Search Legislation

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 4

ATODLEN 1Dosbarthiadau neu Ddisgrifiadau o Wariant Cynlluniedig a Ragnodwyd at Ddibenion Cyllideb AALl yr Awdurdod Lleol

Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion

Anghenion dysgu ychwanegol

1.  Gwariant ar wasanaethau a roddir gan seicolegwyr addysgol.

2.  Gwariant mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adrannau 321 i 331 o Ddeddf 1996 (swyddogaethau sy'n ymwneud ag adnabod ac asesu plant ag anghenion addysgol arbennig a llunio, cynnal ac adolygu datganiadau ar gyfer y plant hynny).

3.  Gwariant ar fonitro'r ddarpariaeth i ddisgyblion mewn ysgolion (os cynhelir hwy gan yr awdurdod neu beidio) at ddibenion lledaenu arferion da mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig a gwella ansawdd y ddarpariaeth addysgol ar eu cyfer.

4.  Gwariant ar gydweithio â chyrff statudol a gwirfoddol eraill i ddarparu cefnogaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig.

5.  Gwariant mewn cysylltiad ag—

(a)darparu gwasanaethau partneriaeth â rhieni neu ganllawiau a gwybodaeth arall i rieni disgyblion ag anghenion addysgol arbennig sydd, mewn perthynas â disgyblion mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, yn ychwanegol at yr wybodaeth a ddarperir fel arfer gan gyrff llywodraethu ysgolion o'r fath; neu

(b)trefniadau a wneir gan yr awdurdod er mwyn osgoi neu ddatrys anghytundebau â rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig.

6.  Gwariant a dynnir o ran paratoi unrhyw ran o Gynllun Plant a Phobl Ifanc gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag addysg plant ag anawsterau ymddygiad.

Iechyd ac amddiffyn plant

7.  Gwariant ar gyflawni swyddogaethau'r awdurdod o ran amddiffyn plant o dan Ddeddf Plant 1989(1) ac o dan adran 175 o Ddeddf 2002 a swyddogaethau eraill sy'n ymwneud ag amddiffyn plant.

8.  Gwariant a dynnir wrth ymrwymo i drefniant neu a dynnir wedyn yn unol â threfniant o dan adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999(2) neu reoliadau a wneir o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3).

9.  Gwariant wrth ddarparu cymorth meddygol arbennig ar gyfer disgyblion unigol i'r graddau na thelir gwariant o'r fath gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Lleol neu Weinidogion Cymru.

Gwelliannau mewn ysgolion

10.  Gwariant a dynnir gan yr awdurdod mewn perthynas â chamau i gefnogi gwella safonau yn ysgolion yr awdurdod, gan gynnwys, yn benodol—

(a)gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan adran 197 o Ddeddf 2002 (cytundebau partneriaeth);

(b)gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag ymrwymo i gontract yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63 o Ddeddf 2002(4) (contractau i sicrhau gwasanaethau o natur gynghorol mewn perthynas ag ysgolion â gwendidau difrifol neu ysgolion y mae angen mesurau arbennig arnynt);

(c)gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan adran 14 i 17 o Ddeddf 1998(5) (pwerau ymyrryd, penodi llywodraethwyr ychwanegol ac atal cyllidebau a ddirprwywyd mewn ysgolion sy'n peri pryder); a

(ch)gwariant ar benodi a thalu aelodau gweithredol interim o dan adran 16A o Ddeddf 1998(6).

Mynediad i addysg

11.  Gwariant o ran y materion canlynol—

(a)rheoli rhaglen gyfalaf yr awdurdod gan gynnwys paratoi ac adolygu cynllun rheoli asedau a thrafod a rheoli trafodion cyllid preifat;

(b)swyddogaethau'r awdurdod o ran gwahardd disgyblion o ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion, heb gynnwys unrhyw ddarpariaeth addysg i'r disgyblion hynny, ond gan gynnwys cyngor i rieni disgybl a waharddwyd;

(c)gweinyddu'r system i dderbyn disgyblion i ysgolion (gan gynnwys apelau derbyn ac ymgynghori o dan adran 89(2) o Ddeddf 1998(7));

(ch)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 85A o Ddeddf 1998(8) (sy'n darparu ar gyfer sefydlu a chynnal a chadw fforymau derbyn);

(d)swyddogaethau'r awdurdod o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(9);

(dd)swyddogaethau'r awdurdod o dan adrannau 510 a 514 o Ddeddf 1996 (darparu a gweinyddu grantiau dilladu a grantiau byrddio), ac yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 518(1) o Ddeddf 1996(10).

12.  Gwariant ar y Gwasanaeth Lles Addysg a gwariant arall sy'n deillio o swyddogaethau'r awdurdod o dan Bennod 2 o Ran 6 o Ddeddf 1996 (presenoldeb yn yr ysgol).

13.  Gwariant ar ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr o dan adran 1(1) o Ddeddf Addysg 1962(11) ac o dan adran 22 o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(12).

14.  Gwariant ar grantiau disgresiynol o dan adran 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962 (dyfarndaliadau ar gyfer cyrsiau dynodedig a chyrsiau eraill).

15.  Gwariant ar dalu lwfansau i bobl dros oedran ysgol gorfodol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 518(1)(b) o Ddeddf 1996.

16.  Gwariant ar dalu lwfansau i bobl dros oedran ysgol gorfodol mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant a wneir o dan adran 14 o Ddeddf 2002 neu'n unol â rheoliadau a wneir o dan adran 181(1) o Ddeddf 2002.

Addysg, hyfforddiant a gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion

17.  Gwariant ar ddarparu addysg a hyfforddiant a gweithgaredd amser hamdden wedi'i drefnu a darpariaeth arall o dan adrannau 15A a 15B o Ddeddf 1996(13).

18.  Gwariant ar y ddarpariaeth gan yr awdurdod lleol o dan adrannau 15A a 508 o Ddeddf 1996(14) o adloniant a hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol, ac ar ddarpariaeth yr awdurdod o wasanaethau o dan adran 123 o Ddeddf 2000 i annog a galluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant.

19.  Gwariant o ran swyddogaethau'r awdurdod lleol mewn cysylltiad â'r cwricwlwm lleol o dan adrannau 116A i 116O o Ddeddf 2002(15) ac adrannau 33J i 33L o Ddeddf 2000(16).

Rheoli strategol

20.  Gwariant yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol o ran—

(a)swyddogaethau'r Prif Swyddog Addysg a'i staff personol;

(b)cynllunio ar gyfer y gwasanaeth addysg yn ei gyfanrwydd gan gynnwys—

(i)cynllunio a rheoli cyflenwad lleoedd mewn ysgolion, a swyddogaethau ynghylch sefydlu, newid neu gau ysgolion yn unol â Phennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998 neu adran 113A o Ddeddf 2000 ac Atodlen 7A iddi;

(ii)paratoi unrhyw ran o Gynllun Plant a Phobl Ifanc yr awdurdod ynghylch trefniadaeth ysgolion a gwella ysgolion;

(iii)ymateb i ddatganiadau polisi a phapurau ymgynghori;

(c)swyddogaethau'r awdurdod o dan Ran I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(17) (Gwerth Gorau) neu Ran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(18) (gwella llywodraeth leol) a darparu cyngor i gynorthwyo cyrff llywodraethu i gaffael nwyddau a gwasanaethau er mwyn gwella'n barhaus ar y dulliau yr arferir swyddogaethau'r cyrff llywodraethu hynny, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd;

(ch)paratoi cyllideb refeniw; paratoi gwybodaeth am incwm a gwariant ynghylch addysg, i'w hymgorffori yn natganiad cyfrifon blynyddol yr awdurdod; archwiliad allanol i geisiadau am grantiau a'r ffurflenni a ddychwelir sy'n ymwneud ag addysg a swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 44 o Ddeddf 2002;

(d)gweinyddu grantiau i'r awdurdod (gan gynnwys paratoi ceisiadau), swyddogaethau a osodir gan neu o dan Bennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998 ac, os yw'n ddyletswydd ar yr awdurdod i wneud hynny, sicrhau'r taliadau o ran y dreth, yswiriant gwladol a chyfraniadau blwydd-daliadau;

(dd)awdurdodi a monitro—

(i)gwariant na thelir mohono o gyfrannau ysgolion o'r gyllideb; a

(ii)gwariant o ran ysgolion sydd heb gyllidebau dirprwyedig,

a phob gweinyddu ariannol cysylltiedig;

(e)monitro gan yr awdurdod o gydymffurfedd â gofynion ei gynllun ariannol a gynhelir o dan adran 48 o Ddeddf 1998(19);

(f)swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 27 o Ddeddf 2002 (darparu cyfleusterau cymunedol gan gyrff llywodraethu);

(ff)tasgau sy'n angenrheidiol i gyflawni cyfrifoldebau prif swyddog cyllid yr awdurdod o dan adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(20);

(g)recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff a gyllidir o wariant na thelir amdano o gyfrannau ysgolion o'r gyllideb ac a delir am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â swyddogaethau a gwasanaethau'r awdurdod y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon;

(ng)ymchwiliadau a wneir gan yr awdurdod ar gyflogeion neu gyflogeion posibl yr awdurdod neu gyrff llywodraethu ysgolion, neu bersonau a gymerir ymlaen fel arall neu sydd i'w cymryd ymlaen (gyda thâl neu'n ddi-dâl) i weithio yn yr ysgolion neu drostynt;

(h)swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â blwydd-daliadau, gan gynnwys gweinyddu pensiynau athrawon, ar wahân i swyddogaethau a gafodd eu dirprwyo i gyrff llywodraethu ysgolion;

(i)aelodaeth ôl-weithredol o gynlluniau pensiwn ac etholiadau ôl-weithredol a wneir mewn perthynas â phensiynau pan na fyddai'n briodol disgwyl i gorff llywodraethu ysgol dalu'r gost o gyfran yr ysgol o'r gyllideb;

(j)cyngor, yn unol â swyddogaethau statudol yr awdurdod, i gyrff llywodraethu mewn perthynas â staff a delir, neu sydd i'w talu, i weithio mewn ysgol, a chyngor mewn perthynas â rheoli'r holl staff ar y cyd mewn unrhyw ysgol unigol (“gweithlu'r ysgol”), gan gynnwys yn benodol y cyngor o ran newidiadau mewn cyflog, amodau gwasanaeth a chyd-gyfansoddiad a chyd-drefniadaeth gweithlu ysgol o'r fath;

(l)penderfynu amodau gwasanaeth ar gyfer y staff nad ydynt yn addysgu a chynghori'r ysgolion ar raddau'r cyfryw staff;

(ll)swyddogaethau'r awdurdod ynghylch penodi neu ddiswyddo cyflogeion;

(m)ymgynghori, a swyddogaethau yn barod ar gyfer ymgynghori gan neu â chyrff llywodraethu, disgyblion a phobl a gyflogir mewn ysgolion neu eu cynrychiolwyr, neu gyrff eraill sydd â buddiant;

(n)cydymffurfio â dyletswyddau'r awdurdod o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974(21) a'r darpariaethau statudol perthnasol fel y'u diffinnir yn adran 53(1) o'r Ddeddf honno i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu ac os oes angen rhoi cyngor iddynt;

(o)ymchwilio i gwynion a'u datrys gan gynnwys camau a gymerir i gynorthwyo corff llywodraethu wrth drafod cwyn;

(p)gwasanaethau cyfreithiol ynghylch swyddogaethau statudol yr awdurdod;

(ph)paratoi ac adolygu cynlluniau sy'n ymwneud â chydweithio â gwasanaethau eraill awdurdod lleol neu gydweithio â chyrff cyhoeddus neu wirfoddol;

(r)paratoi a chyhoeddi unrhyw ran o Gynllun Plant a Phobl Ifanc yr awdurdod ynghylch datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant a darparu partneriaeth datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant (ond nid y gwariant a awdurdodir ganddi) o dan adran 119 o Ddeddf 1998;

(rh)darparu gwybodaeth ar gyfer neu ar gais Gweinidogion Cymru, adran o'r llywodraeth neu unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau ar ran y Goron a darparu gwybodaeth arall y mae'r awdurdod o dan ddyletswydd i drefnu ei bod ar gael;

(s)dyletswyddau'r awdurdod o dan Erthygl 4(2) a (5) o Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001(22);

(t)talu'r ffioedd sy'n daladwy i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 4(4) a 9(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y Cyngor yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 12 o'r Ddeddf honno(23);

(th)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 12 o Ddeddf 2002 (awdurdodau'n goruchwylio cwmnïau a ffurfiwyd gan gyrff llywodraethu); a

(u)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(24) i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu ac os oes angen rhoi cyngor iddynt.

21.  Gwariant mewn cysylltiad â monitro perfformiad ysgolion, monitro rheolaeth cyllidebau dirprwyedig ac mewn cysylltiad â monitro rheolaeth ysgolion a llywodraethu ysgolion.

22.  Gwariant ar sefydlu a chynnal systemau cyfrifiadurol electronig, gan gynnwys storio data, i'r graddau y maent yn cysylltu, neu'n hwyluso cysylltiad yr awdurdod â'r ysgolion a gynhelir ganddo, rhwng ysgolion o'r fath â'i gilydd neu rhwng ysgolion o'r fath â phobl neu sefydliadau eraill.

23.  Gwariant ar fonitro trefniadau asesu'r Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n ofynnol gan orchmynion a wneir o dan adran 108 o Ddeddf 2002.

24.  Gwariant mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â Chyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol a ffurfiwyd gan yr awdurdod o dan adran 390 o Ddeddf 1996 neu wrth ailystyried a pharatoi maes llafur cytûn ar gyfer addysg grefyddol yn unol ag Atodlen 31 i Ddeddf 1996.

25.  Gwariant mewn perthynas â diswyddo neu ymddeoliad cynamserol unrhyw berson neu at ddibenion trefnu ymddiswyddiad, neu mewn perthynas â gweithredoedd sy'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw berson.

26.  Gwariant mewn perthynas â thaliadau athrawon o dan adran 19(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

27.  Gwariant ar wneud taliadau pensiwn, heblaw mewn perthynas â staff a gyflogir mewn ysgolion.

28.  Gwariant yn unol â chytundeb rhwymol, os awdurdod lleol yw'r parti arall, neu os yw'r partïon eraill yn cynnwys un neu fwy o awdurdodau lleol, o ran gweithrediad cyfleusterau a ddarperir yn rhannol ond nid yn unswydd at ddefnydd ysgolion.

29.  Gwariant mewn perthynas â swyddogaethau corff priodol o dan reoliadau yn unol ag adran 19(2)(g) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(25).

30.  Gwariant ar benodi llywodraethwyr, gwneud offerynnau llywodraeth, talu treuliau y mae gan lywodraethwyr hawl i'w cael nad ydynt yn daladwy o gyfran ysgol o'r gyllideb a darparu gwybodaeth i lywodraethwyr.

31.  Unrhyw wariant ar yswiriant heblaw am atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion neu fangreoedd ysgol.

32.  Gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 47A o Ddeddf 1998 (sefydlu a chynnal a chadw fforymau ysgolion ac ymgynghori â hwy).

Rheoliad 7

ATODLEN 2Dosbarthiadau neu Ddisgrifiadau o Wariant Cynlluniedig y ceir ei Ddidynnu o Gyllideb Ysgolion Awdurdod Lleol

Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion

Gwariant ar gyfer cynnal grantiau

1.—(1Gwariant (heblaw gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon neu unrhyw baragraff o Atodlen 1) y mae'n rhaid i'r awdurdod ei dynnu fel un o amodau grant penodol a delir i'r awdurdod ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant penodol o'r fath.

(2Unrhyw swm y mae'n rhaid i'r awdurdod drefnu ei fod ar gael fel amod o'r grant a delir o dan adran 14 o Ddeddf 2002 neu o dan adran 484 o Ddeddf 1998 ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant o'r fath, y dirprwyir penderfyniadau ynghylch ei wariant i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.

Anghenion dysgu ychwanegol

2.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 3 a 4, gwariant a dynnir wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig ac eithrio os yw'r disgybl—

(a)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arbennig a gynhelir gan yr awdurdod; neu

(b)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol feithrin, ysgol gynradd neu ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cymryd un o nifer o leoedd yn yr ysgol honno ac y mae'r awdurdod yn cydnabod bod y lleoedd hynny'n lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig.

3.  Os daw disgybl o fewn paragraff 2(a) neu (b) a bod cost y ddarpariaeth a bennir yn natganiad y disgybl o anghenion addysgol arbennig yn sylweddol yn fwy na'r gost gyfartalog am ddarparu ar gyfer y disgyblion eraill yn yr ysgol arbennig neu'r disgyblion eraill sydd yn y lleoedd hynny sydd wedi'u cadw yn yr ysgol o dan sylw, o ba faint y mae'r gost honno'n fwy.

4.  Gwariant wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig os daw'r disgybl o fewn paragraff 2(b) ond bod y lleoedd a gydnabyddir gan yr awdurdod fel lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig ar gyfer y cyfryw ddisgyblion â nam ar eu golwg, eu clyw, eu lleferydd neu eu hiaith neu nam cyfathrebu arall.

5.  Gwariant mewn perthynas â chefnogaeth arbenigol a roddir i gynorthwyo cyrff llywodraethu ysgolion i fodloni anghenion penodol disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig neu sydd o fewn ystod Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy fel y'i disgrifir yn y Cod Ymarfer a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996(26) (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb).

6.  Gwariant (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb) at ddibenion sy'n gysylltiedig ag annog—

(a)cydweithredu rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir i alluogi plant ag anghenion addysgol arbennig i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir;

(b)addysg plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir; ac

(c)cael plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol gyda phlant nad oes ganddynt anghenion addysgol arbennig.

7.  Gwariant mewn perthynas ag addysg heblaw yn yr ysgol o dan adran 19 o Ddeddf 1996 neu mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion fel y'i diffinnir yn yr adran honno.

8.  Gwariant a dynnir (heblaw gwariant a dynnir o dan Atodlen 1 neu unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon) ar wasanaethau sy'n ymwneud ag addysg plant ag anawsterau ymddygiad ac ar weithgareddau eraill at ddibenion osgoi gwahardd disgyblion o ysgolion.

9.  Gwariant ar dalu ffioedd mewn perthynas â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig—

(a)mewn ysgolion annibynnol neu mewn ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan yr awdurdod lleol, o dan adran 348 o Ddeddf 1996; neu

(b)mewn sefydliad y tu allan i Gymru a Lloegr, o dan adran 320 o Ddeddf 1996.

10.  Gwariant ar daliadau i awdurdod lleol arall yn unol ag adran 493 neu 494 o Ddeddf 1996 neu adran 207 o Ddeddf 2002 (adennill rhwng awdurdodau lleol).

Staff

11.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, menyw sydd ar seibiant mamolaeth neu berson ar seibiant mabwysiadu.

12.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, personau—

(a)sy'n cyflawni dyletswyddau undeb llafur neu'n ymgymryd â hyfforddiant o dan adrannau 168 a 168A o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992(27);

(b)sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur o dan adran 170 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992;

(c)sy'n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus o dan adran 50 o Ddeddf Hawliau Cyflogi 1996(28);

(ch)sy'n gwasanaethu ar reithgor;

(d)sy'n gynrychiolwyr diogelwch o dan Reoliadau Cynrychiolwyr Diogelwch a Phwyllgorau Diogelwch 1977(29);

(dd)sy'n gynrychiolwyr diogelwch cyflogeion o dan Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Ymgynghori â Chyflogeion) 1996(30);

(e)sy'n gynrychiolwyr cyflogeion at ddibenion Pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992 fel y'i diffinnir yn adran 196 o'r Ddeddf honno neu Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(31);

(f)sy'n cymryd amser i ffwrdd ar gyfer gofal cynenedigol o dan adran 55 o Ddeddf Hawliau Cyflogi 1996;

(ff)sy'n cyflawni dyletswyddau fel aelodau o'r lluoedd wrth gefn fel y'u diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf Lluoedd Wrth Gefn 1996(32);

(g)a ataliwyd rhag gweithio mewn ysgol;

(ng)sy'n aelodau o Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu bwyllgor iddo; neu

(h)a benodwyd yn gynrychiolwyr dysgu i'r undebau llafur, er mwyn iddynt ddadansoddi'r gofynion hyfforddi neu ddarparu neu hybu cyfleoedd hyfforddi, a chyflawni gwaith ymgynghori neu baratoi mewn cysylltiad â swyddogaethau o'r fath.

13.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, person sydd ar secondiad ar sail llawnamser am gyfnod o dri mis neu fwy heblaw i awdurdod lleol neu i gorff llywodraethu ysgol.

14.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, personau sydd wedi bod yn absennol o'r gwaith yn ddi-dor oherwydd salwch am 21 o ddiwrnodau neu fwy.

15.  Gwariant, nad yw'n dod o fewn Atodlen 1, mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff sy'n cael eu cyllido o wariant na thelir mohono o gyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

Gwariant arall

16.  Gwariant ar ddarparu hyfforddiant mewn offerynnau cerdd neu hyfforddiant corawl (naill ai i unigolion neu i grwpiau).

17.  Gwariant ar gefnogi theatrau teithiol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer gwariant o'r fath.

18.  Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysgu'r Gymraeg gan athrawon a gyflogir i weithio heblaw mewn ysgol unigol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer gwariant o'r fath.

19.  Gwariant ar ddarparu mangreoedd a chyfleusterau i ysgolion ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau y tu allan (gan gynnwys mangreoedd a ddarperir ar safle ysgol er budd y gymuned gyfan).

20.  Gwariant yn unol ag adran 512, 512ZA, 512ZB neu 513 o Ddeddf 1996 sydd o ran ysgolion uwchradd yn ymwneud â darparu llaeth ac, o ran unrhyw ysgol arall, yn ymwneud â darparu llaeth neu brydau bwyd a lluniaeth arall.

21.  Gwariant ar drwsio a chynnal a chadw cegin ysgol os didynnir y gwariant ar brydau bwyd mewn perthynas â'r ysgol o dan sylw o gyllideb ysgolion yr awdurdod yn unol â pharagraff 20.

22.  Gwariant ar benderfynu cymhwyster disgybl i gael prydau bwyd ysgol yn ddi-dâl.

23.  Gwariant yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1996 wrth wneud unrhyw grant neu daliad arall mewn perthynas â ffioedd neu dreuliau (o ba natur bynnag) sy'n daladwy mewn cysylltiad â phresenoldeb disgyblion mewn ysgol nas cynhelir gan unrhyw awdurdod lleol.

24.  Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysg feithrin ac eithrio os gwneir y ddarpariaeth honno mewn ysgol a gynhelir.

25.  Gwariant ar yswiriant mewn perthynas ag atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion a mangreoedd ysgol ac eithrio i'r graddau y mae cyrff llywodraethu yn derbyn cyllid ar gyfer yswiriant fel rhan o'u cyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

26.  Gwariant ar ffi trwyddedau neu danysgrifiadau a delir ar ran ysgolion ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.2 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

27.  Gwariant a dynnir wrth ymateb i adroddiad arolygiad o dan adran 28 o Ddeddf Addysg 2005.

28.  Gwariant ar wasanaethau llyfrgell a gwasanaethau amgueddfa ar gyfer ysgolion.

29.  Gwariant y byddai addysg disgyblion mewn ysgol hebddo yn cael ei handwyo'n ddifrifol ac na fyddai'n rhesymol disgwyl i'r corff llywodraethu ei dalu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb oherwydd naill ai—

(a)ei faint a'i natur annisgwyl; neu

(b)ei faint a'i natur anochel.

30.  Gwariant ar ychwanegiadau at gyfran yr ysgol o'r gyllideb y mae'r ysgol â hawl iddynt yn rhinwedd fformiwla'r awdurdod neu ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb o dan awdurdod Gweinidogion Cymru neu wariant ar gywiro gwallau.

31.  Gwariant at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.1 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

32.  CERA a dynnir at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon neu Atodlen 1.

33.  Gwariant a dynnir yn unol ag adran 22 o Ddeddf Addysg 2002 wrth hyfforddi llywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol i'r graddau na ddarperir ar ei gyfer gan grantiau penodedig.

34.  Gwariant a dynnir o ran hyfforddiant clercod i'r cyrff llywodraethu i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.

Rheoliad 18

ATODLEN 3Ffactorau neu Feini Prawf Ychwanegol y caniateir eu Cymryd i Ystyriaeth mewn Fformiwla Awdurdod Lleol o dan Reoliad 18

1.  Anghenion addysgol arbennig disgyblion wedi eu penderfynu mewn ffordd y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol fel modd i asesu anghenion o'r fath.

2.  Disgyblion nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

3.  Trosiant disgyblion ac eithrio fel rhan o'r broses derbyniadau cyffredinol mewn ysgol.

4.  I ba raddau y mae'r awdurdod yn talu costau trefniadau derbyn mewn ysgol ac eithrio o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol.

5.  Maint a chyflwr adeiladau a thiroedd ysgol o'u cymharu â rhai ysgolion eraill a gynhelir gan yr awdurdod: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfeydd a gyhoeddir gan yr awdurdod sy'n adlewyrchu (i'r graddau y mae hynny'n briodol) ddyletswyddau statudol cyrff llywodraethu o ran mangreoedd ysgolion a'u cymhwyster i gael grant gan Weinidogion Cymru neu unrhyw adran o'r llywodraeth.

6.  Ysgol a chanddi safle wedi'i rannu: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â meini prawf a gyhoeddir gan yr awdurdod.

7.  Cyfleusterau, ar gyfer addysgu disgyblion, a geir mewn rhai ysgolion yn unig.

8.  Ardrethi sy'n daladwy am fangre pob ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

9.  Y ffioedd am ddŵr a charthffosiaeth (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

10.  Defnydd ysgolion o ynni.

11.  Y rhent sy'n daladwy am fangre ysgol neu daliadau am ddefnydd ysgol o gyfleusterau nad ydynt wedi'u meddiannu gan yr ysgol honno'n unig (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

12.  Glanhau mangre ysgol.

13.  Cludiant yn ôl ac ymlaen i weithgareddau y tu allan i fangre ysgol sy'n ffurfio rhan o gwricwlwm yr ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

14.  Llogi cyfleusterau y tu allan i fangre ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

15.  Mewn achosion lle mae swm ar gyfer yswiriant i'w gynnwys mewn cyfran ysgolion o'r gyllideb—

(a)pan fo'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o wariant cynlluniedig yr awdurdod ar yswiriant; neu,

(b)pan nad yw'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o'r swm y byddai'r awdurdod wedi'i wario pe bai wedi yswirio,

i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod y mae'n rhaid iddo roi sylw i nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol.

16.  Taliadau mewn perthynas â thrafodiad cyllid preifat (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

17.  Symiau sy'n daladwy i ysgol sydd, yn sgil cau un neu ragor o ysgolion a gynhelir, naill ai'n ysgol sy'n cael ei sefydlu neu, yn unol â Phennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998, yn destun addasiadau rhagnodedig, i adlewyrchu i ba raddau y mae ysgol sydd wedi'i chau wedi gwario mwy na'i chyfran o'r gyllideb neu nad yw wedi gwario'r cyfan ohoni mewn unrhyw gyfnod cyllido. Rhaid i unrhyw ffactor neu feini prawf o'r fath ddarparu bod rhaid i unrhyw swm a ddidynnir beidio â bod yn fwy na'r swm y mae'r ysgol yn ei gael yn ystod y cyfnod cyllido fel rhan o'i chyfran o'r gyllideb am ei bod yn ysgol newydd.

18.  A yw'r ysgol i gael ei chau yn ystod y cyfnod cyllido o dan sylw neu yn y cyfnod cyllido sy'n dilyn.

19.  Llaeth ysgol, prydau bwyd a lluniaeth arall: ni chaiff yr awdurdod drin unrhyw elfen o'r gwariant hwn yn wariant â gwerth negyddol.

20.  Cyflogau mewn ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig): rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

21.  Diogelu cyflogau yn unol â gorchmynion sy'n cael eu gwneud o bryd i'w gilydd o dan adran 122 o Ddeddf 2002 neu ddiogelu cyflogau eraill.

22.  Lwfansau blaenoriaeth gymdeithasol yn unol â Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol sy'n cael effaith yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 122 o Ddeddf 2002 (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

23.  Yr angen i daliadau sengl gael eu dyrannu i ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion arbennig, neu unrhyw gyfuniad o ysgolion o'r fath, ni waeth beth fo'u maint.

24.  Yr angen i daliadau gael eu dyrannu i ysgolion y mae eu maint wedi'i bennu gan yr awdurdod ac sy'n bodloni amodau eraill a bennwyd ganddo.

25.  Ysgolion y câi eu cyfrannau o'r gyllideb eu gostwng fel arall flwyddyn ar ôl blwyddyn â mwy na phump y cant: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

26.  Contractau y mae corff llywodraethu ysgol yn rhwym iddynt yn rhinwedd darpariaeth yng nghynllun yr awdurdod (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

27.  Costau gweinyddu cyflogres: rhaid i'r cyllid fod wedi'i seilio ar nifer y staff yn yr ysgol, oni ddefnyddir ffactorau a ganiateir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.

28.  Unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill nad ydynt fel arall yn dod o dan yr Atodlen hon, ar yr amod nad yw'r cyfanswm a ddyrannwyd yn unol â fformiwla'r awdurdod, o ystyried ffactorau neu feini prawf o'r fath, yn fwy nag un y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

29.  Effaith trethi ar ysgolion.

30.  Mynychder disgyblion o leiafrifoedd ethnig y mae eu lefelau cyrhaeddiad academaidd mewn perthynas â disgyblion eraill yn ardal yr awdurdod yn is na'r cyfartaledd, a hynny i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod.

31.  Mynychder dosbarthiadau a lleoedd meithrin sy'n cael eu cydnabod gan yr awdurdod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

32.  Mynychder Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.

33.  Datblygiad tai neu symudiadau lluoedd arfog sy'n arwain at gynnydd neu ostyngiad o 20% o leiaf yn y niferoedd ar y gofrestr mewn ysgol yn y cyfnod cyllido o dan sylw.

34.  Cyrhaeddiad blaenorol disgyblion sy'n dechrau mewn ysgol.

35.  Meintiau dosbarthiadau babanod y cyfyngwyd arnynt drwy Reoliadau a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf 1998: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwariant a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i'r Rheoliadau hynny.

36.  Meintiau dosbarthiadau iau y cyfyngwyd ar y nifer ynddynt i uchafswm o 30 o ddisgyblion: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwariant a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i amodau sydd wedi'u cynnwys mewn unrhyw grant arbennig a wnaed yn unol ag adran 88A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 neu unrhyw drefniadau am gymorth ariannol a ddarperir yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2002 sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael gwelliant mewn safonau ysgol drwy ostwng maint y dosbarthiadau.

Rheoliad 26

ATODLEN 4Cynnwys y Cynlluniau Ariannol

Mae'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 26, sef materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol ac y mae'n ofynnol ymdrin â hwy yng nghynllun yr awdurdod lleol, fel a ganlyn:

1.  Cario drosodd wargedau a diffygion sy'n codi o ran cyfrannau ysgolion o'r gyllideb o un cyfnod cyllido i gyfnod cyllido arall.

2.  Symiau y gellir codi amdanynt yn erbyn cyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

3.  Symiau a dderbyniwyd gan ysgolion y caiff eu cyrff llywodraethu eu dal a'r dibenion y ceir defnyddio'r symiau hynny ar eu cyfer.

4.  Gosod amodau, drwy neu o dan y cynllun, y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â hwy o ran rheoli eu cyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i gyrff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig, gan gynnwys amodau sy'n rhagnodi rheolaethau a gweithdrefnau ariannol.

5.  Y telerau y mae'r awdurdod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau odanynt i ysgolion a gynhelir ganddo.

6.  Talu llog gan neu i'r awdurdod.

7.  Yr adegau pan drefnir y bydd symiau sy'n hafal i gyfanswm cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gael i gyrff llywodraethu a pha ran o'r gyfran o'r gyllideb fydd ar gael ar bob adeg o'r fath.

8.  Y trosglwyddiad rhwng penawdau cyllideb o fewn y gyllideb ddirprwyedig.

9.  Yr amgylchiadau y caiff awdurdod ddirprwyo i'r corff llywodraethu y pŵer i wario unrhyw ran o gyllideb AALl yr awdurdod neu ei gyllideb ysgolion yn ychwanegol at y rhai a nodir yn adran 49(4)(a) i (c)(33) o Ddeddf 1998.

10.  Y defnydd o gyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i'r corff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig.

11.  Benthyca gan gyrff llywodraethu.

12.  Trefniadau bancio y gall fod cyrff llywodraethu yn eu gwneud.

13.  Datganiad o ran atebolrwydd personol y llywodraethwyr mewn perthynas â chyfrannau ysgolion o'r gyllideb gan ystyried adran 50(7) o Ddeddf 1998.

14.  Datganiad o ran y lwfansau sy'n daladwy i lywodraethwyr ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig yn unol â'r cynllun a wnaed gan yr awdurdod at ddibenion adran 519 o Ddeddf 1996(34).

15.  Cadw cofrestr o unrhyw fuddiannau busnes y llywodraethwyr a'r pennaeth.

16.  Darparu gwybodaeth gan y corff llywodraethu a darparu gwybodaeth iddo.

17.  Cynnal a chadw stocrestrau o asedau.

18.  Cynlluniau gwario corff llywodraethu.

19.  Datganiad o ran y defnydd y mae corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud o warged yn y fantolen ysgol sy'n fwy na 5% o gyfran yr ysgol o'r gyllideb neu £10,000, pa swm bynnag yw'r mwyaf.

20.  Darpariaeth y caiff awdurdod wneud y canlynol oddi tani—

(a)cyfarwyddo'r corff llywodraethu sut i wario gwarged yn y fantolen ysgol ar gyfer cyfnod cyllido,—

(i)os yw'r gwarged, yn achos ysgol gynradd, yn £50,000 neu'n fwy, a

(ii)os yw'r gwarged, yn achos ysgol uwchradd neu ysgol arbennig, yn £100,000 neu'n fwy;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu, os nad yw'r corff llywodraethu'n cydymffurfio â chyfarwyddyd o'r fath, dalu'r gwarged cyfan neu ran ohono i'r awdurdod i'w ddefnyddio fel rhan o'i gyllideb ysgolion am y cyfnod cyllido o dan sylw.

21.  Datganiad o ran trethu'r symiau a dalwyd neu a gafwyd gan gorff llywodraethu.

22.  Yswiriant.

23.  Defnyddio cyllidebau dirprwyedig gan gyrff llywodraethu fel y byddant yn bodloni dyletswyddau'r awdurdod a osodwyd gan neu o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974(35).

24.  Darparu cyngor cyfreithiol i'r corff llywodraethu.

25.  Cyllid ar gyfer materion amddiffyn plant.

26.  Prydau ysgol.

27.  At bwy yn yr awdurdod y dylid anfon cwynion a wneir gan bobl sy'n gweithio yn yr ysgol neu gan lywodraethwyr ysgol ynghylch rheoli ariannol neu briodoldeb ariannol yn yr ysgol a sut y byddir yn ymdrin â chwynion o'r fath.

28.  Gwariant a dynnir gan gorff llywodraethu wrth arfer y pŵer a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002.

29.  Y ddarpariaeth gan gyrff llywodraethu o ffurflenni a gwybodaeth at ddibenion pensiynau athrawon.

(4)

Diwygiwyd adran 63 gan adran 61 o Ddeddf Addysg 2005 a chan adran 71 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac Atodlen 7 iddi.

(5)

1998 p.31. Diwygiwyd adrannau 14 i 17 gan adrannau 55 i 57 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 5 a pharagraffau 92 i 94 o Atodlen 21 iddi, a chan baragraffau 14 i 18 o Atodlen 9 i Ddeddf Addysg 2005.

(6)

Mewnosodwyd adran 16A gan adran 57 o Ddeddf Addysg 2002.

(7)

Amnewidiwyd adran 89(2) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 5 o Atodlen 4 iddi ac fe'i diwygiwyd gan adran 45 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(8)

Mewnosodwyd adran 85A gan adran 46 o Ddeddf Addysg 2002 ac fe'i diwygiwyd gan adran 41 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(10)

Amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(11)

1962 p.12.

(12)

1998 p.30.

(13)

Mewnosodwyd adran 15A gan adran 140 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 63 o Atodlen 30 iddi, ac fe'i diwygiwyd gan adran 149 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraff 54 o Atodlen 9 iddi. Mewnosodwyd adran 15B gan adran 149 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraff 55 o Atodlen 9 iddi.

(14)

Diwygiwyd adran 508 gan adran 137 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, ac adran 6(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(15)

Mewnosodwyd adrannau 116A i 116O o Ddeddf 2002 gan adrannau 4 i 18 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).

(16)

Mewnosodwyd adrannau 33J i 33L o Ddeddf 2000 gan adrannau 31 i 33 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

(17)

1999 p.27.

(19)

Diwygiwyd adran 48 gan adran 40 o Ddeddf 2002 a pharagraff 2 o Atodlen 3 iddi, gan adran 117 o Ddeddf 2005 a pharagraff 7 o Atodlen 18 iddi a chan adrannau 57 a 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 a pharagraff 3 o Atodlen 5 a Rhan 6 o Atodlen 18 iddi.

(20)

1972 p.70.

(21)

1974 p.37.

(23)

1998 p.30. Diwygiwyd adran 12 gan adrannau 148 a 215 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8 o Atodlen 12 a pharagraff 81 o Atodlen 21 i'r Ddeddf honno.

(24)

1995 p.50.

(25)

Gweler Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005, O.S. 2005/1818.

(26)

Diwygiwyd adran 313 gan adran 140 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 72 o Atodlen 30 iddi, a chan adrannau 195 a 215 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 18 a pharagraff 36 o Atodlen 21 iddi.

(27)

1992 p.52.

(28)

1996 p.18.

(32)

1996 p.14.

(33)

Diwygiwyd adran 49 gan baragraff 100(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.

(34)

Diwygiwyd adran 519 gan baragraffau 57 a 139 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.

(35)

1974 p.37.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources