- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
17 Medi 2009
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009.
2. Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
3.—(1) Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 12 Hydref 2009:
(a)adran 169 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli ysgol annibynnol);
(b)adran 170 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli: atodol);
(c)adran 171 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli: darpariaeth drosiannol).
(2) Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 1 Ionawr 2010:
(a)adran 89 ac eithrio is-adran (4);
(b)adran 96(b) i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu is-adrannau (4) i (7) o adran 61 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
(c)adran 184 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a nodir ym mharagraff (ch);
(ch)yn Rhan 6 o Atodlen 18 y diddymiad yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 o adran 61(4) i (7).
4.—(1) Hyd nes y bydd adran 88 o Ddeddf 2006 yn cychwyn—
(a)mae'r cyfeiriad yn adran 89(2)(a) yn Neddf 2006 at adran 88(2)(a) i gael effaith fel pe bai'n gyfeiriad at adran 61(2)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; a
(b)mae'r cyfeiriad yn adran 89(2)(b) yn Neddf 2006 at adran 88(2)(b) i gael effaith fel pe bai'n gyfeiriad at adran 61(2)(b) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(2) Hyd nes y cychwynnir adran 89(4) o Ddeddf 2006 caniateir i'r mesurau y bydd pennaeth yn eu penderfynu o dan adran 89(1) o Ddeddf 2006 gynnwys gwneud rheolau a darpariaeth ar gyfer eu gorfodi.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Medi 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 169, 170, a 171 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i rym ar 12 Hydref 2009.
Mae adran 169 yn mewnosod adran 167A, 167B, 167C a 167D newydd yn Neddf Addysg 2002. Mae'r adrannau hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddyd yn gwahardd neu'n cyfyngu ar gyfranogiad person yng ngwaith rheoli ysgol annibynnol. Mae'r adrannau hyn hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n disgrifio'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Weinidogion Cymru wrth wneud cyfarwyddiadau o'r fath.
Mae adran 170 yn diwygio adran 169 o Ddeddf Addysg 2002, yn mewnosod paragraff (e) yn is-adran (2) o adran 113BA o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac yn mewnosod paragraff (ba) newydd yn is-adran (2) o adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999.
Mae adran 171 yn darparu ar gyfer darpariaeth drosiannol pan ddaw adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 i rym.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ar 1 Ionawr 2010 adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn rhannol, ynghyd â diddymu'n rhannol adran 61 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym yn ailddeddfu adran 61(4) i (7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol. Cychwynnir adran 89 o Ddeddf 2006 yn rhannol yn y dull hwn er mwyn caniatáu diwygiadau a wnaed i'r adran honno gan adran 13 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a bydd hyn yn golygu y bydd y cod ymddygiad wrth deithio a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwnnw yn cael ei ymgorffori ym mholisi ymddygiad ysgol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 1 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 4 | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Adran 37(1) a (2)(a) | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 38 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 39 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 40 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adrannau 43 — 45 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 47 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 53 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 55 | 9 Chwefror 2009 | 2009/49 (Cy.17) |
Adran 156 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 164 | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Adran 166 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 175 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Atodlen 17 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Mae darpariaethau amrywiol yn Neddf 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan yr offerynnau statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.
Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Ionawr 2007 (deufis wedi hynny).
2006 p.40. Mae adran 181 wedi ei diwygio gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (2008 mccc 2).
Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: