- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “y Rheoliadau Adolygu” (“Review Regulations”) yw Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(1);
ystyr “teulu” (“a family”) yw teulu y mae wedi ei atgyfeirio gan awdurdod lleol i'w dîm integredig cymorth i deuluoedd ac yr hysbyswyd ei aelodau y byddant yn cael eu cefnogi gan y tîm;
ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yn cymryd rhan yn ei sefydlu yn unol ag a.57 o Fesur 2010.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol adolygu achos pob teulu yn unol â'r Rheoliadau hyn tra bo'r teulu yn cael ei gefnogi gan ei dîm integredig cymorth i deuluoedd.
(2) Pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn cael ei sefydlu ar y cyd gan ragor nag un awdurdod lleol, yna mae'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i'r awdurdod lleol lle y mae'r plentyn yn byw ac mae unrhyw drefniadau dros dro i'r plentyn fyw i ffwrdd i'w diystyried at y diben hwn.
(3) Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn yn gymwys o ran achos teulu pan fo un neu ragor o'r plant yn y teulu yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu'n cael ei letya neu eu lletya gan yr awdurdod lleol ac y mae achos y plentyn hwnnw (neu'r plant hynny) yn ddarostyngedig i adolygiad o dan Reoliadau Adolygu.
3.—(1) Rhaid i bob achos gael ei adolygu am y tro cyntaf cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad pryd y caiff y teulu ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm integredig cymorth i deuluoedd.
(2) Rhaid cynnal yr ail adolygiad cyn pen tri mis ar ôl yr adolygiad cyntaf ac ar ôl hynny rhaid cynnal adolygiadau dilynol cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn rhwystro awdurdod lleol rhag adolygu'r achos cyn pen yr amseroedd a bennir ym mharagraff (1) neu (2).
4.—(1) Rhaid i awdurdod lleol nodi yn ysgrifenedig sut y mae achos pob teulu i'w adolygu a rhaid iddo drefnu bod hyn ar gael i'r personau a bennir yn rheoliad 6(1).
(2) Rhaid i awdurdod lleol y mae ei dîm integredig cymorth i deuluoedd yn cefnogi teulu wneud trefniadau i gyd-drefnu gweithrediad pob agwedd ar yr adolygiad.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i gyd-drefnu pob agwedd ar yr adolygiad.
(4) Rhaid i'r materion i ymdrin â hwy ym mhob adolygiad achos, i'r graddau y mae'n ymarferol, gynnwys yr elfennau a bennir yn Atodlen 1.
(5) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal cynnal unrhyw adolygiad o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw adolygiad, asesiad neu ystyriaeth arall o dan unrhyw ddarpariaeth arall ar yr un pryd.
5. Yr ystyriaethau y mae'n rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, dalu sylw iddynt wrth adolygu pob achos yw'r ystyriaethau cyffredinol a bennir yn Atodlen 2.
6.—(1) Cyn cynnal unrhyw adolygiad, rhaid i awdurdod lleol, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, geisio barn ac ystyried barn—
(a)plant y teulu;
(b)y rhieni;
(c)unrhyw berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;
(ch)aelodau'r tîm integredig cymorth i deuluoedd; a
(d)unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol;
yn enwedig, o ran y materion sydd i ymdrin â hwy yn ystod yr adolygiad.
(2) Rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gynnwys y personau y ceisir eu barn o dan baragraff (1) yn yr adolygiad, a phan fo'r awdurdod yn ystyried bod hynny'n briodol, eu gwahodd i fod yn bresennol mewn rhan neu'r cyfan ohono.
(3) Rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, wneud canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddo o ganlyniad i'r adolygiad yn hysbys i—
(a)plant y teulu;
(b)y rhieni;
(c)unrhyw berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;
(ch)y tîm integredig cymorth i deuluoedd; ac
(d)unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried y dylai gael ei hysbysu.
7. Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu unrhyw benderfyniad y mae'n ei gymryd o ganlyniad i adolygiad, p'un ai drwy wneud trefniadau ei hun neu drwy wneud trefniadau â bwrdd iechyd lleol neu ag unrhyw berson arall.
8. Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod ysgrifenedig o—
(a)gwybodaeth a geir at ddibenion adolygiad;
(b)unrhyw gyfarfod a drefnir gan yr awdurdod o flaen neu o ganlyniad i unrhyw agwedd ar adolygiad yr achos hwnnw; ac
(c)manylion canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniadau a wneir gan yr awdurdod o ganlyniad i'r adolygiad.
9.—(1) Ym mharagraff (2) o reoliad 1 o'r Rheoliadau Adolygu (Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso) mewnosoder y diffiniad a ganlyn —
“ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yn cymryd rhan yn ei sefydlu yn unol ag adran 57 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;”.
(2) Yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau Adolygu (Amser pan fo'n rhaid adolygu pob achos), ym mharagraff (3) dileer y geiriau “swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny” a mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—
“(a)swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny, neu,
(b)os yw'r plentyn wedi ei gynnwys mewn grŵp teulu y mae ei achos wedi ei atgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd ac os yw'r teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm.”
(3) (a) Ar ôl rheoliad 6 o'r Rheoliadau Adolygu mewnosoder y rheoliad a ganlyn—
“Ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn ymgysylltu
6A Yr ystyriaethau a bennir yn Atodlen 4 yw'r ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn sy'n rhan o deulu a gefnogir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd.”
(b)Bydd gan Atodlen 3 (sy'n mewnosod Atodlen 4 newydd yn y Rheoliadau Adolygu) yn effeithiol.
(4) Yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau Adolygu (Ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu), ym mharagraff (1), ar ddiwedd is-baragraff (ch) dileer y gair “a” ac ychwaneger yr is-baragraff a ganlyn—
“(chch)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o'r tîm hwnnw; a”.
(5) Yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau Adolygu, ym mharagraff (3), ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer y gair “a” ac ychwaneger yr is-baragraff a ganlyn–
“(chch)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o'r tîm hwnnw; a”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2010
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: