Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 14 (Cy.5)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2012

Gwnaed

4 Ionawr 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Ionawr 2012

Yn dod i rym

1 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2012.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau

2.  Diwygir Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011(3) yn unol â'r rheoliadau canlynol.

3.—(1Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry fee loan”) yw benthyciad sy'n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 24B;

ystyr “benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat” (“new private institution fee loan”) yw benthyciad sy'n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 24A;

ystyr “bwrsari gofal iechyd cyffredinol” (“universal healthcare bursary”) yw bwrsari gofal iechyd o £1,000—

(a)

sy'n daladwy i fyfyriwr carfan 2012 neu i fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012; a

(b)

mewn perthynas â myfyriwr carfan 2012, nas cyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr hwnnw; neu

(c)

mewn perthynas â myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012, nas cyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr hwnnw;

ystyr “cwrs mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry course”) yw cwrs—

(a)

nad yw ei safon yn uwch na safon gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol neu ddeintydd;

(b)

y byddai gradd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad i'r cwrs;

(c)

sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012; ac

(ch)

nad yw'n parhau'n hwy na 4 blynedd;

ystyr “grant ar gyfer ffioedd” (“grant for fees”) yw grant ar gyfer ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn unol â Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012” (“2012 accelerated graduate entry student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs mynediad graddedig carlam ar neu ar ôl 1 Medi 2012;.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “myfyriwr carfan 2011” ar ôl y geiriau “myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011”, mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2012”.

(3Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “myfyriwr carfan 2012”—

(a)ar ôl y geiriau “1 September 2012” ar ddiwedd is-baragraff (b) yn y testun Saesneg, yn lle “.” rhodder “; or”;

(b)ar ôl y geiriau “1 Medi 2012;” ar ddiwedd is-baragraff (b) yn y testun Cymraeg, mewnosoder “neu”; ac

(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012..

4.  Yn rheoliad 4(3)(c)(i) ar ôl y geiriau “bwrsari gofal iechyd”, mewnosoder “, ac eithrio bwrsari gofal iechyd cyffredinol,”.

5.  Yn rheoliad 6(9), ar ôl y geiriau “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” yn is-baragraff (a), mewnosoder “neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012”.

6.—(1Yn rheoliad 7(1) yn lle'r geiriau “baragraffau (3) a (4)” rhodder “baragraffau (3), (4) a (6)”.

(2Ar ôl rheoliad 7(5) mewnosoder—

(6) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig sy'n gwrs mynediad graddedig carlam..

7.  Ar ôl rheoliad 10(2)(ch) mewnosoder—

(chch)os yw'r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat neu fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam, neu swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat o dan reoliad 24A(4), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam o dan reoliad 24B(4), ac mewn achos o'r fath rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn ymwneud â hi..

8.  Yn rheoliad 19(6) ar ôl y geiriau “myfyriwr carfan newydd” mewnosoder y geiriau “neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012”.

9.  Yn rheoliad 20(1) ar ôl y geiriau “gwrs dynodedig” mewnosoder “a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus”.

10.  Yn rheoliad 21, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chwrs mynediad graddedig carlam..

11.  Yn rheoliad 23, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2012 os oes hawl gan y myfyriwr i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.

(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012..

12.  Ar ôl rheoliad 24 mewnosoder—

Benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat

24A(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2) Nid oes benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus.

(3) Rhaid i swm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£6,000 neu, os oes un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £3,000; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(4) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.

Benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam

24B(1) Mae gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 ar gwrs dynodedig sy'n gwrs mynediad graddedig carlam, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2) Nid oes benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn Erasmus.

(3) Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy'n gwrs mynediad graddedig carlam beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£5,535; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £3,465 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.

(4) Os yw myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw..

13.  Ar ôl rheoliad 25(4) mewnosoder—

(4A) Yn ddarostyngedig i baragraff 4B, nid oes hawl gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 i gael grant o dan y Rhan hon.

(4B) Nid yw paragraff 4A yn gymwys at ddibenion rheoliadau 26 i 32, i fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'i flwyddyn gyntaf o astudio ar gwrs mynediad graddedig carlam..

14.  Yn rheoliad 47(c) yn lle'r geiriau “neu'n fyfyriwr carfan 2012” rhodder “, yn fyfyriwr carfan 2012 neu'n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'i flwyddyn gyntaf o astudio”.

15.  Yn rheoliad 51—

(a)yn y pennawd, yn lle'r geiriau “neu'n fyfyrwyr carfan 2012” rhodder “, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu'n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'u blwyddyn gyntaf o astudio”; a

(b)ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau “neu'n fyfyriwr carfan 2012” rhodder “, yn fyfyriwr carfan 2012 neu'n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'i flwyddyn gyntaf o astudio”.

16.  Yn lle rheoliad 65 rhodder—

Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

65.(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i'w gael i awdurdod academaidd y mae'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn atebol i dalu iddo.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd—

(a)oni fyddant wedi cael cais am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol; a

(b)bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd ddim hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod ym mharagraff (3)(b), neu yn ddi-oed ar ôl i gais am daliad ddod i law, a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn gais dilys, os yw hynny'n digwydd yn hwyrach.

(5) Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i'w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.

(6) Ni cheir gwneud taliad o'r grant ar gyfer ffioedd, neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

(a)os bydd y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'r cwrs; a

(b)os yw'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto ar y cwrs neu, yn ôl fel y digwydd, ymgymryd eto â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi, neu o gwbl.

(7) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu'n rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i'r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn o'r cwrs dynodedig..

17.  Ar ôl rheoliad 65 mewnosoder—

Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd

65A(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i'w gael i awdurdod academaidd y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn atebol i dalu iddo.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd, nac unrhyw randaliad o'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd, y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i'w gael, oni fyddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—

(a)cais am daliad; a

(b)cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig” (“confirmation of the new system eligible student’s attendance on the designated course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—

(a)wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), wedi dechrau ymgymryd â'r cwrs dynodedig, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â thaliad llawn neu randaliad cyntaf o'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd; neu

(b)yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn parhau i ymgymryd â'r cwrs dynodedig ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd, ac eithrio'r rhandaliad cyntaf.

(5) Os yw asesu cais myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i'w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.

(6) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu'n rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i'r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd o'r cwrs dynodedig..

18.—(1Yn rheoliad 86(1), yn lle “i'r awdurdod academaidd priodol wedi i gais am daliad ddod i law, a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn gais dilys.” rhodder y canlynol—

  • unwaith y byddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—

    (a)

    cais am daliad; a

    (b)

    cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig..

(2Yn rheoliad 86, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig” (“confirmation of the eligible distance learning student’s attendance on the designated distance learning course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys dysgu o bell—

(a)wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac wedi dechrau ymgymryd â'r cwrs hwnnw, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â thaliad y cyfan o'r grant mewn perthynas â ffioedd neu'r rhandaliad cyntaf o'r grant mewn perthynas â ffioedd; neu

(b)yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac yn parhau i ymgymryd â'r cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o'r grant mewn perthynas â ffioedd, ac eithrio'r rhandaliad cyntaf.

(5) Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i'r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr dysgu o bell cymwys o'r cwrs dysgu o bell dynodedig..

19.  Yn y testun Saesneg, ar ôl paragraff 9(3) o Ran 2 o Atodlen 1 mewnosoder—

(4) For the purposes of this paragraph, a United Kingdom national has exercised a right of residence if that person has exercised a right under Article 7 of Directive 2004/38 or any equivalent right under the EEA Agreement or Swiss Agreement in a state other than the United Kingdom..

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Ionawr 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (“y Prif Reoliadau”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod carfan newydd o fyfyrwyr a math newydd o gwrs yn y Prif Reoliadau. Myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 yw myfyriwr a ddechreuodd ar gwrs mynediad graddedig carlam ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Cwrs mynediad graddedig carlam yw cwrs ar gyfer myfyrwyr mynediad graddedig sy'n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol neu ddeintydd, ac nad yw'n parhau'n hwy na 4 blynedd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod myfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 a myfyrwyr eraill y telir y bwrsari gofal iechyd cyffredinol iddynt yn fyfyrwyr cymwys at ddibenion y Prif Reoliadau. Y bwrsari gofal iechyd cyffredinol yw dyfarniad o £1,000, a delir i fyfyrwyr sy'n dechrau ar gyrsiau mewn cysylltiad â gofal iechyd ar ôl 1 Medi 2012.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn diwygio rheoliadau 6 a 7 o'r Prif Reoliadau. Mae rheoliadau 6 a 7 o'r Prif Reoliadau yn ymwneud â chyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ac astudio blaenorol at ddibenion y Prif Reoliadau. Mae'r diwygiadau hyn yn sicrhau nad yw astudio israddedig blaenorol gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 yn cyfrif at y diben o gyfrifo'i gyfnod cymhwystra, ac nad yw'n ei rwystro rhag cael mynediad at gymorth cyfyngedig o dan y Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 10 o'r Prif Reoliadau sy'n gwneud darpariaeth ynglŷn â'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gymorth o dan y Prif Reoliadau. Mae'r diwygiad hwn yn estyn y terfyn amser mewn perthynas â myfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n gwneud cais am fenthyciad at ffioedd ar wahân, neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan y Prif Reoliadau.

Mae rheoliadau 8 i 12 yn diwygio Rhan 4 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â darparu cymorth at ffioedd i fyfyrwyr cymwys amser-llawn. Mae rheoliadau 8 i 11 yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau sy'n rhwystro'r myfyrwyr hynny sy'n astudio mewn sefydliadau preifat a myfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 rhag cael mynediad at rai mathau o gymorth at ffioedd o dan y Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 12 yn mewnosod rheoliadau 24A a 24B newydd yn y Prif Reoliadau. Mae rheoliad 24A yn darparu ar gyfer talu benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat i fyfyrwyr cymwys sy'n dechrau ar gyrsiau mewn sefydliadau preifat ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae rheoliad 24B yn darparu ar gyfer talu benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012.

Mae rheoliadau 13 i 15 yn diwygio Rhannau 5 a 6 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â darparu grantiau a benthyciadau at gostau byw i fyfyrwyr cymwys amser-llawn. Mae rheoliad 13 yn sicrhau bod rhai grantiau cyfyngedig at gostau byw ar gael i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio. Mae rheoliadau 14 a 15 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y benthyciadau at gostau byw ar gael i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012. Mae'r diwygiadau yn darparu hawlogaeth lawn i fenthyciad o'r fath i'r myfyrwyr hyn yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio.

Mae rheoliadau 16 a 17 yn diwygio Rhan 10 o'r Prif Reoliadau ac yn gwneud darpariaeth newydd ynglŷn â thalu grantiau a benthyciadau ar gyfer ffioedd.

Mae rheoliad 18 yn diwygio rheoliad 86 o'r Prif Reoliadau sy'n ymwneud â thalu grantiau ar gyfer ffioedd mewn perthynas â myfyrwyr dysgu o bell cymwys.

Mae rheoliad 19 yn gwneud mân ddiwygiad yn nhestun Saesneg y Prif Reoliadau.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7 a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 257. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)), fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources