Search Legislation

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011; mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 31 Mawrth 2011.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifail dan amheuaeth” (“suspected animal”) yw anifail nad yw'n anifail buchol, yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis, ac y mae'n cynnwys anifail nad yw'n anifail buchol a fu mewn cysylltiad agos ag anifail o'r fath nad yw'n anifail buchol;

ystyr “anifail nad yw'n anifail buchol” (“non-bovine animal”) yw carw, gafr, alpaca, gwanaco, lama neu ficwnia;

ystyr “anifail yr effeithiwyd arno” (“affected animal”) yw anifail nad yw'n anifail buchol yr effeithiwyd arno gan deneuo twbercylaidd, neu sy'n ysgarthu neu'n gollwng deunydd twbercylaidd, neu yr effeithiwyd arno gan beswch cronig, neu sy'n dangos unrhyw arwyddion clinigol eraill o dwbercwlosis;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n berchen neu sy'n gyfrifol am anifail nad yw'n anifail buchol, pa un ai ar sail barhaol neu dros dro, ond nid yw'n cynnwys person sy'n gyfrifol am anifail nad yw'n anifail buchol oherwydd, yn unig, bod y person hwnnw'n ei gludo;

ystyr “diheintydd cymeradwy” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yn erbyn twbercwlosis yn unol â Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007(1);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;

ystyr “hysbysiad gwella milfeddygol” (“veterinary improvement notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 8 (hysbysiad gwella milfeddygol);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—

(a)

tir neu adeiladau; a

(b)

unrhyw le arall gan gynnwys, yn benodol, cerbyd, llong, awyren, neu babell neu adeiledd symudol arall;

ystyr “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw prawf diagnostig ar gyfer twbercwlosis a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru; ac

ystyr “twbercwlosis” (“tuberculosis”) yw heintiad â Mycobacterium bovis (M. bovis).

Dirymiadau a diwygiadau

3.—(1Mae'r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

(a)Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989(2); a

(b)Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) Hysbysiad o Gigydda Arfaethedig ac Iawndal 1989(3).

(2Yng Ngorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010(4)

(a)yn erthygl 12(1) (profi ar gyfer twbercwlosis) rhodder “cyn” yn lle “erbyn”; a

(b)yn erthygl 22(1) (adnabod M. bovis mewn labordy) rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru” yn lle “hysbysu'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol”.

Arbedion a phontio

4.—(1Bydd unrhyw hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan Orchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989 neu Orchymyn Twbercwlosis (Ceirw) Hysbysiad o Gigydda Arfaethedig ac Iawndal 1989 ac sy'n effeithiol pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, yn parhau mewn grym, fel pe bai'n hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu'n gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan y Gorchymyn hwn.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir o dan Orchymyn Twbercwlosis (Ceirw) Hysbysiad o Gigydda Arfaethedig ac Iawndal 1989 fel y mae'n gymwys i hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn.

RHAN 2Profi a Symud

Dull Adnabod

5.  Rhaid i geidwad carw, alpaca, gwanaco, lama neu ficwnia ei farcio neu ei nodi mewn modd a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.

Hysbysu am glefyd mewn anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol

6.—(1Rhaid i unrhyw berson—

(a)sydd ag unrhyw anifail nad yw'n anifail buchol yn ei feddiant neu dan ei ofal, a'r person hwnnw'n amau bod yr anifail, neu y gallai fod, yn anifail yr effeithiwyd arno;

(b)sydd, yng nghwrs ymarfer y person hwnnw fel milfeddyg, yn archwilio anifail nad yw'n anifail buchol y mae'r person hwnnw'n amau ei fod, neu y gallai fod, yn anifail yr effeithiwyd arno; neu

(c)sydd, yng nghwrs dyletswyddau'r person hwnnw, yn archwilio, at unrhyw ddiben, anifail nad yw'n anifail buchol y mae'r person hwnnw'n amau ei fod, neu y gallai fod, yn anifail yr effeithiwyd arno,

hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith.

(2Rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail nad yw'n anifail buchol yn ei feddiant neu dan ei ofal, a'r person hwnnw'n amau bod, neu y gallai fod, yr anifail yn anifail yr effeithiwyd arno, tra'n aros am gasgliad yr ymchwiliad milfeddygol o dan erthygl 7 ac am gyflwyno unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl honno, weithredu ar unwaith i—

(a)cadw'r anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol yn y fangre lle y mae ar y pryd;

(b)ei ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill, i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad; a

(c)mabwysiadu rhagofalon mewn perthynas â llaeth a gynhyrchir gan yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol, fel pe bai hysbysiad o dan erthygl 7 eisoes wedi ei gyflwyno.

Ymchwiliad milfeddygol i bresenoldeb clefyd

7.—(1Pan fo arolygydd milfeddygol o'r farn yn rhesymol bod anifail yr effeithiwyd arno neu anifail dan amheuaeth (ac eithrio adweithydd), neu garcas anifail nad yw'n anifail buchol yr effeithiwyd arno neu yr amheuir yr effeithiwyd arno, gan dwbercwlosis, yn bresennol mewn unrhyw fangre, rhaid i'r arolygydd milfeddygol, mor fuan ag y bo'n ymarferol, gymryd pa gamau bynnag sy'n angenrheidiol i ganfod a yw'r anifail neu'r carcas mewn gwirionedd yn un yr effeithiwyd arno neu dan amheuaeth.

(2Caiff arolygydd milfeddygol, at ddibenion yr erthygl hon, archwilio unrhyw anifail nad yw'n anifail buchol, neu garcas anifail nad yw'n anifail buchol, sydd yn y fangre a chymryd pa bynnag samplau o unrhyw anifail nad yw'n anifail buchol neu garcas o'r fath, neu gyflawni pa bynnag brofion sy'n ofynnol at y diben o wneud diagnosis.

(3Pan fo arolygydd milfeddygol wedi archwilio anifail nad yw'n anifail buchol, ac o'r farn ei fod yn anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail dan amheuaeth, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y ceidwad—

(a)yn cadw'r anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol yn unol â gofynion yr hysbysiad a'i gadw wedi'i ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad;

(b)pan fo'n briodol, yn cymryd camau i sicrhau na chymysgir y llaeth a gynhyrchir gan yr anifail nad yw'n anifail buchol â llaeth arall, bod llaeth yr anifail yn cael ei ferwi neu'i sterileiddio rywfodd arall, a bod unrhyw declyn y bu'r llaeth hwnnw mewn cysylltiad ag ef cyn ei drin felly yn cael ei lanhau'n drwyadl a'i sgaldio â stêm neu ddŵr berwedig cyn defnyddio'r teclyn hwnnw drachefn; ac

(c)yn sicrhau na symudir unrhyw anifail i'r fangre neu ba bynnag ran o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, nac oddi arni, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.

(4Yn yr erthygl hon, ystyr “adweithydd” (“reactor”) yw anifail nad yw'n anifail buchol, sy'n adweithio i brawf perthnasol mewn modd sy'n gyson â bod twbercwlosis wedi effeithio arno.

Hysbysiad gwella milfeddygol

8.—(1Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwella milfeddygol”) (“veterinary improvement notice”) i geidwad anifail nad yw'n anifail buchol, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y ceidwad, erbyn dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, yn gwneud pethau neu'n ymatal rhag gwneud pethau, at y diben o atal clefyd rhag lledaenu ac, yn benodol, caiff osod unrhyw un neu ragor o'r gofynion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Mae'r gofynion y ceir eu gosod drwy gyfrwng hysbysiad gwella milfeddygol yn cynnwys—

(a)codi ffensys, clwydi a chamfeydd;

(b)mabwysiadu dulliau effeithiol o allgáu grwpiau o anifeiliaid o rannau penodedig o'r fangre;

(c)diogelu silwair, storfeydd bwydydd anifeiliaid a mannau bwydo rhag bywyd gwyllt, gan gynnwys adar;

(ch)cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y bobl sy'n mynd ar dir y ceidwad yn cymryd rhagofalon rhesymol rhag lledaenu clefyd.

Profi ar gyfer twbercwlosis

9.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad prawf”) (“test notice”) i geidwad anifail nad yw'n anifail buchol, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y ceidwad yn sicrhau y profir unrhyw anifail o'r fath nad yw'n anifail buchol ar gyfer twbercwlosis drwy gyfrwng prawf perthnasol cyn dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i geidwad unrhyw anifail nad yw'n anifail buchol gydymffurfio â holl ofynion rhesymol arolygydd er mwyn hwyluso—

(a)adnabod ac archwilio'r anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol gan yr arolygydd;

(b)cyflawni, neu ddarllen, unrhyw brawf perthnasol ar yr anifail; neu

(c)symud yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol ar gyfer ei gigydda,

ac yn benodol, rhaid i'r ceidwad drefnu, ar gost y ceidwad ei hunan, i gasglu, corlannu a diogelu unrhyw anifail o'r fath nad yw'n anifail buchol os gofynnir iddo.

(3Pan fo prawf perthnasol wedi'i gyflawni ar anifail nad yw'n anifail buchol, ni chaiff unrhyw berson symud yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol o'r fangre neu'r rhan o'r fangre lle y'i cedwir, ac eithrio—

(a)pan symudir yr anifail dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol; neu

(b)pan fo canlyniadau'r prawf wedi eu darllen gan arolygydd a'r canlyniadau hynny'n negyddol.

(4Heb ragfarnu erthygl 12, os yw'r ceidwad wedi methu â chael profi anifail nad yw'n anifail buchol yn unol â gofyniad hysbysiad prawf, caiff Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â'r fangre lle cedwir yr anifail nad yw'n anifail buchol, drwy gyflwyno hysbysiad i'r ceidwad, wahardd symud anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol, neu'r cyfryw anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad, i'r fangre honno neu oddi arni, neu unrhyw ran o'r fangre honno fel a bennir yn yr hysbysiad, yn ddarostyngedig i unrhyw symud a ganiateir o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.

(5Heb ragfarnu unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd o dan adran 73 o'r Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, pan fo ceidwad wedi methu â chael profi anifail nad yw'n anifail buchol yn unol â gofyniad hysbysiad prawf, caiff Gweinidogion Cymru gymryd, neu beri cymryd, pob un o'r camau a fydd yn angenrheidiol i hwyluso archwilio, profi, prisio a symud yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol, a chaiff Gweinidogion Cymru adennill, oddi wrth y ceidwad, swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol.

(6Pan fo—

(a)y ceidwad wedi methu â chael profi anifail nad yw'n anifail buchol yn unol â gofyniad hysbysiad prawf; ac

(b)am y rhesymau a bennir ym mharagraff (7), yr anifail nad yw'n anifail buchol heb ei brofi yn unol â pharagraff (5),

rhaid trin yr anifail nad yw'n anifail buchol at ddibenion adran 32 o'r Ddeddf fel anifail yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis.

(7Y rhesymau a grybwyllir ym mharagraff (6) yw rhesymau ymarferoldeb, gan gynnwys anawsterau o ran casglu'r anifail nad yw'n anifail buchol yn ddiogel, oherwydd ei wylltineb, neu oherwydd natur y dirwedd lle cedwir yr anifail hwnnw.

Cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis

10.—(1Pan fo prawf perthnasol wedi ei gyflawni ar anifail nad yw'n anifail buchol, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi i arolygydd ddarllen canlyniadau'r prawf, roi i geidwad yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol, gofnod ysgrifenedig o'r canlyniadau.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol y gwaherddir eu symud, neu y parheir i wahardd eu symud, o dan y Gorchymyn hwn yn dilyn y prawf.

(3Rhaid i'r ceidwad—

(a)dal gafael ar y cofnod o ganlyniadau'r prawf am gyfnod o 3 blynedd a 60 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir y pigiad gyda thwbercwlin; a

(b)dangos y cofnod hwnnw pan fo arolygydd yn gofyn am ei weld.

Gwaharddiadau

11.—(1Ni chaiff unrhyw berson frechu anifail nad yw'n anifail buchol yn erbyn twbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.

(2Ni chaiff unrhyw berson roi triniaeth ar gyfer twbercwlosis i anifail nad yw'n anifail buchol heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.

(3Ni chaiff unrhyw berson brofi anifail nad yw'n anifail buchol ar gyfer twbercwlosis ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru, a rhaid i berson y rhoddir caniatâd o'r fath iddo adrodd y canlyniadau ar unwaith wrth Weinidogion Cymru.

(4Ni chaiff unrhyw berson ymyrryd â, neu rwystro, cyflawni neu ddarllen prawf perthnasol.

Ynysu a gwahardd symud anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol

12.  Caiff arolygydd, at y diben o reoli neu atal lledaeniad twbercwlosis, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol a gedwir yn y cyfryw fangreoedd a bennir yn yr hysbysiad—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad; a

(b)gwahardd symud anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol, neu'r cyfryw anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad, i'r mangreoedd hynny neu oddi arnynt, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.

Hysbysu'r bwriad i gigydda anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol

13.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu peri i anifail nad yw'n anifail buchol gael ei gigydda o dan adran 32 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir i dwbercwlosis, rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail nad yw'n anifail buchol, i roi gwybod iddo am y bwriad i gigydda, ac i wneud yn ofynnol bod y ceidwad yn cadw'r anifail nad yw'n anifail buchol, hyd nes y cigydda hwnnw, neu hyd nes y caiff ei symud ar gyfer y cigydda hwnnw, ar y cyfryw ran o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, ac i'w ynysu i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad.

(2Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff unrhyw berson symud yr anifail nad yw'n anifail buchol ac eithrio i'w gigydda, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.

Rhagofalon rhag lledaenu haint

14.—(1Pan fo arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni bod unrhyw anifail nad yw'n anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre'n anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail dan amheuaeth, caiff yr arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw anifail o'r fath nad yw'n anifail buchol, ei gwneud yn ofynnol bod y ceidwad—

(a)yn trin ac yn storio tail neu slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath nad yw'n anifail buchol yn unol â gofynion yr hysbysiad;

(b)yn ymatal rhag gwasgaru unrhyw dail neu chwistrellu neu wasgaru unrhyw slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath nad yw'n anifail buchol, ac eithrio yn unol â gofynion yr hysbysiad;

(c)yn ymatal rhag symud unrhyw dail, slyri neu unrhyw wastraff anifail arall o'r fangre, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd;

(ch)yn cymryd pa bynnag gamau sy'n rhesymol ymarferol i rwystro unrhyw anifail nad yw'n anifail buchol a gedwir yn y fangre rhag heintio unrhyw anifail a gedwir mewn unrhyw fangre gyffiniol;

(d)yn trefnu ar gyfer ynysu unrhyw anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad;

(dd)yn sicrhau na chaiff unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, eu defnyddio gan unrhyw anifail nad yw'n anifail buchol sydd yn y fangre, neu gan ba bynnag anifail arall neu anifeiliaid eraill a bennir yn yr hysbysiad;

(e)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, y cyfryw ran neu rannau o'r fangre, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad;

(f)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, pob teclyn a phob eitem arall a ddefnyddiwyd ar gyfer ac o gwmpas anifail nad yw'n anifail buchol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad; ac

(ff)cymryd pa bynnag gamau eraill a ystyrir yn briodol gan yr arolygydd milfeddygol.

(2Os yw'r ceidwad yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chânt adennill, oddi wrth y ceidwad, swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol.

Anifeiliaid dan amheuaeth mewn marchnadoedd, sioeau etc

15.—(1Pan fo arolygydd milfeddygol o'r farn yn rhesymol bod anifail nad yw'n anifail buchol, mewn unrhyw fangre lle y cynhelir sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair, yn anifail yr effeithiwyd arno, yn anifail dan amheuaeth, neu'n un a fu'n agored i'w heintio â thwbercwlosis, caiff yr arolygydd milfeddygol—

(a)drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail nad yw'n anifail buchol, ei gwneud yn ofynnol symud yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol o'r fangre honno, a mynd ag ef—

(i)i ladd-dy i'w gigydda ar unwaith;

(ii)yn ôl i'r fangre yr aed â'r anifail nad yw'n anifail buchol ohoni i'r sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair; neu

(iii)i ba bynnag fangre arall a gymeradwyir gan yr arolygydd milfeddygol at y diben hwnnw; a

(b)drwy gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y fangre—

(i)ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n sicrhau na ddefnyddir unrhyw ran neu rannau o'r fangre, a bennir yn yr hysbysiad, gan unrhyw anifail arall am ba bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; a

(ii)ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad—

(aa)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, pa bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad; a

(bb)yn cael gwared ag unrhyw dail, slyri neu wastraff anifeiliaid arall, gwellt, sarn neu ddeunydd arall a fu mewn cysylltiad, neu a allai fod wedi dod i gysylltiad ag anifail o'r fath nad yw'n anifail buchol.

(2Pan symudir anifail nad yw'n anifail buchol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii) neu (iii), rhaid i'r ceidwad ei ynysu ar unwaith, a pheidio â'i symud o'r fangre drachefn, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.

(3Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (1)(b) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chânt adennill swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol, oddi wrth y person a fethodd â chydymffurfio.

Marcio a symud anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol

16.—(1Os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan arolygydd, rhaid i geidwad anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol farcio'r cyfryw anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol yn y modd sy'n ofynnol gan yr arolygydd.

(2Caiff yr arolygydd farcio anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol.

(3Ni chaiff neb newid nac ymyrryd ag unrhyw farc a osodir o dan yr erthygl hon.

(4Rhaid i'r ceidwad gadw cofnod o symud anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol a rhaid iddo ddangos y cofnod hwnnw pan ofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd.

Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â hysbysiadau, trwyddedau a chymeradwyaethau

17.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir neu a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig.

(2Caiff unrhyw drwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn gyffredinol neu'n benodol, a cheir ei gwneud yn ddarostyngedig i amodau.

(3Ceir rhoi unrhyw gymeradwyaeth a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i amodau.

(4Ceir diwygio, atal dros dro neu ddirymu hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir neu a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.

(5Rhaid i unrhyw berson, y mae unrhyw ofyniad neu amod mewn hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir neu a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, gydymffurfio â'r gofyniad neu'r amod hwnnw.

Dangos trwyddedau

18.  Pan symudir anifail nad yw'n anifail buchol o dan awdurdod trwydded (ac eithrio trwydded gyffredinol) a ddyroddwyd o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am yr anifail nad yw'n anifail buchol a symudir, pan ofynnir hynny gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn, roi ei enw a'i gyfeiriad, a rhaid iddo ddangos y drwydded a chaniatáu gwneud copi ohoni.

Gorfodi

19.—(1Rhaid gorfodi'r Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag unrhyw achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion, mai hwy fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn hytrach na'r awdurdod lleol.

RHAN 3Iawndal

Iawndal am anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis

20.—(1Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru yn peri cigydda anifail nad yw'n anifail buchol, o dan bwerau a roddir gan adran 32(1) o'r Ddeddf (cigydda oherwydd clefydau eraill) fel y'i cymhwysir i dwbercwlosis; a

(b)yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol yn un a adwaenir—

(i)yn unol â Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009(5), pan fo'n afr; neu

(ii)yn unol ag erthygl 5, ym mhob achos arall,

yr iawndal taladwy o dan adran 32(3) mewn perthynas â'r anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol fydd ei werth fel y'i cyfrifir yn unol â'r Atodlen.

(2Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006(6) (darparu gweithdrefn apelio) yn gymwys ar gyfer penderfynu'r ffigur priodol, fel pe bai'r penderfyniad hwnnw'n benderfyniad perthnasol.

(3Ym mharagraff (2) ystyr “ffigur priodol” (“appropriate figure”) yw'r ffigur a ddarperir ar gyfer “B” gan un o baragraffau 2 i 5 o'r Atodlen.

Elin Jones

Llofnodwyd gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2011

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources