- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
56.—(1) Caiff parti wneud cais i Ysgrifennydd y Tribiwnlys am i benderfyniad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gael ei adolygu ar y seiliau—
(a)bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir oherwydd gwall pwysig ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys;
(b)bod gan barti a oedd â hawl i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos;
(c)bod gwall amlwg a phwysig yn y penderfyniad; neu
(ch)bod buddiannau cyfiawnder yn gwneud hynny'n ofynnol.
(2) Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gael ei wneud—
(a)mewn ysgrifen gan ddatgan y seiliau;
(b)ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.
(3) Caiff y Llywydd—
(a)ar gais parti neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan, adolygu a gosod o'r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Llywydd, ar un o'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1);
(b)gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y Llywydd yn unol â pharagraff (6).
(4) Caiff y Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos—
(a)ar gais parti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan, adolygu a gosod o'r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wnaed gan y panel tribiwnlys ar un o'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1);
(b)gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y panel tribiwnlys yn unol â pharagraff (6).
(5) Caiff Cadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos orchymyn cynnal ail wrandawiad, gerbron yr un panel tribiwnlys neu gerbron panel tribiwnlys sydd wedi'i gyfansoddi'n wahanol.
(6) Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos wrthod y cyfan neu ran o gais am adolygiad os, ym marn y Llywydd neu'r Cadeirydd, nad oes siawns resymol i'r cais cyfan hwnnw neu'r rhan honno lwyddo.
(7) Oni fydd cais am adolygiad wedi ei wrthod yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r adolygiad gael ei benderfynu, ar ôl rhoi cyfle i'r partïon gael eu clywed—
(a)gan y Llywydd, os gwnaed y penderfyniad gan y Llywydd;
(b)os gwnaed y penderfyniad gan banel tribiwnlys, gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad neu gan banel tribiwnlys arall a benodir gan y Llywydd.
(8) Os yw Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan, yn cynnig y dylid adolygu penderfyniad—
(a)rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i'r partïon ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon; a
(b)rhaid rhoi cyfle i'r partïon gael eu clywed.
(9) Wrth benderfynu cais neu gynnig ar gyfer adolygiad o dan baragraffau (3), (4) neu (7), caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd roi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy, cyn neu yn ystod y gwrandawiad o'r adolygiad.
(10) Os yw parti'n methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (9), caiff y panel tribiwnlys gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu'r adolygiad neu benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn ar gyfer costau.
(11) Caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd, os gwneir cais gan barti, roi caniatâd i'r parti hwnnw newid tyst at ddibenion y gwrandawiad o'r adolygiad.
(12) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (11), ddod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a rhaid i'r ceisydd gyflwyno'r cais i'r parti arall, ddim hwyrach na 14 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad o'r adolygiad.
(13) Rhaid i'r Llywydd neu'r Cadeirydd roi cyfle i'r partïon gael eu clywed ynglŷn ag unrhyw gais a wneir o dan baragraff (11).
(14) Os gosodir penderfyniad o'r neilltu neu os amrywir penderfyniad yn dilyn adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr a rhaid iddo hysbysu'r partïon yn unol â hynny.
57.—(1) Pan wneir penderfyniad gan y Llywydd i beidio ag estyn yr amser a ganiateir o dan reoliad 16 ar gyfer cyflwyno cais apêl, ceir adolygu'r penderfyniad hwnnw o dan reoliad 56, ar gais person, fel pe bai'r person hwnnw'n barti i'r apêl.
(2) Pan fo'r Llywydd yn penderfynu peidio ag ystyried hawliad y tu allan i'r amser, o dan baragraff 4(3) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, ceir adolygu'r penderfyniad hwnnw o dan reoliad 56, ar gais person, fel pe bai'r person hwnnw'n barti i'r hawliad.
(3) Os gwneir cais am adolygiad o dan baragraffau (1) neu (2), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno copi o'r cais i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol a rhoi i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol hysbysiad yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig.
58.—(1) Pan ddaw cais i'w law o dan reoliad 39A o Reoliadau'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig 2001, neu reoliad 39A o Reoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (Darpariaethau Cyffredinol a Gweithdrefn Hawliadau Anabledd) 2002 am ganiatâd i apelio i'r Uwch Dribiwnlys, rhaid i Lywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos ystyried yn gyntaf, gan gymryd i ystyriaeth yr amcan gor-redol yn rheoliad 6, a ddylai adolygu penderfyniad y Tribiwnlys yn unol â rheoliad 56 ai peidio, oni fydd y Llywydd neu'r Cadeirydd eisoes wedi adolygu'r penderfyniad, neu wedi penderfynu peidio ag adolygu'r penderfyniad.
(2) Pan fo'r Llywydd neu'r Cadeirydd yn penderfynu peidio ag adolygu'r penderfyniad, neu'n adolygu'r penderfyniad ac yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â'r penderfyniad, neu ran ohono, rhaid i'r Llywydd neu'r Cadeirydd ystyried wedyn a ddylai roi caniatâd i apelio mewn perthynas â'r penderfyniad, neu'r rhan honno ohono.
59. Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar gais, neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan, wneud gorchymyn i atal dros dro effaith penderfyniad y panel tribiwnlys tra'n disgwyl am benderfyniad gan y Llywydd neu'r Cadeirydd neu'r Uwch Dribiwnlys ar gais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac unrhyw apêl neu adolygiad ohono.
60.—(1) Os caiff unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys ei osod o'r neilltu, ei amrywio neu'i newid mewn unrhyw ffordd gan orchymyn yr Uwch Dribiwnlys neu'r Llys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr i gyfateb i'r gorchymyn hwnnw, a rhaid iddo hysbysu'r partïon yn unol â hynny.
(2) Os dychwelir yr apêl neu'r hawliad, drwy orchymyn yr Uwch Dribiwnlys neu'r Llys, i'w hailglywed neu i'w ailglywed gan y Tribiwnlys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu'r partïon y caiff pob parti, yn ystod cyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach a gytunir rhwng y partïon) gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.
(3) Os caiff gorchymyn i ddileu'r cais apêl neu'r cais hawlio ei ddiddymu neu'i osod o'r neilltu gan yr Uwch Dribiwnlys neu'r Llys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu'r partïon—
(a)mewn achos pan nad oedd y cyfnod datganiad achos wedi dod i ben cyn i'r gorchymyn i ddileu gael effaith—
(i)y bydd cyfnod datganiad achos newydd yn dechrau; a
(ii)y caiff y partïon, o fewn y cyfnod datganiad achos newydd, gyflwyno'r ddogfennaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) mewn perthynas â datganiad achos neu dystiolaeth a gyflwynwyd cyn i'r dileu gael effaith; neu
(b)pan nad yw is-baragraff (a) yn gymwys, bod gan bob parti gyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach a gytunir rhwng y partïon) i gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.
(4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o'r holl ddatganiadau achos a thystiolaeth ysgrifenedig a geir gan barti yn ystod y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3)(b) at y parti arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: