- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gwnaed
30 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
1 Ionawr 2010
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2010.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006(3) yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn lle Atodlen 2, rhodder—
Genws | Nifer | Gwlad tarddiad | Ffi | Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) |
---|---|---|---|---|
Os yw cyfanswm unrhyw ffi yn swm sy'n llai na £0.01, mae'r swm hwnnw i'w hepgor.”. | ||||
Blodau wedi eu torri | ||||
Dianthus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 20,000 o nifer | Colombia | £0.39 | £0.59 | |
Ecuador | £1.98 | £2.97 | ||
Kenya, Twrci | £3.31 | £4.96 | ||
Israel | £6.62 | £9.93 | ||
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny | Colombia | £0.003 | £0.004 | |
Ecuador | £0.01 | £0.02 | ||
Kenya, Twrci | £0.02 | £0.03 | ||
Israel | £0.05 | £0.07 | ||
— uchafbris | Colombia | £3.71 | £4.76 | |
Ecuador | £15.88 | £23.83 | ||
Kenya, Twrci | £26.48 | £39.72 | ||
Israel | £52.96 | £79.44 | ||
Rosa | Fesul llwyth | |||
— hyd at 20,000 o nifer | Ecuador | £0.39 | £0.59 | |
Colombia | £0.66 | £0.99 | ||
Ethiopia, Kenya | £1.32 | £1.98 | ||
Tanzania | £1.98 | £2.97 | ||
Zambia | £6.62 | £9.93 | ||
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny | Ecuador | £0.003 | £0.004 | |
Colombia | £0.005 | £0.007 | ||
Ethiopia, Kenya | £0.01 | £0.015 | ||
Tanzania | £0.01 | £0.02 | ||
Zambia | £0.05 | £0.07 | ||
— uchafbris | Ecuador | £3.17 | £4.76 | |
Colombia | £5.30 | £7.94 | ||
Ethiopia, Kenya | £10.59 | £15.88 | ||
Tanzania | £15.88 | £23.83 | ||
Zambia | £52.96 | £79.44 | ||
Ffrwythau | ||||
Citrus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Twrci | £0.39 | £0.59 | |
Moroco | £0.66 | £0.99 | ||
Israel, Uruguay, UDA | £1.98 | £2.97 | ||
Yr Aifft, Mecsico | £3.31 | £4.96 | ||
Periw | £4.63 | £6.95 | ||
Honduras | £6.62 | £9.93 | ||
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Twrci | £0.01 | £0.02 | |
Moroco | £0.02 | £0.03 | ||
Israel, Uruguay, UDA | £0.07 | £0.11 | ||
Yr Aifft, Mecsico | £0.13 | £0.19 | ||
Periw | £0.18 | £0.27 | ||
Honduras | £0.26 | £0.39 | ||
Malus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Chile | £0.92 | £1.39 | |
Yr Ariannin, Seland Newydd, De Affrica | £1.32 | £1.98 | ||
Brasil | £1.98 | £2.97 | ||
Tsieina, UDA | £3.31 | £4.96 | ||
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Chile | £0.03 | £0.05 | |
Yr Ariannin, Seland Newydd, De Affrica | £0.05 | £0.07 | ||
Brasil | £0.07 | £0.11 | ||
Tsieina, UDA | £0.13 | £0.19 | ||
Mangifera | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Brasil | £1.32 | £1.98 | |
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Brasil | £0.05 | £0.07 | |
Passiflora | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Colombia, Kenya | £1.32 | £1.98 | |
Zimbabwe | £4.63 | £6.95 | ||
De Affrica | £6.62 | £9.93 | ||
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Colombia, Kenya | £1.32 | £1.98 | |
Zimbabwe | £0.18 | £0.27 | ||
De Affrica | £0.26 | £0.39 | ||
Prunus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Chile, De Affrica, Twrci | £1.32 | £1.98 | |
Yr Ariannin | £4.63 | £6.95 | ||
UDA | £6.62 | £9.93 | ||
— am bob, 1,000kg ychwanegol neu ran o hynny | Chile, De Affrica, Twrci | £0.05 | £0.07 | |
Yr Ariannin | £0.18 | £0.27 | ||
UDA | £0.26 | £0.39 | ||
Psidium | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Brasil | £9.93 | £14.89 | |
— am bob, 1,000kg ychwanegol neu ran o hynny | Brasil | £0.39 | £0.58 | |
Pyrus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Yr Ariannin, De Affrica | £1.98 | £2.97 | |
Chile, Tsieina | £4.63 | £6.95 | ||
— am bob, 1,000kg ychwanegol neu ran o hynny | Yr Ariannin, De Affrica | £0.07 | £0.11 | |
Chile, Tsieina | £0.18 | £0.27 | ||
Llysiau | ||||
Solanum melongena | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Twrci | £1.32 | £1.98 | |
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Twrci | £0.05 | £0.07 |
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2832 (Cy.253)) (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t.1) (“y Gyfarwyddeb”), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd.
Mae'r Gyfarwyddeb yn cynnwys gweithdrefn (Erthyglau 3a(2), 13d(2) ac 18(2)) i osod cyfraddau arolygu gostyngol ar gyfer mewnforion o blanhigion a chynnyrch planhigion penodol ac ar gyfer codi ffioedd ar gyfradd ostyngol gymesur. Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn gosod y ffioedd ar gyfer arolygiadau ar gyfraddau gostyngol ac mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Atodlen honno er mwyn gosod y ffioedd sy'n cyfateb i'r cyfraddau arolygu diweddaraf. Mae'r newidiadau i'r ffioedd a wneir gan y Rheoliadau hyn, sydd wedi'u gosod ar gyfran o'r ffi safonol (a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau) sy'n cyfateb i gyfradd yr arolygiadau, yn seiliedig ar gyfraddau arolygu y cytunwyd arnynt ac a osodir isod:
Genws | Gwlad tarddiad | Cyfradd flaenorol yr arolygiadau | Y ffi gychwynnol (4) | Cyfradd newydd yr arolygiadau | Y ffi gychwynnol, a bennir yn Atodlen 2 |
---|---|---|---|---|---|
Blodau wedi eu torri | |||||
Dianthus | Israel | 35% | £4.63 | 50% | £6.62 |
Dianthus | Kenya | 10% | £1.32 | 25% | £3.31 |
Rosa | India | 50% | £6.62 | 100%(5) | — |
Rosa | Uganda | 50% | £6.62 | 100%(5) | — |
Rosa | Zambia | 25% | £3.31 | 50% | £6.62 |
Ffrwythau | |||||
Mangifera | Brasil | 5% | £0.66 | 10% | £1.32 |
Psidium | Brasil | 100% | £13.24 | 75% | £9.93 |
Prunus | Yr Ariannin | 25% | £3.31 | 35% | £4.63 |
Pyrus | Yr Ariannin | 25% | £3.31 | 15% | £1.98 |
Pyrus | Tsieina | 50% | £6.62 | 35% | £4.63 |
Citrus | Honduras | 75% | £9.93 | 50% | £6.62 |
Citrus | Israel | 25% | £3.31 | 15% | £1.98 |
Citrus | Periw | 25% | £3.31 | 35% | £4.63 |
Llysiau | |||||
Solanum melongena | Twrci | 15% | £1.98 | 10% | £1.32 |
O.S. 2006/2832 (Cy.253) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/398 (Cy.43).
Y ffi gychwynnol fesul llwyth ar gyfer blodau wedi eu torri (hyd at 20,000 o nifer) a ffrwythau a llysiau (hyd at 25,000 kg o bwysau). Gosodir ffioedd cyfatebol yn y Rheoliadau ar gyfer niferoedd ychwanegol, uchafswm y pris fesul llwyth ac ar gyfer oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd.
Mae llwythi sy'n ddarostyngedig i gyfradd arolygu o 100% wedi'u heithrio o'r cynllun cyfraddau arolygu gostyngol ac maent yn ddarostyngedig i'r ffioedd arolygu mewnforion a bennir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: