Search Legislation

Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) (Diwygio) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1712 (Cy.222)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed

30 Mehefin 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Gorffennaf 2012

Yn dod i rym

1 Ionawr 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 32(2) a (3), 34(1) a 66(1) o Ddeddf Plant 2004(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) (Diwygio) 2012.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2013.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006(2).

Diwygio rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau

2.—(1Yn rheoliad 2(1) o'r Prif Reoliadau (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniadau o “adroddiad trosolwg” (“overview report”) ac “adolygiad achos difrifol” (“serious case review”);

(b)mewnosoder y canlynol yn y rhestr o ddiffiniadau yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—

ystyr “adolygiad ymarfer plant” (“child practice review”) yw naill ai adolygiad ymarfer plant cryno fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4A(3) neu adolygiad ymarfer plant estynedig fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4A(4);

ystyr “cofrestr amddiffyn plant” (“child protection register”) yw rhestr a grëir ac a gynhelir gan awdurdod lleol ac sy'n cynnwys enwau plant sy'n destun cynllun amddiffyn plant o ganlyniad i benderfyniad mewn cynhadledd amddiffyn plant fod y plentyn mewn perygl parhaus o niwed arwyddocaol ar ffurf camdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol, camdriniaeth rywiol neu esgeulustod;

ystyr “cynllun gweithredu” (“action plan”) yw cynllun ysgrifenedig y mae'r Bwrdd yn ei lunio ar yr un pryd â'r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant, gan fanylu ar y camau sydd i'w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol o ganlyniad i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant;

ystyr “digwyddiad dysgu amlasiantaethol” (“multi-agency learning event”) yw digwyddiad sy'n ffurfio rhan o'r broses adolygu ymarfer plant ac y mae'r Bwrdd yn gwahodd iddo ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, ac unrhyw gyrff neu bobl eraill y mae Cadeirydd y Bwrdd yn eu hystyried yn berthnasol ac sy'n ymwneud, neu sydd wedi ymwneud, â'r plentyn(3) sy'n destun yr adolygiad, er mwyn gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant yn y dyfodol;

ystyr “fforwm proffesiynol amlasiantaethol” (“multi-agency professional forum”) yw fforwm a drefnir ac a hwylusir gan y Bwrdd ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, a chyrff neu bobl eraill y mae Cadeirydd y Bwrdd yn eu hystyried yn berthnasol, er mwyn dysgu oddi wrth achosion, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau a gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant yn y dyfodol;

ystyr “plentyn sy'n derbyn gofal” (“looked after child”) yw plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(4);

ystyr “yn ysgrifenedig” (“in writing”) yw ar ffurf electronig neu mewn llawysgrif.

(2Yn rheoliad 3(1)(d) o'r Prif Reoliadau (Swyddogaethau Bwrdd o ran ei amcan), yn lle'r geiriau “adolygiadau achos difrifol” rhodder “adolygiadau ymarfer plant”.

Dirymu rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau a mewnosod rheoliadau 4A a 4B

3.  Mae rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau wedi ei ddiddymu ac yn ei le rhodder y rheoliadau a ganlyn—

Adolygiadau ymarfer plant

4A.(1) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiadau ymarfer plant yn unol â'r rheoliad hwn.

(2) Diben adolygiad ymarfer plant yw canfod unrhyw gamau y gall partneriaid y Bwrdd neu gyrff eraill eu cymryd i wella ymarfer amddiffyn plant amlasiantaethol.

(3) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer plant cryno yn unrhyw un o'r achosion canlynol os bydd yn wybyddus bod plentyn, o fewn ardal y Bwrdd, yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu os amheuir hynny, a bod y plentyn—

(a)(i)wedi marw; neu

(ii)wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl; neu

(iii)wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd neu i'w ddatblygiad; a,

(b)nad oedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant nac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn—

(i)dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii); neu

(ii)pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004(5) neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002(6) yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd ac i'w ddatblygiad.

(4) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer plant estynedig yn unrhyw un o'r achosion canlynol os bydd yn wybyddus bod plentyn, o fewn ardal y Bwrdd, yn cael ei gam-drin, neu os amheuir hynny, a bod y plentyn—

(a)(i)wedi marw; neu

(ii)wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl; neu

(iii)wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd neu i'w ddatblygiad; a,

(b)bod y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant a/neu ei fod yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn—

(i)dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii); neu

(ii)pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004(7) neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002(8) yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd ac i'w ddatblygiad.

(5) Wrth gynnal adolygiad ymarfer plant, rhaid i'r Bwrdd—

(a)gofyn i bob corff cynrychioliadol roi gwybodaeth yn ysgrifenedig i'r Bwrdd am ei ymwneud â'r plentyn sy'n destun yr adolygiad;

(b)sicrhau y ceir safbwynt y plentyn sy'n destun yr adolygiad a bod safbwynt y plentyn yn cyfrannu at y broses adolygu ymarfer plant, i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol i amgylchiadau'r achos;

(c)sicrhau y ceir safbwyntiau aelodau teulu'r plentyn sy'n destun yr adolygiad a bod y safbwyntiau hyn yn cyfrannu at y broses adolygu ymarfer plant, i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol i amgylchiadau'r achos;

(ch)cynnal digwyddiad dysgu amlasiantaethol ar ôl derbyn yr wybodaeth ysgrifenedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a);

(d)yn achos adolygiad ymarfer plant cryno, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (ch) yn cael ei drefnu a'i hwyluso gan un adolygydd a benodir gan y Bwrdd;

(dd)yn achos adolygiad ymarfer plant estynedig, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (ch) yn cael ei drefnu a'i hwyluso gan ddau adolygydd a benodir gan y Bwrdd;

(e)sicrhau bod unrhyw adolygydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) neu (dd) yn annibynnol ar unrhyw ymwneud uniongyrchol â gwaith achos neu reoli achosion mewn cysylltiad â'r plentyn sy'n destun yr adolygiad;

(f)llunio adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant sy'n argymell camau i'w cymryd ar ôl y digwyddiad dysgu amlasiantaethol;

(ff)sicrhau nad yw'r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant yn datgelu pwy yw'r plentyn sy'n destun yr adolygiad na theulu'r plentyn na lle y maent;

(g)llunio cynllun gweithredu gan fanylu ar y camau sydd i'w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol i weithredu argymhellion yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant;

(ng)rhoi'r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant a'r cynllun gweithredu i Weinidogion Cymru;

(h)trefnu bod yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant ar gael i'r cyhoedd;

(i)cynnal adolygiadau cynnydd cyfnodol ar roi'r cynllun gweithredu ar waith;

(j)rhoi i Weinidogion Cymru adroddiad ysgrifenedig ar ôl unrhyw adolygiad cynnydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (i), gan adrodd ar y cynnydd o ran rhoi'r cynllun gweithredu ar waith a'r effaith ar bolisi ac ymarfer amddiffyn plant yng Nghymru;

(l)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru, drwy arfer ei swyddogaethau o dan y rheoliad hwn.

Fforymau proffesiynol amlasiantaethol

4B.  Rhaid i'r Bwrdd drefnu a hwyluso rhaglen flynyddol o fforymau proffesiynol amlasiantaethol.

Gwenda Thomas

Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Gweinidogion Cymru

30 Mehefin 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006 sy'n darparu ar gyfer swyddogaethau Byrddau Lleol Cymru ar gyfer Diogelu Plant o ran yr amcan a osodwyd ar eu cyfer gan adran 32 o Ddeddf Plant 2004.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno adolygiadau ymarfer plant sy'n disodli adolygiadau achos difrifol yng Nghymru y darparwyd ar eu cyfer yn rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006.

Mae rheoliad 3 yn rhoi adolygiadau ymarfer plant yn lle adolygiadau achos difrifol.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal adolygiadau ymarfer plant.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhaglen flynyddol o fforymau proffesiynol amlasiantaethol.

(1)

Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Plant 2004 i Weinidogion Cymru o dan Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

Adran 65(1) o Ddeddf Plant 2004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources