Search Legislation

Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i'r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i'r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 94 (Cy.19)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i'r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i'r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011

Gwnaed

17 Ionawr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Ionawr 2011

Yn dod i rym

21 Chwefror 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) a 17(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1) ac ar ôl ymgynghori â'r cyrff cynrychioliadol hynny y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—

1.  Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Chwefror 2011 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i'r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i'r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011.

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “cerbytffordd”, “llain galed” a “llain ymyl” yr ystyr sydd i “carriageway”, “hard shoulder” a “verge” yn Rheoliadau 1982;

  • ystyr “yr M4” (“the M4”) yw Traffordd Llundain i Dde Cymru yr M4;

  • ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982(2); ac

  • ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Arwyddion Traffig 2002(3).

3.—(1Ni chaiff neb yrru cerbyd ar ddarn o ffordd sy'n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy ar gyflymder sy'n uwch na'r hyn a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder.

(2Mae darn o ffordd yn ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy mewn perthynas â cherbyd sy'n cael ei yrru arno—

(a)os yw'r ffordd wedi ei phennu yn yr Atodlen;

(b)os yw'r cerbyd wedi pasio arwydd terfyn cyflymder; ac

(c)os nad yw'r cerbyd wedi pasio—

(i)arwydd terfyn cyflymder arall sy'n dangos terfyn cyflymder gwahanol; neu

(ii)arwydd traffig sy'n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.

(3Mewn perthynas â cherbyd, y terfyn cyflymder a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder yw'r cyflymder a ddangosir ar yr adeg y mae'r cerbyd yn pasio'r arwydd, neu, os yw'n uwch na hynny, y terfyn cyflymder a ddangoswyd gan yr arwydd ddeng eiliad cyn i'r cerbyd basio'r arwydd.

(4At ddibenion y rheoliad hwn bernir nad yw arwydd terfyn cyflymder yn dangos unrhyw derfyn cyflymder os oedd yr arwydd, ddeng eiliad cyn i'r cerbyd ei basio, wedi dangos nad oedd terfyn cyflymder neu wedi dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.

(5Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “arwydd terfyn cyflymder” (“speed limit sign”), mewn perthynas â cherbyd, yw arwydd traffig o'r math a ddangosir yn niagram 670 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—

    (a)

    a roddir ar ffordd neu gerllaw unrhyw ran o ffordd a bennir yn yr Atodlen; a

    (b)

    a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni:

  • mae “ffordd” (“road”) yn cynnwys y llain galed a'r llain ymyl gyfagos;

  • mae i “terfyn cyflymder cenedlaethol” yr ystyr a roddir i “national speed limit” gan reoliad 5(2) o Reoliadau 2002 ac mae arwydd traffig sy'n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym yn golygu arwydd traffig o'r math a ddangosir yn niagram 671 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—

    (a)

    a roddir ar ffordd neu gerllaw ffordd; a

    (b)

    a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

17 Ionawr 2010

YR ATODLENFFYRDD PENODEDIG

Y ffyrdd penodedig yw—

(a)Y darn o gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 o bwynt 671 o fetrau i'r gorllewin o linell ganol trosbont Trefesgob i Lanfarthin i bwynt 55 o fetrau i'r gorllewin o ddiwedd y parapet ar danbont Forge Road.

(b)Y darn o gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4 o bwynt 83 o fetrau i'r gorllewin o ddiwedd y parapet ar danbont Forge Road i bwynt 666 o fetrau i'r gorllewin o linell ganol tanbont Langstone Court Road.

(c)Y darn o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A449.

(ch)Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A449.

(d)Y darn o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A449 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4.

(dd)Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 25 (Caerllion) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Caerllion ar y B4596.

(e)Y darn o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 25 (Caerllion) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Caerllion ar y B4596 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.

(f)Y darn o'r ffordd gysylltu sy'n ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 25A (Grove Park) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A4042.

(ff)Y darn o'r ffordd gyswllt sy'n ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 25A (Grove Park) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A4042 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.

(g)Y darn o ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Malpas ar yr A4051.

(ng)Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Malpas ar yr A4051.

(h)Y darn o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Malpas ar yr A4051 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.

(i)Y darn o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Malpas ar yr A4051 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4.

(j)Y darn o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan High Cross ar y B4591.

(l)Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan High Cross ar y B4591.

(ll)Y darn o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan High Cross ar y B4591 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.

(m)Y darn o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan High Cross ar y B4591 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4.

(n)Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A467/A48.

(o)Y darn o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A467/A48 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r pŵer i wneud rheoliadau ynghylch defnyddio ffyrdd arbennig o dan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (ac eithrio ynghylch ffyrdd arbennig yn gyffredinol) yn eiddo i Weinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer uchod, yn gwneud y Rheoliadau hyn sy'n cyflwyno terfynau cyflymder amrywiadwy ar y ffyrdd a bennir yn yr Atodlen.

Pan fo arwyddion terfyn cyflymder amrywiadwy ar waith ni chaniateir gyrru cerbyd ar gyflymder sy'n uwch na'r cyflymder uchaf a ddangosir gan bob arwydd terfyn cyflymder y mae'r cerbyd yn ei basio hyd nes y bydd yn pasio arwydd sy'n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys neu hyd nes y bydd y cerbyd yn ymadael â'r ffyrdd y mae'r Rheoliadau'n berthnasol iddynt. Pan fo terfyn cyflymder yn newid yn llai na 10 eiliad cyn bod cerbyd yn pasio'r arwydd, a phan fo'r arwydd wedi dangos terfyn cyflymder uwch, mae'r Rheoliadau'n caniatáu i yrrwr fynd ar gyflymder hyd at y terfyn cyflymder uchaf sy'n gymwys cyn y newid. Pan fo'r arwydd terfyn cyflymder yn dangos terfyn cyflymder pan gaiff ei basio gan gerbyd ond yn llai na 10 eiliad cyn hynny naill ai nid oedd yn dangos unrhyw derfyn cyflymder neu yr oedd y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys, bernir nad yw'r arwydd yn dangos unrhyw derfyn cyflymder i'r cerbyd sy'n ei basio.

Mae'n dramgwydd i ddefnyddio ffordd arbennig yn groes i reoliadau a wnaed o dan adran 17(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn. Mae copïau ar gael gan y Ganolfan Gyhoeddi, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1984 p.27. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.

(3)

Rhan 1 o O.S. 2002/3113, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1670; mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources