- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 3
1.—(1) Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â thramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 os yw'r tabl yn yr Atodlen honno yn dangos bod cosb o'r fath yn bosibl ar gyfer y tramgwydd hwnnw.
(2) Cyn gwneud hynny rhaid i'r rheoleiddiwr fod wedi'i fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.
(3) Swm y gosb sydd i'w dalu i'r rhoeleiddiwr fel “cosb ariannol benodedig” yw £100 yn achos unigolyn neu £300 yn achos corff corfforaethol.
2.—(1) Pan fo rheoleiddiwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i'r rheoleiddiwr gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig;
(b)swm y gosb;
(c)datganiad y gall y rhwymedigaeth ynglŷn â'r gosb gael ei chyflawni drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law;
(ch)gwybodaeth am y canlynol—
(i)effaith y taliad cyflawni hwnnw;
(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(iii)yr amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gofyniad odanynt (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ynglŷn â'r tramgwydd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas ag ef).
3. Mae'r gosb wedi'i chyflawni os bydd person sy'n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law.
4. Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law, i'r rheoleiddiwr mewn perthynas â'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig.
5.—(1) Os na fydd y person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn cyflawni'r rhwymedigaeth o fewn 28 diwrnod caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol yn gosod cosb ariannol benodedig.
(2) Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson os yw'r rheoleiddiwr wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(3) Ni chaiff rheoleiddiwr sy'n cyflwyno hysbysiad terfynol ynglŷn â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r tramgwydd.
6. Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaethtam y canlynol—
(a)swm y gosb;
(b)y seiliau dros osod y gosb;
(c)sut y gellir talu;
(ch)y cyfnod o 56 diwrnod y mae'n rhaid talu ynddo;
(d)manylion y disgowntiau talu cynnar a'r cosbau talu hwyr;
(dd)hawliau i apelio; ac
(e)canlyniadau peidio â thalu.
7. Os cyflwynodd person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo sylwadau neu wrthwynebiadau ynghylch yr hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw gyflawni'r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law.
8.—(1) Caiff y person sy'n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(ch)unrhyw reswm tebyg arall.
9.—(1) Rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn 56 diwrnod ar ôl i'r hysbysiad terfynol ddod i law.
(2) Os na thelir y gosb o fewn 56 diwrnod mae'r swm sy'n daladwy yn cynyddu 50%.
(3) Yn achos apêl mae'n daladwy o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r apêl gael ei phenderfynu (os yw'r apêl yn aflwyddiannus) ac os nad yw'n cael ei thalu o fewn 28 diwrnod mae swm y gosb yn cynyddu 50%.
10.—(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ynglŷn â chosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol ynglŷn â'r tramgwydd yn erbyn y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ef cyn 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr hysbysiad o fwriad i law, a
(b)os bydd y person hwnnw yn cyflawni'r rhwymedigaeth fel hyn, ni chaniateir i'r person hwnnw gael ei gollfarnu ar unrhyw adeg o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.
(2) Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gosb.
Erthygl 3
1.—(1) Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod—
(a)gofyniad bod rhaid talu cosb ariannol i reoleiddiwr o unrhyw swm a bennir gan y rheoleiddiwr (“cosb ariannol newidiol”);
(b)gofyniad bod rhaid cymryd unrhyw gamau a bennir gan reoleiddiwr, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau na fydd y tramgwydd yn parhau neu'n ailddigwydd (“hysbysiad cydymffurfio”);
(c)gofyniad bod rhaid cymryd unrhyw gamau a bennir gan reoleiddiwr, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau bod y sefyllfa, cyn belled ag y bo modd, yn cael ei hadfer i'r hyn a fuasai pe na bai'r tramgwydd wedi'i gyflawni (“hysbysiad adfer”),
neu unrhyw gyfuniad o'r gofynion hyn, mewn perthynas â thramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 os yw'r tabl yn yr Atodlen honno'n dangos bod cosb neu hysbysiad o'r fath yn bosibl ar gyfer y tramgwydd hwnnw.
(2) Cyn gwneud hynny rhaid i'r rheoleiddiwr fod wedi'i fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.
(3) Ni chaniateir i ofyniad o dan y paragraff hwn gael ei osod ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.
(4) Pan osodir cosb ariannol newidiol mewn perthynas â thramgwydd a all—
(a)cael ei brofi'n ddiannod yn unig, a
(b)cael ei gosbi ar gollfarn ddiannod drwy ddirwy (p'un a all gael ei gosbi drwy gyfnod o garchar hefyd neu beidio),
ni chaniateir i swm y gosb ariannol newidiol fod yn fwy nag uchafswm y ddirwy honno.
(5) Cyn cyflwyno hysbysiad ynglŷn â chosb ariannol newidiol caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i'r person ddarparu unrhyw wybodaeth sy'n rhesymol er mwyn pennu swm unrhyw fudd ariannol a gafwyd o ganlyniad i'r tramgwydd.
2.—(1) Pan fo rheoleiddiwr yn bwriadu gosod gofyniad o dan yr Atodlen hon i berson, rhaid i'r rheoleiddiwr gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Yn achos hysbysiad adfer neu hysbysiad cydymffurfio arfaethedig rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)seiliau'r hysbysiad arfaethedig;
(b)gofyniad yr hysbysiad;
(c)gwybodaeth am y canlynol—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(ii)yr amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod yr hysbysiad odanynt (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ynglŷn â'r tramgwydd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas ag ef).
(3) Yn achos cosb ariannol newidiol arfaethedig rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros osod y gosb ariannol newidiol;
(b)swm y gosb;
(c)gwybodaeth am y canlynol—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(ii)yr amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb odanynt (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ynglŷn â'r tramgwydd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas ag ef).
3. Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law, i'r rheoleiddiwr mewn perthynas â'r bwriad i osod cosb ariannol newidiol, hysbysiad adfer neu hysbysiad cydymffurfio.
4.—(1) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymrwymiad ynglŷn â chamau i'w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson yr effeithiwyd arno gan y tramgwydd (“ymrwymiad trydydd parti”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod ymrwymiad trydydd parti o'r fath.
5.—(1) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i'r rheoleiddiwr benderfynu a ddylid—
(a)gosod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)gosod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr bŵer i'w osod o dan yr Atodlenhon.
(2) Wrth benderfynu, rhaid i'r rheoleiddiwr gymryd i ystyriaeth unrhyw ymrwymiad trydydd parti y mae'n ei dderbyn.
(3) Pan fo'r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i'r hysbysiad sy'n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 6 neu 7.
(4) Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson os yw'r rheoleiddiwr wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
6. Rhaid i hysbysiad terfynol ynglŷn â chosb ariannol newidiol gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)y seiliau dros osod y gosb;
(b)y swm sydd i'w dalu;
(c)sut y gellir talu;
(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo, y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 diwrnod;
(d)hawliau i apelio; ac
(dd)canlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.
7. Rhaid i hysbysiad terfynol ynglŷn â hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;
(b)pa waith cydymffurfio neu adfer sy'n ofynnol a'r cyfnod y mae'n rhaid iddo gael ei gwblhau ynddo;
(c)yr hawliau i apelio; ac
(ch)canlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.
8.—(1) Caiff y person sy'n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)yn achos cosb ariannol newidiol, bod swm y gosb yn afresymol;
(ch)yn achos gofyniad anariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;
(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(dd)unrhyw reswm tebyg arall.
9.—(1) Os bydd—
(a)cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer yn cael ei osod ar unrhyw berson, neu
(b)ymrwymiad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth unrhyw berson,
ni chaniateir i'r person hwnnw gael ei gollfarnu ar unrhyw adeg o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gosb ariannol newidiol, yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer neu'r ymrwymiad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
(2) Yr achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yw achos—
(a)lle mae hysbysiad adfer neu hysbysiad cydymffurfio wedi'i osod ar berson neu lle mae ymrwymiad trydydd parti wedi'i dderbyn oddi wrth berson,
(b)lle nad oes cosb ariannol newidiol wedi'i osod ar y person hwnnw, ac
(c)lle mae'r person hwnnw'n methu â chydymffurfio â'r hysbysiad adfer, yr hysbysiad cydymffurfio neu'r ymrwymiad trydydd parti.
(3) Caniateir i achos troseddol ynglŷn â thramgwyddau a all gael eu profi'n ddiannod y mae hysbysiad neu ymrwymiad yn is-baragraff (2) yn ymwneud â hwy gael ei ddechrau ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o'r dyddiad y mae'r rheoleiddiwr yn hysbysu'r person fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â'r hysbysiad neu'r ymrwymiad hwnnw.
Erthygl 3
1.—(1) Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â thramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 os yw'r tabl yn yr Atodlen honno'n dangos bod hysbysiad o'r fath yn bosibl ar gyfer y tramgwydd hwnnw.
(2) Dim ond mewn achos sy'n syrthio o fewn is-baragraff (3) neu (4) y caniateir i hysbysiad stop gael ei gyflwyno.
(3) Achos sy'n syrthio o fewn yr is-baragraff hwn yw achos—
(a)lle mae'r person yn cyflawni'r gweithgaredd,
(b)lle mae'r rheoleiddiwr yn credu'n rhesymol bod y gweithgaredd fel y mae'n cael ei gyflawni gan y person hwnnw yn achosi, neu'n creu risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), ac
(c)lle mae'r rheoleiddiwr yn credu'n rhesymol bod y gweithgaredd fel y mae'n cael ei gyflawni gan y person hwnnw yn cynnwys neu'n debyg o gynnwys cyflawni tramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 gan y person hwnnw.
(4) Achos sy'n syrthio o fewn yr is-baragraff hwn yw achos lle mae'r rheoleiddiwr yn credu'n rhesymol—
(a)bod y person yn debyg o gyflawni'r gweithgaredd,
(b)y bydd y gweithgaredd fel y mae'n debyg o gael ei gyflawni gan y person hwnnw yn achosi, neu'n creu risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), ac
(c)y bydd y gweithgaredd fel y mae'n debyg o gael ei gyflawni gan y person hwnnw yn cynnwys neu'n debyg o gynnwys cyflawni tramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 gan y person hwnnw.
(5) Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (3)(b) a (4)(b) yw—
(a)iechyd pobl,
(b)yr amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid a phlanhigion).
2. Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)y seiliau dros gyflwyno'r hysbysiad stop;
(b)y camau y mae'n rhaid i'r person eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r hysbysiad stop;
(c)hawliau i apelio; ac
(ch)canlyniadau diffyg cydymffurfio.
3.—(1) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gyflwyno.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(ch)bod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;
(d)nad yw'r person wedi cyflawni'r tramgwydd ac na fyddai wedi'i gyflawni pe na bai'r hysbysiad stop wedi'i gyflwyno;
(dd)na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd pe na bai'r hysbysiad stop wedi'i gyflwyno;
(e)unrhyw reswm tebyg arall.
4.—(1) Pan fo'r rheoleiddiwr wedi'i fodloni, ar ôl i hysbysiad stop gael ei gyflwyno, fod y person wedi cymryd y camau a bennwyd yn yr hysbysiad, rhaid i'r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i'r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).
(2) Mae effaith yr hysbysiad stop yn dod i ben pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.
(3) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad stop iddo wneud cais ar unrhyw adeg am dystysgrif gwblhau.
(4) Rhaid i'r rheoleiddiwr benderfynu a ddylid dyroddi tystysgrif gwblhau o fewn 14 diwrnod o gais o'r fath.
(5) Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y sail—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol;
(ch)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.
5.—(1) Rhaid i reoleiddiwr dalu iawndal i berson am golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau os yw'r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i'r hysbysiad neu'r gwrthodiad ac—
(a)bod yr hysbysiad stop yn cael ei dynnu'n ôl neu ei ddiwygio wedyn gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i'w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;
(b)bod y person yn apelio'n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu ei bod yn afresymol cyflwyno'r hysbysiad; neu
(c)bod y person yn apelio'n llwyddiannus yn erbyn gwrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys yn dyfarnu ei bod yn afresymol gwrthod.
(2) Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarndalu iawndal neu yn erbyn penderfyniad pennu swm yr iawndal—
(a)ar y sail bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;
(b)ar y sail bod y swm a gynigiwyd wedi'i seilio ar ffeithiau anghywir;
(c)am unrhyw reswm tebyg arall.
6.—(1) Pan na fo person y mae hysbysiad stop wedi ei ddyroddi iddo yn cydymffurfio ag ef o fewn y terfynau amser a bennwyd yn yr hysbysiad, mae'r person yn euog o dramgwydd ac yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy nag £20,000, neu i garchar am gyfnod nad yw'n fwy na deuddeng mis, neu'r ddau, neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu'r ddau.
(2) Wrth gymhwyso'r paragraff hwn mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(1) gychwyn mae'r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at ddeuddeng mis i'w ddarllen fel cyfeiriad at chwe mis.
Erthygl 3
1. Caiff rheoleiddiwr dderbyn ymrwymiad gorfodi oddi wrth berson mewn achos lle mae gan y rheoleiddiwr seiliau rhesymol dros amau bod y person wedi cyflawni tramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 a bod y tabl yn yr Atodlen honno'n dangos y caniateir derbyn ymrwymiad gorfodi mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw.
2.—(1) Rhaid i ymrwymiad gorfodi fod yn ysgrifenedig a rhaid pennu—
(a)camau i sicrhau na fydd y tramgwydd yn parhau neu'n ailddigwydd,
(b)camau i sicrhau bod y sefyllfa, cyn belled ag y bo modd, yn cael ei hadfer i'r hyn a fuasai pe na bai'r tramgwydd wedi'i gyflawni,
(c)camau (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson yr effeithiwyd arno gan y tramgwydd, neu
(ch)lle nad oes modd adfer y niwed sy'n codi o'r tramgwydd, camau a fydd yn sicrhau budd neu welliant cyfatebol i'r amgylchedd.
(2) Rhaid iddo bennu'r cyfnod y mae'n rhaid cymryd y camau ynddo.
(3) Rhaid iddo gynnwys—
(a)datganiad bod yr ymrwymiad yn cael ei wneud yn unol â'r Atodlen hon;
(b)telerau'r ymrwymiad;
(c)sut a pha bryd y bernir bod person wedi cyflawni'r ymrwymiad.
(4) Caniateir i'r ymrwymiad gorfodi gael ei amrywio, neu i'r cyfnod y mae'n rhaid cwblhau'r camau ynddo gael ei ymestyn, os bydd y ddau barti'n cytuno mewn ysgrifen.
3. Os oes rheoleiddiwr wedi derbyn ymrwymiad gorfodi yna, oni bai bod y person y derbyniwyd yr ymrwymiad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â'r ymrwymiad neu ag unrhyw ran ohono—
(a)ni chaniateir i'r person hwnnw gael ei gollfarnu ar unrhyw adeg o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r ymrwymiad yn ymwneud â hi neu ef;
(b)ni chaiff y rheoleiddiwr osod ar y person hwnnw unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio na hysbysiad adfer mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.
4.—(1) Rhaid i reoleiddiwr sefydlu a chyhoeddi'r weithdrefn ar gyfer gwneud ymrwymiad gorfodi.
(2) Rhaid i'r rheoleiddiwr ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol cyn gwneud hynny.
(3) Wrth dderbyn ymrwymiad caiff y rheoleiddiwr ei gyhoeddi ym mha fodd bynnag y mae'n barnu ei fod yn addas.
5.—(1) Rhaid i reoleiddiwr sydd wedi'i fodloni y cydymffurfiwyd ag ymrwymiad gorfodi ddyroddi tystysgrif i'r perwyl hwnnw.
(2) Caiff rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i'r person sydd wedi rhoi'r ymrwymiad ddarparu digon o wybodaeth i benderfynu y cydymffurfiwyd â'r ymrwymiad.
(3) Caiff y person a roddodd yr ymrwymiad wneud cais am dystysgrif o'r fath ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i'r rheoleiddiwr benderfynu a ddylid dyroddi tystysgrif o'r fath, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad i'r ceisydd, o fewn 14 diwrnod o gais o'r fath.
(5) Caiff y person y rhoddir yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif ar y sail bod y penderfyniad—
(a)wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)yn annheg neu'n afresymol;
(ch)yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.
6.—(1) Bernir bod person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas ag ymrwymiad gorfodi heb gydymffurfio ag ef.
(2) Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiddymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 5 os cafodd ei dyroddi ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol.
7.—(1) Os na chydymffurfir ag ymrwymiad gorfodi caiff y rheoleiddiwr naill ai—
(a)cyflwyno hysbysiad cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer, neu
(b)dwyn achos troseddol
mewn perthynas â'r tramgwydd perthnasol.
(2) Os oes person wedi cydymffurfio'n rhannol ond nid yn llawn ag ymrwymiad, rhaid i'r cydymffurfio rhannol hwnnw gael ei gymryd i ystyriaeth wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu unrhyw sancsiwn arall ar y person.
(3) Caniateir i achos troseddol ar gyfer tramgwyddau a all gael eu profi'n ddiannod ac y mae ymrwymiad gorfodi'n ymwneud â hwy gael ei ddechrau ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o'r dyddiad y mae'r rheoleiddiwr yn hysbysu'r person fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â'r ymrwymiad hwnnw.
Erthygl 4
Yn y tabl canlynol—
cosb ariannol benodedig yw “CAB”;
cosb ariannol newidiol yw “CAN”;
hysbysiad cydymffurfio yw “HC”;
hysbysiad adfer yw “HA”;
hysbysiad stop yw “HS”;
ymrwymiad gorfodi yw “YG”.
Y ddarpariaeth sy'n creu'r tramgwydd | CAB | CAN | HC | HA | HS | YG |
---|---|---|---|---|---|---|
Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975(2) | ||||||
adran 2(1) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 2(2) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 2(4) | Nage | Ie | Nage | Ie | Ie | Ie |
adran 4(1) | Nage | Ie | Nage | Ie | Ie | Ie |
adran 5(4) | Nage | Ie | Nage | Ie | Ie | Ie |
adran 9(2) | Nage | Ie | Nage | Ie | Nage | Ie |
adran 12(1) | Nage | Ie | Nage | Ie | Ie | Ie |
adran 12(3) | Nage | Ie | Nage | Ie | Ie | Ie |
adran 13(2) | Nage | Ie | Nage | Ie | Ie | Ie |
adran 14(8) | Nage | Ie | Nage | Ie | Ie | Ie |
adran 15(2) | Nage | Ie | Nage | Ie | Ie | Ie |
adran 18(1) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 27 | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 31(2) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
Deddf Eogiaid 1986(3) | ||||||
adran 32 | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(4) | ||||||
adran 33(6) | Nage | Nage | Nage | Nage | Ie | Nage |
adran 71(3) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
Deddf Adnoddau Dŵr 1991(5) | ||||||
adran 24(4)(a) | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie |
adran 24(4)(b) | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie |
adran 25(2)(a) | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie |
adran 25(2)(b) | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie |
adran 25C | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 80(1) | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie |
adran 80(2) | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie |
adran 161D(1) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 199(4) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 201(3) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 202(4) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 206(1) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 206(3) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 206(3A) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 206(4) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
Atodlen 20, paragraff 7 | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
Deddf y Diwydiant Dŵr 1991(6) | ||||||
adran 120(9) | Ie | Ie | Ie | Ie | Nage | Ie |
adran 130(7) | Ie | Ie | Ie | Ie | Nage | Ie |
adran 133(5) | Nage | Ie | Nage | Ie | Nage | Nage |
adran 135A(2)(a) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
Deddf Traenio Tir 1991(7) | ||||||
adran 53(2) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 64(6) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 69(4) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
DeddfyrAmgylchedd 1995(8) | ||||||
adran 110(1) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 110(2)(a) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 110(2)(b) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 110(2)(c) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
adran 110(3) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
Deddf Dŵr2003(9) | ||||||
adran 4(4) | Nage | Ie | Nage | Nage | Nage | Nage |
1975 p. 51; diwygiwyd adran 2(1) gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23), adran 216(1), (2)(a) a (b); diwygiwyd adran 2(2) gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, adran 216(1), (3)(a) a (b); diwygiwyd adran 4(1) gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 adran 321, Atodlen 22, Rhan 5 (B); amnewidiwyd adran 14(8) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), adran 105, Atodlen 15, paragraff 13; diwygiwyd adran 15(2) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 105, Atodlen 15, paragraff 14(2); diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 adran 233(1), Atodlen 16, paragraffau 1 ac 11.
1986 p. 62; diwygiwyd adran 32 gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 adrannau 229 a 321, Atodlen 22, Rhan 5(B).
1990 p. 43; diwygiwyd adran 33(6) gan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007 (O.S. 2007/3538), rheoliadau 73, 74(2), Atodlen 21, Rhan 1, paragraffau 2, 4(1), (5) ac Atodlen 23; diwygiwyd adran 71(3) gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16), adran 46(2)(b) a chan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adrannau 112, 120, Atodlen 19, paragraff 4(2) ac Atodlen 24.
1991 p. 57; diwygiwyd adran 25(2)(b) gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) adrannau 2(1), (3), 101(2) ac Atodlen 9, Rhan 1; mewnosodwyd adran 25C gan Ddeddf Dŵr 2003 adran 30; diwygiwyd adran 80(1) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 141(a); diwygiwyd adran 80(2) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraffau 141(b) ac (c); mewnosodwyd adran 161D gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 162; diwygiwyd adran 199(4) gan Ddeddf Dŵr 2003 adrannau 8(1) a 5(b); amnewidiwyd adran 201(3) gan Ddeddf Dŵr 2003 adran 70; diwygiwyd adran 202(4) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraffau 128 a 172(1); amnewidiwyd adran 206(1) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 112, Atodlen 19, paragraff 5(2) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003 adran 101(1), Atodlen 7, Rhan 1, paragraffau 1 ac 11; mewnosodwyd adran 206(3A) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 112, Atodlen 19, paragraff 5(4); diwygiwyd Atodlen 20, paragraff 7 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 188.
1991 p. 56; amnewidiwyd adran 120(9) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 105(4); amnewidiwyd adran 130(7) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 108(3); amnewidiwyd adran 133(5) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 111; mewnosodwyd adran 135A(2)(a) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 113.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: