Search Legislation

Gorchymyn Wrecsam (Cymunedau) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2718 (Cy.230)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Wrecsam (Cymunedau) 2009

Gwnaed

4 Hydref 2009

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) i (4)

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) adroddiadau dyddiedig Medi 2007 a Medi 2008 ar ei adolygiadau o ffiniau cymunedau o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'i argymhellion ar eu cyfer.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Medi 2007, ac eithrio'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng cymunedau Abenbury a Pharc Caia ac i'r cynigion yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Medi 2008 heb eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Wrecsam (Cymunedau) 2009.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), at unrhyw ddiben a osodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2009.

(3Daw erthyglau 5, 6, 8, 9 a 12 i rym—

(a)at ddibenion gweithrediadau rhagarweiniol i unrhyw etholiad, neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad, sydd i'w gynnal ar ddiwrnod cyffredin ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;

(b)at bob diben arall, ar ddiwrnod cyffredin ethol cynghorwyr yn 2012.

(4At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3);

  • mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o'r saith map a farciwyd “Mapiau Gorchymyn Wrecsam (Cymunedau) 2009”, a labelwyd yn briodol “A” i “G” er mwyn cyfeirio atynt ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam; ac

  • os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol gyffelyb, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

Parc Caia ac Abenbury — newid yn ardaloedd y cymunedau a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

3.  Mae'r rhan o gymuned Parc Caia a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Abenbury; ac

(b)yn rhan o adran etholiadol Holt.

4.  Mae'r rhan o gymuned Abenbury a ddangosir fel ardal “A” â chroeslinellau ar Fap B—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Parc Caia;

(b)yn rhan o ward Cartrefle yng nghymuned Parc Caia; ac

(c)yn dod yn rhan o adran etholiadol Cartrefle.

5.  Nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer cymuned Abenbury yw 10.

6.  Yng nghymuned Parc Caia nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Cartrefle yw 3, ar gyfer ward Queensway yw 3, ar gyfer ward Smithfield yw 3, ar gyfer ward Whitegate yw 3 ac ar gyfer ward Wynnstay yw 2.

Holt, Parc Caia a Gwaunyterfyn — newid yn ardaloedd y cymunedau a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

7.  Mae'r rhan o gymuned Holt a ddangosir fel ardal “B” â chroeslinellau ar Fap B a'r rhan o gymuned Parc Caia a ddangosir ar ardal “C” â chroeslinellau ar Fap B—

(a)yn cael eu trosglwyddo i gymuned Gwaunyterfyn;

(b)yn rhan o ward Rhosnesni yng nghymuned Gwaunyterfyn; ac

(c)yn dod yn rhan o adran etholiadol Rhosnesni.

8.  Yng nghymuned Gwaunyterfyn nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Acton Central yw 2, ar gyfer ward Acton Park yw 2, ar gyfer ward Parc Borras yw 3, ar gyfer ward Little Acton yw 3, ar gyfer ward Maes-y-dre yw 2 ac ar gyfer ward Rhosnesni yw 4.

9.  Nid yw cymuned Holt wedi ei rhannu'n wardiau a nifer y cynghorwyr i'w hethol ar gyfer cymuned Holt yw 10.

Mwynglawdd a Choed-poeth — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

10.  Mae'r rhan o gymuned Mwynglawdd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Coed-poeth;

(b)yn rhan o ward y De cymuned Coed-poeth; ac

(c)yn dod yn rhan o adran etholiadol Coed-poeth.

Brychdyn a Brymbo — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

11.  Mae'r rhan o gymuned Brychdyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Brymbo;

(b)yn rhan o ward Brymbo cymuned Brymbo; ac

(c)yn dod yn rhan o adran etholiadol Brymbo.

12.  Yng nghymuned Brychdyn nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob un o wardiau Bryn Cefn, Bryn-teg, Gwenfro a New Broughton yw 4.

Gresffordd a Gwersyllt — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

13.  Mae'r rhannau o gymuned Gresffordd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—

(a)yn cael eu trosglwyddo i gymuned Gwersyllt;

(b)yn rhan o ward y De cymuned Gwersyllt; ac

(c)yn dod yn rhan o adran etholiadol Dwyrain a De Gwersyllt.

14.  Mae'r ffin rhwng ward Gorllewin Gresffordd a ward Dwyrain Gresffordd yng nghymuned Gresffordd yn cael ei newid fel a ddangosir ar Fap E lle y'i marciwyd â'r geiriau “Ffin Newydd y Ward Gymuned”.

Marchwiail a Sesswick — newid mewn ardaloedd cymunedol

15.  Mae'r rhan o gymuned Marchwiail a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F yn cael ei throsglwyddo i gymuned Sesswick.

Holt ac Is-y-coed — newid mewn ardaloedd cymunedol

16.  Mae'r rhan o gymuned Holt a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G yn cael ei throsglwyddo i gymuned Is-y-coed.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'n rhoi effaith i gynigion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”) y cafwyd ganddo ym Medi 2007 a Medi 2008 adroddiadau ar ei adolygiadau o ffiniau cymunedau mewn rhan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam. Yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Medi 2007 argymhellwyd gwneud newidiadau i ffiniau cymunedau Abenbury, Gwaunyterfyn, Brychdyn, Brymbo, Parc Caia, Coed-poeth, Gresffordd, Gwersyllt, Holt, Is-y-coed, Marchwiail, Mwynglawdd a Sesswick a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Medi 2008 argymhellwyd newid ffiniau cymunedau Abenbury a Pharc Caia a gwneud newid canlyniadol i drefniadau etholiadol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn yn ei adroddiad yn 2007, ac eithrio'r argymhelliad ynghylch newid y ffin rhwng cymunedau Abenbury a Pharc Caia, ac mae'n rhoi effaith i'r argymhellion yn adroddiad 2008 heb eu haddasu.

Mae printiau o'r mapiau'n dangos y ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam LL11 1AY ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a gweithredu'r gorchmynion hynny.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r offeryn statudol hwn).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources