- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
75.—(1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—
(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol—
(i)£1,000; a
(ii)y “ffioedd gwirioneddol”, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a
(b)grant nad yw'n fwy na £1,095 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig.
(2) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan baragraff (1)(b) os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys oddi tano yw paragraff 9.
(3) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn—
(a)os yw'n fyfyriwr anabl; a
(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig—
(i)bwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys; neu
(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys ai peidio.
(4) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.
(5) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfnod cyfanredol o wyth o flynyddoedd academaidd ac wedi cael benthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (6) mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny.
(6) Y benthyciadau a'r grantiau yw—
(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â'r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(1); neu
(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(2).
(7) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
(8) At ddibenion paragraff (7), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—
(a)os yw'n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i'r myfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu'r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer cwrs gradd gyntaf y myfyriwr dysgu o bell cymwys; a
(b)y myfyriwr hwnnw'n ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu'r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw'r myfyriwr hwnnw yn parhau'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu'r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).
(9) Nid oes cymorth yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â'r myfyriwr hwnnw'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell nad yw'n gwrs dysgu o bell dynodedig.
O.S. 1998/1760 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2). Mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg (Gwaddol Graddedigion a Chymorth Myfyrwyr) (Yr Alban) 2001, Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1) ac adran 34(1) o Ddeddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (dsa 3). Diwygiwyd adran 74 gan adran 82 o Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p.39) ac Atodlen 10 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: