Search Legislation

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cyfyngiadau ar waith yn sgil gwaith ffordd sylweddol

11.—(1At ddibenion adran 58(1), ystyr gwaith ffordd sylweddol yw gwaith at ddibenion ffordd sy'n cynnwys ail adeiladu, lledu, altro lefel, rhoi wyneb newydd neu wyneb gwrth-lithro arbenigol ar y rhan o'r briffordd sydd dan sylw ac os caiff ei wneud

(a)ar lwybr troed, troetffordd, llwybr ceffylau neu drac beiciau

(i)sy'n ymestyn am fwy na 30 o fetrau o hyd parhaus; a

(ii)yn achos llwybr troed neu drac beiciau, sy'n golygu bod y lled sydd ar gael i gerddwyr neu feicwyr, yn ôl y digwydd, yn cael ei leihau o fwy na dwy ran o dair; neu

(b)ar y gerbytffordd —

(i)sy'n ymestyn am fwy na 30 o fetrau o hyd parhaus; a

(ii)sy'n golygu bod y defnydd gan gerbydau o'r gerbytffordd yn cael ei wahardd neu bod y lled o'r gerbytffordd sydd ar gael ar gyfer traffig cerbydol yn cael ei leihau o fwy nag un rhan o dair.

(2At ddibenion adran 58(1), y cyfnod rhagnodedig fydd —

(a)5 mlynedd o ran gwaith ffordd sylweddol sy'n golygu ail adeiladu;

(b)3 blynedd o ran gwaith ffordd sylweddol sy'n golygu rhoi wyneb newydd ar y briffordd neu altro lefel y briffordd;

(c)1 flwyddyn o ran unrhyw waith ffordd sylweddol arall sy'n cael ei wneud mewn stryd sy'n sensitif i draffig neu mewn stryd yng nghategori o ffordd 0, 1 neu 2 nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig; ac

(ch)6 mis o ran unrhyw waith ffordd sylweddol arall sy'n cael ei wneud mewn stryd yng nghategori o ffordd 3 neu 4 nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig.

(3Rhaid i hysbysiad o dan adran 58(1) sy'n ymwneud â chyfyngiad arfaethedig ar waith stryd yn sgil gwaith ffordd sylweddol gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod strydoedd perthnasol ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

(4At ddibenion adran 58(2), y cyfnod a ragnodir yw 3 mis.

(5Yn ychwanegol at y rheini y mae'n rhaid rhoi copi o hysbysiad iddynt yn rhinwedd adran 58(3), rhodder copi hefyd —

(a)i feddiannydd unrhyw fangre sydd â ffryntiad i'r rhan o'r briffordd y mae'r cyfyngiad arfaethedig yn ymwneud â hi; a

(b)i unrhyw berson arall sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig am gopi o unrhyw hysbysiad o'r fath.

(6Os yw gwaith stryd yn sgil gwaith ffordd sylweddol wedi'i gyfyngu gan hysbysiad o dan adran 58(1), bydd yr hysbysiad hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol os nad yw'r gwaith stryd y mae'n ymwneud ag ef wedi ei ddechrau'n sylweddol o fewn chwe mis i'r diweddaraf o—

(a)y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bwriedir dechrau'r gwaith arno; neu

(b)cwblhad pob gwaith a wnaed o ganlyniad i unrhyw hysbysiad a roddwyd i awdurdod strydoedd yn unol â rheoliad 9(3).

(7At ddibenion adran 58(5), yn ychwanegol at yr achosion a bennir yn yr is-adran honno, caiff ymgymerwr wneud unrhyw waith brys neu unrhyw waith arall a osodir ym mharagraff (8).

(8Y gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yw gwaith stryd —

(a)nad yw'n golygu darnio'r stryd;

(b)y mae angen ei wneud —

(i)i ymateb i gais am wasanaeth newydd neu gais i gyflenwi cwsmer nas derbyniwyd ar adeg pan oedd yn ymarferol i'r gwaith gael ei wneud cyn y dyddiad y dechreuodd y cyfyngiad arno; a

(ii)sy'n cael ei wneud fwy nag 19 o ddiwrnodau o'r dyddiad hwnnw;

(c)sy'n cael ei wneud —

(i)o dan reoliad 16(3)(b) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998(1) (mesuryddion cyntaf)

(ii)i gydymffurfio â hysbysiad gwella o dan adran 21 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974(2) (hysbysiadau gwella); neu

(iii)o ganlyniad i hysbysiad gwahardd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno (hysbysiadau gwahardd); neu

(ch)y mae ei angen —

(i)i gydymffurfio â rhaglen a gymeradwywyd o dan reoliad 13A o Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996(3) (piblinellau haearn); a

(ii)na ellid bod wedi'i ddynodi cyn i'r cyfyngiad ddechrau.

(9At ddibenion adran 58(7), penderfynir unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw awdurdod strydoedd yn dal cydsyniad yn ôl yn afresymol drwy gyflafareddu.

(10Yn y rheoliad hwn—

ystyr “ail adeiladu” (“reconstruction”) yw symud ymaith rywfaint neu'r cyfan o'r haenau amrywiol sy'n gwneud palmant ffordd a gosod palmant ffordd yn eu lle;

mae i “llwybr beiciau” yr un ystyr ag sydd i “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(4); ac

ystyr “rhoi wyneb newydd” (“resurfacing”) yw symud ymaith arwynebedd rhedegol cerbytffordd a gosod un arall yn ei le sy'n adfer priodoldeb a'r gallu i wrthsefyll llithro i'r arwynebedd.

(2)

1974 p.37. Cafodd adran 22(1) a (2) eu diwygio, ac amnewidwyd adran 22(4) gan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987, adran 3 ac Atodlen 3, paragraff (2).

(3)

O.S. 1996/825 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/2563.

(4)

1980 p.66; cafodd adran 329(1) ei diwygio gan adran 1(1) o Ddeddf Llwybrau Beiciau 1984 (c. 38) a chan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988 (p.54 ac Atodlen 3, paragraff 21(2).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources