- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2008.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliad Ewropeaidd” (“the European Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd (1);
ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 (2);
ystyr “samplau rheoli swyddogol” (“official control samples”) yw samplau sydd wedi'u cymryd o dan bwynt 2.1.2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(3) neu bwynt 2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau dodwy o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005(4).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
3.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru godi unrhyw ffioedd a fydd, yn eu barn hwy, yn eu galluogi i dalu unrhyw dreuliau rhesymol yr ânt iddynt wrth iddynt gyflawni'r gweithgareddau a ganlyn—
(a)cymryd neu oruchwylio cymryd samplau rheoli swyddogol;
(b)archwilio samplau rheoli swyddogol;
(c)prosesu cais am gymeradwyo labordy o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(ch)prosesu dogfennau cofrestru blynyddol mewn perthynas â labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(d)archwilio labordy at ddiben rheoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(dd)gweinyddu prawf rheoli ansawdd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd.
(2) Mae ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru gan—
(a)y person sydd â gofal daliad pan fo samplau rheoli swyddogol yn cael eu cymryd mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(a) a (b); a
(b)gweithredydd y labordy mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(c) i (dd).
(3) Rhaid talu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais gan Weinidogion Cymru.
4. Dirymir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007(5).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2008
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: