- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon ac eithrio i'r graddau y mae Asiantaeth yr Amgylchedd neu berson arall yn atebol dros gynnal unrhyw waith o'r fath ac nad ydynt yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny drwy arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn, yna o'r adeg y cychwynnir adeiladu'r gweithfeydd penodedig rhaid i'r ymgymerwr gynnal a chadw unrhyw waith traenio mewn cyflwr a chywair da ac yn rhydd rhag rhwystrau pan fo'r gwaith hwnnw wedi'i leoli o fewn terfynau'r gwyriad neu ar dir yn naliadaeth yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd penodedig neu mewn cysylltiad â hwy, bydded y gwaith traenio hwnnw wedi'i adeiladu o dan y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu boed eisoes mewn bodolaeth.
(2) Os oes unrhyw waith traenio o'r fath y mae'r ymgymerwr yn atebol dros ei gynnal a'i gadw heb fod yn cael ei gynnal a'i gadw er boddhad rhesymol Asiantaeth yr Amgylchedd, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r ymgymerwr drwsio ac adfer y gwaith, neu unrhyw ran o'r cyfryw waith, neu (os yw'r ymgymerwr yn dewis gwneud hynny a bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cydsynio'n ysgrifenedig, a rhaid peidio â dal y cydsyniad hwnnw yn ôl yn afresymol), i symud y gwaith ymaith ac adfer y safle i'r cyflwr yr oedd ynddo gynt, i'r fath raddau ac o fewn y fath derfynau ag sy'n rhesymol ofynnol gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff 8, os yw'r ymgymerwr, o fewn cyfnod rhesymol heb fod yn llai na 28 niwrnod sy'n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir i'r ymgymerwr hysbysiad ynglŷn ag unrhyw waith o dan is-baragraff (2), wedi methu â dechrau cymryd camau i gydymffurfio â gofynion rhesymol yr hysbysiad, ac yna heb symud ymlaen yn rhesymol ddi-ymdroi tuag at eu rhoi ar waith, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd wneud yr hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio o'r fath a chaniateir i'r Asiantaeth adennill unrhyw wariant a ddygir yn rhesymol ganddi wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.
(4) Os cyfyd unrhyw anghydfod parthed pa mor rhesymol yw unrhyw ofyniad mewn hysbysiad a gyflwynwyd o dan is-baragraff (2), rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd beidio, ac eithrio mewn argyfwng, ag arfer y pwerau a roddir gan is-baragraff (3) uchod hyd nes bod dyfarniad terfynol wedi ei wneud ar yr anghydfod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: