Search Legislation

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2012.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “academi” (“academy”) yw ysgol annibynnol yn Lloegr y mae trefniadau academi yn gymwys iddi;

ystyr “addysgu” (“teaching”) yw cyflawni gwaith o fath sydd wedi ei bennu gan reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac mae “addysgu” i'w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “coleg dinasol” (“city college”) yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth o dan gontract cyflogaeth neu gymryd person ymlaen i ddarparu gwasanaethau mewn modd heblaw o dan gontract cyflogaeth; ac mae cyfeiriadau at fod yn “gyflogedig” i'w dehongli'n unol â hynny;

mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i'w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002(2);

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru(3);

ystyr “Cynllun 2006” (“the 2006 Scheme”) yw Cynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth 2006 a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Chwefror 2006(4) yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau 2004, fel y'i diwygiwyd gan Gynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth (Diwygio) 2006 Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Tachwedd 2006(5);

ystyr “Cynllun 2011” (“the 2011 Scheme”) yw Cynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth 2011 a wnaed gan Weinidogion Cymru ar 25 Awst 2011 yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau 2004(6);

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw'r cynllun a ddisgrifir yn rheoliad 8 neu'r cynlluniau a ddisgrifir ym mharagraffau 3 i 5 o Atodlen 1 pan fo'r cyd-destun yn mynnu hynny;

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn Lloegr” (“employment-based teacher training scheme in England”) yw cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliadau a wnaed o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002 lle y caiff person ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig tra bo'n gyflogedig i addysgu;

ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982(7);

ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989(8);

ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993(9);

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(10);

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(11);

ystyr “safonau penodedig” (“specified standards”) yw'r safonau sy'n gymwys ar adeg yr asesiad a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro fel y safonau y mae gofyn i bersonau sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig eu bodloni;

ystyr “safonau penodedig yn Lloegr” (“specified standards in England”) yw'r safonau sy'n gymwys ar adeg yr asesiad fel a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dro i dro fel y safonau y mae gofyn i bersonau sy'n ceisio ennill statws athro cymwysedig yn Lloegr eu bodloni;

ystyr “sefydliad” (“institution”) oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach neu sefydliad o fewn y sector addysg uwch;

ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7;

ystyr “sefydliad achrededig yn Lloegr” (“accredited institution in England”) yw sefydliad wedi ei gymeradwyo neu ei achredu fel darparwr cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn Lloegr o dan reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002;

ystyr “sefydliad estron” (“foreign institution”) yw unrhyw sefydliad ac eithrio sefydliadau yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom institution”) yw sefydliad a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig, heblaw am un sydd yn, neu'n ffurfio rhan o sefydliad lle y mae'r prif sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu'n gysylltiedig â sefydliad o'r fath;

mae i “trefniadau academi” yr ystyr a roddir i “academy arrangements” gan adran 1 o Ddeddf Academïau 2010(12);

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol neu ysgol arbennig nas cynhelir felly; ac

mae cyfeiriadau at yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol neu'r pedwerydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o Ddeddf Addysg 2002(13).

Dirymu a darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau 2004 wedi eu dirymu.

(2Bydd y darpariaethau arbed a'r darpariaethau trosiannol yn Atodlen 1 yn cael effaith.

Statws Athro Cymwysedig

5.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 11, 12, 13 a 14 o Reoliadau 1999, mae personau yn athrawon cymwysedig os ydynt yn bersonau a grybwyllir—

(a)ym mharagraffau 1 i 7 o Atodlen 2 sydd wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor yn unol â rheoliad 6;

(b)ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2—

(i)y mae Adran Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno datganiad i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor mewn cysylltiad â hwy, eu bod yn bodloni'r gofynion a bennir yn un o'r paragraffau hynny; a

(ii)eu bod wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor yn unol â rheoliad 6;

(c)ym mharagraffau 4 i 10 o Atodlen 2 sydd yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o ran Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002; neu

(ch)ym mharagraffau 11 i 14 o Atodlen 2.

Hysbysiad am statws athro cymwysedig

6.—(1Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.

(2Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 4 i 7 o Atodlen 2 nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5(c) gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.

(3Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2—

(a)nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5(c) ar y sail nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o ran Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002; a

(b)y mae Adran Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno datganiad i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor mewn cysylltiad â hwy, eu bod yn bodloni'r gofynion a bennir yn un o'r paragraffau hynny,

gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) i (9), mae personau sy'n derbyn hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraffau (1), (2) neu (3) wedi cymhwyso o'r dyddiad hwnnw a ddarperir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor.

(5Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor beidio â darparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y mae'r asesiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael ei gwblhau.

(6Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 5 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y cwblhawyd y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon yn llwyddiannus.

(7Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 6 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y maent yn cofrestru'n llawn fel athrawon ysgol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

(8Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 7 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y maent yn cofrestru fel athrawon ysgol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

(9Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2 rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor beidio â darparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y maent yn cwblhau cyfnod o wasanaeth fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey fel a bennir yn natganiad Adran Addysg Taleithiau Guernsey.

Sefydliadau Achrededig

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru achredu sefydliad fel darparwr cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol.

(2Dim ond os yw'n bodloni'r meini prawf hynny a gaiff eu pennu gan Weinidogion Cymru o dro i dro y caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru achredu sefydliad.

(3Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru dynnu achrediad sefydliad yn ôl yn unol â'r meini prawf hynny a gaiff eu pennu gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

(4Cyn pennu meini prawf o dan baragraffau (2) a (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru sefydlu cynllun lle y caiff personau sydd yn gyflogedig neu wedi cael eu cyflogi mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion(14)) ddod yn athrawon cymwysedig.

(2Enw cynllun a sefydlwyd o dan baragraff (1) fydd cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(3Caiff cynllun o'r fath wneud darpariaeth ar gyfer rhaglen hyfforddiant y mae'n rhaid i bersonau ei gwneud.

(4Caiff cynllun o'r fath ddarparu bod personau yn cael eu hasesu gan sefydliad achrededig er mwyn penderfynu a ydynt yn bodloni'r safonau penodedig heb gael hyfforddiant pellach.

(5Rhaid i unrhyw berson neu gorff sy'n arfer swyddogaeth yn rhinwedd y rheoliad hwn ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno.

Diwygiadau Canlyniadol

9.  Yn rheoliadau 11, 12 ac 13(1) o Reoliadau 1999, yn lle “yn athro cymwysedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004” rhodder “yn athro cymwysedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012”.

10.  Yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005(15) yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 22(c) mewnosoder, ar ôl “yn athro neu athrawes gymwysedig” y geiriau “yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddynt neu”;

(b)yn lle paragraff 22(ch) rhodder—

(ch)wedi ei asesu gan sefydliad sydd wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac wedi bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13.;

(c)ym mharagraff 23(a)—

(i)mewnosoder, ar ôl “yn athro neu athrawes gymwysedig” y geiriau “yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, a pharagraff 7 o Atodlen 2 iddynt neu”; a

(ii)ar ôl “ac a ddaeth” mewnosoder “yn y naill achos neu'r llall”;

(ch)yn lle paragraff 23(b) rhodder—

(b)wedi ei asesu gan sefydliad sydd wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac wedi bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13..

11.  Yn Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(16)

(a)yn rheoliad 2—

(i)hepgorer y diffiniad o “cymhwyster athrawon ysgol” (“school teachers' qualification”);

(ii)yn y man priodol, mewnosoder “ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012”; a

(b)ym mhob un o baragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 3—

(i)ar ôl “(os digwydd),” mewnosoder “un ai bod yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau 2012 neu”;

(ii) hepgorer is-baragraff (a).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

6 Mawrth 2012

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources