Search Legislation

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf (Sefydlu) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 717 (Cy.76)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf (Sefydlu) 2008

Gwnaed

11 Mawrth 2008

Yn dod i rym

12 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 18(1) a (2) a pharagraffau 5 a 7 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) ac adran 25 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (2), ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan adran 18(3) o'r Ddeddf, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf (Sefydlu) 2008 a daw i rym ar 12 Mawrth 2008.

(2Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • y mae i “dyddiad gweithredol” yr ystyr a roddir i “operational date” ym mharagraff 5(5) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;

  • ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 12 Mawrth 2008;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “gwasanaethau iechyd cymunedol” (“community health services”) yw unrhyw wasanaeth y dichon Gweinidogion Cymru ei ddarparu o dan adran 3(1) o'r Ddeddf neu Atodlen 1 iddi;

  • ystyr “yr ymddiriedolaeth” (“the trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

Sefydlu'r ymddiriedolaeth

2.  Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol o'r enw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf neu the Cwm Taf National Health Service Trust.

Natur a swyddogaethau'r ymddiriedolaeth

3.—(1Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.

(2Swyddogaethau'r ymddiriedolaeth fydd darparu nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys lle mewn ysbyty a gwasanaethau iechyd cymunedol) o

(a)Ysbyty Frenhinol Morgannwg, Ynysmaerdy, Llantrisant, CF72 8XR;

(b)Ysbyty'r Tywysog Charles, Merthyr Tudful, CF47 9DT;

ac ysbytai a mangreoedd cysylltiedig yn unol ag adran 18(1) o'r Ddeddf.

Cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth

4.—(1Bydd gan yr ymddiriedolaeth, yn ychwanegol at y cadeirydd, 7 cyfarwyddwyr anweithredol a 5 cyfarwyddwyr gweithredol.

(2Gan fod rhaid ystyried fod i'r ymddiriedolaeth ymrwymiad arwyddocaol i addysgu o fewn ystyr paragraff 5(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf, y mae un o'r cyfarwyddwyr anweithredol i'w benodi o Brifysgol Caerdydd.

Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifyddu'r ymddiriedolaeth

5.—(1Dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth fydd 1 Ebrill 2008.

(2Dyddiad cyfrifyddu'r ymddiriedolaeth fydd 31 Mawrth.

Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol

6.  Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol y mae i'r ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol—

(a)ymrwymo i gontractau'r GIG

(b)ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac

(c)gwneud y fath bethau eraill ag sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf, ymddiriedolaeth GIG y darperir ar ei chyfer yn adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau'r ymddiriedolaeth yn erthygl 3. Mae'n pennu dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifyddu yr ymddiriedolaeth yn erthygl 5.

(2)

1993 p.38, Trosglwyddwyd swyddogaethau unrhyw Weinidog y Goron i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources