Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy'n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy'n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

  • ystyr “darpariaeth benodedig” (“specified provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn sydd wedi'i phennu yng Ngholofn 1 o'r Atodlen ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng Ngholofn 2 o'r Atodlen;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; ac

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 sy'n ymwneud â chyfansoddiad a labelu deunyddiau bwyd sy'n addas i bobl ag anoddefiad tuag at glwten (1).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.

(4Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(2) i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(3), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;

rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y neilltuoliwyd hwy iddo.

Tramgwyddau, cosbau a gweithredu a gorfodi

3.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth benodedig yn euog o dramgwydd.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso'r darpariaethau penodedig

4.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r darpariaethau penodedig yn gymwys i ddeunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad tuag at glwten a osodir ar y farchnad fanwerthu p'un ai a fyddant wedi'u pecynnu'n barod ai peidio.

Cymhwyso amryfal adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

5.  Mae'r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(4), gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran tramgwydd o dan reoliad 3(1) fel y maent yn gymwys o ran tramgwydd o dan adran 14 neu 15 ac y bernir bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “labelling, advertising or presentation”;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(5), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(f)adran 35(2) a (3)(6), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(7); ac

(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2010

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources