- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
74.—(1) Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd nes bo'r statws hwnnw'n terfynu yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 71.
(2) Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw'r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 71, mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.
(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys (“A” yn y paragraff hwn ac ym mharagraff (5))—
(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi statws A dan reoliad 82, 83, 84 neu 108; neu
(b)yn cefnu ar ei gwrs dysgu o bell dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i dderbyn cymorth o dan y Rheoliadau hyn.
(6) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;
(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;
(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 87.
(7) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: