- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
28 Medi 2009
Yn dod i rym
1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 3(4), (5) a (6) ac 8 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Canolfan Iechyd Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Canolfan Iechyd Cymru” (“Wales Centre for Health”) yw'r corff o'r enw Canolfan Iechyd Cymru neu Wales Centre for Health a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003;
ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;
ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Hydref 2009.
3. A hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, trosglwyddir holl swyddogaethau Canolfan Iechyd Cymru, fel y'u nodir yn adran 3 o Ddeddf 2003, i Weinidogion Cymru.
4. A hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, trosglwyddir holl eiddo Canolfan Iechyd Cymru, gan gynnwys yr eiddo a restrir yn Atodlen 1, i Weinidogion Cymru.
5.—(1) Trosglwyddir i Weinidogion Cymru unrhyw hawl a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy gan neu yn erbyn Canolfan Iechyd Cymru.
(2) Trosglwyddir i Weinidogion Cymru unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy yn erbyn Canolfan Iechyd Cymru.
6. Diddymir Canolfan Iechyd Cymru a hynny'n effeithiol o 1 Hydref 2009 ymlaen.
7. Diddymir Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 2004(2) a hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2009
Erthygl 4
Eiddo | Deiliadaeth |
---|---|
Y Llawr Cyntaf, 14 Heol y Gadeirlan Caerdydd, CF11 9LJ | Lesddaliad |
Llawr Daear, 14 Heol y Gadeirlan Caerdydd, CF11 9LJ | Lesddaliad |
Swyddfa yn Uned S5 | Lesddaliad |
Neuadd Croesnewydd | |
Parc Technoleg Wrecsam | |
Wrecsam , LL13 7YP |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu ar 1 Hydref 2009 y corff o'r enw Canolfan Iechyd Cymru a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu'r Gorchymyn a bennir yn erthygl 7 ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau (erthygl 3); eiddo (erthygl 4) a hawliau a rhwymedigaethau (erthygl 5) i Weinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: