- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 4(1)
1. Dyma'r gofynion sydd i'w bodloni mewn perthynas â system storio slyri.
2. Rhaid i sylfaen y tanc storio slyri, sylfaen a muriau unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.
3. Rhaid i sylfaen a muriau y tanc storio slyri, sylfaen ac unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod wedi'u diogelu rhag cyrydiad yn unol â pharagraff 7 o'r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993(1).
4. Rhaid i sylfaen a muriau y tanc storio slyri ac unrhyw bydew derbyn allu gwrthsefyll llwythi nodweddiadol sydd wedi'u cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 5 o'r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993.
5.—(1) Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—
(a)yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol i danc storio slyri) sy'n debygol o gael ei gynhyrchu ar y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod; neu
(b)swm llai y mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cytuno'n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd dan reolaeth.
(2) Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o'r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i'r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid bod yna ddigon o le yn y tanc storio slyri ar gyfer storio'r symiau tebygol o slyri a gynhyrchir o bryd i'w gilydd ar y fangre dan sylw, gan gymryd i ystyriaeth—
(a)y dull arfaethedig o ddefnyddio'r slyri, a graddfeydd ac adegau tebygol y defnydd hwnnw; a
(b)y materion a grybwyllir yn is-baragraff (3).
(2) Os bwriedir defnyddio'r slyri ar y fangre drwy ei daenu ar y tir, nid oes rhaid bod gan y tanc fwy o le i storio nag sy'n ddigonol, gan gymryd ystyriaeth o'r materion a grybwyllir yn is-baragraff (3), i ddal yr uchafswm o slyri sy'n debygol o gael ei gynhyrchu mewn unrhyw gyfnod o bedwar mis.
(3) Y materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth ar gyfer is-baragraffau (1) a (2) yw—
(a)faint y gall unrhyw danc storio slyri arall ar y fangre ei ddal;
(b)faint o law (gan gynnwys eira, cenllysg neu eirlaw) sy'n debygol o dywallt neu draenio i mewn i'r tanc storio slyri yn ystod y cyfnod storio hwyaf sy'n debygol; ac
(c)yr angen i ddarparu o leiaf 750 milimedr o fwrdd rhydd yn achos tanc gyda muriau wedi'u gwneud o bridd a 300 milimedr o fwrdd rhydd ym mhob achos arall.
7. Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o'r tanc storio slyri, nac unrhyw danc elifiant na sianelau na phydew derbyn o fewn 10 o fetrau i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai slyri fynd i mewn iddynt petai'n dianc oni chymerir rhagofalon y mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cytuno'n ysgrifenedig eu bod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd dan reolaeth.
8. Rhaid i'r tanc storio slyri ac unrhyw danc elifiant, sianelau, pibellau a phydew derbyn fod wedi'u dylunio a'u hadeiladu fel y'u bod yn debygol, gyda'r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 4 am o leiaf 20 mlynedd.
9. Os nad yw muriau'r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—
(a)ymestyn y tu hwnt i'r muriau;
(b)cael o'i amgylch sianelau sydd wedi'u dylunio a'u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy'n dianc o'r tanc;
(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer traenio'r slyri o'r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os oes pibell draenio wedi'i gosod yn y tanc storio slyri neu yn unrhyw danc elifiant neu bydew derbyn mae'n rhaid bod dwy falf mewn cyfres ar y bibell a bod pellter o o leiaf 1 metr rhwng un falf a'r llall.
(2) Rhaid i bob falf allu cau llif y slyri drwy'r bibell a rhaid eu cadw wedi'u cau ac wedi'u cloi yn y sefyllfa honno pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thanc storio slyri sy'n traenio drwy'r bibell i danc storio slyri arall os yw'r tanc arall yn dal yr un faint neu fwy neu os yw topiau'r tanciau ar yr un lefel â'i gilydd.
11. Yn achos tanc storio slyri gyda muriau o bridd rhaid peidio â llenwi'r tanc hyd at lefel sy'n caniatáu llai na 750 o filimetrau o fwrdd rhydd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 1993. ISBN 0-580-22053-2.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: