- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn rheoliad 2(1) o'r Prif Reoliadau (dehongli)—
(a)hepgorer y diffiniadau o “adroddiad trosolwg” (“overview report”) ac “adolygiad achos difrifol” (“serious case review”);
(b)mewnosoder y canlynol yn y rhestr o ddiffiniadau yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—
“ystyr “adolygiad ymarfer plant” (“child practice review”) yw naill ai adolygiad ymarfer plant cryno fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4A(3) neu adolygiad ymarfer plant estynedig fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4A(4);
ystyr “cofrestr amddiffyn plant” (“child protection register”) yw rhestr a grëir ac a gynhelir gan awdurdod lleol ac sy'n cynnwys enwau plant sy'n destun cynllun amddiffyn plant o ganlyniad i benderfyniad mewn cynhadledd amddiffyn plant fod y plentyn mewn perygl parhaus o niwed arwyddocaol ar ffurf camdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol, camdriniaeth rywiol neu esgeulustod;
ystyr “cynllun gweithredu” (“action plan”) yw cynllun ysgrifenedig y mae'r Bwrdd yn ei lunio ar yr un pryd â'r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant, gan fanylu ar y camau sydd i'w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol o ganlyniad i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant;
ystyr “digwyddiad dysgu amlasiantaethol” (“multi-agency learning event”) yw digwyddiad sy'n ffurfio rhan o'r broses adolygu ymarfer plant ac y mae'r Bwrdd yn gwahodd iddo ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, ac unrhyw gyrff neu bobl eraill y mae Cadeirydd y Bwrdd yn eu hystyried yn berthnasol ac sy'n ymwneud, neu sydd wedi ymwneud, â'r plentyn(1) sy'n destun yr adolygiad, er mwyn gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant yn y dyfodol;
ystyr “fforwm proffesiynol amlasiantaethol” (“multi-agency professional forum”) yw fforwm a drefnir ac a hwylusir gan y Bwrdd ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, a chyrff neu bobl eraill y mae Cadeirydd y Bwrdd yn eu hystyried yn berthnasol, er mwyn dysgu oddi wrth achosion, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau a gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant yn y dyfodol;
ystyr “plentyn sy'n derbyn gofal” (“looked after child”) yw plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(2);
ystyr “yn ysgrifenedig” (“in writing”) yw ar ffurf electronig neu mewn llawysgrif.”
(2) Yn rheoliad 3(1)(d) o'r Prif Reoliadau (Swyddogaethau Bwrdd o ran ei amcan), yn lle'r geiriau “adolygiadau achos difrifol” rhodder “adolygiadau ymarfer plant”.
Adran 65(1) o Ddeddf Plant 2004.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: