- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
10 Gorffennaf 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym
1 Hydref 2013
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac sydd bellach wedi ei freinio ynddynt hwy(2).
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o’i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir y Fflint) 2013.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2013 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
2. Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a)ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b)ardal gorfodi arbennig.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2013
Erthygl 2
Sir y Fflint yn gyfan ac eithrio—
(a)Yr A55 i gyd, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael, o fewn y sir;
(b)y darn hwnnw o’r A55, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael, o’r ffin sirol â Swydd Gaer i Gyfnewidfa Drome Corner yr A548;
(c)y darn hwnnw o ffordd ddeuol yr A494, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael, o Gyfnewidfa Drome Corner yr A548 i gyffordd yr A55 yng Nghyfnewidfa Ewloe.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Sir y Fflint i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, mewn cyferbyniad â gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun cyfraith trosedd.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol oddi wrth: Y Gangen Orchmynion, Yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm
Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Yn rhinwedd adran 92 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o’r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: