- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 7(1)
1.—(1) Mae'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra personau i'w penodi yn aelodau o'r pwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), nid yw person yn gymwys i gael ei benodi'n aelod o'r pwyllgor os yw'r person hwnnw—
(a)wedi ei gollfarnu yn ystod y pum mlynedd blaenorol yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw'n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod o ddim llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy;
(b)yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr;
(c)wedi ei ddiswyddo, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu
(d)wedi cael terfynu ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr o gorff gwasanaeth iechyd, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu oherwydd i gyfnod y swydd y penodwyd y person iddi ddod i ben.
(3) At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu fydd y dyddiad y mae'r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwnaed apêl neu gais o'r fath, y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais neu'r dyddiad pan roddir y gorau iddynt neu os metha oherwydd na chaiff yr apêl ei herlyn neu'r cais ei erlyn.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), ni fernir bod person wedi bod mewn cyflogaeth am dâl yn unig oherwydd iddo ddal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.
(5) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(b)—
(a)os dirymir methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod ar ddyddiad y dirymiad;
(b)os caiff person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod ar ddyddiad y rhyddhau;
(c)os telir dyledion person yn llawn ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod ar y dyddiad y talwyd y dyledion hynny'n llawn; a
(d)os bydd person wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod pan ddaw pum mlynedd i ben o'r dyddiad pan gyflawnwyd telerau'r weithred gompowndio neu drefniant.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff y person hwnnw, wedi i ddwy flynedd ar ôl dyddiad y diswyddo ddod i ben, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo y bydd yr anghymhwystra hwnnw yn dod i ben.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach hyd nes i ddwy flynedd ddod i ben gan ddechrau â dyddiad y cais, a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.
(8) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(d), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi yn aelod pan fydd dwy flynedd o ddyddiad terfyniad yr aelodaeth yn dod i ben neu'r cyfnod hirach y caiff y corff a derfynodd yr aelodaeth ei bennu, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt yn ysgrifenedig gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymwystra.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: