Search Legislation

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 682 (Cy.65)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010

Gwnaed

5 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 66(9) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010, a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

Diffiniad o eiddo domestig

2.—(1Diwygir adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1), ar ôl “(2B)” mewnosoder “, (2BB)”.

(3Ar ôl is-adran (2A) mewnosoder—

(2AA) Subsection (2B) applies only in so far as this Part applies in relation to England.

(4Ar ôl is-adran (2B) mewnosoder—

(2BA) Subsection (2BB) applies only in so far as this Part applies in relation to Wales.

(2BB) A building or self-contained part of a building is not domestic property if each of the following paragraphs apply in relation to it—

(a)the relevant person intends that, in the year beginning with the end of the day in relation to which the question is being considered, the whole of the building or self-contained part will be available for letting commercially, as self-catering accommodation, for short periods totalling 140 days or more;

(b)on that day the relevant person’s interest in the building or part is such as to enable the person to let it for such periods;

(c)the whole of the building or self-contained part of the building was available for letting commercially, as self-catering accommodation, for short periods totalling 140 days or more in the year prior to the year beginning with end of the day in relation to which the question referred to in paragraph (a) is being considered;

(d)the short periods for which it was so let amounted in total to at least 70 days..

(5Yn is-adran (2C), ar ôl “(2B)” mewnosoder “and subsection (2BB)”.

(6Yn is-adran (2D), yn lle “above does” rhodder “and subsection (2BB) above do”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

5 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), sy'n diffinio eiddo domestig at ddibenion Rhan III (ardrethu annomestig) o'r Ddeddf honno a bydd yn effeithiol o 1 Ebrill 2010 ymlaen.

Mae erthygl 2 yn diwygio adran 66 o Ddeddf 1988. Mae'r adran honno'n pennu ystyr “eiddo domestig” at ddibenion Rhan 3 (ardrethu annomestig) o'r Ddeddf honno.

Mae paragraff (4) o erthygl 2 yn mewnosod is-adran (2BB) yn adran 66, sy'n darparu nad yw adeilad neu ran hunangynhaliol o adeilad yn eiddo domestig at ddibenion Rhan 3—

(a)os bydd am gyfnod o 12 mis calendr o leiaf ar ôl asesiad ar gael i'w osod yn fasnachol, fel llety hunanddarpar, am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu fwy; a

(b)yn y 12 mis calendr cyn asesiad—

(i)os oedd ar gael i'w osod yn fasnachol, fel llety hunanddarpar, am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu fwy; a

(ii)os cafodd ei osod felly am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o 70 o ddiwrnodau neu fwy.

Mae'r paragraff hwn hefyd yn mewnosod is-adran (2BA) newydd i ddarparu bod is-adran (2BB) yn gymwys yn unig o ran Cymru.

Mae erthygl 2(3) yn gwneud darpariaeth ganlyniadol ac yn mewnosod is-adran (2AA) newydd sy'n darparu bod is-adran (2B) i fod yn gymwys yn unig o ran Lloegr.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi yn http:www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geid yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources