- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) i'w ddehongli yn y modd y dehonglir “school teacher” yn adran 122 o Ddeddf 2002;
mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate diocesan authority” yn adran 142(1) a (4) o Ddeddf 1998;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw'r awdurdod addysg lleol yng Nghymru sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig; a phan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau addysg lleol yng Nghymru, ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod addysg lleol sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig;
ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”) mewn perthynas ag ysgol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn un sydd o gymeriad crefyddol ac nad yw'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru na'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yw'r corff y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol mewn perthynas â'r grefydd neu'r enwad crefyddol y perthyn yr ysgol iddi neu iddo;
ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) yw corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan adran 19(1) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn fel y bo'n briodol;
ystyr “cyngor ysgol” (“school council”) yw cyngor a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3 o'r Rheoliadau Cynghorau Ysgol;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod ysgol fel y'i diffinnir gan adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, nac yn ddydd Sul nac yn ddiwrnod sydd yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3);
ystyr “y dyddiad ffedereiddio” (“the federation date”) yw'r dyddiad pan fo cyrff llywodraethu yn ffedereiddio;
ystyr “pennaeth dros dro” (“acting head teacher”) yw person a benodir i gyflawni swyddogaethau pennaeth yr ysgol hyd nes penodir pennaeth neu yn absenoldeb y pennaeth;
ystyr “y Rheoliadau Cynghorau Ysgol” (“the School Council Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005(4);
ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir” (“the Government of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(5);
ystyr “y Rheoliadau Staffio” (“the Staffing Regulations”) yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(6);
ystyr “y Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd” (“the New Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005(7); ac y
mae i “ysgol newydd” (“new school”) yr un ystyr ag yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—
(a)corff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn; a
(b)offeryn llywodraethu ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu y ffederasiwn.
O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 (O.S.2005/3200 (Cy.236)); a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/873 (Cy.81)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)), a chan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)).
O.S. 2006/873 (Cy.81) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/2708 (Cy.226)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3161 (Cy.275)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: