- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliadau 2(1) a 3(1)
Y ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 2(1) | O ran y sylweddau sy'n perthyn i'r categorïau sy'n ymddangos yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn, gofyniad mai dim ond y rhai o blith y sylweddau hynny sydd wedi eu rhestru yn yr Atodiad hwnnw, ac sy'n cydymffurfio â'r manylebau perthnasol fel y bo'n angenrheidiol, sydd i'w hychwanegu at ddibenion maethol penodol wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2009/39 Senedd Ewrop a'r Cyngor am fwydydd sydd wedi eu bwriadu at ddefnydd maethol neilltuol(1). |
Erthygl 3(1) | Gofyniad y bydd y defnydd ar sylweddau a ychwanegir at ddibenion maethol penodol yn arwain at weithgynhyrchu cynhyrchion diogel sy'n bodloni anghenion maethol neilltuol y personau y maent wedi eu bwriadu ar eu cyfer, fel a gadarnheir drwy ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol. |
Erthygl 3(2) | Gofyniad y bydd y gweithgynhyrchydd neu, pan fo'n briodol, y mewnforiwr, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn dangos y gwaith gwyddonol a'r data sy'n cadarnhau bod y defnydd ar y sylweddau yn cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn. Os yw gwaith a data o'r fath wedi eu cynnwys mewn cyhoeddiad sydd ar gael yn rhwydd, bydd cyfeiriad at y cyhoeddiad hwnnw yn ddigon. |
Erthygl 4(2) | Gofyniad y bydd y meini prawf ar burdeb, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ac sy'n gymwys i'r sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn pan fônt yn cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion nad ydynt yn rhai sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn, yn gymwys hefyd i'r sylweddau hynny pan fônt yn cael eu defnyddio at ddibenion sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn. |
Erthygl 4(3) | Gofyniad, yn achos sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn ac nad oes meini prawf ar burdeb wedi eu pennu ar eu cyfer drwy ddeddfwriaeth Gymunedol, a hyd nes y bydd manylebau o'r fath wedi eu mabwysiadu, y bydd y meini prawf ar burdeb a dderbynnir yn gyffredinol ac a argymhellir gan gyrff rhyngwladol yn gymwys. |
OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: