- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Gwnaed
8 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mehefin 2010
Yn dod i rym
26 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 161(3) a (4), 167(2) a 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(2); a
(b)ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.
2. 26 Gorffennaf 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf 2008—
(a)adran 129, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 130(1), ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 13 i 15 a 76 o Ddeddf 1984 yn peidio â chael effaith;
(c)adran 130(2);
(ch)adran 166, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau o Ran 3 o Atodlen 15 a gychwynnir gan baragraff (dd);
(d)Atodlen 11; ac
(dd)Rhan 3 o Atodlen 15 ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 13 i 15 a 76 o Ddeddf 1984.
3. Mae'r darpariaethau trosiannol ac arbed a bennir yn Atodlen 1 yn cael effaith.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2010
Erthygl 3
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “y Rheoliadau Hysbysu” (“the Notification Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010(3); ac
ystyr “y Rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol” (“the Local Authority Powers Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010(4).
2. Mae adran 9 o Ddeddf 1984 (llongau ar ddyfroedd mewndirol neu arfordirol) yn parhau mewn grym at ddibenion adran 13 o Ddeddf 1984 (rheoliadau ar gyfer rheoli clefydau penodol) (er gwaethaf diddymu adran 9 gan Ddeddf 2008).
3.—(1) Pan fo—
(a)dyletswydd ar ymarferydd meddygol cofrestredig o dan adran 11 o Ddeddf 1984 (adrodd am achosion o glefyd hysbysadwy a gwenwyn bwyd) wedi codi cyn 26 Gorffennaf 2010 ond heb ei chyflawni cyn y dyddiad hwnnw; a
(b)y ddyletswydd honno yn gysylltiedig â chlefyd hysbysadwy a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysu (Clefydau a Syndromau Hysbysadwy),
rhaid i'r ymarferydd meddygol cofrestredig gydymffurfio â rheoliad 2 o'r Rheoliadau Hysbysu (dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion).
(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin yr ymarferydd meddygol cofrestredig fel pe bai wedi ffurfio amheuaeth o dan reoliad 2(1) o'r rheoliadau Hysbysu ar 26 Gorffennaf 2010.
4.—(1) Pan fo—
(a)swyddog priodol awdurdod lleol wedi cael tystysgrif yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf 1984 (adrodd am achosion o glefyd hysbysadwy a gwenwyn bwyd);
(b)y swyddog priodol heb gyflawni'r ddyletswydd o anfon copïau o'r dystysgrif honno at bartïon penodedig eraill o dan adran 11(3) o'r Ddeddf honno(5) cyn 26 Gorffennaf 2010; ac
(c)y dystysgrif yn ymwneud â chlefyd hysbysadwy a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysu (Clefydau a Syndromau Hysbysadwy),
rhaid trin y dystysgrif honno fel hysbysiad a anfonwyd o dan reoliad 2 o'r Rheoliadau Hysbysu (dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion).
(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin y swyddog priodol fel pe bai wedi cael yr hysbysiad ar 26 Gorffennaf 2010.
5. Pan fo—
(a)swyddog priodol awdurdod lleol wedi gwneud cais o dan adran 20 o Ddeddf 1984(6) (atal gwaith er mwyn rhwystro clefyd rhag lledaenu); a
(b)pan na chydymffurfiwyd â'r cais hwnnw cyn 26 Gorffennaf 2010 a'r cais heb ddod i ben nac wedi ei dynnu'n ôl,
rhaid trin y cais fe cais a wnaed o dan reoliad 8 o'r rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol (ceisiadau am gydweithredu at ddibenion diogelu iechyd).
6. Pan fo—
(a)hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson sydd â gofal am blentyn, o dan adran 21 o Ddeddf 1984 (allgáu plentyn o'r ysgol os yw'n dueddol o drosglwyddo clefyd hysbysadwy); a
(b)tystysgrif hed ei dyroddi gan swyddog priodol cyn 26 Gorffennaf 2010 mewn perthynas â'r hysbysiad hwnnw,
bydd adran 21 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr hysbysiad (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).
7. Mewn achos—
(a)pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi gofyn i bennaeth ysgol ddarparu rhestr o enwau a chyfeiriadau disgyblion o dan adran 22 o Ddeddf 1984(7) (rhestr o ddisgyblion dydd mewn ysgol sydd ag achos o glefyd hysbysadwy);
(b)pan nad yw'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r cais wedi dod i ben; ac
(c)pan na chydymffurfiwyd â'r cais cyn 26 Gorffennaf 2010,
rhaid trin y cais fel cais a wnaed o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol (gofyniad i ddarparu manylion am blant sy'n mynychu ysgol).
8. Pan fo—
(a)yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad i feddiannydd o dan adran 31 o Ddeddf 1984 (diheintio mangre); a
(b)y camau a bennwyd gan yr awdurdod lleol yn ei hysbysiad heb eu cyflawni gan yr awdurdod lleol na'r meddiannydd cyn 26 Gorffennaf 2010,
bydd adran 31 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr hysbysiad (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).
9. Yn union cyn 26 Gorffennaf 2010, os oes gorchymyn mewn grym, a wnaed gan ynad heddwch o dan un neu ragor o adrannau 35 i 38 a 40 o Ddeddf 1984(8) (sy'n ymwneud â gorchmynion ynadon heddwch)—
(a)rhaid trin y gorchymyn fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 45G (pŵer i orchymyn mesurau iechyd mewn perthynas â phersonau) ac, os cyfunwyd y gorchymyn â gwarant, adran 45K (gorchmynion Rhan 2A: atodol) o Ddeddf 1984;
(b)bydd y gorchymyn yn peidio â bod mewn grym ar ôl cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 26 Gorffennaf 2010, neu ar ôl pa bynnag gyfnod byrrach a bennir yn y gorchymyn; ac
(c)ni chaniateir estyn y gorchymyn, ond nid yw hynny'n rhwystro ynad heddwch rhag gwneud gorchymyn newydd o dan adrannau 45G neu 45K o Ddeddf 1984, yn ôl fel y digwydd.
10. Yn union cyn 26 Gorffennaf 2010, os oes gorchymyn mewn grym, a wnaed gan lys ynadon o dan adran 42 o Ddeddf 1984 (cau llety cyffredinol oherwydd clefyd hysbysadwy)—
(a)rhaid trin y gorchymyn fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 45I o Ddeddf 1984 (pŵer i orchymyn mesurau iechyd mewn perthynas â mangre);
(b)bydd y gorchymyn yn peidio â bod mewn grym ar ôl cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 26 Gorffennaf 2010 (neu ar ôl pa bynnag gyfnod byrrach a bennir yn y gorchymyn); ac
(c)ni chaniateir estyn y gorchymyn, ond nid yw hynny'n rhwystro ynad heddwch rhag gwneud gorchymyn newydd o dan adran 45I o Ddeddf 1984.
11. Pan fo—
(a)swyddog priodol awdurdod lleol neu ymarferydd meddygol cofrestredig wedi ardystio, o dan adran 43 o Ddeddf 1984 (person â chlefyd hysbysadwy, a fu farw mewn ysbyty), na ddylid symud corff marw o ysbyty ac eithrio at y diben o'i symud yn uniongyrchol i gorffdy neu i'w gladdu neu'i amlosgi yn ddi-oed; a
(b)y corff sy'n destun yn ardystiad yn parhau yn yr ysbyty hwnnw yn union cyn 26 Gorffennaf 2010,
bydd adran 43 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr ardystiad a'r corff (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).
12. Bydd unrhyw ddiffiniad yn adran 74 o Ddeddf 1984 (9) (dehongli) a ddefnyddir yn—
(a)adrannau 13 i 15 neu 76 o Ddeddf 1984; neu
(b)unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf 1984 sy'n parhau mewn grym at ddibenion penodedig yn rhinwedd paragraffau 2 i 11 o'r Atodlen hon,
yn parhau mewn grym at ddibenion dehongli'r adrannau a'r darpariaethau hynny (er gwaethaf eu diddymu, a diddymu adran 74 o Ddeddf 1984, gan Ddeddf 2008).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 26 Gorffennaf 2010, rai darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (“y Ddeddf”) sy'n diwygio Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae'r rhain yn cynnwys pwerau diwygiedig ac ehangach i ddiogelu iechyd drwy wneud rheoliadau ynglŷn â lledaenu heintiau a halogi o ganlyniad i deithio rhyngwladol, ac ar gyfer darpariaeth ddomestig i ddiogelu rhag, ac ymateb i, heintio a halogi. Darperir pwerau newydd i ynadon heddwch, i wneud gorchmynion sy'n gorfodi cymryd camau i ddiogelu iechyd mewn perthynas â phersonau, pethau a mangreoedd. Bydd modd i ynadon heddwch roi cyfarwyddyd hefyd i weithredu ym mha bynnag fodd sy'n briodol er mwyn cyflawni eu gorchmynion. Gwneir addasiadau i'r hawliau mynediad a'r trefniadau gorfodi mewn perthynas â mesurau diogelu iechyd. Yn ychwanegol, gwneir nifer o ddarpariaethau trosiannol ac arbedion, yn bennaf ynglŷn â'r gofynion hysbysu o dan y ddeddfwriaeth flaenorol.
Nodyn ynghylch gorchmynion cychwyn blaenorol
Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
adran 140 (yn rhannol) | 21 Mai 2010 | 2010/1457 (Cy.130) |
adran 166 (yn rhannol) | 21 Mai 2010 | 2010/1457 (Cy.130) |
Rhan 2 o Atodlen 12 | 21 Mai 2010 | 2010/1457 (Cy.130) |
Rhan 4 o Atodlen 15 (yn rhannol) | 21 Mai 2010 | 2010/1457 (Cy.130) |
adran148 | 19 Ebrill 2010 | 2010/989 (Cy.98) |
adran 147 | 6 Ebrill 2009 | 2009/631 (Cy.57) |
adran 166 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 5 o Atodlen 15) | 6 Ebrill 2009 | 2009/631 (Cy.57) |
Atodlen 13 | 6 Ebrill 2009 | 2009/631 (Cy.57) |
Rhan 5 o Atodlen 15 | 6 Ebrill 2009 | 2009/631 (Cy.57) |
2008 p.14. Gweler adran 171(2) o'r Ddeddf honno am ddiffiniad o “appropriate authority”, sy'n berthnasol i'r pŵer a arferir.
Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 11(3) gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), Atodlen 2, Rhan 2, paragraffau 50(1) a (2).
Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 20 gan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16), Atodlen 3, paragraff 28.
Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 22 yn rhinwedd Proclamasiwn Brenhinol dyddiedig 31 Rhagfyr 1984 a oedd yn diddymu'r ddimai.
Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 37 gan: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19), Atodlen 9, paragraff 26(2), Atodlen 10; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), Atodlen 4, paragraffau 60 a 62; O.S. 2000/90, Atodlen 1, paragraff 17(1) a (4)(b); O.S. 2002/2469, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff (11)(1) a (4)(a) a (b); ac O.S. 2007/961, yr Atodlen, paragraff 14(1) a (6)(a) a (b).
Cyn ei ddiddymu, diwygiwyd y diffiniad o “NHS Trust”, a roddir yn adran 74, gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43), Atodlen 1, paragraffau 78 a 79. Nid yw'r diwygiadau eraill i adran 74 yn berthnasol yma.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: