Search Legislation

Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cosbau diffyg cydymffurfio

7.—(1Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymrwymiad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw yn gosod cosb ariannol (“cosb diffyg cydymffurfio”) mewn perthynas â'r un tramgwydd ni waeth a gafodd cosb ariannol newidiol ei gosod hefyd neu beidio mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw.

(2Rhaid i swm y gosb gael ei phennu gan y rheoleiddiwr, a rhaid iddo fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad neu'r ymrwymiad trydydd parti.

(3Rhaid i'r ganran gael ei phennu gan y rheoleiddiwr gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos ac, os yw'n briodol, gall fod yn 100%.

(4Rhaid i'r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am y canlynol—

(a)y seiliau dros osod y gosb diffyg cydymffurfio;

(b)y swm sydd i'w dalu;

(c)sut y mae'n rhaid talu;

(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo, y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 diwrnod;

(d)yr hawl i apelio;

(dd)canlyniadau methu â thalu yn y cyfnod penodedig;

(e)unrhyw amgylchiadau y gallai'r rheoleiddiwr ostwng swm y gosb odanynt.

(5Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu'r hysbysiad adfer neu os cyflawnir ymrwymiad trydydd parti cyn yr amser sydd wedi'i bennu ar gyfer talu'r gosb diffyg cydymffurfio, nid yw'r gosb yn daladwy.

(6Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad sy'n gosod y gosb diffyg cydymffurfio apelio yn ei erbyn.

(7Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm;

(ch)bod swm y gosb yn afresymol;

(d)unrhyw reswm tebyg arall.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources