- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.
(2) Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 4 i 7 o Atodlen 2 nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5(c) gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.
(3) Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2—
(a)nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5(c) ar y sail nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o ran Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002; a
(b)y mae Adran Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno datganiad i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor mewn cysylltiad â hwy, eu bod yn bodloni'r gofynion a bennir yn un o'r paragraffau hynny,
gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) i (9), mae personau sy'n derbyn hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraffau (1), (2) neu (3) wedi cymhwyso o'r dyddiad hwnnw a ddarperir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor.
(5) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor beidio â darparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y mae'r asesiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael ei gwblhau.
(6) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 5 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y cwblhawyd y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon yn llwyddiannus.
(7) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 6 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y maent yn cofrestru'n llawn fel athrawon ysgol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
(8) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 7 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y maent yn cofrestru fel athrawon ysgol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
(9) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2 rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor beidio â darparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y maent yn cwblhau cyfnod o wasanaeth fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey fel a bennir yn natganiad Adran Addysg Taleithiau Guernsey.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: