- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Gwnaed
8 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mehefin 2010
Yn dod i rym
at ddiben pob rheoliad ac eithrio rheoliad 4
26 Gorffennaf 2010
at ddiben rheoliad 4
1 Hydref 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 13, 45C(1), (2) a (3)(a), 45F(2)(a) a (b), 45P(2) a 60A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru yn datgan eu bod o'r farn nad yw'r Rheoliadau hyn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o'r Ddeddf honno ac sy'n gosod, neu'n galluogi gosod, cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sydd, neu a fyddai, yn effeithio'n arwyddocaol ar hawliau person.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010, a deuant i rym–
(a)at ddibenion pob rheoliad ac eithrio rheoliad 4, ar 26 Gorffennaf 2010; a
(b)at ddibenion rheoliad 4, ar 1 Hydref 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Rhaid i ymarferydd meddygol cofrestredig (R) hysbysu swyddog priodol(2) yr awdurdod lleol perthnasol pan fo sail resymol gan R dros amau, yn achos claf (P) a wasanaethir gan R—
(a)bod P yn dioddef o glefyd hysbysadwy;
(b)bod gan P haint(3) sydd, neu a allai, ym marn R, beri niwed arwyddocaol i iechyd dynol; neu
(c)bod P wedi ei halogi(4) mewn modd sydd, neu a allai, ym marn R, beri niwed arwyddocaol i iechyd dynol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i'r graddau y mae'n hysbys i R—
(a)enw P, ei ddyddiad geni a'i ryw;
(b)cyfeiriad cartref P, gan gynnwys y cod post;
(c)preswylfa bresennol P (os yw'n wahanol i'w gyfeiriad gartref);
(ch)rhif teleffon P;
(d)rhif GIG P;
(dd)galwedigaeth P;
(e)enw, cyfeiriad a chod post gweithle P neu'r man lle y'i haddysgir (os yw R yn ystyried hynny'n berthnasol);
(f)hanes perthnasol teithiau tramor P;
(ff)ethnigrwydd P;
(g)manylion cyswllt rhiant P (os plentyn yw P);
(ng)y clefyd neu'r haint sydd gan P, neu'r amheuir sydd ganddo, neu natur ei halogiad, neu'r halogiad a amheuir;
(h)dyddiad cychwyn symptomau P;
(i)dyddiad y diagnosis gan R; ac
(j)enw, cyfeiriad a rhif teleffon R.
(3) Rhaid darparu'r hysbysiad mewn ysgrifen, o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan fo R yn ffurfio amheuaeth o dan baragraff (1).
(4) Heb ragfarnu paragraff (3), os yw R o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid darparu hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i R roi sylw i—
(a)natur y clefyd, haint neu halogiad a amheuir;
(b)rhwyddineb lledaenu'r clefyd, haint neu halogiad hwnnw;
(c)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y clefyd, haint neu halogiad hwnnw; ac
(ch)amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys os yw R yn credu'n rhesymol bod swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei hysbysu eisoes ynglŷn â P a'r clefyd, haint neu halogiad a amheuir, gan ymarferydd meddygol cofrestredig arall yn unol â'r rheoliad hwn.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol yr oedd R yn gwasanaethu P yn ei ardal, ar yr achlysur pan ffurfiodd amheuaeth o dan baragraff (1);
ystyr “clefyd hysbysadwy” (“notifiable disease”) yw clefyd neu syndrom a restrir yn Atodlen 1;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 mlwydd oed; ac
y mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf Addysg 1996(5).
3.—(1) Rhaid i ymarferydd meddygol cofrestredig (R) hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol pan fo sail resymol gan R dros amau y bu farw person (P) a wasanaethid gan R, tra oedd P—
(a)wedi ei heintio â chlefyd hysbysadwy;
(b)wedi ei heintio â chlefyd sydd, ym marn R, yn peri, neu y gallai beri, neu a oedd yn peri, neu y gallai fod wedi peri (tra oedd P yn fyw), niwed arwyddocaol i iechyd dynol; neu
(c)wedi ei halogi mewn modd sydd, ym marn R, yn peri, neu y gallai beri, neu a oedd yn peri, neu y gallai fod wedi peri (tra oedd P yn fyw), niwed arwyddocaol i iechyd dynol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i'r graddau y mae'n hysbys i R—
(a)enw P, ei ddyddiad geni a'i ryw;
(b)dyddiad marwolaeth P;
(c)cyfeiriad cartref P, gan gynnwys y cod post;
(ch)preswylfa P ar yr adeg y bu farw (os yw'n wahanol i gyfeiriad ei gartref);
(d)rhif GIG P;
(dd)galwedigaeth P ar yr adeg y bu farw (os yw R yn ystyried hynny'n berthnasol);
(e)enw, cyfeiriad a chod post gweithle P neu'r man lle y'i haddysgid ar yr adeg y bu farw (os yw R yn ystyried hynny'n berthnasol);
(f)hanes perthnasol teithiau tramor P;
(ff)ethnigrwydd P;
(g)y clefyd neu'r haint a oedd gan P, neu'r amheuir a oedd ganddo, neu natur ei halogiad, neu'r halogiad a amheuir;
(ng)dyddiad cychwyn symptomau P;
(h)dyddiad y diagnosis gan R; ac
(i)enw, cyfeiriad a rhif teleffon R.
(3) Rhaid darparu'r hysbysiad mewn ysgrifen, o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan fo R yn ffurfio'i amheuaeth o dan baragraff (1).
(4) Heb ragfarnu paragraff (3), os yw R o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid darparu hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i R roi sylw i—
(a)natur y clefyd, haint neu halogiad a amheuir;
(b)rhwyddineb lledaenu'r clefyd, haint neu halogiad hwnnw;
(c)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y clefyd, haint neu halogiad hwnnw; ac
(ch)amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys os yw R yn credu'n rhesymol bod swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei hysbysu eisoes ynglŷn â P a'r clefyd, haint neu halogiad a amheuir, gan ymarferydd meddygol cofrestredig arall yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 2(1).
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol yr oedd R yn gwasanaethu P yn ei ardal, ar yr achlysur pan ffurfiodd amheuaeth o dan baragraff (1); ac
y mae i “clefyd hysbysadwy” (“notifiable disease”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 2.
4.—(1) Rhaid i weithredwr labordy diagnostig hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol yn unol â'r rheoliad hwn pan fo labordy diagnostig yn canfod cyfrwng achosol mewn sampl ddynol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i'r graddau y mae'n hysbys i weithredwr y labordy diagnostig—
(a)enw a chyfeiriad y labordy diagnostig;
(b)manylion y cyfrwng achosol a ganfuwyd;
(c)dyddiad y sampl;
(ch)natur y sampl;
(d)enw'r person (P) y cymerwyd y sampl ohono;
(dd)dyddiad geni a rhyw P;
(e)cyfeiriad cartref presennol P, gan gynnwys y cod post;
(f)preswylfa bresennol P (os yw'n wahanol i gyfeiriad ei gartref);
(ff)ethnigrwydd P;
(g)rhif GIG P; ac
(ng)enw, cyfeiriad a sefydliad y person a ofynnodd am gynnal y prawf a ganfu'r cyfrwng achosol.
(3) Rhaid darparu'r hysbysiad mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y canfyddir y cyfrwng achosol.
(4) Heb ragfarnu paragraff (3), os yw gweithredwr y labordy diagnostig o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid darparu hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i weithredwr y labordy diagnostig roi sylw i–
(a)natur y cyfrwng achosol;
(b)natur y clefyd a achosir gan y cyfrwng achosol;
(c)rhwyddineb lledaenu'r cyfrwng achosol;
(ch)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y cyfrwng achosol; a
(d)os ydynt yn hysbys, amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys os yw gweithredwr y labordy diagnostig yn credu'n rhesymol bod swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei hysbysu eisoes yn unol â'r rheoliad hwn gan weithredwr labordy diagnostig arall, ynghylch canfod yr un cyfrwng achosol mewn sampl a gymerwyd o'r un person.
(7) At ddibenion paragraff (1), mae labordy diagnostig yn canfod cyfrwng achosol—
(a)pan fo'r labordy diagnostig hwnnw yn canfod y cyfrwng achosol; neu
(b)pan ganfyddir y cyfrwng achosol gan labordy arall, o dan drefniant a wnaed gyda'r labordy diagnostig hwnnw.
(8) Pan fo paragraff (7)(b) yn gymwys, y diwrnod pan ganfyddir y cyfrwng achosol at ddibenion paragraff (3), yw'r diwrnod pan ddaw'r labordy diagnostig yn ymwybodol o ganfyddiad y labordy arall.
(9) Mae gweithredwr labordy diagnostig sy'n methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn, heb esgus rhesymol, yn cyflawni tramgwydd.
(10) Mae unrhyw berson sy'n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(11) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol y lleolir yn ei ardal sefydliad y person a ofynnodd am gynnal y prawf a ganfu'r cyfrwng achosol;
ystyr “cyfarwyddwr labordy diagnostig” (“director of a diagnostic laboratory”) yw—
y microbiolegydd clinigol, patholegydd ymgynghorol neu ymarferydd meddygol cofrestredig arall neu berson arall sydd â gofal o labordy diagnostig; neu
unrhyw berson arall sy'n gweithio yn y labordy diagnostig ac y dirprwywyd iddo'r swyddogaeth o wneud hysbysiad o dan y rheoliad hwn, gan y person a grybwyllir yn is-baragraff (a);
ystyr “cyfrwng achosol” (“causative agent”) yw—
cyfrwng achosol a restrir yn Atodlen 2, neu
tystiolaeth o haint a achoswyd gan gyfrwng o'r fath;
ystyr “gweithredwr labordy diagnostig” (“operator of a diagnostic laboratory”) yw'r corff corfforaethol sy'n gweithredu'r labordy diagnostig, neu os nad oes corff o'r fath, cyfarwyddwr y labordy diagnostig; ac
ystyr “labordy diagnostig” (“diagnostic laboratory”) yw sefydliad (neu gyfleuster o fewn sefydliad) sydd â chyfarpar a sylweddau adweithiol i gyflawni profion diagnostig ar gyfer heintiau dynol.
5.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hysbysiad wedi ei roi gan weithredwr labordy diagnostig i'r swyddog priodol o dan reoliad 4.
(2) Caiff y swyddog priodol ofyn am i'r person (R), a ofynnodd am gynnal y prawf labordy a ganfu'r cyfrwng achosol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ddarparu i'r swyddog priodol yr wybodaeth a restrir yn rheoliad 4(2), i'r graddau na chynhwyswyd yr wybodaeth honno yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i R ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani o dan baragraff (2) i'r graddau y mae'n hysbys i R.
(4) Rhaid darparu'r wybodaeth mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y gwneir y cais.
(5) Heb ragfarnu paragraff (4), os yw'r swyddog priodol o'r farn bod yr achos yn achos brys, ac yn hysbysu R o hynny wrth wneud y cais, rhaid darparu'r wybodaeth ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(6) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i'r swyddog priodol roi sylw i—
(a)natur y cyfrwng achosol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b)natur y clefyd a achosir gan y cyfrwng achosol;
(c)rhwyddineb lledaenu'r cyfrwng achosol;
(ch)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y cyfrwng achosol; a
(d)os ydynt yn hysbys, amgylchiadau'r person y cymerwyd y sampl ohono (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
(7) Yn y rheoliad hwn, mae i “cyfrwng achosol” (“causative agent”) yr un ystyr ag sydd iddo yn rheoliad 4(11).
6.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r swyddog priodol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 2, 3 neu 4.
(2) Rhaid i'r swyddog priodol ddatgelu'r ffaith iddo gael yr hysbysiad yn ogystal â chynnwys yr hysbysiad i'r canlynol—
(a)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(6);
(b)swyddog priodol yr awdurdod lleol y mae P fel arfer yn preswylio yn ei ardal (os yw'n wahanol); ac
(c)swyddog priodol yr awdurdod iechyd porthladd neu awdurdod lleol, y lleolir neu y lleolwyd yn ei ranbarth neu'i ardal unrhyw long, hofrenfad, awyren neu drên rhyngwladol y daeth P oddi arni neu oddi arno (os yw hynny'n hysbys i'r swyddog priodol sy'n datgelu ac os yw'r swyddog hwnnw'n tybio bod datgelu felly yn briodol).
(3) Rhaid gwneud y datgeliad mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y mae'r swyddog priodol yn cael yr hysbysiad.
(4) Heb ragfarnu paragraff (3), os yw'r swyddog priodol sy'n datgelu o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid gwneud datgeliad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i'r swyddog priodol sy'n datgelu roi sylw i—
(a)natur y clefyd, haint neu halogiad neu'r amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad y cyfeirir ato yn yr hysbysiad;
(b)rhwyddineb lledaenu'r clefyd, haint neu halogiad;
(c)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y clefyd, haint neu halogiad; ac
(ch)os ydynt yn hysbys, amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
7.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—
(a)hysbysiadau a ddarperir o dan reoliadau 2(1), 3(1) a 4(1);
(b)gwybodaeth a ddarperir o dan reoliad 5(3);
(c)datgeliadau a wneir o dan reoliad 6(2);
(ch)rhestrau a ddarperir o dan reoliad 3 (gofyniad i ddarparu manylion am blant sy'n mynychu ysgol) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010(7); a
(d)adroddiadau a ddarperir o dan reoliadau 10(1) (dyletswydd i roi adroddiad am geisiadau Rhan 2A) ac 11(1) (dyletswydd i roi adroddiad am amrywiadau neu ddirymiadau o orchmynion Rhan 2A) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A) (Cymru) 2010(8).
(2) Ceir defnyddio cyfathrebu electronig i roi hysbysiadau, gwybodaeth, datgeliadau, rhestrau ac adroddiadau y mae'n ofynnol eu rhoi mewn ysgrifen—
(a)os yw'r derbynnydd wedi cydsynio mewn ysgrifen i gael yr hysbysiad, gwybodaeth, datgeliad, rhestr neu adroddiad (yn ôl fel y digwydd) mewn cyfathrebiad electronig; a
(b)os anfonir y cyfathrebiad i'r rhif neu'r cyfeiriad a bennwyd gan y derbynnydd wrth roi'r cydsyniad hwnnw.
8. Dirymir y Rheoliadau a restrir yn Atodlen 3.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2010
Rheoliadau 2(7)
Anthracs
Botwliaeth
Brwselosis
Clefyd streptococol grŵp A mewnwthiol a'r dwymyn goch
Clefyd y llengfilwyr
Clwy'r pennau
Colera
Difftheria
Dolur rhydd gwaedlyd heintus
Y dwymyn felen
Enceffalitis (aciwt)
Gwahanglwyf
Y frech goch
Y frech wen
Gwenwyn bwyd
Y gynddaredd
Hepatitis heintus (aciwt)
Llid yr ymennydd (aciwt)
Malaria
Y pas
Y pla
Poliomyelitis (aciwt)
Rwbela
Septisemia meningococol
Syndrom anadlu aciwt difrifol (SARS)
Syndrom wremig hemolytig (HUS)
Tetanws
Twbercwlosis
Twymyn enterig (twymyn tyffoid neu paratyffoid)
Twymyn gwaedlifol firysol (VHF)
Tyffws
Rheoliadau 4(11) a 5(7)
Bacillus anthracis
Bacillus cereus (os yw'n gysylltiedig â gwenwyn bwyd, yn unig)
Bordetella pertussis
Borrelia spp
Brucella spp
Burkholderia mallei
Burkholderia pseudomallei
Campylobacter spp
Chlamydophila psittaci
Clostridium botulinum
Clostridium perfringens (os yw'n gysylltiedig â gwenwyn bwyd, yn unig)
Clostridium tetani
Coronafirws y syndrom anadlu aciwt difrifol (SARS)
Corynebacterium diphtheriae
Corynebacterium ulcerans
Coxiella burnetii
Cryptosporidium spp
Cymhlygyn Mycobacterium tuberculosis
Entamoeba histolytica
Escherichia coli vero-cytotocsigenig (gan gynnwys E.coli O157)
Firws Chikungunya
Firws clefyd Coedwig Kyasanur
Firws clwy'r pennau
Firws Dengue
Firws Ebola
Firws Gorllewin Nîl
Firws Guanarito
Firws Hanta
Firws Junin
Firws Lassa
Firws Machupo
Firws Marburg
Firws polio (mathau gwyllt neu frechiadol)
Firws Rwbela
Firws Sabia
Firws twymyn waedlifol Crimea-Congo
Firws twymyn waedlifol Omsk
Firws twymyn y Dyffryn Hollt
Firws varicella zoster
Firws variola
Firws y dwymyn felen
Firws y ffliw
Firws y frech goch
Firws y gynddaredd (y gynddaredd glasurol) a lysafirysau cynddaredd-berthynol
Firysau Hepatitis A, B, C, delta, ac E
Francisella tularensis
Giardia lamblia
Haemophilus influenzae (mewnwthiol)
Legionella spp
Leptospira interrogans
Listeria monocytogenes
Neisseria meningitidis
Plasmodium falciparum, vivax, ovale, malariae, knowlesi
Rickettsia spp
Salmonella spp
Shigella spp
Streptococcus pneumoniae (mewnwthiol)
Streptococcus pyogenes (mewnwthiol)
Vibrio cholerae
Yersinia pestis
Rheoliad 8
1. Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Atal Twbercwlosis) 1925(9).
2. Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Clefydau Heintus) 1988(10).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn gosod dyletswyddau ar wahanol bersonau i ddatgelu gwybodaeth i drydydd partïon penodedig, at y diben o atal, rheoli neu ddiogelu rhag heintiau neu ledaenu heintiau neu halogi, ac at y diben o ymateb i'r cyfryw o safbwynt iechyd y cyhoedd.
Mae rheoliad 2 yn gosod dyletswydd ar ymarferwyr meddygol cofrestredig i hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol os tybiant fod claf a wasanaethir ganddynt yn dioddef o glefyd a restrir yn Atodlen 1, neu wedi ei heintio neu ei halogi rywfodd arall, mewn modd a allai achosi niwed arwyddocaol i eraill. Mae rheoliad 3 yn estyn y ddyletswydd honno drwy gynnwys dyletswydd i hysbysu ynghylch clefyd, haint neu halogiad mewn corff marw.
Mae rheoliad 4 yn gosod dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol os canfyddant un o'r cyfryngau achosol a restrir yn Atodlen 2, neu dystiolaeth o gyfrwng o'r fath, mewn sampl ddynol. Mae rheoliad 5 yn galluogi'r swyddog priodol i geisio cael, gan y person a ofynnodd am y prawf labordy, gwybodaeth benodedig nas darparwyd gan weithredwr y labordy diagnostig, ac yn gosod dyletswydd ar y cyfryw berson i ddarparu'r wybodaeth honno os yw'n hysbys.
Mae rheoliad 6 yn gosod dyletswydd ar y swyddog priodol i ddatgelu hysbysiadau o dan reoliadau 2, 3 neu 4 i gyrff penodedig eraill sydd â rôl diogelu iechyd.
Mae rheoliad 7 yn galluogi anfon dogfennau penodedig yn electronig os bodlonir amodau penodol.
Mae rheoliad 8 yn dirymu 2 set o reoliadau.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei wneud o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r asesiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1984 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 13, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 a throsglwyddwyd hwy wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Gweler adran 45T(6) o'r Ddeddf honno am ddiffiniad o “the appropriate Minister”. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F, 45P a 45T yn y Ddeddf honno gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14) (“Deddf 2008”), a mewnosodwyd adran 60A yn y Ddeddf gan adran 130 ac Atodlen 11, paragraff 16 o Ddeddf 2008.
Gweler adran 74 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p.22) (“Deddf 1984”) am y diffiniad o “proper officer”.
Gweler adran 45A o Ddeddf 1984 am y dehongliad o “infection”.
Gweler adran 45A o Ddeddf 1984 am y dehongliad o “contamination” ac ymadroddion perthynol.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru gan O.S. 2009/2058 (Cy.177).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: