- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
20 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym
21 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 46, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009 a deuant i rym ar 21 Gorffennaf 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004(2) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (cyffuriau neu feddyginiaethau i'w harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig), yn y cofnod am y cyffur Zanamivir (Relenza)—
(a)Rhif er y paragraff cyfredol am y cofnod yng ngholofn 2 yn “(1)”; a
(b)mewnosoder yng ngholofnau 2 a 3 yn y drefn honno—
“(2) Adult and child patients where—
| Treatment and prophylaxis of influenza”. |
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Gorffennaf 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 (“y prif Reoliadau”) sy'n gwneud darpariaeth o ran y cyffuriau, meddyginiaethau neu sylweddau eraill y caniateir eu harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol o fewn ystyr adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (cyffuriau neu feddyginiaethau i'w harchebu o dan rai amgylchiadau yn unig) er mwyn ychwanegu amgylchiadau pellach pryd y caniateir archebu'r cyffur Zanamivir (Relenza) o dan y cyfryw gontract i gynnwys clefyd pandemig (fel ffliw pandemig) sy'n gadael iechyd pobl yn agored i risg difrifol neu risg difrifol posibl (neu os rhagwelir y bydd y cyfryw glefyd ar ddod yn fuan) a bod cyflenwi'r cyffuriau yn unol â phrotocol sy'n ymwneud â'r clefyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn erthygl 12F o Orchymyn Meddyginiaethau drwy Bresgripsiwn yn Unig (I'w Defnyddio gan Bobl) 1997 neu erthygl 8 o Orchymyn Meddyginiaethau (Gwerthiant Fferyllfeydd a Gwerthiant Cyffredinol-Esemptiad) 1980.
O.S. 2004/1022 (Cy.119); diwygiwyd y Rheoliadau hyn gan O.S. 2005/366 (Cy.32) a chan O.S. 2009/1838 (Cy.166).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: