Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy'n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2651 (Cy.219)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy'n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010

Gwnaed

23 Hydref 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Tachwedd 2010

Yn dod i rym

1 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn wrth arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy'n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

  • ystyr “darpariaeth benodedig” (“specified provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn sydd wedi'i phennu yng Ngholofn 1 o'r Atodlen ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng Ngholofn 2 o'r Atodlen;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; ac

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 sy'n ymwneud â chyfansoddiad a labelu deunyddiau bwyd sy'n addas i bobl ag anoddefiad tuag at glwten (4).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.

(4Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(5) i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(6), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;

rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y neilltuoliwyd hwy iddo.

Tramgwyddau, cosbau a gweithredu a gorfodi

3.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth benodedig yn euog o dramgwydd.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso'r darpariaethau penodedig

4.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r darpariaethau penodedig yn gymwys i ddeunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad tuag at glwten a osodir ar y farchnad fanwerthu p'un ai a fyddant wedi'u pecynnu'n barod ai peidio.

Cymhwyso amryfal adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

5.  Mae'r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(7), gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran tramgwydd o dan reoliad 3(1) fel y maent yn gymwys o ran tramgwydd o dan adran 14 neu 15 ac y bernir bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “labelling, advertising or presentation”;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(8), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(f)adran 35(2) a (3)(9), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(10); ac

(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2010

Rheoliadau 2(1) a 3(1)

YR ATODLENDarpariaethau Penodedig Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 41/2009

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad y ComisiwnY pwnc
Erthygl 3(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 3(5)

Gofyniad bod rhaid i ddeunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten—

(a)

a gyfansoddir o neu sy'n cynnwys un neu fwy o gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten; neu

(b)

sy'n cynnwys cynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol a hefyd gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten,

beidio bod â lefel glwten sy'n uwch na 100 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol.

Erthygl 3(2), fel y'i darllenir gydag Erthygl 3(5)

Gofyniad bod rhaid i labelu, hysbysebu a chyflwyno deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten—

(a)

a gyfansoddir o neu sy'n cynnwys un neu fwy o gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten; neu

(b)

sy'n cynnwys cynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol a hefyd gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten,

fod yn dwyn y term “very low gluten”, er y dichon labelu, hysbysebu a chyflwyno'r deunyddiau bwyd hynny fodd bynnag ddwyn y term “gluten-free” cyhyd ag nad yw'r cynnwys glwten yn uwch na 20 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol.

Erthygl 3(3), fel y'i darllenir gydag Erthygl 3(5)
  • Gofyniad bod rhaid i geirch a gynhwysir mewn deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten (gan gynnwys deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten sy'n cynnwys cynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol a hefyd gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten) fod wedi cael eu cynhyrchu, eu paratoi a/neu eu prosesu'n arbennig mewn ffordd sy'n osgoi bod gwenith, rhyg, haidd neu eu hamrywiaethau trawsfridiol yn eu llygru.

  • Gofyniad bod rhaid i gynnwys glwten ceirch o'r fath beidio â bod yn uwch na 20 mg/kg.

Erthygl 3(4)
  • Gofyniad bod rhaid i ddeunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten a gyfansoddir o neu sy'n cynnwys un neu fwy o gynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol beidio bod â lefel glwten uwch na 20 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol.

  • Gofyniad bod rhaid i labelu, cyflwyno a hysbysebu'r cynhyrchion hynny ddwyn y term “gluten-free”.

Erthygl 3(6)Gofyniad bod rhaid i'r termau “very low gluten” a “gluten-free” y cyfeirir atynt yn Erthygl 3(2) a (4) ymddangos wrth ymyl yr enw y gwerthir y deunydd bwyd perthnasol i bobl ag anoddefiad at glwten oddi tano.
Erthygl 4 a

Gwaharddiad ar labelu, hysbysebu a chyflwyno—

(a)

deunyddiau bwyd i'w bwyta'n arferol; neu

(b)

deunyddiau bwyd at ddibenion maethol penodol sydd wedi cael eu fformiwleiddio, eu prosesu neu eu paratoi'n arbennig i gyfarfod anghenion dietegol arbennig heblaw rhai'r bobl hynny sydd ag anoddefiad tuag at glwten ond sydd fodd bynnag yn addas, yn rhinwedd eu cyfansoddiad, i gyfarfod anghenion dietegol arbennig pobl sydd ag anoddefiad tuag at glwten,

sy'n dwyn y term “very low gluten”, er y dichon labelu, hysbysebu chyflwyno'r deunyddiau bwyd hynny fodd bynnag ddwyn y term “gluten-free” cyhyd ag nad yw'r cynnwys glwten yn uwch na 20 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yno Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 sy'n ymwneud â chyfansoddiad a labelu deunyddiau bwyd sy'n addas i bobl ag anoddefiad tuag at glwten (OJ Rhif L16, 21.1.2009, t.3) (“Rheoliad y Comisiwn”) fel y'i darllenir gydag Erthygl 10(2) o Gyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau bwyd y bwriedir eu defnyddio at ddibenion maethol penodol (OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21).

2.  Mae Rheoliad y Comisiwn yn gosod gofynion ar gyfer cyfansoddiad a labelu deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad tuag at glwten a deunyddiau bwyd eraill sy'n addas i bobl ag anoddefiad tuag at glwten, yn benodol parthed defnyddio'r termau “very low gluten” a “gluten-free”.

3.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn darparu bod person sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd (rheoliad 3(1));

(b)yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 3(2));

(c)yn pennu'r awdurdod gorfodi (rheoliad 3(3));

(ch)yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys parthed deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad tuag at glwten a osodir ar y farchnad fanwerthu p'un ai a fyddant wedi'u pecynnu'n barod fel y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 10(2) o Gyfarwyddeb 2009/39/EC (rheoliad 4) ai peidio; a

(d)yn darparu ar gyfer cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5).

4.  Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol parthed costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, mewn perthynas â Chymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol sydd â chyfrifoldeb yn eu tro dros iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru, ac, mewn perthynas â'r Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol), i'r graddau maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac a drosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(4)

OJ Rhif L16, 21.1.2009, t.3.

(6)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(7)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(8)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w benodi.

(9)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(10)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources