- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
15 Rhagfyr 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Arbedion) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
2. 10 Ionawr 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o'r Mesur–
(a)adran 2 i'r graddau y mae'n gymwys i'r awdurdodau Cymreig;
(b)adran 4;
(c)adran 5;
(ch)adran 6;
(d)adran 17; ac
(dd)adran 18.
3. Mae Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007(2) yn parhau i fod yn effeithiol er gwaethaf rhoi adran 26(1A) i 26(1D) o Ddeddf Plant 2004(3) yn lle adran 26(1) yn unol ag adran 4(3) o'r Mesur.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau hynny o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) a bennir yn Erthygl 2 ar 10 Ionawr 2011.
Mae Erthygl 2(1)(a) yn dwyn i rym adran 2 o'r Mesur i'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau Cymreig. Mae adran 2 eisoes mewn grym i'r graddau y mae'n gymwys i Weinidogion Cymru.
Mae adrannau 2 i 6 o'r Mesur yn ymwneud â rhwymedigaethau'r awdurdodau Cymreig i baratoi a chyhoeddi strategaethau ynglŷn â chyfrannu at ddileu tlodi plant. Yr awdurdodau Cymreig fel y'u diffiniwyd yn adran 6 o'r Mesur yw Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol, awdurdod tân ac achub Cymreig, awdurdod Parc Cenedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Mae Erthygl 3 yn arbed effaith Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007 er gwaethaf rhoi adran 26(1A) i adran 26(1D) o Ddeddf Plant 2004(4) yn lle adran 26(1) yn unol ag adran 4(3) o'r Mesur.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r darpariaethau canlynol wedi cael eu dwyn i rym yng Nghymru gan Orchmynion Cychwyn sydd wedi eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 57 | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 |
Adrannau 58 (1)—(5), (6)(a), (7)—(14) | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 |
Adrannau 59—65 | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 |
Adrannau 19—56 | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2010/2582 |
Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1—18, paragraffau 21—28. | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2010/2582 |
Adran 73 ac Atodlen 2 (i'r graddau y maent yn berthnasol i Ddeddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006). | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2010/2582 |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: