- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliadau 8(2), 9(9), 10(8) a 18(5)
1.—(1) Rhaid i’r prif feddiannydd gadw cofnod o bob ceffyl sydd yn y fangre.
(2) Rhaid i’r prif feddiannydd gymryd pob cam rhesymol i ddiweddaru’r cofnod i ddangos nifer y ceffylau yn y fangre sydd—
(a)wedi marw;
(b)yn dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau;
(c)wedi cael eu geni er pan osodwyd cyfyngiadau yn y fangre o dan y Rheoliadau hyn; a
(d)wedi mynd i mewn i’r fangre neu ddod ohoni o dan drwydded.
(3) Rhaid i’r prif feddiannydd ofyn i unrhyw feddiannydd arall adrodd ynghylch unrhyw newidiadau ym manylion ei geffylau yn y fangre sy’n berthnasol i’r cofnod.
(4) Rhaid i’r prif feddiannydd gadw cofnod am gyfnod o chwe mis o leiaf wedi (yn ôl y digwydd)—
(a)i’r hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 8(2), 9(8), neu 10(7) gael ei ddirymu, neu
(b)i’r fangre beidio â bod o fewn y parth rheoli,
p’un bynnag yw’r diweddaraf.
2. Rhaid i feddiannydd sicrhau bod pob ceffyl yn y fangre yn cael ei gadw—
(a)i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, yn y rhan neu’r rhannau o’r fangre lle y gallent fod yn llai agored i fectorau; neu
(b)yn ôl cyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
3. Ni chaiff neb symud unrhyw geffyl neu garcas i’r fangre neu ohoni, nac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd genetig o’r fangre, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
4. Rhaid i’r prif feddiannydd weithredu unrhyw fesurau ymarferol i reoli fectorau y caiff arolygydd milfeddygol eu gwneud yn ofynnol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: