Search Legislation

Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1218 (Cy.103)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009

Gwnaed

8 Mai 2009

Yn dod i rym

1 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(3) a (4) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), fel y'u cymhwysir mewn perthynas ag ysgolion annibynnol gan adran 124B(1)(2) o'r Ddeddf honno, ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(3).

Wrth wneud y Gorchymyn hwn mae Gweinidogion Cymru wedi dilyn y weithdrefn a bennwyd yn Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003(4).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 1 Mehefin 2009.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol y caiff addysg yn yr ysgol ei darparu neu'r ysgol ei rheoli yn unol â'i daliadau neu â'i ddaliadau (neu, yn ôl y digwydd, pob enwad crefyddol o'r fath).

Dynodi ysgolion

3.—(1Dynodir yr Ysgolion a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.

(2Mewn perthynas ag ysgol a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen, pennir yng ngholofn (2) y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol i'r ysgol honno.

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

8 Mai 2009

Erthygl 3

YR ATODLENYsgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol

(1)(2)
Enw a Chod Post yr YsgolY Grefydd Berthnasol neu'r Enwad Crefyddol Perthnasol
Bangor
Ysgol Hillgrove, LL57 2TWCristnogaeth
St Gerards, LL57 2ELCristnogaeth
Aberhonddu
Coleg Crist, LD3 8AFCristnogaeth
Caerffili
Ysgol Wycliff, CF83 8PUCristnogaeth
Caerdydd
Coleg St John's, CF3 5YXCatholigiaeth Rufeinig
Ysgol y Gadeirlan, CF5 2YHCristnogaeth
Aberteifi
Ysgol Gristnogol Aberteifi, SA43 1HUCristnogaeth
Cross Keys
Ysgol Gristnogol Emmanuel, NP11 5AJCristnogaeth
Bae Colwyn
Ysgol Rydal Penrhos, LL29 7BTCristnogaeth
Llandudno
Coleg Dewi Sant, LL30 1RDCydenwadaeth
Trefynwy
Ysgol Agincourt, NP25 3SYCristnogaeth
Ysgol Trefynwy i Fechgyn, NP25 3XPCristnogaeth
Ysgol Trefynwy i Ferched, NP25 5XTCristnogaeth
Porth-cawl
Ysgol Gwfaint St Clare's, CF36 5NRCatholigiaeth Rufeinig
Powys
Ysgol Ridgeway, SY16 4EWCristnogaeth
Abertawe
Ymddiriedolaeth Addysg Keystone, SA5 4DHCristnogaeth

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ysgolion annibynnol a enwir yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.

O dan adran 124A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, caniateir i ysgolion annibynnol sydd wedi eu dynodi felly roi sylw i ystyriaethau crefyddol penodol pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch cyflogaeth benodedig mewn perthynas â staff sy'n addysgu.

Nid yw dynodiad gan y Gorchymyn hwn yn fodd ynddo'i hun i ennill cymeriad crefyddol neu newid cymeriad crefyddol. Yr hyn a wnaiff dynodiad yw cydnabod nodweddion presennol penodol yr ysgol neu ei chorff llywodraethu fel y'u disgrifir yn Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Cymru) 2003.

(1)

1998 p.31. Diwygiwyd adran 69(1) gan baragraff 104(1) a (2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Diwygiwyd adran 69(2) gan baragraff 104(1) a (3) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.

(2)

Mewnosodwyd adran 124B gan Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyflogi Athrawon mewn Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol) 2003 (O.S. 2003/2037).

(3)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources