Search Legislation

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 685 (Cy.72)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

10 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Mawrth 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus fod—

(a)y cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at—

(i)Erthygl 55(1)(a),

(ii)Erthygl 55(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â llaeth a chynhyrchion llaeth eraill, a

(iii)y darpariaethau, neu ddarpariaethau y cyfeirir atynt, yn Adran III o Bennod III o Ran II,

o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac ar ddarpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol gosodedig (Rheoliad Sengl CMO)(3); a

(b)y cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth(4),

i'w dehongli fel cyfeiriadau at yr Erthyglau a'r darpariaethau hynny ac at y Rheoliad Comisiwn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(5).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2008.

Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth 2005

2.  Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005(6) yn unol â'r Atodlen.

Diwygiad canlyniadol

3.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007(7) hepgorer paragraff (2).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2008

Rheoliad 2

YR ATODLEN

Diwygiadau i Reoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005

1.  Yn lle rheoliad 2(1) rhodder—

2.(1) Yn y rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “ardal Ynysoedd yr Alban” (“Scottish Islands area”) yw naill ai—

(a)

ynysoedd Erch ac eithrio ynys Stronsay; neu

(b)

ynysoedd Jura, Gigha, Arran, Bute, Great Cumbrae a Little Cumbrae, penrhyn Kintyre i'r de o Tarbert a'r darnau o dir o fewn Rhanbarth Argyll a Bute yn cynnwys y rhannau hynny o blwyfi Dunoon a Kilmun ac Inverchaolain a ddangosir gan linell goch ar fap wedi'i farcio “Y map y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) y diffiniad o ardal Ynysoedd yr Alban yn rheoliad 2(1) Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005”, dyddiedig 31 Ionawr 2005, a lofnodwyd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol ac a adneuwyd yn swyddfeydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Nobel House, 17 Smith Square, Llundain SW1P 3JR;

ystyr “ardoll” (“levy”) yw'r ardoll gwargedol sy'n daladwy i Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth y Gymuned a'r Rheoliadau hyn;

mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” yn rheoliad 2(1) y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

mae i “awdurdod cymwys perthnasol” yr un ystyr ag sydd i “relevant competent authority” yn rheoliad 3 y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

ystyr “blwyddyn gwota” (“quota year”) yw unrhyw un neu unrhyw rai o'r cyfnodau o 12 mis y cyfeirir atynt yn Erthygl 66(1) o Reoliad y Cyngor;

mae “buddiant” (“interest”) yn cynnwys trwydded i feddiannu tir a buddiant morgeisedig ac ymddiriedolwr, ond nid yw'n cynnwys buddiant buddiolwr o dan ymddiriedolaeth neu setliad;

mae “buwch” (“cow”) yn cynnwys heffer sydd wedi bwrw llo;

ystyr “cwota” (“quota”) yw cwota gwerthiannau uniongyrchol neu gwota cyfanwerthol, yn ôl y digwydd;

ystyr “cwota addasedig” (“converted quota”) yw cwota a addaswyd gan Weinidogion Cymru yn dilyn cais a wnaed o dan reoliad 21;

ystyr “cwota cyfanwerthol” (“wholesale quota”) yw cyfanswm y llaeth y gellir ei ddanfon at brynwr gan gynhyrchwr mewn blwyddyn gwota heb i'r cynhyrchwr hwnnw fod yn agored i dalu ardoll;

ystyr “cwota cyfanwerthol cofrestredig” (“registered wholesale quota”) yw cwota cyfanwerthol a gofrestrwyd yn unol â rheoliad 4(3) a (4);

ystyr “cwota gwerthiannau uniongyrchol” (“direct sales quota”) yw cyfanswm y cynnyrch llaeth y gellir ei werthu neu ei drosglwyddo am ddim drwy werthiannau uniongyrchol gan gynhyrchwr mewn blwyddyn gwota heb i'r cynhyrchwr fod yn agored i dalu ardoll;

ystyr “cwota nas defnyddiwyd” (“unused quota”) yw cwota sy'n weddill heb ei ddefnyddio ar ôl ystyried unrhyw werthiannau uniongyrchol neu ddanfoniadau, yn dilyn y cyfryw addasu (os o gwbl) ag sy'n ofynnol yn Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â chynnwys braster llaeth), a dehonglir “cwota a ddefnyddiwyd” (“used quota”) yn unol â hynny;

ystyr “cwota prynwr” (“purchaser quota”) yw cyfanswm y llaeth y gellir ei ddanfon i brynwr yn ystod blwyddyn gwota heb arwain at unrhyw atebolrwydd i dalu ardoll;

mae i “cyfathrebu electronig” yr ystyr sydd i “electronic communication” yn adran 15 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(8);

ystyr “cynhyrchwr cyfanwerthol” (“wholesale producer”) yw cynhyrchwr sy'n danfon llaeth at brynwr;

mae i “cynhyrchwr” yr un ystyr ag sydd i “producer” yn Erthygl 65(c) o Reoliad y Cyngor;

ystyr “cynnyrch llaeth” (“dairy produce”) yw cynnyrch, a fynegir mewn cilogramau neu litrau (mae un cilogram yn cyfateb i 0.971 litr), y mae ardoll yn daladwy mewn perthynas ag ef;

mae i “daliad” yr ystyr sydd i “holding” yn Erthygl 65(d) o Reoliad y Cyngor;

mae i “danfoniad” yr un ystyr ag sydd i “delivery” yn Erthygl 65(f) Rheoliad y Cyngor, a dehonglir “danfon” (“deliver”) yn unol â hynny;

ystyr “deddfwriaeth y Gymuned” (“the Community legislation”) yw Rheoliad y Comisiwn ac—

(a)

Erthygl 55(1)(a),

(b)

Erthygl 55(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â llaeth a chynhyrchion llaeth eraill, ac

(c)

y darpariaethau yn, neu y cyfeirir atynt yn, Adran III o Bennod III o Ran II,

o Reoliad y Cyngor;

mae “deiliad” (“occupier”), mewn perthynas â thir, yn cynnwys y person sydd â'r hawl i roi deiliadaeth y tir hwnnw i berson arall, a, thra pery'r buddiant a grybwyllir yn rheoliad 16(1), y person sydd â'r hawl i roi deiliadaeth y tir pan ddaw'r buddiant hwnnw i ben, ac mae “deiliadaeth” (“occupation”) i'w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “deiliad cwota” (“quota holder”), mewn perthynas â chwota, yw'r person y mae'r cwota wedi'i gofrestru yn ei enw;

ystyr “deiliad cwota cyfanwerthol” (“wholesale quota holder”) yw person y mae cwota cyfanwerthol wedi'i gofrestru yn ei enw yn unol â rheoliad 4;

ystyr “deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol” (“direct sales quota holder”) yw person y mae cwota gwerthiannau uniongyrchol wedi'i gofrestru yn ei enw yn unol â rheoliad 4;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971(9);

ystyr “dosraniad rhagolygol” (“prospective apportionment”), o ran cwota mewn perthynas â daliad, yw dosraniad cwota rhwng y personau y mae ganddynt fuddiant yn y daliad at ddibenion canfod y cwota y gellir ei briodoli i ran o'r daliad hwnnw os caiff y rhan honno ei throsglwyddo;

mae i “y gronfa genedlaethol” yr un ystyr ag sydd i “national reserve” yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

ystyr “Gweinidogion Cymru” (“the Welsh Ministers”) yw Gweinidogion Cymru fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(10);

mae i “gwerthiant uniongyrchol” yr un ystyr ag sydd i “direct sale” yn Erthygl 65(g) o Reoliad y Cyngor;

ystyr “gwerthwr uniongyrchol” (“direct seller”) yw cynhyrchwr sy'n cynhyrchu llaeth ac sy'n trin neu sy'n prosesu'r llaeth hwnnw i gynhyrchu cynnyrch llaeth ar ei ddaliad ac sy'n gwerthu neu'n trosglwyddo'r llaeth hwnnw neu'r cynhyrchion llaeth hynny am ddim ar ôl hynny heb iddynt gael eu trin neu eu prosesu ymhellach gan fenter wahanol sy'n trin neu sy'n prosesu llaeth neu gynhyrchion llaeth;

ystyr “hysbysiad cydsyniad neu hysbysiad unig fuddiant” (“consent or sole interest notice”) yw hysbysiad, mewn perthynas â daliad, sy'n datgan—

(a)

mai'r person sy'n cyflwyno'r hysbysiad yw unig ddeiliad y daliad hwnnw ac nad oes gan unrhyw berson arall fuddiant yn y daliad hwnnw neu ran o'r daliad hwnnw; neu

(b)

bod pob person sydd â buddiant yn y daliad hwnnw neu unrhyw ran ohono, y gallai gwerth y buddiant hwnnw gael ei leihau drwy'r dosraniad neu'r dosraniad rhagolygol y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef, yn cytuno â'r dosraniad neu'r dosraniad rhagolygol;

mae i “llaeth” yr un ystyr ag sydd i “milk” yn Erthygl 65(a) o Reoliad y Cyngor;

ystyr “menter laeth” (“dairy enterprise”) yw ardal y mae deiliad yr ardal honno wedi datgan ei bod yn cael ei rhedeg fel busnes cynnyrch llaeth hunangynhwysol;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw cynhyrchwr, prynwr, unrhyw un o gyflogeion neu asiantiaid cynhyrchwr neu brynwyr, unrhyw gludwr llaeth, unrhyw berson yn gwneud gwaith profi braster menyn ar gyfer prynwyr mewn labordy, prosesydd llaeth neu gynhyrchion llaeth, neu unrhyw berson arall sydd ynghlwm wrth brynu, gwerthu neu gyflenwi llaeth neu gynhyrchion llaeth a gafwyd yn uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwr neu brynwr, ond nid yw'n cynnwys defnyddiwr llaeth neu gynhyrchion llaeth;

ystyr “prynwr” (“purchaser”) yw prynwr o fewn yr ystyr sydd i “purchaser” yn Erthygl 65(e) Rheoliad y Cyngor, ac, ac eithrio yn rheoliad 5(1) i (4) a rheoliad 31(7), a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 5 ac Erthygl 23 o Reoliad y Comisiwn;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac ar ddarpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol gosodedig (Rheoliad Sengl CMO);

ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Darpariaethau Cyffredinol) 2002(11);

ystyr “trosglwyddai” (“transferee”) yw—

(a)

lle trosglwyddir cwota gyda daliad neu ran o ddaliad, person sy'n cymryd lle rhywun arall fel deiliad y daliad hwnnw neu ran o ddaliad; a

(b)

mewn unrhyw achos arall, y person y trosglwyddir cwota iddo; ac

ystyr “trosglwyddwr” (“transferor”) yw—

(a)

lle trosglwyddir cwota gyda daliad neu ran o ddaliad, person y cymerir ei le gan feddiannydd arall fel deiliad y daliad hwnnw neu ran o ddaliad; a

(b)

mewn unrhyw achos arall, y person y trosglwyddir cwota oddi wrtho.

(1A) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at—

(a)Erthygl 55(1)(a),

(b)Erthygl 55(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â llaeth a cynhyrchion llaeth eraill, ac

(c)y darpariaethau, neu ddarpariaethau y cyfeirir atynt yn Adran III o Bennod III o Ran II,

o Reoliad y Cyngor, ac at Reoliad y Comisiwn, yn gyfeiriadau at yr Erthyglau a'r darpariaethau hynny ac at Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd..

2.  Yn rheoliad 4(9), yn lle “Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 72 Rheoliad y Cyngor”.

3.  Yn rheoliad 9(1), yn lle “Erthygl 17 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 74 Rheoliad y Cyngor”.

4.  Yn rheoliad 13(2), yn lle “Erthygl 18 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 75 Rheoliad y Cyngor”.

5.  Yn rheoliad 15(1), yn lle “Erthygl 16 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 73 Rheoliad y Cyngor”.

6.  Yn rheoliad 19(2), yn lle “Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 80(3) Rheoliad y Cyngor”.

7.  Yn rheoliad 21—

(a)ym mharagraff (1)(a) a (2)(b), yn lle “Erthygl 6(2) a (5) Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Erthygl 67(2) a (5) Rheoliad y Cyngor”; a

(b)ym mharagraff (1)(b), yn lle “Erthygl 11(2) Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Erthygl 81(2) Rheoliad y Cyngor”.

8.  Yn rheoliad 22(1), yn lle “Erthygl 17 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 74 Rheoliad y Cyngor”.

9.  Yn rheoliad 23(2), yn lle “Erthygl 11(2) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 81(2) Rheoliad y Cyngor”.

10.  Yn rheoliad 25(7), yn lle “Erthygl 10(2) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 80(2) Rheoliad y Cyngor”.

11.  Yn rheoliad 27(1), yn lle “Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 80(3) Rheoliad y Cyngor”.

12.  Yn rheoliad 28—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 80(3) Rheoliad y Cyngor”; a

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “Erthygl 2 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 78(1) Rheoliad y Cyngor”;

13.  Yn rheoliad 30—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 12 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 83 Rheoliad y Cyngor”; a

(b)ym mharagraff (11)(b), yn lle “Erthygl 2 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 78(1) Rheoliad y Cyngor”.

14.  Yn rheoliad 31—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle “Erthygl 11(1) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 81(1) Rheoliad y Cyngor”, a

(ii)yn lle “Erthygl 12(4) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 83(4) Rheoliad y Cyngor”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 11(3) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 81(3) Rheoliad y Cyngor”.

15.  Yn rheoliad 33(2), yn lle “y cyfanswm cyfeirio cenedlaethol” hyd y diwedd rhodder “cyfanswm y cwota cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig y cyfeirir ato yn Erthygl 66(3) ac Atodiad IX Rheoliad y Cyngor.”.

16.  Yn rheoliad 38, ym mharagraffau (1) a (3), yn lle “Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Erthygl 72 Rheoliad y Cyngor”.

17.  Yn rheoliad 39, ym mharagraffau (1) a (3), yn lle “Erthygl 15(1) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 72(1) Rheoliad y Cyngor”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2008, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2005, O.S 2005/537 (Cy.47) (“Rheoliadau 2005”).

Mae Rheoliadau 2005 yn rhoi ar waith Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L270, 21.10.2003, t. 123) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L94, 31.3.2004, t. 22).

Diddymir Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 ar 1 Ebrill 2008 a chymerir ei le gan Erthyglau 55(1)(a) a 55(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â llaeth a chynhyrchion llaeth eraill, ac Adran III o Bennod III o Ran II (Erthyglau 65 i 84) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac ar ddarpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol gosodedig (Rheoliad Sengl Trefniadaeth Marchnad Gyffredin (CMO)) (OJ Rhif 16.11.2007, t. 1).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod yn lle'r cyfeiriadau yn Rheoliadau 2005 at ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 y cyfeiriadau cyfatebol at ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ail-ddeddfu'r diffiniadau yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2005 ac yn ychwanegu rheoliad 2(1A) newydd sy'n darparu bod y cyfeiriadau at ddarpariaethau gosodedig yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 a chyfeiriadau at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 yn gyfeiriadau at y darpariaethau hynny ac at y Rheoliad Comisiwn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t. 1.

(4)

OJ Rhif L94, 31.3.2004, t. 22 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1913/2006 (OJ Rhif L365, 21.12.2006, t. 52). Er fod Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 (OJ Rhif 21.10.2003, t. 123) yn cael ei ddiddymu ar 1 Ebrill 2008 yn rhinwedd Erthygl 201(1)(b) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 (“Rheoliad 2007”), mae'r cyfeiriad at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 i'w ddarllen fel cyfeiriad at Reoliad 2007 yn rhinwedd Erthygl 202 o Reoliad 2007.

(5)

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

(10)

2006 p.32.

(11)

O.S. 2002/458, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/466, O.S. 2007/477 ac O.S. 2008/438.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources