Search Legislation

Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2716 (Cy.245)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008

Gwnaed

16 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Hydref 2008

Yn dod i rym

7 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3),a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer diben y cyfeirir ato yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru ddehongli cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Rheoliad Ewropeaidd” (“the European Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd (4);

  • ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 (5);

  • ystyr “samplau rheoli swyddogol” (“official control samples”) yw samplau sydd wedi'u cymryd o dan bwynt 2.1.2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(6) neu bwynt 2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau dodwy o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005(7).

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Ffioedd

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru godi unrhyw ffioedd a fydd, yn eu barn hwy, yn eu galluogi i dalu unrhyw dreuliau rhesymol yr ânt iddynt wrth iddynt gyflawni'r gweithgareddau a ganlyn—

(a)cymryd neu oruchwylio cymryd samplau rheoli swyddogol;

(b)archwilio samplau rheoli swyddogol;

(c)prosesu cais am gymeradwyo labordy o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(ch)prosesu dogfennau cofrestru blynyddol mewn perthynas â labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(d)archwilio labordy at ddiben rheoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(dd)gweinyddu prawf rheoli ansawdd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd.

(2Mae ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru gan—

(a)y person sydd â gofal daliad pan fo samplau rheoli swyddogol yn cael eu cymryd mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(a) a (b); a

(b)gweithredydd y labordy mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(c) i (dd).

(3Rhaid talu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais gan Weinidogion Cymru.

Dirymiad

4.  Dirymir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007(8).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

16 Hydref 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu i Weinidogion Cymru godi ffioedd am weithgareddau sy'n ofynnol o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006, Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Rhestrir y gweithgareddau yn rheoliad 3(1). Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2496 (Cy.215)).

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Rheoliadau hyn wedi ei lunio a'i atodi i'r Memorandwm Esboniadol. Gellir cael copïau ohono oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

OJ Rhif L325, 12.12.2003, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1273/2007 ar 23 Hydref 2007.

(6)

OJ Rhif L 170, 1.7.2005, t.12.

(7)

OJ Rhif L 211, 1.8.2006, t.4.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources