Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3105 (Cy.271)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

26 Tachwedd 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Tachwedd 2009

Yn dod i rym

19 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(2), 26(1)(a) a (2)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009, a deuant i rym ar 19 Rhagfyr 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007

2.  Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007(4) yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) mewnosoder y diffiniad canlynol—

  • ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(5);, a

(ii)yn y diffiniad o “mewnforio” (“import”) yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “Gwladwriaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd”; a

(b)hepgorer paragraff (2).

4.  Ar ôl rheoliad 4 (gorfodi Rheoliad 1935/2004) mewnosoder y canlynol fel rheoliad 4A—

Gorfodi Rheoliad 450/2009

4A.  Bydd unrhyw berson sy'n torri unrhyw un o'r darpariaethau canlynol o Reoliad 450/2009 yn euog o dramgwydd—

(a)Erthygl 4(f) (gwahardd rhoi ar y farchnad ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion labelu);

(b)Erthygl 11(1) a (2) (rheolau ychwanegol ar labelu), fel y'i darllenir gyda 4ydd indent Erthygl 14;

(c)Erthygl 12 (datganiad cydymffurfio); ac

(ch)Erthygl 13 (dogfennau ategol)..

5.  Ar ôl rheoliad 6 (awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1934/2004), mewnosoder y canlynol fel rheoliad 6A—

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 450/2009

6A.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod sydd â chyfrifoldeb dros orfodi yn unol â rheoliad 14(1)..

6.  Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 13 (tramgwyddau a chosbau), yn lle “rheoliad 4 neu 5” rhodder “rheoliad 4, 4A neu 5”.

7.  Yn lle rheoliad 14 (gorfodi) rhodder y canlynol–

14.(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi—

(a)darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4;

(b)darpariaethau Rheoliad 450/2009 a grybwyllir yn rheoliad 4A; ac

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3), y Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu a gorfodi darpariaethau—

(a)Erthyglau 16(1) ac 17(2) o Reoliad 1935/2004; a

(b)Erthygl 13 o Reoliad 450/2009.

(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a grybwyllir yn rheoliad 5..

8.  Ym mharagraff (2) o reoliad 18 (amddiffyniadau cyffredinol), yn lle “reoliad 4 neu 13(1)(a)” rhodder “reoliad 4, 4A neu 13(1)(a)”.

9.  Yn rheoliad 21 (gweithredu amryfal ddarpariaethau o'r Ddeddf)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006.” rhodder “Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol.”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006,” rhodder “Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol”.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

26 Tachwedd 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3252 (Cy. 287), fel y'i diwygiwyd ynghynt gan O.S. 2008/1237 (Cy. 124), O.S. 2008/1682 (Cy. 162) ac O.S. 2009/481 (Cy. 49)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3) (“Rheoliad 450/2009”). Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio'r modd y diffinnir mewnforio yn y prif Reoliadau.

2.  Yn fanwl, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy—

(a)mewnosod diffiniad o Reoliad 450/2009 (rheoliad 3(a)(i));

(b)diwygio'r diffiniad o “mewnforio” i gyfeirio at gynhyrchion sy'n dod o oddi allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (rheoliad 3(a)(ii));

(c)peri bod torri gofynion penodol yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 4) yn dramgwydd, gosod cosbau ar gyfer y cyfryw dramgwydd (rheoliad 6), a darparu ar gyfer amddiffyniad mewn amgylchiadau penodol (rheoliad 8);

(ch)penodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 5);

(d)dynodi'r awdurdodau gorfodi at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 7); ac

(dd)darparu bod darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion gorfodi Rheoliad 450/2009 (rheoliad 9).

3.  Ni luniwyd asesiad effaith llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir unrhyw effaith o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1990 p.16, amnewidwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu; Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(5)

OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources