- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Gwnaed
23 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 325(3) a (4) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai ac Adfywio 2008 ac ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 30 Mawrth 2009.
2. Daw adran 315 (lluoedd arfog: prawf cysylltiad lleol) i rym ar y dyddiad cychwyn mewn perthynas â cheisiadau—
(i)dyrannu llety tai, y mae adran 166 o Ddeddf Tai 1996(2) yn gymwys iddynt; neu
(ii) y mae Rhan VII (digartrefedd), fel y'i cymhwysir gan adran 183(1) (cais am gymorth) o'r Ddeddf honno, yn gymwys iddynt,
a wnaed ar y dyddiad cychwyn neu ar ei ôl.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wnaed o dan Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 mewn perthynas â Chymru.
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adran 315 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 ar 30 Mawrth 2009.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: