- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Caiff yr ymgymerwr wneud defnydd o unrhyw gwrs dŵr neu draen i ddraenio dŵr mewn cysylltiad ag adeiladu neu gynnal a chadw'r gweithfeydd awdurdodedig, ac at y diben hwnnw caiff osod, codi neu altro pibellau, a chaiff, ar unrhyw dir o fewn terfynau'r Gorchymyn, dorri agoriadau i mewn i'r cwrs dŵr neu i'r draen, a gwneud cysylltiadau â hwy.
(2) Rhaid i'r ymgymerwr beidio â gollwng unrhyw ddŵr i unrhyw gwrs dŵr, na thraen ac eithrio gyda chydsyniad y sawl y mae'n perthyn iddo; a chaniateir rhoi'r cydsyniad hwnnw ar y fath delerau ac amodau a osodir yn rhesymol gan y person hwnnw, ond rhaid iddo beidio â'i ddal yn ôl yn afresymol.
(3) Rhaid i'r ymgymerwr beidio â thorri agoriad i mewn i unrhyw draen ac eithrio—
(a)yn unol â phlaniau a gymeradwywyd gan y sawl y mae'r draen yn perthyn iddo, ond rhaid iddo beidio â dal yn ôl y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol; a
(b)pan fo'r person hwnnw wedi cael cyfle i oruchwylio torri'r agoriad.
(4) Rhaid i'r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, beidio â difrodi nac ymyrryd â gwely na glannau unrhyw gwrs dŵr sy'n ffurfio rhan o brif afon.
(5) Rhaid i'r ymgymerwr gymryd y fath gamau ag sydd yn rhesymol ymarferol i sicrhau bod unrhyw ddŵr a ollyngir i gwrs dŵr neu draen o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mor rhydd ag sy'n ymarferol rhag gro, pridd neu sylwedd solet arall, olew neu fater sydd mewn daliant.
(6) Nid yw'r erthygl hon yn awdurdodi i unrhyw fater fynd i mewn i ddyfroedd rheoledig pan fo ei fynd i mewn neu ei ollwng i ddyfroedd rheoledig wedi ei wahardd gan adran 85(1), (2) neu (3) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1).
(7) Os yw person sy'n cael cais am gydsyniad o dan baragraff (2) neu am gymeradwyaeth o dan baragraff (3)(a) yn methu â hysbysu'r ymgymerwr o'i benderfyniad cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y gwnaed y cais arno, bernir bod y person hwnnw wedi rhoi'r cydsyniad neu'r gymeradwyaeth, yn ôl y digwydd.
(8) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “traen” (“drain”) yw traen sy'n perthyn i Asiantaeth yr Amgylchedd, bwrdd traenio mewnol, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru; a
(b)mae i ymadroddion eraill, ac eithrio cyrsiau dŵr, a ddefnyddir yn nhestun Saesneg yr erthygl hon ac yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: