- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
HADAU, CYMRU
Gwnaed
13 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym
9 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(1).
Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhai yr effeithir arnynt.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 9 Awst 2010.
2.—(1) Mae Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)yn lle'r diffiniad o “oats” rhodder—
““oats” means plants of the species Avena nuda L. and Avena sativa L” ;
(b)yn lle'r diffiniad o “triticale” rhodder—
““triticale” means plants of the species xTriticosecale Wittm. Ex A. Camus (which are hybrids resulting from the crossing of a species of the genus Triticum and a species of the genus Secale)”;
(c)yn lle'r diffiniad o “wheat” rhodder—
““wheat” means plants of the species Triticum aestivum L.”; ac
(ch)yn lle'r diffiniad o “wild oats” rhodder—
““wild oats” means plants of the species Avena fatua and Avena sterilis”.
(3) Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff 12(2) yn lle “Agropyron repens” rhodder “Elytrigia repens”;
(b)ym mharagraff 13(1) yn y tabl ar gyfer “(i) barley” rhodder “(i) barley (other than CS, C1 and C2 seed of barley officially classified as being of a naked barley type)”; ac
(c)ym mharagraff 13(1) yn y tabl ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod “(b) CS, C1 and C2 seed of oats officially classified as being of a naked oak type” mewnosoder y rhes ganlynol—
(ba)CS, C1 and C2 seed of barley officially classified as being of a naked barley type | 75 |
.
(4) Yn Atodlen 8 ym mharagraffau 1(e), 9(l) a 14(b)(ix) ar ôl “oats” mewnosoder “or barley” ac ar ôl “naked oat” mewnosoder “or a naked barley”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)yn lle'r diffiniad o “festulolium”, rhodder—
““festulolium” means plants of the species xFestulolium Asch. & Graebn. which are hybrids resulting from the crossing of a species of the genus Festuca with a species of the genus Lolium”;
(b)yn y diffiniad o “fine grasses” ar ôl “Schedule 2” mewnosoder “and plants of the species Poaceae (Graminae)”;
(c)ar ôl y diffiniad o “fine grasses” mewnosoder y diffiniad canlynol—
““fine leaved sheep’s fescue” means plants of the species Festuca filiformis Pourr.”;
(ch)ar ôl y diffiniad o “fodder radish” mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
““hard fescue” means plants of the species Festuca trachyphylla (Hack.) Krajina”;
(d)yn y diffiniad o “large seeded legumes” ar ôl “Schedule 2” mewnosoder “and plants of the species Fabaceae (Leguminosae)”;
(dd)yn y diffiniad o “meadow fescue” yn lle “Hudson” rhodder “Huds”;
(e)yn y diffiniad o “small Timothy” yn lle “bertolonii DC” rhodder “nodosum L”; ac
(f)yn y diffiniad o “tall oatgrass” yn lle “J. and C. Presl” rhodder “P. Beauv. Ex J. Presl & C. Presl”.
(3) Ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar ôl “(b) cocksfoot” mewnosoder “(ba) fine leaved sheep’s fescue” a “(bb) hard fescue”.
(4) Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff 4 yn y tabl ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod (“2. Fodder grasses”) “b. cocksfoot” mewnosoder y rhesi a ganlyn—
(ba)Fine leaved sheep’s fescue | 85 | Not applicable |
(bb)Hard fescue | 85 | Not applicable |
;
(b)ym mharagraff 5(2) ar ôl y cofnod “festulolium” mewnosoder y cofnodion “(ba) fine leaved sheep’s fescue” a “(bb) hard fescue”;
(c)ym mharagraff 7 yn lle “Agropyron repens” rhodder “Elytrigia repens”;
(ch)ym mharagraff 9(1) hepgorer “; Avena ludoviciana”; a
(d)yn lle paragraff 12(2) rhodder y diffiniad canlynol—
“12—(2) In the case of C1 seed of lupins, the percentage by number of seeds of another colour must not exceed 4.0 % for bitter lupins and 2.0 % for other lupins”.
(dd)ym mharagraff 14 yn y tabl ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod (“2. Fodder grasses”) “b. cocksfoot” mewnosoder y rhesi a ganlyn—
(ba)Fine leaved sheep’s fescue | 75 | Not applicable |
(bb)Hard fescue | 75 | Not applicable |
.
(5) Yn Atodlen 7 yn y tabl—
(a)ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod (“2. Fodder grasses”) “b. cocksfoot” mewnosoder y rhesi a ganlyn—
(ba)Fine leaved sheep’s fescue | 10 | 100 | 30 |
(bb)Hardfescue | 10 | 100 | 30 |
; a
(b)yn lle rhesi 4 (Codlysiau â hadau mawr) (a), (b), (c), (d), (e), (f), (g) ac (h), rhodder “30” yn lle pob cofnod rhifol yn yr ail golofn.
(6) Yn Atodlen 10 yn y tabl mewnosoder y rhesi a ganlyn yn y mannau priodol—
Fine leaved sheep’s fescue | Regulation 3 |
Hard fescue | Regulation 3 |
4.—(1) Mae Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)yn y diffiniad o “black mustard” yn lle “Koch” rhodder “W.D.J. Koch”; a
(b)yn y diffiniad o “brown mustard” yn lle “Czernj.” rhodder “Czern.”.
(3) Yn Atodlen 7 yn y cofnod ar y tabl lle y mae “soya bean” yn ymddangos yn y golofn gyntaf, yn ail golofn y cofnod hwnnw rhodder “30” yn lle “25”.
5.—(1) Mae Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(1) o Atodlen 4 ar ôl y rhes â'r llythrennau “cc” mewnosoder y rhes ganlynol—
(dd)sweet corn of the supersweet type | 80 |
(3) Yn Atodlen 7 yn y rhesi lle y mae “2(b) French bean”, “2(c) runner bean” a “23 (pea)” yn ymddangos yn y golofn gyntaf, rhodder “30” yn lle pob cofnod rhifol yn yr ail golofn.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC ddyddiedig 26 Mehefin 2009 (“Cyfarwyddeb 2009”) o ran Cymru. Mae Cyfarwyddeb 2009 yn diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 2002/55/EC a 2002/57/EC parthed enwau botanegol planhigion, enwau gwyddonol organeddau eraill ac Atodiadau penodol i Gyfarwyddebau 66/401/EEC, 66/402/EEC, a 2002/57/EC yng ngoleuni datblygiadau ym maes gwybodaeth wyddonol a thechnegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005, O.S. 2005/3036 (Cy.224) i adlewyrchu newidiadau yn null enwi rhywogaethau penodol, ac i leihau'r safon egino sy'n ofynnol ar gyfer haidd moel.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005, O.S. 2005/1207 (Cy.79) i adlewyrchu newidiadau yn null enwi rhywogaethau penodol, ac i wneud newidiadau canlyniadol sy'n angenrheidiol i'r Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004, O.S. 2004/2881 (Cy.251) i adlewyrchu newidiadau yn null enwi rhywogaethau penodol o fwstard, a thrwy gynyddu uchafswm pwysau lot hadau ar gyfer ffa soia i 30 tunnell.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005, O.S. 2005/3035 (Cy.223) i adlewyrchu newidiadau yn null enwi rhywogaethau penodol, ac i leihau'r safon egino sy'n ofynnol ar gyfer india-corn tra melys.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei wneud ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio o gwbl ar gostau busnes.
1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi (p.68), O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986. Gweler adran 31(1) am ddiffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 2, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn trosglwyddo 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 oAtodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
O.S. 2005/3036 (Cy.224), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/1356 (Cy.131).
O.S. 2005/1207 (Cy.79), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/1356 (Cy.131).
O.S. 2004/2881 (Cy.251), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/1356 (Cy.131).
O.S. 2005/3035 (Cy.223), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2007/2747 (Cy.230).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: