- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Gwnaed Tachwedd
8 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
1 Chwefror 2010
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 fel a ganlyn:—
(2) Ar ôl rheoliad 24(1) mewnosoder rheoliad 24(1A) newydd fel a ganlyn:—
“24(1A)—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau–
(a)nad yw ysbyty annibynnol sy'n darparu triniaeth a nyrsio i gleifion ag anabledd dysgu, y rhagwelir y bydd eu triniaeth a nyrsio yn ymestyn y tu hwnt i gyfnod o 12 mis, ac y darperir llety dros nos iddynt yn y sefydliad hwnnw, yn fwy na 10 o welyau, ac os yw'n rhesymol ymarferol, fe'u darperir mewn dwy neu fwy o unedau.
(b)nad yw ysbyty annibynnol sy'n darparu triniaeth a nyrsio i gleifion ag afiechyd meddwl (gan gynnwys y rheiny mewn llety diogel o lefel isel neu ganolig) ac hefyd i gleifion ag anabledd dysgu, y rhagwelir y bydd eu triniaeth a nyrsio yn ymestyn y tu hwnt i gyfnod o 12 mis, ac y darperir llety dros nos iddynt yn fwy na 15 o welyau, ac os yw'n rhesymol ymarferol, fe'u darperir mewn dwy neu fwy o unedau.
(c)na fydd ysbyty annibynnol arall wedi ei leoli yn agos iawn at ysbyty annibynnol o'r math ag a grybwyllir yn is-baragraffau (a) neu (b) yn y fath fodd ag y gellid ei ystyried yn luosogiad o'r ysbyty annibynnol, ac y byddai felly yn effeithio ar resymeg a bwriad y cyfyngiadau ar y nifer o gleifion mewn ysbytai annibynnol yn ôl darpariaeth y rheoliad hwn.
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob cais newydd gan ysbytai annibynnol i gofrestru ysbyty annibynnol, neu i amrywio cofrestriad ysbyty annibynnol gyda Gweinidogion Cymru sy'n cael ei wneud ar 1 Chwefror 2010 neu wedi hynny.
(2) Ni fydd angen i geisiadau a wneir cyn 1 Chwefror 2010, y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol benderfynu arnynt erbyn 1 Mai 2010, fodloni gofynion y rheoliadau hyn.
(3) Bydd yn rhaid i unrhyw geisiadau a wneir cyn 1 Chwefror 2010 na all Gweinidogion Cymru yn rhesymol benderfynu arnynt erbyn 1 Mai 2010 fodloni gofynion y Rheoliadau hyn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 24 (Ffitrwydd y safleoedd) o Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 drwy fewnosod rheoliad 24 (1A) newydd.
Diwygir y Rheoliadau er mwyn gosod terfyn ar y nifer o welyau y caiff ysbyty annibynnol eu darparu pan fo triniaeth a nyrsio tymor hir yn cael eu darparu i bersonau gydag anabledd dysgu, yn ogystal â rhai sydd ag afiechyd meddwl.
Mae hefyd yn ofynnol nad oes unrhyw ysbyty annibynnol arall wedi ei leoli yn agos iawn i ysbyty annibynnol arall yn y fath fodd ag y gellid ei ystyried yn luosogiad o'r ysbyty annibynnol gwreiddiol, ac y byddai felly yn effeithio ar y rhesymeg a'r bwriad o gyfyngu ar y nifer o gleifion mewn ysbytai annibynnol yn ôl darpariaeth y rheoliadau hyn.
Bydd darpariaethau trosiannol yn gymwys ar gyfer dyfodiad y Rheoliadau hyn i rym.
Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: