- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
5 Rhagfyr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Rhagfyr 2008
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2008.
(3) Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn dod i rym ar 1 Medi 2009.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008(3).
3. Mae'r Prif Reoliadau wedi'u diwygio'n unol â'r Rheoliadau hyn.
4.—(1) Mae Rheoliad 3 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), yn lle “1 Chwefror 2008”, rhodder “12 Ionawr 2009”.
5.—(1) Mae Rheoliad 9 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)—
(a)yn lle “1 Medi 2008”, rhodder “1 Medi 2009”; a
(b)yn lle “28 Chwefror 2008”, ym mhob man y mae'n ymddangos, rhodder “1 Chwefror 2009”.
6.—(1) Mae Rheoliad 10 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (17) rhodder—
“(17) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009 yw 1 Chwefror 2009 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20(7) a 22(6), 1 Chwefror 2010.”.
7.—(1) Mae Rheoliad 22 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (3), rhodder—
“(3) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 17,640 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.”.
8. Effaith yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yw rhoi'r ffigurau yn nhrydedd golofn y tabl yn lle'r ffigurau yn ail golofn y tabl lle maent yn ymddangos yn narpariaethau'r Prif Reoliadau sydd wedi'u gosod yn y golofn gyntaf.
9. Mae Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008(4) wedi'u diwygio'n unol â rheoliad 10.
10. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3, hepgorer y geiriau “a Benthyciadau”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2008
Rheoliad 8
Y ddarpariaeth yn y Prif Reoliadau | Y ffigur presennol | Y ffigur newydd |
---|---|---|
Rheoliad 25 | ||
25(2) | £10,000 | £10,260 |
Rheoliad 27 | ||
27(2) | £3,705 | £3,801 |
Rheoliad 28 | ||
28(a) | £2,580 | £2,647 |
28(b) | £2,580 | £2,647 |
Rheoliad 29 | ||
29(3) | £1,470 | £1,508 |
Rheoliad 30 | ||
30(6)(a) | £1,130 | £1,159 |
30(6)(b) | £3,385 | £3,473 |
30(6)(c) | £4,515 | £4,632 |
30(6)(ch) | £4,515 | £4,632 |
30(6)(d) | £5,650 | £5,797 |
Atodlen 3 Rhan 2 | ||
Paragraff 2(3) | £1,100 | £1,130 |
Paragraff 4(2)(c) | £1,075 | £1,130 |
Paragraff 7(2)(a) | £9.50 | £9.27 |
Paragraff 7(3)(a) | £9.50 | £9.27 |
Paragraff 7(4) | £7,800 | £7,997 |
Paragraff 7(5)(i) | £7,800 | £7,997 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 (“y Prif Reoliadau”).
Mae'r Prif Reoliadau yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau dynodedig ym maes addysg uwch yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008.
Mae'r Prif Reoliadau yn darparu bod grant at ffioedd ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yng Nghanolfan Bologna. Mae grant at ffioedd, grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer hyd at ddau fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop. Mae grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau er mwyn iddynt fod yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.
Mae rheoliadau 5 a 6 yn diwygio'r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am gymorth ac i wybodaeth ariannol ddod i law mewn perthynas â blwyddyn academaidd, sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009, ddod i law.
Mae rheoliadau 7 ac 8 a'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn cynyddu symiau'r cymorth sy'n daladwy i fyfyrwyr cymwys a throthwyon incwm cysylltiedig am flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.
Yn ychwanegol, mae rheoliadau 9 a 10 yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Diwygio) 2008.
1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)), yn cyfeirio at hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2008/18 (Cy.7), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1324 (Cy.137).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: