- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gwnaed
5 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010, a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
2.—(1) Diwygir adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1), ar ôl “(2B)” mewnosoder “, (2BB)”.
(3) Ar ôl is-adran (2A) mewnosoder—
“(2AA) Subsection (2B) applies only in so far as this Part applies in relation to England.”
(4) Ar ôl is-adran (2B) mewnosoder—
“(2BA) Subsection (2BB) applies only in so far as this Part applies in relation to Wales.
(2BB) A building or self-contained part of a building is not domestic property if each of the following paragraphs apply in relation to it—
(a)the relevant person intends that, in the year beginning with the end of the day in relation to which the question is being considered, the whole of the building or self-contained part will be available for letting commercially, as self-catering accommodation, for short periods totalling 140 days or more;
(b)on that day the relevant person’s interest in the building or part is such as to enable the person to let it for such periods;
(c)the whole of the building or self-contained part of the building was available for letting commercially, as self-catering accommodation, for short periods totalling 140 days or more in the year prior to the year beginning with end of the day in relation to which the question referred to in paragraph (a) is being considered;
(d)the short periods for which it was so let amounted in total to at least 70 days.”.
(5) Yn is-adran (2C), ar ôl “(2B)” mewnosoder “and subsection (2BB)”.
(6) Yn is-adran (2D), yn lle “above does” rhodder “and subsection (2BB) above do”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), sy'n diffinio eiddo domestig at ddibenion Rhan III (ardrethu annomestig) o'r Ddeddf honno a bydd yn effeithiol o 1 Ebrill 2010 ymlaen.
Mae erthygl 2 yn diwygio adran 66 o Ddeddf 1988. Mae'r adran honno'n pennu ystyr “eiddo domestig” at ddibenion Rhan 3 (ardrethu annomestig) o'r Ddeddf honno.
Mae paragraff (4) o erthygl 2 yn mewnosod is-adran (2BB) yn adran 66, sy'n darparu nad yw adeilad neu ran hunangynhaliol o adeilad yn eiddo domestig at ddibenion Rhan 3—
(a)os bydd am gyfnod o 12 mis calendr o leiaf ar ôl asesiad ar gael i'w osod yn fasnachol, fel llety hunanddarpar, am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu fwy; a
(b)yn y 12 mis calendr cyn asesiad—
(i)os oedd ar gael i'w osod yn fasnachol, fel llety hunanddarpar, am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu fwy; a
(ii)os cafodd ei osod felly am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o 70 o ddiwrnodau neu fwy.
Mae'r paragraff hwn hefyd yn mewnosod is-adran (2BA) newydd i ddarparu bod is-adran (2BB) yn gymwys yn unig o ran Cymru.
Mae erthygl 2(3) yn gwneud darpariaeth ganlyniadol ac yn mewnosod is-adran (2AA) newydd sy'n darparu bod is-adran (2B) i fod yn gymwys yn unig o ran Lloegr.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi yn http:www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geid yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys