Search Legislation

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1493 (Cy.136)

DŴ R, CYMRU

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010

Gwnaed

26 Mai 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Mai 2010

Yn dod i rym

18 Mehefin 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 92 a 219(2)(d) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 18 Mehefin 2010.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae “adeiladu” (“construct”) yn cynnwys gosod;

  • ystyr “Asiantaeth yr Amgylchedd” (“Environment Agency”) yw'r asiantaeth a sefydlwyd o dan Bennod I o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(2);

  • ystyr “da byw” (“livestock”) yw—

    (a)

    anifeiliaid sy'n cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd neu wlân, neu

    (b)

    adar sy'n cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd;

  • ystyr “elifiant silwair” (“silage effluent”) yw elifiant o silwair;

  • ystyr “olew tanwydd” (“fuel oil”) yw olew a fwriedir i'w ddefnyddio fel tanwydd i gynhyrchu gwres neu bŵer ond nid yw'n cynnwys olew a fwriedir i'w ddefnyddio yn unig fel tanwydd i gynhesu tŷ fferm neu fangreoedd preswyl eraill ar fferm ac sy'n cael ei storio ar wahân i olew arall;

  • ystyr “pydew derbyn” (“reception pit”) yw pydew a ddefnyddir i gasglu slyri cyn ei drosglwyddo i danc storio slyri neu i gasglu slyri sy'n cael ei ollwng o danc o'r fath;

  • ystyr “seilo” (“silo”) yw adeiladwaith a ddefnyddir i wneud neu i storio silwair;

  • mae “silwair” (“silage”) yn cynnwys cnwd sy'n cael ei wneud yn silwair;

  • ystyr “slyri” (“slurry”) yw mater hylifol neu led hylifol a'i gynnwys yw—

    (a)

    tail a gynhyrchir gan dda byw tra maent ar fuarth neu mewn adeilad (gan gynnwys da sy'n cael eu cadw mewn corlannau sglodion coed); neu

    (b)

    cymysgedd sy'n cynnwys yn gyfan gwbl neu'n bennaf dail da byw, gwasarn da byw, dŵr glaw a golchion o adeilad neu fuarth a ddefnyddir gan dda byw,

    ac o ddwyster sy'n caniatáu iddo gael ei bwmpio neu ei ollwng drwy ddisgyrchiant ar unrhyw gymal yn y broses o'i drin;

  • mae “tanc storio slyri” (“slurry storage tank”) yn cynnwys lagŵn, pydew (ac eithrio pydew derbyn) neu dŵr sy'n cael ei ddefnyddio i storio slyri.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at system storio slyri yn cynnwys tanc storio slyri ac—

(a)unrhyw bydew derbyn ac unrhyw danc elifiant sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r tanc; a

(b)unrhyw sianelau a phibellau sy'n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r tanc, ag unrhyw bydew derbyn neu unrhyw danc elifiant.

(3Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn i seilo neu danc storio slyri gydymffurfio â Safon Brydeinig (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) os yw'r seilo neu'r tanc yn cydymffurfio â safon neu â manyleb sy'n darparu lefel gyfatebol o warchodaeth a pherfformiad ac sy'n cael ei chydnabod i'w defnyddio mewn Aelod-wladwriaeth, yn Ynys yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu Dwrci.

Gwneud neu storio silwair

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sydd â silwair sy'n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau—

(a)bod y silwair yn cael ei gadw mewn seilo sy'n bodloni gofynion Atodlen 1; neu

(b)fod y silwair yn cael ei gywasgu i fyrnau—

(i)sydd wedi'u lapio a'u selio mewn pilennau anhydraidd, neu wedi'u cau mewn bagiau anhydraidd; a

(ii)sydd wedi'u storio o leiaf 10 o fetrau oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant sy'n dianc o'r byrnau fynd i mewn iddynt; neu

(c)os mai cnwd yw'r silwair sy'n cael ei wneud yn silwair maes (hynny yw, silwair sy'n cael ei wneud ar dir agored drwy ddull gwahanol i'r dull byrnau y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)), neu os mai silwair sy'n cael ei storio ar dir agored ydyw—

(i)bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael ei hysbysu o'r man lle bydd y silwair yn cael ei wneud neu ei storio o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn defnyddio'r fan honno at y pwrpas hwnnw am y tro cyntaf; a

(ii)bod y fan honno o leiaf 10 o fetrau oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol, ac o leiaf 50 o fetrau oddi wrth y lle agosaf y tynnir dŵr perthnasol o unrhyw ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt petai'n dianc.

(2At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), mae ffynhonnell cyflenwi dŵr yn ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig—

(a)os oes unrhyw dynnu dŵr perthnasol o'r ffynhonnell wedi'i drwyddedu o dan Ran II o'r Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991; neu

(b)os yw'r person sy'n gwneud neu'n storio'r silwair yn ymwybodol o leoliad y ffynhonnell—

(i)cyn dechrau ar wneud y silwair; neu

(ii)os gwnaed y silwair mewn man arall, cyn ei storio ar y tir dan sylw.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i silwair tra'i fod yn cael ei storio dros dro mewn cynhwysydd, ôl-gerbyd neu gerbyd mewn cysylltiad â'i gludo o gwmpas y fferm neu fan arall.

(4Rhaid i berson sydd â bwrn silwair dan ei ofal neu ei reolaeth beidio ag agor na symud ymaith yr hyn sy'n lapio'r bwrn o fewn 10 o fedrau i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair, o ganlyniad, fynd i mewn iddynt.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “tynnu dŵr perthnasol” yw tynnu dŵr ar gyfer ei ddefnyddio—

(i)i'w yfed gan bobl; neu

(ii)at ddibenion domestig (o fewn yr ystyr a roddir i “domestic purposes” gan adran 218 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(3)) heblaw at ei yfed gan bobl; neu

(iii)i weithgynhyrchu bwyd neu ddiod i'w fwyta neu i'w yfed gan bobl; a

(b)ystyr “ffynhonnell cyflenwi dŵr” yw dyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd daear y tynnir dŵr perthnasol ohono neu y trwyddedir tynnu dŵr perthnasol ohono.

Storio slyri

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i berson sydd â slyri dan ei ofal neu ei reolaeth ei storio mewn system storio slyri sy'n bodloni gofynion Atodlen 2, a system felly'n unig.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i slyri tra bo'n cael ei storio dros dro mewn tancer sy'n cael ei ddefnyddio i gludo slyri ar ffyrdd neu o gwmpas fferm.

Storio olew tanwydd ar ffermydd

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i berson sydd ag olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth ar fferm sicrhau ei fod yn cael ei storio—

(a)mewn tanc storio tanwydd o fewn man neu gyfleustra storio sy'n bodloni gofynion Atodlen 3;

(b)mewn drymiau o fewn man storio o'r fath; neu

(c)mewn tanc storio tanwydd tanddaearol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

(a)i storio olew tanwydd dros dro mewn tancer sy'n cael ei ddefnyddio i gludo olew tanwydd ar ffyrdd neu o gwmpas fferm; neu

(b)pan nad yw'r cyfanswm o olew tanwydd sy'n cael ei storio dros dro ar y fferm yn fwy na 1,500 o litrau.

Esemptiadau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i seilo, system storio slyri na thanc storio tanwydd—

(a)a ddefnyddid, cyn 1 Mawrth 1991, at y diben o wneud silwair, storio slyri neu storio olew tanwydd, yn ôl y digwydd;

(b)onis defnyddid cyn 1 Mawrth 1991 at y diben hwnnw, a adeiladwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer y defnydd hwnnw; neu

(c)mewn perthynas â pha un—

(i)y gwnaed contract cyn 1 Mawrth 1991 i'w adeiladu, ei ehangu'n sylweddol neu ei ailadeiladu'n sylweddol, neu

(ii)y cychwynnwyd ar waith o'r fath cyn y dyddiad hwnnw, ac

yn y naill achos a'r llall fod y gwaith wedi'i gwblhau cyn 1 Medi 1991.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i seilo, system storio slyri neu danc storio tanwydd sy'n bodloni gofynion paragraff (1) os na chydymffurfir ag unrhyw ofyniad mewn hysbysiad o dan reoliad 7 o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad.

(3Mae unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (2) at y cyfnod a nodir mewn hysbysiad yn gyfeiriad at y cyfnod hwnnw fel y'i hestynnwyd os cafodd ei estyn o dan reoliad 7(6)(b) neu yn rhinwedd rheoliad 8(6) ac mae unrhyw gyfeiriad yn y paragraffau hynny at ofyniad mewn hysbysiad yn gyfeiriad at y gofyniad hwnnw fel y'i haddaswyd os cafodd ei addasu o dan reoliad 7(6).

Hysbysiad yn gwneud gwaith etc. yn ofynnol

7.—(1Caiff Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn amgylchiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 7”) i berson sydd â silwair, slyri, neu olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth, neu sydd yn gyfrifol am y seilo, y system storio slyri neu'r tanc storio olew tanwydd, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw wneud gwaith, neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i'r gwaith, y rhagofalon neu'r camau eraill fod, ym marn Asiantaeth yr Amgylchedd, yn briodol, o ystyried gofynion y Rheoliadau hyn, o gwtogi hyd yr eithaf, unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd sydd dan reolaeth.

(3Rhaid i'r hysbysiad—

(a)pennu neu ddisgrifio'r gwaith, y rhagofalon neu'r camau eraill y mae'n ofynnol i'r person eu gwneud neu eu cymryd;

(b)datgan y cyfnod y mae'n rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath o'i fewn; ac

(c)hysbysu'r person o effaith rheoliad 8.

(4Y cyfnod i gydymffurfio a nodir yn yr hysbysiad yw—

(a)28 niwrnod; neu

(b)unrhyw gyfnod hwy sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau.

(5Rhaid i berson y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 7 gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw.

(6Caiff Asiantaeth yr Amgylchedd ar unrhyw adeg (gan gynnwys adeg ar ôl i'r cyfnod i gydymffurfio ddod i ben)—

(a)tynnu'r hysbysiad yn ei ôl;

(b)estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad; neu

(c)gyda chydsyniad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, addasu gofynion yr hysbysiad.

(7Rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd dynnu'r hysbysiad yn ei ôl, estyn y cyfnod i gydymffurfio, neu addasu gofynion yr hysbysiad os cyfarwyddir hwy i wneud hynny gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8(5).

Apelau yn erbyn hysbysiadau rheoliad 7

8.—(1Caiff person y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 7, o fewn cyfnod o 28 niwrnod sy'n dechrau trannoeth y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir gan Weinidogion Cymru), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad.

(2Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud drwy i'r apelydd gyflwyno hysbysiad i Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad o sail yr apêl neu fod gydag ef ddatganiad felly.

(4Cyn penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, os gofyn yr apelydd neu Asiantaeth yr Amgylchedd iddynt wneud hynny, roi cyfle i'r apelydd neu'r Asiantaeth ymddangos ger eu bron a chael gwrandawiad gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

(5Wrth benderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Asiantaeth yr Amgylchedd—

(a)i dynnu'r hysbysiad rheoliad 7 yn ei ôl;

(b)i addasu unrhyw un neu ragor o'i ofynion;

(c)i estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad; neu

(ch)i wrthod yr apêl.

(6Estynnir y cyfnod i gydymffurfio â hysbysiad rheoliad 7 y gwnaed apêl yn ei erbyn, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (5), fel ei fod yn dod i ben ar y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu'n derfynol ar yr apêl neu, os tynnir yr apêl yn ei hôl, ar ddyddiad ei thynnu'n ôl.

Hysbysiad o adeiladu etc.

9.  Rhaid i berson sydd yn bwriadu cael silwair, slyri neu olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth a hwnnw i gael ei gadw neu ei storio ar fferm mewn seilo, system storio slyri neu fan storio tanwydd a adeiladwyd, a ehangwyd yn sylweddol neu a ailadeiladwyd yn sylweddol ar y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu wedi hynny, roi i Asiantaeth yr Amgylchedd hysbysiad yn pennu'r math o strwythur sydd i'w ddefnyddio a'i leoliad o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn bod y strwythur i'w ddefnyddio at gadw neu storio felly.

Tramgwyddau a chosbau

10.—(1Mae person sy'n mynd yn groes i reoliad 3(1), 3(4), 4(1), 5(1) neu 7(5) o'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Mae person sy'n mynd yn groes i reoliad 9 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

Dirymiadau

11.  Dirymir yr offerynnau statudol a ganlyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

(a)Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991(4);

(b)Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1997(5).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

26 Mai 2010

Rheoliad 3(1)(a)

ATODLEN 1Y GOFYNION AR GYFER SEILOS

1.  Y gofyniad sydd i'w fodloni mewn perthynas â seilo yw ei fod yn cydymffurfio â'r darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon.

2.  Rhaid i sylfaen y seilo—

(a)ymestyn y tu hwnt i unrhyw furiau sydd i'r seilo;

(b)cael o'i amgylch sianelau sydd wedi'u dylunio a'u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw elifiant silwair sy'n dianc o'r seilo; ac

(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer traenio'r elifiant hwnnw o'r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.

3.  Rhaid i'r tanc elifiant beidio â dal llai na–

(a)yn achos seilo sy'n dal llai na 1,500 o fetrau ciwbig, 20 litr ar gyfer pob metr ciwbig o'r hyn y mae'r seilo yn ei ddal; ac

(b)yn achos seilo sy'n dal 1,500 o fetrau ciwbig neu fwy, 30 o fetrau ciwbig ac yn ychwanegol 6.7 litr ar gyfer pob metr ciwbig o'r hyn y mae'r seilo yn ei ddal uwchlaw 1,500 o fetrau ciwbig.

4.—(1Rhaid i sylfaen y seilo—

(a)bod wedi'i ddylunio yn unol â'r cod ymarfer ar gyfer dylunio strwythurau concrit i gadw hylifau dyfrllyd a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 8007: 1987(6); neu

(b)bod wedi ei adeiladu gan ddefnyddio asffalt poeth wedi'i droelli yn unol â'r cod ymarfer ar gyfer dewis a defnyddio deunyddiau adeiladu a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 21: 1990(7).

(2Rhaid i sylfaen y seilo, sylfaen a muriau ei danc elifiant a sianelau a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.

5.  Rhaid i sylfaen a muriau'r seilo, ei danc elifiant a'i sianelau a muriau unrhyw bibellau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, allu gwrthsefyll ymosodiad gan elifiant silwair.

6.  Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o'r seilo, ei danc elifiant na'i sianelau nac unrhyw bibellau o fewn 10 o fetrau i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt petai'n dianc.

7.  Os oes gan y seilo furiau cynnal—

(a)rhaid i'r muriau cynnal allu gwrthsefyll lleiafswm o lwythi mur sydd wedi'u cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraffau 15.6 o'r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 22: 2003(8);

(b)rhaid i'r seilo beidio â bod wedi'i lwytho ar unrhyw adeg i ddyfnder sydd uwchlaw'r dyfnder eithaf sy'n gyson â'r rhagdybiaeth ddyluniol a wnaed o ran llwythi y muriau cynnal; ac

(c)rhaid arddangos hysbysiadau ar y muriau cynnal yn unol â pharagraff 18 o'r cod ymarfer hwnnw.

8.  Yn ddarostyngedig i baragraff 9, rhaid i'r seilo, ei danc elifiant a'i sianelau ac unrhyw bibellau fod wedi'u dylunio a'u hadeiladu fel y'u bod yn debygol, gyda'r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 5 ac, os yw'n gymwys, paragraff 7(a) am o leiaf 20 mlynedd.

9.  Os oes unrhyw ran o danc elifiant islaw wyneb y tir, rhaid i'r tanc fod wedi'i ddylunio a'i adeiladu fel ei fod yn debygol o barhau i fodloni gofynion paragraffau 4 a 5 am o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw.

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 2Y GOFYNION AR GYFER SYSTEMAU STORIO SLYRI

1.  Dyma'r gofynion sydd i'w bodloni mewn perthynas â system storio slyri.

2.  Rhaid i sylfaen y tanc storio slyri, sylfaen a muriau unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.

3.  Rhaid i sylfaen a muriau y tanc storio slyri, sylfaen ac unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod wedi'u diogelu rhag cyrydiad yn unol â pharagraff 7 o'r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993(9).

4.  Rhaid i sylfaen a muriau y tanc storio slyri ac unrhyw bydew derbyn allu gwrthsefyll llwythi nodweddiadol sydd wedi'u cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 5 o'r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993.

5.—(1Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—

(a)yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol i danc storio slyri) sy'n debygol o gael ei gynhyrchu ar y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod; neu

(b)swm llai y mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cytuno'n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd dan reolaeth.

(2Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o'r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i'r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid bod yna ddigon o le yn y tanc storio slyri ar gyfer storio'r symiau tebygol o slyri a gynhyrchir o bryd i'w gilydd ar y fangre dan sylw, gan gymryd i ystyriaeth—

(a)y dull arfaethedig o ddefnyddio'r slyri, a graddfeydd ac adegau tebygol y defnydd hwnnw; a

(b)y materion a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(2Os bwriedir defnyddio'r slyri ar y fangre drwy ei daenu ar y tir, nid oes rhaid bod gan y tanc fwy o le i storio nag sy'n ddigonol, gan gymryd ystyriaeth o'r materion a grybwyllir yn is-baragraff (3), i ddal yr uchafswm o slyri sy'n debygol o gael ei gynhyrchu mewn unrhyw gyfnod o bedwar mis.

(3Y materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth ar gyfer is-baragraffau (1) a (2) yw—

(a)faint y gall unrhyw danc storio slyri arall ar y fangre ei ddal;

(b)faint o law (gan gynnwys eira, cenllysg neu eirlaw) sy'n debygol o dywallt neu draenio i mewn i'r tanc storio slyri yn ystod y cyfnod storio hwyaf sy'n debygol; ac

(c)yr angen i ddarparu o leiaf 750 milimedr o fwrdd rhydd yn achos tanc gyda muriau wedi'u gwneud o bridd a 300 milimedr o fwrdd rhydd ym mhob achos arall.

7.  Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o'r tanc storio slyri, nac unrhyw danc elifiant na sianelau na phydew derbyn o fewn 10 o fetrau i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai slyri fynd i mewn iddynt petai'n dianc oni chymerir rhagofalon y mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cytuno'n ysgrifenedig eu bod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd dan reolaeth.

8.  Rhaid i'r tanc storio slyri ac unrhyw danc elifiant, sianelau, pibellau a phydew derbyn fod wedi'u dylunio a'u hadeiladu fel y'u bod yn debygol, gyda'r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 4 am o leiaf 20 mlynedd.

9.  Os nad yw muriau'r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—

(a)ymestyn y tu hwnt i'r muriau;

(b)cael o'i amgylch sianelau sydd wedi'u dylunio a'u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy'n dianc o'r tanc;

(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer traenio'r slyri o'r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os oes pibell draenio wedi'i gosod yn y tanc storio slyri neu yn unrhyw danc elifiant neu bydew derbyn mae'n rhaid bod dwy falf mewn cyfres ar y bibell a bod pellter o o leiaf 1 metr rhwng un falf a'r llall.

(2Rhaid i bob falf allu cau llif y slyri drwy'r bibell a rhaid eu cadw wedi'u cau ac wedi'u cloi yn y sefyllfa honno pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

(3Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thanc storio slyri sy'n traenio drwy'r bibell i danc storio slyri arall os yw'r tanc arall yn dal yr un faint neu fwy neu os yw topiau'r tanciau ar yr un lefel â'i gilydd.

11.  Yn achos tanc storio slyri gyda muriau o bridd rhaid peidio â llenwi'r tanc hyd at lefel sy'n caniatáu llai na 750 o filimetrau o fwrdd rhydd.

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 3Y GOFYNION AR GYFER MANNAU STORIO OLEW TANWYDD

1.  Dyma'r gofynion sydd i'w bodloni mewn perthynas â man storio olew tanwydd.

2.  Rhaid i'r man storio fod wedi'i amgylchynu â bwnd sy'n gallu cadw o fewn y fan honno—

(a)os mai dim ond un tanc storio tanwydd sydd o fewn y fan honno ac nad yw olew tanwydd yn cael ei storio mewn unrhyw fodd arall yno, cyfaint o olew tanwydd heb fod yn llai na 110 y cant o'r hyn y gall y tanc ei ddal;

(b)os oes mwy nag un tanc storio tanwydd o fewn y fan ac nad yw olew tanwydd yn cael ei storio mewn unrhyw fodd arall yno, cyfaint o olew tanwydd nad yw'n llai na'r mwyaf o—

(i)110 y cant o'r hyn y gall y tanc mwyaf o fewn y fan ei ddal; neu

(ii)25 y cant o gyfanswm cyfaint y cyfryw olew y gellid ei storio yn y tanciau o fewn y fan;

(c)os nad oes yna danc storio tanwydd o fewn y fan, cyfaint o olew tanwydd heb fod yn llai na 25 y cant o gyfanswm y cyfryw olew sy'n cael ei storio o fewn y fan ar unrhyw adeg;

(ch)mewn unrhyw achos arall, cyfaint o olew tanwydd nad yw'n llai na'r mwyaf o—

(i)110 y cant o'r hyn y gall y tanc storio tanwydd neu, yn ôl y digwydd, y tanc mwyaf o fewn y fan, ei ddal;

(ii)os oes mwy nag un tanc storio tanwydd o fewn y fan, 25 y cant o gyfanswm cyfaint y cyfryw olew y gellid ei storio yn y tanciau o fewn y fan; neu

(iii)25 y cant o gyfanswm cyfaint y cyfryw olew sy'n cael ei storio o fewn y fan ar unrhyw adeg.

3.  Rhaid i'r bwnd a sylfaen y fan—

(a)bod yn anhydraidd i ddŵr ac olew; a

(b)bod wedi'u dylunio a'u hadeiladu fel bod ynddynt ddigon o gryfder a chyfanrwydd strwythurol fel eu bod gyda gwaith cynnal a chadw priodol yn debygol o barhau felly am o leiaf 20 mlynedd.

4.  Rhaid i bob rhan o unrhyw danc storio tanwydd fod o fewn y bwnd.

5.  Rhaid i unrhyw dap neu falf sydd wedi'u gosod yn sownd yn barhaol i'r tanc storio tanwydd y gellir gollwng olew tanwydd ohono i'r tu allan—

(a)hefyd fod o fewn y bwnd;

(b)bod wedi'u trefnu fel bod gollyngiadau drwyddynt yn fertigol a thuag i lawr; ac

(c)bod wedi'u cau ac wedi'u cloi yn y sefyllfa honno pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

6.  Os oes tanwydd o'r tanc yn cael ei drosglwyddo drwy bibell ystwyth sydd wedi'u gosod yn sownd yn barhaol i'r tanc, rhaid i'r bibell—

(a)bod â thap neu falf wedi ei osod ar ei phen draw sy'n cau'n awtomatig pan nad yw'n cael ei defnyddio; a

(b)bod wedi'i chloi mewn modd sy'n sicrhau ei bod yn cael ei chadw o fewn y bwnd pan nad yw'n cael ei defnyddio.

7.  Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o'r man storio tanwydd na'r bwnd sy'n ei amgylchynu o fewn 10 o fetrau i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai olew tanwydd fynd i mewn iddynt petai'n dianc.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991, O.S. 1991/324 (fel y'i diwygiwyd) i'r graddau y mae O.S. 1991/324 (fel y'i diwygiwyd) yn ymwneud â Chymru.

Rhoddwyd gwybod i'r Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau hyn yn unol â Chyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37), fel y'i diwygiwyd.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â silwair sy'n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth i gadw'r cyfryw silwair mewn seilos sy'n bodloni gofynion Atodlen 1 ac i gymryd rhagofalon a chamau eraill ar gyfer atal llygru dyfroedd.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â slyri neu olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth i storio'r cyfryw silwair neu olew tanwydd mewn system storio slyri neu mewn tanc storio tanwydd sy'n bodloni gofynion Atodlenni 2 neu 3.

Mae rheoliad 6 yn darparu eithriadau rhag gofynion y Rheoliadau ar gyfer seilos, systemau storio slyri a thanciau storio tanwydd.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn caniatáu i Asiantaeth yr Amgylchedd gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i waith gael ei gwneud neu i ragofalon gael eu cymryd ar gyfer cwtogi'r risg o lygredd i ddyfroedd dan reolaeth a hefyd i ddarparu gweithdrefn i apelio yn erbyn hysbysiadau o'r fath.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Asiantaeth yr Amgylchedd gael ei hysbysu o weithiau penodol i seilo, system storio slyri neu fan storio tanwydd.

Mae rheoliad 10 yn darparu bod mynd yn groes i reoliadau penodol yn dramgwydd troseddol.

Mae'r Rheoliadau yn diweddaru'r safonau sy'n gymwys i ddyluniad ac adeiladwaith seilos a systemau storio slyri.

Mae copïau o'r dogfennau a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau i'w cael o unrhyw fannau gwerthiant sydd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, drwy'r post oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig, Gwasanaethau Cwsmeriaid, 389 Chiswick High Road, Llundain, W4 4AL, drwy ffonio 020 8996 9001, neu drwy anfon e-bost at orders@bsi-global.com.

Ni chafodd Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.

(1)

1991 p.57. Yn rhinwedd: (1) Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 2 iddo, O.S. 1999/672 a (2) Adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac Atodlen 11 iddi, p. 32; mae swyddogaethau o dan adrannau 92 a 219 bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(6)

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 1987. ISBN 0-580-16134-X.

(7)

Dyddiad cyhoeddi: 31Rhagfyr 1990. ISBN 0-580-18348-3.

(8)

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2003. ISBN 0-580-38654-6.

(9)

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 1993. ISBN 0-580-22053-2.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources