- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) At ddibenion Atodlen 3A i Ddeddf 1991, ystyr gwaith stryd sylweddol yw gwaith pwysig.
(2) Rhaid i'r cyfnod a ragnodir o dan baragraff 2(2) o'r Atodlen honno beidio â bod yn llai na 20 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad.
(3) Rhaid i'r awdurdod strydoedd perthnasol gyhoeddi hysbysiad o dan baragraff 2 i'r Atodlen honno ynghylch cyfyngiad arfaethedig ar waith stryd yn sgil gwaith stryd sylweddol ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.
(4) Yn ychwanegol at y rheini y mae'n rhaid rhoi copi o hysbysiad iddynt yn rhinwedd paragraff 2(4) o'r Atodlen honno, rhaid rhoi copi hefyd
(a)i feddiannydd unrhyw fangre sydd â ffryntiad i'r rhan o'r briffordd y mae'r cyfyngiad arfaethedig yn ymwneud â hi; a
(b)i unrhyw berson arall sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig am gopi o unrhyw hysbysiad o'r fath.
(5) Rhaid i hysbysiad gan ymgymerwr o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A o waith stryd arfaethedig a chyfarwyddyd sy'n cyfyngu ar wneud gwaith o dan baragraff 4 o'r Atodlen honno fod yn y ffurf a geir yn y Fanyleb Dechnolegol, neu mewn ffurf gyffelyb iddi, a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth o'r fath sy'n berthnasol i'r hysbysiad neu i'r cyfarwyddyd, yn ôl y digwydd, yn unol â'r fanyleb honno.
(6) Mae darpariaethau rheoliad 6(3) i (10) yn gymwys i wneud hysbysiad o'r fath yn yr un modd ag y maent yn gymwys i roi hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw.
(7) Rhaid rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff 4 o'r Atodlen honno drwy ei gyhoeddi ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod strydoedd at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.
(8) Yn ychwanegol at yr achos a bennir ym mharagraff 3(5)(a) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991, nid yw paragraff 3(4) o'r Atodlen honno yn gymwys yn yr achosion a osodir ym mharagraff (11) isod pan na roddwyd hysbysiad blaenorol o dan adran 54 neu 55, neu baragraff 2(1)(d) o'r Atodlen honno o ran y gwaith y cyfeirir ato.
(9) At ddibenion paragraff 4(4) o'r Atodlen honno, y cyfnod rhagnodedig fydd —
(a)1 flwyddyn o ran strydoedd sy'n sensitif i draffig a strydoedd yng nghategori o ffordd 0, 1 neu 2 nad ydynt yn strydoedd sy'n sensitif i draffig; a
(b)6 mis o ran strydoedd yng nghategori o ffordd 3 neu 4 nad ydynt yn strydoedd sy'n sensitif i draffig.
(10) Yn ychwanegol at yr achosion a bennir ym mharagraff 5(2) o'r Atodlen honno, nid yw paragraff 5(1) o'r Atodlen honno yn gymwys yn yr achosion a osodir yn y paragraff canlynol.
(11) Yr achosion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (8) a (10) yw'r achosion pan fo ymgymerwr yn gwneud gwaith brys neu unrhyw waith arall a osodir ym mharagraff (12).
(12) Y gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (11) yw gwaith stryd —
(a)nad yw'n golygu darnio'r stryd;
(b)y mae—
(i)angen ei wneud i ymateb i gais am wasanaeth newydd neu gais i gyflenwi cwsmer nas derbyniwyd ar adeg pan oedd yn ymarferol i'r gwaith gael ei wneud cyn y dyddiad y dechreuodd y cyfyngiad arno; a
(ii)yn cael ei wneud fwy nag 19 o ddiwrnodau o'r dyddiad hwnnw;
(c)sy'n cael ei wneud —
(i)o dan reoliad 16(3)(b) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998;
(ii)i gydymffurfio â hysbysiad gwella o dan adran 21 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974; neu
(iii)o ganlyniad i hysbysiad gwahardd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno; neu
(ch)y mae ei angen—
(i)i gydymffurfio â rhaglen a gymeradwywyd o dan reoliad 13A o Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996; a
(ii)na ellid bod wedi'i ddynodi cyn i'r cyfyngiad ddechrau.
(13) At ddibenion paragraff 5(3) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991, penderfynir unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw awdurdod strydoedd yn dal cydsyniad yn ôl yn afresymol drwy gyflafareddu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: