurdod fel cais hefyd am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c).

RHAN 4Cyfathrebu electronig

Dehongli

12.  Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, tystysgrif, hysbysiad neu dystiolaeth arall;

ystyr “system gyfrifiadurol swyddogol” (“official computer system”) yw system gyfrifiadurol a gynhelir gan neu ar ran awdurdod, ar gyfer anfon, cael, prosesu neu storio unrhyw wybodaeth.

Amodau ar gyfer defnyddio cyfathrebu electronig

13.—(1Caiff awdurdod ddefnyddio cyfathrebiad electronig mewn cysylltiad â chais am, a dyfarniad o, ostyngiad o dan ei gynllun.

(2Caiff person ac eithrio’r awdurdod ddefnyddio cyfathrebiad electronig mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) os bodlonir yr amodau a bennir yn is-baragraffau (3) i (6).

(3Yr amod cyntaf yw y caniateir i’r person hwnnw, am y tro, ddefnyddio cyfathrebiad electronig, gan awdurdodiad a roddwyd ar ffurf cyfarwyddyd gan Brif Weithredwr yr awdurdod.

(4Yr ail amod yw fod y person yn defnyddio dull cymeradwy—

(a)o ddilysu manylion adnabod anfonwr y cyfathrebiad;

(b)o gyfathrebu yn electronig;

(c)o ddilysu unrhyw gais neu hysbysiad a gyflenwir drwy gyfathrebiad electronig; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), o gyflwyno unrhyw wybodaeth i’r awdurdod.

(5Y trydydd amod yw fod unrhyw wybodaeth a anfonir drwy gyfathrebiad electronig mewn ffurf a gymeradwywyd at ddibenion y Rhan hon.

(6Y pedwerydd amod yw fod y person yn cadw pa bynnag gofnodion mewn ffurf ysgrifenedig neu electronig, a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir gan Brif Weithredwr yr awdurdod.

(7Os yw’r person yn defnyddio unrhyw ddull arall, ac eithrio’r dull cymeradwy o gyflwyno unrhyw wybodaeth, rhaid trin yr wybodaeth honno fel pe na bai wedi ei chyflwyno.

(8Yn y paragraff hwn, ystyr “cymeradwy” (“approved”) yw cymeradwy drwy gyfarwyddyd a roddwyd gan Brif Weithredwr yr awdurdod at ddibenion y Rhan hon.

Defnyddio cyfryngwyr

14.  Caiff awdurdod ddefnyddio cyfryngwyr mewn cysylltiad ag—

(a)cyflenwi unrhyw wybodaeth drwy gyfathrebu electronig; a

(b)dilysu neu ddiogelu unrhyw beth a drawsyrrir drwy ddulliau o’r fath,

a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod personau eraill yn defnyddio cyfryngwyr mewn cysylltiad â’r materion hynny.

Effaith cyflenwi gwybodaeth drwy gyfathrebu electronig

15.—(1Rhaid trin unrhyw wybodaeth a gyflenwir drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig fel pe bai wedi ei chyflenwi yn y modd neu’r ffurf sy’n ofynnol gan unrhyw ddarpariaeth o gynllun awdurdod, ar y diwrnod y bydd yr amodau a osodir—

(a)gan y Rhan hon; a

(b)gan neu o dan ddeddfiad,

wedi eu bodloni.

(2Caiff awdurdod benderfynu bod unrhyw wybodaeth i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflenwi ar ddiwrnod gwahanol (boed yn gynharach neu’n ddiweddarach) i’r diwrnod y darperir ar ei gyfer yn is-baragraff (1).

(3Rhaid peidio ag ystyried bod gwybodaeth wedi ei chyflenwi i system gyfrifiadurol swyddogol drwy gyfathrebiad electronig hyd nes bo’r wybodaeth wedi ei derbyn gan y system y cyflenwir yr wybodaeth iddi.

Profi adnabyddiaeth o anfonwr neu dderbynnydd gwybodaeth

16.  Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, adnabyddiaeth o—

(a)anfonwr unrhyw wybodaeth a gyflenwyd drwy gyfathrebiad electronig i system gyfrifiadurol swyddogol; neu

(b)derbynnydd unrhyw wybodaeth o’r fath a gyflenwyd drwy gyfathrebiad electronig o system gyfrifiadurol swyddogol,

rhagdybir mai’r anfonwr neu’r derbynnydd, yn ôl fel y digwydd, yw’r person y cofnodir ei enw fel y cyfryw ar y system gyfrifiadurol swyddogol honno.

Prawf o gyflenwi gwybodaeth

17.—(1Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, fod y defnydd o gyfathrebiad electronig wedi arwain at gyflenwi unrhyw wybodaeth, rhagdybir bod hynny wedi digwydd—

(a)pan fo unrhyw wybodaeth o’r fath wedi ei chyflenwi i’r awdurdod, os yw cyflenwi’r wybodaeth honno wedi ei gofnodi ar system gyfrifiadurol swyddogol; neu

(b)pan fo unrhyw wybodaeth o’r fath wedi ei chyflenwi gan yr awdurdod, os yw cyflenwi’r wybodaeth honno wedi ei gofnodi ar system gyfrifiadurol swyddogol.

(2Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, fod y defnydd o gyfathrebiad electronig wedi arwain at gyflenwi unrhyw wybodaeth o’r fath, rhagdybir na ddigwyddodd hynny os nad yw cyflenwi’r wybodaeth honno i’r awdurdod wedi ei gofnodi ar system gyfrifiadurol swyddogol.

(3Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, pa bryd y derbyniwyd unrhyw wybodaeth o’r fath a anfonwyd drwy gyfathrebiad electronig, rhagdybir mai’r amser a’r dyddiad derbyn fydd yr amser a’r dyddiad a gofnodir ar system gyfrifiadurol swyddogol.

Prawf o gynnwys gwybodaeth

18.  Os bydd angen profi, at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, yr hyn sy’n gynwysedig mewn unrhyw wybodaeth a anfonwyd drwy gyfathrebiad electronig, rhagdybir mai’r cynnwys yw’r hyn a gofnodwyd ar system gyfrifiadurol swyddogol.

Rheoliad 34(3)

ATODLEN 13Pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod — materion eraill

RHAN 1Ceisiadau

Pwy gaiff wneud cais

1.—(1Yn achos—

(a)cwpl neu (yn ddarostyngedig i baragraff (b)) aelodau priodas amlbriod, rhaid i gais gael ei wneud gan ba un bynnag ohonynt y cytunant ddylai wneud y cais neu, os methant â chytuno, gan ba un bynnag ohonynt y penderfyna’r awdurdod; neu

(b)aelodau o briodas amlbriod y mae paragraff 9 o Atodlen 6 (incwm a chyfalaf: dyfarniad o gredyd cynhwysol) yn gymwys iddynt, rhaid i gais gael ei wneud gan ba un bynnag o’r partïon i’r briodas gynharaf sy’n parhau mewn bodolaeth y cytunant ddylai wneud y cais neu, os methant â chytuno, gan ba un bynnag ohonynt y penderfyna’r awdurdod.

(2Pan fo person, sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd, yn analluog am y tro i weithredu, ac—

(a)y Llys Gwarchod wedi penodi dirprwy sydd â phŵer i hawlio neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal ar ran y person hwnnw; neu

(b)yn yr Alban, gweinyddir ystad y person hwnnw gan oruchwyliwr barnwrol neu unrhyw warcheidwad sy’n gweithredu neu a benodwyd o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000(256) sydd â phŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal ar ran y person hwnnw; neu

(c)atwrnai sydd â phŵer cyffredinol neu bŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, i gael budd-dal, wedi ei benodi gan y person hwnnw o dan Ddeddf Atwrneiaethau 1971(257), Deddf Atwrneiaethau Parhaus 1985(258) neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(259) neu rywfodd arall,

caiff y dirprwy, goruwchwyliwr barnwrol, gwarcheidwad neu atwrnai hwnnw, yn ôl fel y digwydd, wneud cais ar ran y person hwnnw.

(3Pan fo person, sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd, yn analluog am y tro i weithredu, ac nad yw is-baragraff (2) yn gymwys i’r person hwnnw, caiff yr awdurdod, os gwneir cais ysgrifenedig iddo gan berson sydd, os yw’n berson naturiol, dros 18 mlwydd oed, benodi’r person hwnnw i arfer, ar ran y person sy’n analluog i weithredu, unrhyw hawl a allai fod gan y person sy’n analluog i weithredu o dan gynllun awdurdod, ac i gael a delio, ar ran y person hwnnw ag unrhyw symiau sy’n daladwy i’r person hwnnw.

(4Pan fo person, sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd, yn analluog am y tro i weithredu, a’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi person i weithredu ar ran y person hwnnw o dan reoliad 33 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Hawliadau a Thaliadau) 1987(260) (personau analluog i weithredu), caiff yr awdurdod, os yw’r person a benodwyd felly yn cydsynio, drin y person hwnnw fel pe bai’r person hwnnw wedi ei benodi gan yr awdurdod o dan is-baragraff (3).

(5Pan fo’r awdurdod wedi gwneud penodiad o dan is-baragraff (3) neu’n trin person fel penodai o dan is-baragraff (4)—

(a)caiff ddirymu’r penodiad ar unrhyw adeg;

(b)caiff y person a benodwyd ymddiswyddo o’i swydd ar ôl rhoi 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig i’r awdurdod o’i fwriad i wneud hynny;

(c)rhaid i unrhyw benodiad o’r fath derfynu pan hysbysir yr awdurdod o benodiad person a grybwyllir yn is-baragraff (2).

(6Caniateir gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol o dan gynllun awdurdod ei wneud gan neu i unrhyw berson sy’n analluog am y tro i weithredu, gan neu i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu gan neu i’r person a benodir, neu a drinnir fel pe bai wedi ei benodi, o dan y paragraff hwn ac y mae derbynneb unrhyw berson o’r fath a benodwyd felly am unrhyw swm a dalwyd yn rhyddhad dilys i’r awdurdod.

(7Rhaid i’r awdurdod—

(a)hysbysu unrhyw berson sy’n gwneud cais ynghylch y ddyletswydd a osodir gan baragraff 7(1)(a) (dyletswydd i hysbysu ynghylch newid yn yr amgylchiadau);

(b)esbonio’r canlyniadau posibl (gan gynnwys erlyn) os methir â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno; ac

(c)nodi’r amgylchiadau y gallai newid ynddynt effeithio ar yr hawlogaeth i gael gostyngiad neu ar swm y gostyngiad.

Y dyddiad pan wneir cais

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), y dyddiad pan wneir cais yw—

(a)mewn achos pan fo—

(i)dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys credyd gwarant wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd, a

(ii)y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod wedi ei wneud o fewn un mis i’r dyddiad y cafwyd, yn swyddfa briodol yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr hawliad am y credyd pensiwn y wladwriaeth hwnnw sy’n cynnwys credyd gwarant,

diwrnod cyntaf yr hawlogaeth i gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys credyd gwarant, sy’n codi o’r hawliad hwnnw;

(b)mewn achos pan fo—

(i)ceisydd neu bartner y ceisydd yn berson sy’n cael credyd gwarant,

(ii)y ceisydd yn dod yn atebol am y tro cyntaf i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd a feddiennir gan y ceisydd fel ei gartref, a

(iii)y swyddfa ddynodedig yn cael y cais a wnaed i’r awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y newid,

y dyddiad pan fo’r newid yn digwydd;

(c)mewn achos pan fo—

(i)dyfarniad o gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd, a

(ii)y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod wedi ei wneud o fewn un mis i’r dyddiad y cafwyd yr hawliad am y cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, lwfans cyflogaeth a chymorth neu gredyd cynhwysol,

diwrnod cyntaf yr hawlogaeth i gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gredyd cynhwysol sy’n codi o’r hawliad hwnnw;

(d)mewn achos pan fo—

(i)ceisydd neu bartner y ceisydd yn berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol,

(ii)y ceisydd yn dod yn atebol am y tro cyntaf i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd a feddiennir gan y ceisydd fel ei gartref, a

(iii)y swyddfa ddynodedig yn cael y cais a wnaed i’r awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y newid,

y dyddiad pan fo’r newid yn digwydd;

(e)mewn achos pan fo—

(i)y ceisydd yn gyn-bartner person yr oedd hawl ganddo, ar y dyddiad y bu farw’r person hwnnw, neu y gwahanodd y ceisydd a’r person hwnnw, i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, a

(ii)y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y farwolaeth neu’r gwahanu,

dyddiad y farwolaeth neu’r gwahanu;

(f)ac eithrio pan fodlonir paragraff (a), (b) neu (e), mewn achos pan fo’r swyddfa ddynodedig wedi cael cais, a gwblhawyd yn briodol, o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y dyroddwyd ffurflen gais i’r ceisydd, wedi i’r ceisydd yn gyntaf hysbysu’r awdurdod, ym mha bynnag fodd, o’i fwriad i wneud cais, dyddiad yr hysbysiad cyntaf;

(g)mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y ceir y cais yn y swyddfa ddynodedig.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(c) yn unig, rhaid trin person y dyfarnwyd iddo lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm fel pe bai hawl ganddo i gael y lwfans hwnnw ar gyfer unrhyw ddiwrnodau sy’n union ragflaenu diwrnod cyntaf y dyfarniad hwnnw pan fyddai’r person hwnnw, oni bai am reoliadau a wnaed o dan—

(a)yn achos lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, paragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 (diwrnodau aros); neu

(b)yn achos lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, paragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (diwrnodau aros),

wedi bod â hawl i gael y lwfans hwnnw.

(3O ran y diffyg y cyfeirir ato ym mharagraff 7 o Atodlen 12 (cais dros y teleffon)—

(a)pan fo’r diffyg wedi ei gywiro o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y tynnwyd sylw at y diffyg ddiwethaf gan yr awdurdod, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud yn briodol y tro cyntaf;

(b)pan nad yw’r diffyg wedi ei gywiro o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y tynnwyd sylw at y diffyg ddiwethaf gan yr awdurdod, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud yn briodol y tro cyntaf os yw o’r farn bod ganddo wybodaeth ddigonol i wneud penderfyniad ar y cais.

(4Rhaid i awdurdod drin cais diffygiol fel pe bai wedi ei wneud yn ddilys y tro cyntaf, os yw’r amodau a bennir yn is-baragraff (5)(a), (b) neu (c), mewn unrhyw achos penodol, wedi eu bodloni.

(5Yr amodau yw—

(a)pan fo paragraff 4(1)(a) o Atodlen 12 (ffurflen anghyflawn) yn gymwys, bod yr awdurdod yn cael, yn y swyddfa ddynodedig, y cais wedi ei gwblhau’n briodol neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’w gwblhau neu’r dystiolaeth, o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw, neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod; neu

(b)pan fo paragraff 4(1)(b) o Atodlen 12 (cais nad yw ar y ffurflen gymeradwy, neu’r awdurdod yn gofyn am wybodaeth bellach) yn gymwys—

(i)bod y swyddfa ddynodedig yn cael y ffurflen gymeradwy, a anfonwyd at y ceisydd, wedi ei chwblhau’n briodol o fewn un mis ar ôl ei hanfon at y ceisydd; neu, yn ôl fel y digwydd,

(ii)bod y ceisydd yn cyflenwi pa bynnag wybodaeth neu dystiolaeth y gofynnwyd amdani o dan baragraff 4 o Atodlen 12, o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw,

neu, yn y naill achos neu’r llall, o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod; neu

(c)pan fo’r awdurdod wedi gofyn am wybodaeth bellach, bod yr awdurdod yn cael, yn y swyddfa ddynodedig, y cais wedi ei gwblhau’n briodol neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw, neu o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod.

(6Ac eithrio yn achos cais a wneir gan berson a drinnir fel pe na bai’n byw ym Mhrydain Fawr, pan nad yw person wedi dod yn atebol i awdurdod am dreth gyngor, ond rhagwelir y bydd y person hwnnw’n atebol felly o fewn cyfnod o 13 wythnos (y cyfnod perthnasol), caiff y person hwnnw wneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw mewn perthynas â’r dreth honno ac, ar yr amod bod atebolrwydd yn codi o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar y diwrnod y mae’r atebolrwydd am y dreth yn codi.

(7Ac eithrio yn achos cais a wneir gan berson a drinnir fel pe na bai’n byw ym Mhrydain Fawr, pan nad oes hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod ar yr adeg y mae’r awdurdod yn cael y cais, ond ym marn yr awdurdod, oni fydd yr amgylchiadau yn newid, bydd hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod am gyfnod sy’n cychwyn ddim hwyrach na’r drydedd wythnos ostyngiad ar ddeg ar ôl y dyddiad y gwnaed y cais (neu pa bynnag gyfnod arall a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod), caiff yr awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar ddyddiad yn yr wythnos ostyngiad sy’n union ragflaenu’r wythnos ostyngiad gyntaf yn y cyfnod o hawlogaeth hwnnw, a dyfarnu gostyngiad yn unol â hynny.

Ôl-ddyddio ceisiadau: pensiynwyr

3.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yr amser i wneud cais gan bensiynwr am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, o ran unrhyw ddiwrnod pan fo’r ceisydd, ar wahân i fodloni’r amod o fod yn gwneud cais, yn meddu’r hawl i gael gostyngiad o’r fath, yw’r diwrnod hwnnw a’r cyfnod o dri mis sy’n dilyn yn union ar ei ôl.

(2Mewn unrhyw achos pan fo paragraff 2(1)(a) yn gymwys, nid yw is-baragraff (1) yn rhoi hawl i berson wneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod sy’n gynharach na 3 mis cyn y dyddiad y gwneir yr hawliad am gredyd pensiwn y wladwriaeth (neu y trinnir fel pe bai wedi ei wneud, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Hawliadau a Thaliadau) 1987(261)).

Ôl-ddyddio ceisiadau: personau nad ydynt yn bensiynwyr

4.—(1Pan fo ceisydd, sy’n berson nad yw’n bensiynwr—

(a)yn gwneud cais o dan gynllun awdurdod sy’n cynnwys (neu y mae’r ceisydd yn ddiweddarach yn gofyn am iddo gynnwys) cyfnod cyn bo’r cais wedi ei wneud; a

(b)o ddiwrnod yn y cyfnod hwnnw, hyd at y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais (neu y gofynnodd yn ddiweddarach am i’r cais gynnwys cyfnod blaenorol), yr oedd gan y ceisydd, yn ddi-dor, reswm da dros fethu â gwneud cais (neu ofyn am i’r cais gynnwys y cyfnod hwnnw),

rhaid trin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2).

(2Y dyddiad hwnnw yw’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod cyntaf pan oedd gan y ceisydd reswm da yn ddi-dor;

(b)y diwrnod 3 mis cyn y dyddiad y gwnaed y cais;

(c)y diwrnod 3 mis cyn y dyddiad pan ofynnodd y ceisydd am i’r cais gynnwys cyfnod blaenorol.

Tystiolaeth a gwybodaeth

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i berson sy’n gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod fodloni is-baragraff (2), mewn perthynas â’r person sy’n gwneud y cais yn ogystal ag unrhyw berson arall y mae’n gwneud y cais mewn perthynas ag ef.

(2Bodlonir yr is-baragraff hwn mewn perthynas â pherson—

(a)os cyflwynir y cais ynghyd ag—

(i)datganiad o rif yswiriant gwladol y person a gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n cadarnhau bod y rhif hwnnw wedi ei ddyrannu i’r person; neu

(ii)gwybodaeth neu dystiolaeth a fydd yn galluogi awdurdod i ganfod y rhif yswiriant gwladol sydd wedi ei ddyrannu i’r person; neu

(b)os yw’r person wedi gwneud cais am i rif yswiriant gwladol gael ei ddyrannu i’r person hwnnw, ac os cyflwynwyd y cais am ostyngiad ynghyd ag—

(i)tystiolaeth o’r cais am i rif yswiriant gwladol gael ei ddyrannu felly; a

(ii)gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n galluogi ei ddyrannu felly.

(3Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)yn achos plentyn neu berson ifanc y gwneir cais am ostyngiad mewn perthynas ag ef;

(b)i berson—

(i)a drinnir at ddibenion y cynllun hwnnw fel pe na bai ym Mhrydain Fawr;

(ii)sy’n destun rheolaeth ymfudo o fewn yr ystyr a roddir i “a person subject to immigration control” gan adran 115(9)(a) o Ddeddf Ymfudo a Lloches 1999(262); a

(iii)na ddyrannwyd iddo rif yswiriant gwladol eisoes.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), rhaid i berson sy’n gwneud cais, neu berson y dyfarnwyd iddo ostyngiad o dan gynllun awdurdod, ddarparu pa bynnag dystysgrifau, dogfennau, gwybodaeth a thystiolaeth mewn cysylltiad â’r cais neu’r dyfarniad, neu unrhyw gwestiwn sy’n codi o’r cais neu’r dyfarniad, y gofynnir amdanynt yn rhesymol gan yr awdurdod er mwyn penderfynu ynghylch hawlogaeth y person hwnnw, neu barhad ei hawlogaeth, i ostyngiad o dan gynllun yr awdurdod, a rhaid iddo wneud hynny o fewn un mis wedi i’r awdurdod ofyn iddo wneud hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod.

(5Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol bod person yn darparu unrhyw dystysgrifau, dogfennau, gwybodaeth neu dystiolaeth mewn perthynas â thaliad y mae is-baragraff (7) yn gymwys iddo.

(6Pan wneir cais gan awdurdod o dan is-baragraff (4), rhaid i’r awdurdod—

(a)hysbysu’r ceisydd, neu’r person y dyfarnwyd gostyngiad iddo o dan gynllun yr awdurdod, ynghylch dyletswydd y ceisydd o dan baragraff 7 (dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau) i hysbysu’r awdurdod ynghylch unrhyw newid yn yr amgylchiadau; a

(b)heb leihau dim ar gwmpas y ddyletswydd o dan baragraff 7, dynodi i’r person, naill ai ar lafar neu drwy hysbysiad neu drwy gyfeirio at ryw ddogfen arall sydd ar gael i’r person yn ddi-dâl os gofynnir amdani, y math o newid yn yr amgylchiadau y mae’n ofynnol hysbysu’r awdurdod yn ei gylch.

(7Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw un o’r taliadau canlynol—

(a)taliad—

(i)a ddiystyrwyd o dan baragraff 28 o Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) neu baragraff 38 o Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr); neu

(ii)a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain;

(b)taliad a ddiystyrir o dan baragraff 16 o Atodlen 5 (taliadau a wnaed o dan ymddiriedolaethau penodol a thaliadau penodol eraill) ac eithrio taliad o dan y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006);

(c)taliad a ddiystyrir o dan baragraff 5(9)(b) neu (c) o Atodlen 6 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) ac eithrio taliad a wnaed o dan y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).

(8Pan fo ceisydd, neu berson y mae gostyngiad o dan gynllun awdurdod wedi ei ddyfarnu iddo, neu unrhyw bartner, wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac yn aelod o gynllun pensiwn personol neu’n berson sydd â hawlogaeth i gael pensiwn o dan gynllun pensiwn personol, rhaid i’r person, pan ofynnir iddo gan yr awdurdod, ddarparu’r wybodaeth ganlynol—

(a)enw a chyfeiriad deiliad y gronfa bensiwn;

(b)pa bynnag wybodaeth arall, gan gynnwys unrhyw rif cyfeirnod neu rif polisi, y mae ei hangen i alluogi adnabod y cynllun pensiwn personol.

Diwygio cais a thynnu cais yn ôl

6.—(1Caiff person sydd wedi gwneud cais ei ddiwygio ar unrhyw adeg cyn bo penderfyniad wedi ei wneud ar y cais, drwy gyflwyno neu anfon hysbysiad ysgrifenedig i’r swyddfa ddynodedig.

(2Os oedd y cais wedi ei wneud dros y teleffon yn unol â Rhan 1 o Atodlen 12, caniateir gwneud y diwygiad hefyd dros y teleffon.

(3Rhaid trin unrhyw gais a ddiwygir yn unol ag is-baragraff (1) neu (2) fel pe bai wedi ei ddiwygio y tro cyntaf.

(4Caiff person sydd wedi gwneud cais dynnu’r cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn bo penderfyniad wedi ei wneud ar y cais, drwy hysbysiad i’r swyddfa ddynodedig.

(5Os oedd y cais wedi ei wneud dros y teleffon yn unol â Rhan 1 o Atodlen 12, caniateir tynnu’r cais yn ôl hefyd dros y teleffon.

(6Bydd unrhyw hysbysiad o dynnu’n ôl a roddir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5) yn cael effaith pan geir yr hysbysiad.

(7Pan fo person, dros y teleffon, yn diwygio cais neu’n tynnu cais yn ôl, rhaid i’r person hwnnw (os gofynnir iddo wneud hynny gan yr awdurdod) roi cadarnhad o ddiwygio’r cais neu ei dynnu’n ôl, drwy gyflwyno neu anfon hysbysiad ysgrifenedig i’r swyddfa ddynodedig.

Dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau

7.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (8), rhaid i’r ceisydd (neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y ceisydd) gydymffurfio ag is-baragraff (2) os oes newid perthnasol yn digwydd yn yr amgylchiadau ar unrhyw adeg—

(a)rhwng gwneud y cais a gwneud penderfyniad arno, neu

(b)ar ôl gwneud y penderfyniad (os y penderfyniad yw fod hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod) gan gynnwys ar unrhyw adeg tra bo’r ceisydd yn cael gostyngiad o’r fath.

(2Rhaid i’r ceisydd (neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y ceisydd) hysbysu ynghylch unrhyw newid yn yr amgylchiadau y gellid disgwyl yn rhesymol y byddai’r ceisydd (neu’r person hwnnw) yn gwybod y gallai effeithio ar hawlogaeth y ceisydd i gael gostyngiad, neu ar swm y gostyngiad, o dan gynllun yr awdurdod (“newid perthnasol yn yr amgylchiadau”), drwy roi hysbysiad i’r awdurdod—

(a)mewn ysgrifen; neu

(b)dros y teleffon—

(i)pan fo’r awdurdod wedi cyhoeddi rhif teleffon at y diben hwnnw neu at ddibenion Rhan 1 o Atodlen 12 oni fydd yr awdurdod yn penderfynu, mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth o achosion, na chaniateir rhoi hysbysiad dros y teleffon; neu

(ii)mewn unrhyw achos neu ddosbarth o achosion y penderfynodd yr awdurdod y caniateir rhoi hysbysiad ynddo dros y teleffon; neu

(c)drwy unrhyw ddull arall y cytuna’r awdurdod i’w dderbyn mewn unrhyw achos penodol,

o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod pan fo’r newid yn digwydd, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r newid ddigwydd, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(3Nid yw’r ddyletswydd a osodir ar berson gan is-baragraff (1) yn cynnwys hysbysu ynghylch—

(a)newidiadau yn swm y dreth gyngor sy’n daladwy i’r awdurdod;

(b)newidiadau yn oedran y ceisydd neu oedran unrhyw aelod o deulu’r ceisydd;

(c)yn achos ceisydd sy’n cael budd-dal perthnasol, newidiadau mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar swm y budd-dal ond nid ar swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan gynllun yr awdurdod, ac eithrio terfynu’r hawlogaeth i gael y budd-dal.

(4At ddibenion is-baragraff (3)(c) ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gredyd cynhwysol.

(5Er gwaethaf is-baragraff (3)(b) neu (c), mae’n ofynnol o dan is-baragraff (1) fod ceisydd yn hysbysu’r awdurdod ynghylch unrhyw newid yng nghyfansoddiad teulu’r ceisydd, sy’n digwydd pan nad yw person, a oedd yn aelod o deulu’r ceisydd, bellach yn berson o’r fath, oherwydd bod y person hwnnw wedi peidio â bod yn blentyn neu berson ifanc.

(6Rhaid i berson y rhoddwyd gostyngiad iddo o dan gynllun awdurdod ac sydd hefyd yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth adrodd am—

(a)newidiadau sy’n effeithio ar breswylfa neu incwm unrhyw annibynnydd sydd fel arfer yn preswylio gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer yn preswylio gydag ef;

(b)unrhyw absenoldeb o’r annedd sy’n hwy, neu’n debygol o fod yn hwy, na 13 wythnos.

(7Rhaid i berson y mae ei gredyd pensiwn y wladwriaeth yn cynnwys credyd cynilion yn unig adrodd hefyd am—

(a)newidiadau sy’n effeithio ar blentyn sy’n byw gyda’r person hwnnw, a allai arwain at newid yn swm y gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod a ganiateir yn achos y person hwnnw, ond nid newidiadau yn oedran y plentyn;

(b)unrhyw newid yn y swm o gyfalaf y person hwnnw sydd i’w gymryd i ystyriaeth, sy’n peri, neu a allai beri, bod swm cyfalaf y person hwnnw’n fwy nag £16,000;

(c)unrhyw newid yn incwm neu gyfalaf—

(i)annibynnydd y trinnir ei incwm a’i gyfalaf fel pe baent yn eiddo i’r ceisydd yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 1 neu baragraff 8 o Atodlen 6 (amgylchiadau pan drinnir incwm annibynnydd fel pe bai’n eiddo i’r ceisydd); neu

(ii)person y cyfeirir ato ym mharagraff 8(2)(e) o Atodlen 1 (partner a drinnir fel aelod o’r aelwyd o dan baragraff 8),

a pha un a yw person o’r fath neu, yn ôl fel y digwydd, annibynnydd o’r fath yn peidio â byw neu’n dechrau byw neu’n ailddechrau byw gyda’r ceisydd.

(8Nid oes raid i berson sydd â hawl i ostyngiad o dan gynllun awdurdod ac yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth adrodd wrth yr awdurdod am newidiadau ac eithrio’r newidiadau a bennir yn is-baragraffau (6) a (7).

RHAN 2Penderfyniadau gan awdurdod

Penderfyniad gan awdurdod

8.  Rhaid i awdurdod wneud penderfyniad ar gais am ostyngiad o dan ei gynllun o fewn 14 diwrnod ar ôl bodloni paragraffau 2 a 5, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.

Hysbysu ynghylch penderfyniad

9.—(1Rhaid i awdurdod hysbysu mewn ysgrifen unrhyw berson yr effeithir arno gan benderfyniad a wneir gan yr awdurdod o dan ei gynllun—

(a)yn achos penderfyniad ar gais, ar unwaith neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn;

(b)mewn unrhyw achos arall, o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud y penderfyniad, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.

(2Os dyfarnu gostyngiad yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad sy’n—

(a)rhoi gwybod i’r person yr effeithir arno am y ddyletswydd a osodir gan baragraff 7 (dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau);

(b)esbonio’r canlyniadau posibl (gan gynnwys erlyn) os methir â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno; ac

(c)nodi’r amgylchiadau y gallai newid ynddynt effeithio ar yr hawlogaeth i gael gostyngiad neu ar swm y gostyngiad.

(3Os dyfarnu gostyngiad yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad o’r modd y bodlonir yr hawlogaeth.

(4Rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad hefyd ynghylch y materion a bennir yn Atodlen 14.

(5Caiff person yr effeithir arno ac y cyflwynodd neu anfonodd yr awdurdod hysbysiad o benderfyniad ato, o fewn un mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad o benderfyniad hwnnw, ofyn mewn ysgrifen i’r awdurdod ddarparu datganiad ysgrifenedig sy’n nodi rhesymau’r awdurdod am ei benderfyniad ar unrhyw fater a nodir yn yr hysbysiad.

(6Rhaid anfon y datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn is-baragraff (5) at y person sy’n gofyn amdano o fewn 14 diwrnod neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.

(7At ddibenion y paragraff hwn rhaid trin person fel person yr effeithir arno gan benderfyniad awdurdod o dan ei gynllun os effeithir ar hawliau, dyletswyddau neu ymrwymiadau’r person hwnnw gan y penderfyniad hwnnw ac os yw’r person yn dod o fewn is-baragraff (8).

(8Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—

(a)y ceisydd;

(b)yn achos person sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd ac yn analluog am y tro i weithredu—

(i)dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod sydd â phŵer i hawlio neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal, ar ran y person; neu

(ii)yn yr Alban, goruchwyliwr barnwrol neu unrhyw warcheidwad sy’n gweithredu neu a benodwyd o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 sydd â phŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal, ar ran y person; neu

(iii)atwrnai sydd â phŵer cyffredinol neu bŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, i gael budd-dal, wedi ei benodi gan y person hwnnw o dan Ddeddf Atwrneiaethau 1971, Deddf Atwrneiaethau Parhaus 1985 neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu rywfodd arall;

(c)person a benodwyd gan yr awdurdod o dan baragraff 1(3).

RHAN 3Dyfarniad neu daliad o ostyngiad

Dyfarniad neu daliad o ostyngiad o dan gynllun

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo hawl gan berson i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag atebolrwydd y person hwnnw am dreth gyngor fel y caiff effaith mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i’r awdurdod fodloni hawlogaeth y person hwnnw drwy leihau, i’r graddau sy’n bosibl, swm atebolrwydd y person hwnnw, y cyfeirir ato yn rheoliad 20(2) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.

(2Pan fo—

(a)hawl gan berson i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag atebolrwydd y person hwnnw am dreth gyngor yr awdurdod fel y caiff effaith mewn perthynas â blwyddyn ariannol;

(b)y person sydd â hawl i gael y gostyngiad yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth gyngor; ac

(c)yr awdurdod yn penderfynu y byddai’n amhriodol bodloni hawlogaeth y person hwnnw drwy leihau swm atebolrwydd y person hwnnw, y cyfeirir ato yn rheoliad 20(2) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992,

caiff yr awdurdod wneud taliad i’r person hwnnw o swm y gostyngiad y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael, wedi ei dalgrynnu, pan fo angen, i’r geiniog agosaf.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) rhaid gwneud unrhyw daliad a wneir o dan is-baragraffau (1) neu (2) i’r person sydd â hawl i gael y gostyngiad.

(4Os gwnaed y cais gan berson ac eithrio’r person sydd â hawl i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod a’r person cyntaf hwnnw’n berson sy’n gweithredu yn unol â phenodiad o dan baragraff 1(3) (personau a benodir i weithredu dros berson sy’n analluog i weithredu) neu a drinnir fel pe bai wedi ei benodi felly yn rhinwedd paragraff 1(4), caniateir talu swm y gostyngiad i’r person hwnnw.

Rheoliad 34(3)

ATODLEN 14Materion sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad

RHAN 1Cyffredinol

1.  Y materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn unrhyw hysbysiad a ddyroddir gan yr awdurdod yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 13 (hysbysu penderfyniad), yw’r materion a bennir yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon.

2.  Rhaid i bob hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â hawl unrhyw berson yr effeithir arno gan y penderfyniad i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o dan baragraff 9(5) o Atodlen 13 (ceisiadau am ddatganiad o resymau), ac o’r modd a’r amser y ceir gwneud hynny.

3.  Rhaid i bob hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â hawl unrhyw berson yr effeithir arno gan y penderfyniad i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol â pharagraffau 8 a 10 o Atodlen 12 (gweithdrefn y caiff person ei dilyn i apelio yn erbyn penderfyniadau penodol yr awdurdod), ac o’r modd a’r amser y ceir gwneud hynny.

RHAN 2Dyfarniadau o ostyngiadau pan fo credyd pensiwn y wladwriaeth neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn daladwy: pensiynwyr

4.—(1Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i bensiynwr sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(a)y swm wythnosol arferol o dreth gyngor y byddai’r person yn atebol i’w dalu cyn dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(b)yr uchafswm gostyngiad wythnosol y gallai person fod â hawl i’w gael o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(c)swm wythnosol arferol y gostyngiad y penderfynodd yr awdurdod fod hawl gan y person i’w gael o dan ei gynllun, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(d)swm a chategori unrhyw ddidyniadau annibynyddion a wnaed yn unol â chynllun yr awdurdod, os oes rhai; ac

(e)y diwrnod cyntaf y bydd hawl gan y person i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod,

ac mewn unrhyw achos pan fo’r swm y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (c) yn diystyru ffracsiynau o geiniog, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.

(2Mewn achos pan fo gan bensiynwr, sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth, hawlogaeth yn unig i gael y credyd cynilion, rhaid i’r hysbysiad nodi hefyd y materion canlynol—

(a)swm cymwysadwy’r person a sail y cyfrifiad;

(b)symiau y credyd cynilion a gymerwyd i ystyriaeth;

(c)swm incwm a chyfalaf y person, fel yr hysbyswyd yr awdurdod ohonynt gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y’u cymerwyd i ystyriaeth at ddibenion penderfynu’r gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod;

(d)unrhyw addasiad a wnaed i incwm neu gyfalaf y person (gweler paragraff 8 o Atodlen 1 (cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion credyd cynilion yn unig); ac

(e)swm cyfalaf y person yn yr achos hwnnw.

(3Pan fo hawl gan bensiynwr i ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) (gweler paragraff 32 o Atodlen 1), rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r materion a bennir ym mharagraff 4(1).

RHAN 3Dyfarniadau o ostyngiadau pan na thelir credyd pensiwn y wladwriaeth: pensiynwyr

5.  Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i bensiynwr nad yw’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(a)y materion a bennir ym mharagraff 4(1);

(b)swm cymwysadwy’r pensiynwr a’r modd y’i cyfrifwyd;

(c)enillion wythnosol y pensiynwr; a

(d)incwm ac enillion eraill y pensiynwr.

RHAN 4Hysbysiad pan na wneir dyfarniad o ostyngiad: pensiynwyr

6.  Os na ddyfernir gostyngiad i bensiynwr o dan gynllun awdurdod—

(a)ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(i)y materion a bennir ym mharagraff 4(1)(a), a

(ii)y materion a bennir ym mharagraff 5(b) i (d) pan nad yw’r pensiynwr yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth;

(b)am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.

RHAN 5Dyfarniadau o ostyngiadau pan fo cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, gostyngiad estynedig neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn daladwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

7.—(1Pan fo person nad yw’n bensiynwr ac sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn cael dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(a)y swm wythnosol arferol o dreth gyngor y byddai’r person yn atebol i’w dalu cyn dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(b)yr uchafswm gostyngiad wythnosol y gallai person fod â hawl i’w gael o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(c)swm wythnosol arferol y gostyngiad y penderfynodd yr awdurdod fod hawl gan y person i’w gael o dan ei gynllun, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(d)swm a chategori unrhyw ddidyniadau annibynyddion a wnaed yn unol â chynllun yr awdurdod, os oes rhai; ac

(e)y diwrnod cyntaf y bydd hawl gan y person i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod,

ac mewn unrhyw achos pan fo’r swm y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (c) yn diystyru ffracsiynau o geiniog, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.

(2Pan fo hawl gan berson nad yw’n bensiynwr i gael gostyngiad estynedig neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn unol â chynllun awdurdod, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r materion a bennir ym mharagraff 7(1).

RHAN 6Dyfarniadau o ostyngiad pan fo credyd cynhwysol yn daladwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

8.  Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol ac nad yw’n bensiynwr, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(a)y materion a bennir ym mharagraff 7(1);

(b)swm cymwysadwy’r person (gweler paragraff 3 o Atodlen 6 (swm cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol)); ac

(c)incwm y person (gweler paragraff 9 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol)).

RHAN 7Dyfarniadau o ostyngiad pan nad oes cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol yn daladwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

9.  Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson nad yw’n bensiynwr ac nad yw’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(a)y materion a bennir ym mharagraff 7(1);

(b)swm cymwysadwy’r person a’r modd y’i cyfrifwyd;

(c)enillion wythnosol y person; ac

(d)incwm wythnosol y person ac eithrio enillion.

RHAN 8Hysbysiad pan na roddir dyfarniad o ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr

10.  Pan na roddir dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson nad yw’n bensiynwr—

(a)ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(i)y materion a bennir ym mharagraff 7(1)(a); a

(ii)y materion a bennir ym mharagraff 8(b) ac (c) pan nad yw’r person yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol;

(b)am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.

RHAN 9Hysbysiad pan drinnir incwm annibynnydd fel pe bai’n incwm y ceisydd: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

11.  Pan fo awdurdod yn gwneud penderfyniad o dan ei gynllun i drin cyfalaf ac incwm annibynnydd fel pe baent yn eiddo i’r ceisydd, (gweler paragraff 6 o Atodlen 1 a pharagraff 8 o Atodlen 6), rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud drwy gyfeirio at incwm a chyfalaf annibynnydd y ceisydd, a

(b)rheswm yr awdurdod dros wneud y penderfyniad hwnnw.

(3)

1973 p.50; amnewidiwyd adran 2 gan adran 25 o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) a diwygiwyd hi yn ddiweddarach gan adran 29 o Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38) a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno ac, mewn perthynas â’r Alban yn unig, adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19).

(4)

1990 p.35; diwygiwyd adran 2 gan adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19); erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraff 100 o Atodlen 2 i’r offeryn hwnnw; a pharagraff 20 o Atodlen 26 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15).

(5)

Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17).

(7)

Gweler adran 16 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p.16).

(9)

Mewnosodwyd Rhan 12ZA gan adran 2 a mewnosodwyd Rhan 12ZB gan adran 4 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22).

(11)

1979 p.41.

(12)

Mae’r Cynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd wedi ei gynnwys fel atodiad i O.S. 1982/719; amnewidiwyd gan Atodiad 2 i O.S. 1990/2360. Gwnaed diwygiadau iddo yn y cyfamser, ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

1837 p.2.

(14)

1937 p.32.

(15)

1952 p.37.

(16)

1972 p.7.

(17)

1975 p.82.

(20)

1992 p.4; mewnosodwyd adran 30DD gan adran 63 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30). Mewnosodwyd adran 30E gan adran 3 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Analluogrwydd i Weithio) 1994 (p.18). Diddymir y ddwy adran gan Atodlen 8 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) (nad yw eto mewn grym).

(22)

1996 p.17.

(23)

2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.

(24)

1989 p.41; yn lle adran 23 rhoddwyd adrannau 22A i 22F gan adran 8(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23). Mae adran 22C mewn grym yn Lloegr, ond adran 22C(11) yn unig sydd mewn grym yng Nghymru.

(25)

1995 p.36; diwygiwyd adran 26 gan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (dsa 4).

(27)

1948 p.29; mewnosodwyd adran 26(3A) gan adran 42(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19).

(28)

2006 p.41. Sefydlwyd y Bwrdd Comisiynu o dan adran 1H o’r Ddeddf honno (a fewnosodwyd gan adran 9 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7)); mewnosodwyd adran 14D gan adran 25 o Ddeddf 2012.

(29)

2006 p.42.

(30)

1965 p.51.

(32)

1980 p.46.

(39)

2006 p.21.

(40)

Diwygiwyd adran 34(2) gan baragraffau 30 a 32, ac adran 53(2) gan baragraffau 30 a 34, o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25), ond nid yw’r darpariaethau hynny eto mewn grym.

(45)

Mewnosodwyd Rhan 12A gan adran 5 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) 1994 a diwygiwyd hi gan adran 70 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30) a pharagraffau 20 a 23 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno. Diddymwyd hi gan baragraff 9(1) a (12) o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) ond nid yw’r darpariaethau hynny eto mewn grym.

(46)

2006 p.41; diwygiwyd paragraff 9 gan adran 17(10) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7) (i ddisodli cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol gan gyfeiriadau at grwpiau comisiynu clinigol), ond nid yw’r darpariaethau hynny eto mewn llawn grym.

(47)

O.S. 1987/1967; mewnosodwyd Atodlen 1B gan O.S. 1996/206 a mewnosodwyd paragraff 14B gan O.S. 2012/757.

(49)

Diwygiwyd is-baragraff (3) gan adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7).

(50)

O.S. 1995/311: mewnosodwyd rheoliad 13A gan O.S. 1998/2231 a diwygiwyd ef gan O.S. 1999/3109, O.S. 2006/707 ac O.S. 2006/2378.

(51)

2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) a mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) a mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.

(52)

Y terfyn cyfalaf yw £16,000, gweler paragraff 31.

(57)

Gweler hefyd baragraff 38 mewn perthynas â phersonau sy’n symud i ardal un awdurdod o ardal awdurdod arall.

(59)

1973 p.50.

(60)

1990 p.35.

(61)

1948 p.29.

(62)

1994 p.39.

(63)

2001 p.11.

(64)

2004 p.21.

(65)

Mae adran 1A o Ddeddf Tân (Yr Alban) 2005 (dsa 5) yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 101 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Thân (Yr Alban) 2012 (dsa 8).

(70)

1948 p.29.

(71)

1994 p.39.

(79)

1988 p.1.

(81)

1998 p.30.

(82)

1980 p.37.

(85)

2000 c.22.

(96)

2001 p.15.

(97)

1968 p.49.

(99)

2002 p.6.

(100)

2011 p.25.

(103)

2012 p.5.

(104)

1973 p.50.

(105)

1990 p.35.

(106)

Caniateir defnyddio pwerau yn adran 14A o Ddeddf 1992 i’w gwneud yn ofynnol bod cyflogwyr yn darparu gwybodaeth at y dibenion hyn.

(107)

1996 p.18.

(109)

2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.

(110)

2002 p.21.

(111)

1999 p.33.

(112)

1994 p.21.

(114)

1980 p.46.

(120)

2010 dsa 8.

(121)

2006 p.21.

(127)

1978 p.29.

(128)

1994 p.39.

(130)

2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047, ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047, ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.

(137)

1973 p.50.

(138)

1990 p.35.

(140)

2006 p.41.

(141)

1978 p.29.

(142)

2006 p.42.

(143)

Diwygiwyd is-baragraff (3) gan adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7).

(144)

1948 p.29.

(145)

1994 p.39.

(147)

2001 p.11.

(148)

2007 p.5.

(151)

1996 p.18.

(152)

2004 p.21.

(153)

Mae adran 1A o Ddeddf Tân (Yr Alban) 2005 (dsa 5) yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 101 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Thân (Yr Alban) 2012 (dsa 8).

(161)

1996 p.56.

(162)

1980 p.44.

(163)

1992 p.37.

(164)

2002 p.32.

(166)

1973 p.50.

(167)

1990 p.35.

(169)

1998 p.30.

(170)

1980 p.44.

(171)

1999 p.33.

(172)

2002 p.38.

(173)

2007 dsa 4.

(174)

1989 p.41.

(175)

1975 p.72.

(177)

1995 p.36.

(179)

1948 p.29.

(180)

1977 p.49.

(181)

2006 p.41.

(182)

2006 p.42.

(183)

1989 p.49.

(184)

1974 p.39.

(185)

1964 p.53.

(189)

1988 p.7.

(190)

1991 p.48.

(193)

1944 p.10.

(196)

1968 p.49.

(197)

2001 p.15.

(201)

1985 p.69.

(202)

1989 p.41.

(203)

1968 p.49.

(204)

1995 p.36.

(205)

1988 p.1.

(206)

1973 p.50.

(207)

1990 p.35.

(208)

1988 p.50.

(209)

1988 p.43.

(213)

1988 p.7 .

(214)

1944 p.10.

(215)

1958 p.33.

(218)

1996 p.56.

(219)

1980 p.44.

(220)

1992 p.37.

(221)

2002 p.32.

(222)

2001 p.15.

(223)

1968 p.49.

(224)

2006 p.41.

(225)

2002 p.38.

(226)

1992 p.13.

(227)

1980 p.20.

(230)

2002 p.32.

(231)

2009 p.22.

(232)

1992 p.37.

(233)

1996 p.56 .

(234)

1973 p.65.

(236)

1965 p.4.

(242)

O.S. 2003/1994; offeryn perthnasol sy’n diwygio yw O.S. 2008/1477.

(243)

1998 p.30.

(247)

1989 p.41.

(248)

1968 p.49.

(250)

1962 p.12.

(254)

1988 p.40.

(255)

1968 p.46.

(256)

2000 dsa 4.

(257)

1971 p.27.

(258)

1985 p.29.

(259)

2005 p.9.

(262)

1999 p.33.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources